Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi ymuno yn ymgyrch fyd-eang Ras i Sero.
COP26 (Cynhadledd y Partïon) yw Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021. Yn yr uwchgynhadledd, bydd cynrychiolwyr yn cynnwys Penaethiaid Gwladol a negodwyr yn dod ynghyd i gytuno ar weithredu a gydlynwyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae Coleg Penybont yn un o’r sefydliadau sy’n cynrychioli’r sector addysg ac wrth baratoi ar gyfer y gynhadledd fe wnaethom fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad allweddol hwn drwy ymrwymo i fynd yn sero-net. Drwy ymuno yn ymgyrch Ras i Sero, rydym yn cydnabod ein bod yn rhan o adferiad carbon sero iach a chydnerth.
Yn fyd-eang, mae’r cynllun ‘Ras i Sero’ yn cynnwys dros 600 o sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn cynrychioli dros 8 miliwn o fyfyrwyr. Mae’n ymgyrch fyd-eang i gymell arweinyddiaeth a chefnogaeth gan fusnesau, dinasoedd, rhanbarthau a’r sector addysg. Drwy gefnogi hyn, dangoswn ein cefnogaeth i ymrwymiad byd-eang i gyflawni sero net, helpu adferiad y blaned ac adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy.
Fel yr amlinellir yn y cynllun i gyflawni sero net, rydym yn ymroddedig i gynyddu cyflenwi addysg amgylcheddol a chynaliadwyedd ar draws cwricwlwm, campws a rhaglenni allgymorth cymunedol.
Dywedodd Chris Long, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Datblygu Cynaliadwy y Coleg:
“Rydym yn falch tu hwnt i fod y coleg cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cytuniad Nodau Datblygu Cynaliadwy (Cytuniad Nodau Datblygu Cynaliadwy) a datgan argyfwng hinsawdd. Yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yw’r heriau arweinyddiaeth mwyaf sy’n ein hwynebu ond mae gennym uchelgais glir i arwain ac ysbrydoli eraill i ddod yn well dinasyddion a gwneuthurwyr newid byd-eang.”
Chris Long
Mae gan y Coleg amcanion uchelgeisiol ar gyfer cynaliadwyedd ac mae eisoes wedi cyrraedd a rhagori ar ei uchelgais i ostwng allyriadau carbon erbyn 25% erbyn 2025 fel yr amlinellir yng Nghynllun Strategol y Coleg ar gyfer 2020-2015. Hwn wy’r cam cyntaf tuag at gyflawni sero net erbyn 2040 fan bellaf.