Mae cyfleoedd swydd yn y maes hwn yn dod yn gynyddol bwysig gan eu bod yn ein helpu i ofalu am ein hamgylchedd a rheoli ein cynefinoedd. Yng Ngholeg Penybont cewch eich dysgu gan arbenigwyr y diwydiant a chael profiad ymarferol ar ffermydd neu yng nghefn gwlad. Mae gan ein cyrsiau ffocws ymarferol ac maent yn cynnwys gofalu am ddefaid, moch a gwartheg neu weithio yn ein hardaloedd cadwraeth. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda llawer o bartneriaid diwydiant i roi cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan gyda rheoli coetiroedd a chadwraeth bywyd gwyllt.