Mae Coleg Penybont wedi lansio adeilad 3 ystafell wely wedi’i adnewyddu ar Gampws Pencoed. Mae’r safle ar ei newydd wedd, o’r enw Cartref Syniadau, wedi’i drawsnewid yn dŷ arddangos carbon isel sydd wedi gallu lleihau ei allyriadau carbon 90% drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Mae’r prosiect uchelgeisiol wedi’i redeg ar y cyd â thîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (AACI) Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, er mwyn elwa ar eu harbenigedd mewn ôl-ffitio tai. Ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, dechreuodd y gwaith adnewyddu yn 2022.
Roedd gan y prosiect ddau nod canolog: bod yn adeilad cynaliadwy, ynni-effeithlon a chael addasiadau wedi’u gosod i gefnogi ein myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol. Bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster addysgu, gan alluogi myfyrwyr o feysydd cwrs amrywiol i weld cynaliadwyedd yn dod yn fyw mewn lleoliad cartref ymarferol. Ar ben hynny, bydd y tŷ hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ein myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan ganiatáu iddynt ddatblygu sgiliau annibyniaeth pwysig, megis coginio.
Mynychwyd y digwyddiad lansio, a gynhaliwyd ar Gampws Pencoed, gan staff o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â chynrychiolwyr o CBAC, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, busnesau lleol eraill a Llywodraethwyr y Coleg. Dysgodd ymwelwyr fwy am nodweddion cynaliadwy’r tŷ a sut y bydd dysgwyr yn elwa o amgylchedd trochi, go iawn sydd wedi’i gynllunio i roi sgiliau bywyd a byw gwerthfawr iddynt sy’n cyd-fynd â nodau cynaliadwy’r 21ain ganrif.
Mae gan yr adeilad nifer o nodweddion sy’n ei wneud yn wirioneddol ynni-effeithlon, a’r brif nodwedd yw ei fod yn rhedeg ar bŵer trydan yn unig. Cynhyrchir yr ynni o baneli solar ar y to, sy’n cael eu trawsnewid gan wrthdroyddion cyn eu storio mewn dau fatris, sydd wedi’u lleoli o fewn y cartref ei hun. Yna mae’r ynni hwn yn cael ei ailddosbarthu ledled y tŷ yn ôl yr angen. Mae’r holl ffenestri wedi’u hadnewyddu â ffenestri gwydr dwbl perfformiad uchel gyda siliau ffenestri mawr. Mae’r waliau’n fwy trwchus oherwydd eu bod wedi’u hinswleiddio’n dda, ac mae gan bob teclyn ofynion ynni isel.
Mae gan bob ystafell fentiau aer ar gyfer awyru, sy’n helpu i leihau’r risg o leithder ac anwedd. Yna mae’r system awyru yn gwthio aer glanach yn ôl i’r mannau byw. Mae’r adeilad hefyd wedi’i ffitio â phwmp gwres ffynhonnell aer sy’n tynnu gwres o’r aer y tu allan ac yn ei ddefnyddio i wresogi’r adeilad.
“Rydym yn hynod gyffrous i gael cyfleuster fel Cartref Syniadau, un a all ennyn diddordeb dysgwyr ac uwchsgilio’r gweithlu lleol, fel y gallwn gyfrannu hyd yn oed yn fwy i’r economi werdd yng Nghymru.”
Matthew Rees, Is-bennaeth
Mae’r Athro Joanne Patterson, sy’n gweithio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cadarnhau pŵer ymdrech ar y cyd o ran gweithredu ar yr hinsawdd. Er bod ôl-osod adeilad yn costio tua £60,000 i’w wneud yn fwy ecogyfeillgar, mae grantiau ariannol ar gael i’r cyhoedd ac i dai cymdeithasol i wneud tai’n fwy gwyrdd.
“Gyda 29 miliwn o gartrefi yn y DU, mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar wneud ein cartrefi presennol yn garbon isel. Mae gwir angen i’n sector adeiladu ddatblygu sgiliau technegol a sgiliau eraill fel cyfathrebu i alluogi hyn i ddigwydd. Bydd cael Cartref Syniadau ar gael i fyfyrwyr Addysg Bellach o ddydd i ddydd er mwyn iddynt weld drostynt eu hunain y technolegau y mae angen eu gosod yn help mawr i symud ymlaen tuag at net zero.”
Yr Athro Joanne Patterson, Cymrawd Ymchwil Athrawol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Mae Coleg Penybont wedi ymrwymo i wneud datblygiadau cynaliadwy, ym mhob maes, yn egwyddor drefnu ganolog. Yn 2018, ni oedd y coleg Cymreig cyntaf i lofnodi Cytundeb Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (SDGs), gan ymrwymo i adrodd gorfodol ar lefel ryngwladol. Mae ein heffeithiau sylweddol yn cynnwys cyflwyno’r cwricwlwm, defnyddio trydan a nwy, defnyddio trafnidiaeth, gwastraff i safleoedd tirlenwi, defnyddio dŵr, nwyddau a gwasanaethau a gaffaelir, seilwaith, defnydd tir a bioamrywiaeth.