Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Chris Long, Pennaeth Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd yng Ngholeg Penybont, wedi derbyn gwahoddiad arbennig i gynrychioli’r Coleg fel aelod cyntaf y Deyrnas Unedig o Grŵp Affinedd Nodau Datblygu Cynaliadwy Ffederasiwn Colegau a Pholytechnigau’r Byd (WFCP).
Mae’r Grŵp, sydd wedi bod yn gweithredu ers bron i bedair blynedd, yn gweithio i hybu ymwybyddiaeth a mabwysiad y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) yn y maes addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol ledled y byd. Trwy fynd ati’n weithredol i rannu gwybodaeth, pontio profiadau a chreu cymuned ryngwladol ymgysylltiol ac amrywiol, mae’r Grŵp yn gweithio i ymgorffori egwyddorion y Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy brosesau ac arferion i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.
Yn dilyn cydweithrediad â Colleges and Institutions Canada (CICan), a chyflwyniadau diweddar i symposia rhyngwladol, derbyniodd Chris wahoddiad uniongyrchol i ymuno â’r Grŵp. Bydd hon yn rôl barhaus a fydd nid yn unig yn cefnogi gwaith rhagorol y Grŵp, ond hefyd yn galluogi Coleg Penybont i barhau i ddatblygu strategaethau effeithiol tuag at greu dyfodol cynaliadwy.
Bydd Coleg Penybont, sydd bellach yn Gyd-arweinydd ar y Grŵp Affinedd, yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau byd-eang arloesol eraill, gan gynnwys CICan, UNESCO-UNEVOC International Centre for TVET, Technical and Further Education New South Wales (TAFE NSW), Instituto Nacional de Capacitación Profesional (INACAP), a’r Kenya Association of Technical Training Institutes (KATTI). Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://wfcp.org/activities/affinity-groups/sustainable-development-goals/
“Anrhydedd a braint yw gallu cynrychioli Coleg Penybont ar lwyfan byd-eang fel aelod cyntaf y DU o’r grŵp affinedd. Mae’r cyfle i gefnogi, dysgu a gweithio ochr yn ochr â phobl a sefydliadau mor neilltuol er budd myfyrwyr a dinasyddion yn wirioneddol anhygoel.”
Chris Long, Pennaeth Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd yng Ngholeg Penybont
Rhwydwaith rhyngwladol o golegau, polytechnigau, colegau prifysgol a sefydliadau addysgol proffesiynol yw’r WFCP. Mae aelodau’n rhannu strategaethau addysg arloesol ac arferion gorau i wella cyflogadwyedd ledled y byd. Yn 2022, dyfarnwyd y Wobr Aur Rhagoriaeth i Viv Buckley, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Penybont, yn y categori ‘Addysgwr Eithriadol’ fel rhan o Ganllaw Arfer Gorau WFCP. I ddysgu mwy, darllenwch: https://www.bridgend.ac.uk/dirprwy-bennaeth-yn-ennill-aur-yng-ngwobr-addysgwr-eithriadol-y-wfcp/