Mae ein holl gyrsiau yn anelu i’ch paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch, p’un ai ydych yn ystyried astudiaeth lawn-amser neu brentisiaeth. Caiff ein myfyrwyr gyfleoedd cyson i ddatblygu eu sgiliau mewn amgylchedd realistig, tebyg i’n ceginau safon diwydiant, ein bwyty ar y campws, Bwyty 31, neu yn ein siop goffi, Clwb Coffi. Byddwn yn datblygu eich sgiliau ymarferol a theori i gefnogi eich cynnydd i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.