Mae Katie-Rose Davies, Darlithydd Amaethyddiaeth yng Ngholeg Penybont, wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ennill y teitl ‘Ffermwraig y Flwyddyn’.
Mae’r wobr, a roddir gan gangen Gymreig Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru) ac NFU Mutual, yn hyrwyddo menywod mewn amaethyddiaeth ac yn ceisio codi eu proffil yn y sector. Roedd cyflwyniad yr anrhydedd yn 2023 yn nodi pen-blwydd y wobr yn 25, ac fe’i cynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Dywedodd y beirniaid, er bod nifer fawr o ymgeiswyr teilwng ar gyfer y wobr eleni, fod Katie yn enillydd amlwg iawn gyda thystiolaeth helaeth o ragoriaeth yn y sector. Bu enillwyr blaenorol yn dathlu ochr yn ochr â hi wrth iddi dderbyn y wobr ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
“Mae Katie yn eiriolwr cryf dros ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru a threftadaeth a diwylliant Cymru ac mae’n credu bod addysg yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo’r gwaith gwych y mae ffermwyr yn ei wneud wrth gynhyrchu bwyd diogel, iach a chynaliadwy. Mae hi’n ymdrechu i edrych y tu hwnt i gât y fferm a chofleidio agwedd newydd, a gwahanol efallai, at ei busnes ac mae’n ymgorffori popeth rydyn ni’n edrych amdano yn enillydd y wobr hon.”
Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU a beirniad
Ymunodd Katie â Choleg Penybont yn fuan ar ôl cwblhau ei gradd mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012. Mae Katie, sy’n angerddol am fentora ac ysbrydoli pobl ifanc, yn eiriolwr nid yn unig dros addysgu cenedlaethau o ffermwyr y dyfodol ond hefyd dros ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth Cymru.
Mae Katie yn ffermwr mynydd trydedd genhedlaeth, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yng ngweithrediad Fferm Nantymoel yng Nghwm Ogwr, lle mae ei theulu wedi bod yn ffermio ers dros 90 mlynedd. Mae Katie, sy’n ymrwymedig i weledigaeth o gynaliadwyedd a lles anifeiliaid, wedi rhoi nifer o fentrau ar waith nid yn unig i sicrhau hyfywedd ei fferm hi yn y dyfodol, ond ffermio ucheldirol yn gyffredinol yng Nghymru.
“Ychydig ddyddiau yn ôl roeddwn i’n mynd trwy hen lyfrau a thu fewn i un ohonynt roedd ysgrifen yn dweud ‘Katie-Rose Pugh, pump oed – pan fyddaf hŷn, hoffwn i fod yn fugail.’ Rwy’n 34 bellach, a dw i newydd ennill Ffermwraig y Flwyddyn Cymru, felly gallaf groesi’r un hwnnw oddi ar y rhestr!”
Katie-Rose Davies, Lecturer in Agriculture at Bridgend College
Ar ôl bod yn awyddus i ymuno â’r diwydiant ffermio o oedran ifanc, ymunodd â’r bartneriaeth deuluol yn 2015. Mae wedi cofleidio ffyrdd newydd o weithio i ddatblygu arferion ffermio ymhellach tra’n aros yn driw i dreftadaeth a thraddodiad Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu ‘Bwlch Mountain Lamb’, cynllun bocsys cig oen y fferm, a gweithio ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân De Cymru i wella iechyd a lles anifeiliaid, cadwraeth cynefinoedd, ac adfer pridd.
Ers hynny, mae llwyddiannau Katie wedi cael eu cydnabod yn eang. Yn 2019, croesawodd ei fferm Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina a’i ddirprwyaeth, a Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Arddangosodd y fferm botensial eithriadol cig eidion a chig oen Cymru yn unol ag arferion ffermio amgylcheddol, rhywbeth y mae Katie wedi cael ei nodi’n arweinydd diwydiant ar eu cyfer.
Yn yr un flwyddyn, cyfarfu Katie ag Ei Fawrhydi Brenin Siarl III yn Sioe Frenhinol Cymru, lle cafodd gyfle i drafod cynaliadwyedd mewn amaethyddiaeth.
Mae Katie hefyd wedi defnyddio ei llais i hyrwyddo diwydiant amaethyddol Cymru a’r menywod sy’n rhan ohono. Mae hyn yn cynnwys ymddangosiad ar ‘Coast and Country’ ar ITV yn 2013, lle bu’n trafod pwysigrwydd addysg er mwyn annog menywod ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth.
“Ni ddylai merched mewn amaethyddiaeth fod yn stereoteip mwyach. Ni ddaeth y syniad erioed i’m meddwl na fyddwn yn ffermio oherwydd fy mod yn fenyw. Y peth pwysicaf sydd ei angen ar y diwydiant yw’r bobl orau sy’n gallu mynd i’r afael â’r heriau niferus sydd o’n blaenau.”
Katie-Rose Davies, Darlithydd Amaethyddiaeth yng Ngholeg Penybont
Gan edrych at y dyfodol, mae Katie wedi ymrwymo i chwarae ei rhan i helpu’r diwydiant i gyflawni’r targed o allyriadau sero net erbyn 2040, ac mae dal carbon, gweithredu technolegau newydd, rheoli glaswelltir, ac ynni glân i gyd yn hanfodol ar gyfer hynny.
Ar ben hynny, mae’n amlwg bod addysg yn parhau i fod wrth galon ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Tu fas i’w gwaith dysgu yng Ngholeg Penybont, mae’n parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol er mwyn darparu’r cyfleoedd gorau posibl i bobl ifanc ddysgu am darddiad bwyd, ffermio a’r amgylchedd – enghraifft wirioneddol o’i hangerdd a’i hymroddiad i’r sector.
“Mae Katie Davies yn un o dri darlithydd rhagorol yn yr adran Amaethyddiaeth yng Ngholeg Penybont. Maent i gyd yn weithgar iawn yn y gymuned ffermio ac yn ymdrechu i roi’r profiadau dysgu gorau sy’n gysylltiedig â gwaith i’n myfyrwyr. Mae Katie yn cael ei pharchu a’i charu’n fawr gan ei myfyrwyr, gan roi cyngor ac arweiniad cadarn ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, a’u harwain tuag at gyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr. Rydym yn falch iawn o’r hyn mae Katie wedi’i gyflawni ac yn ddiolchgar iawn ei bod wedi dewis gweithio yma yn y Coleg.”
Sarah Allen, Rheolwr Cwricwlwm ar gyfer Astudiaethau’r Tir yng Ngholeg Penybont
Awyddus i ddysgu mwy am y diwydiant amaethyddiaeth a’r hyn y gall Coleg Penybont ei gynnig i chi? Cymerwch olwg ar ein cyrsiau Amaethyddiaeth, Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
































































