Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni rhan-amser wedi’u hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) a’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Y CMI yw’r prif sefydliad rheoli proffesiynol yn y DU a’r mwyaf yn Ewrop. Mae’n darparu ar gyfer pob lefel o reolaeth, o fyfyrwyr i uwch swyddogion gweithredol. Mae’r cyrsiau CMI a gynigiwn yn amrywio o Lefel 2 i 7 a statws Rheolwr Siartredig. Mae cymwysterau ILM yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch galluoedd personol. Gyda rhaglenni o Lefel 2 i 5, mae’r cymwysterau yn darparu ar gyfer pob lefel o reolaeth ac yn cynnig llwybr clir ar gyfer dilyniant gyrfa.
































































