Rydym yn falch o rannu bod Coleg Penybont wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac wedi ennill statws Efydd gan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS), sy’n enghraifft o ymrwymiad diwyro’r Coleg i feithrin diwylliant o gynwysoldeb.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn adduned a wneir gan sefydliadau i gefnogi’r rheiny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd, gan eu trin â thegwch a pharch, ac i sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd.
Mae Coleg Penybont nid yn unig wedi gwneud adduned i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog trwy ddarparu cyfleoedd addysgol ond, wrth ennill dyfarniad Efydd yr ERS, mae’r Coleg wedi dangos bod ei werthoedd yn cyd-fynd â’r Cyfamod tra hefyd yn awyddus i ysbrydoli sefydliadau eraill i wneud yr un peth. At hynny, mae’r Coleg wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog ac yn croesawi ceisiadau gan aelodau o’r gymuned amddiffyn, gan gynnwys milwyr wrth gefn, hyfforddwyr a phartneriaid personél milwrol.
“Mae cefnogi ein cymunedau lleol a’r unigolion y tu mewn iddynt wedi bod yn rhywbeth y mae Coleg Penybont wedi bod yn falch ohono ers tro. Rydym mor gyffrous ein bod wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog fel ein bod yn gallu cefnogi’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y fyddin a’u teuluoedd, menter arall sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd o fod yn canolbwyntio ar bobl, yn angerddol ac yn gynhwysol.”
Matthew Rees, Is-Bennaeth Coleg Penybont
Wrth symud ymlaen, bydd y Coleg yn parhau i ddangos cydgefnogaeth â chymuned y lluoedd arfog drwy gymryd agwedd ragweithiol at ddatblygu ei ddarpariaeth cymorth, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth yn fewnol o faterion cymunedol a chefnogi mudiad y Cadetiaid yn ei gyfanrwydd.
Mae’r cynllun ERS yn dyfarnu statws Efydd, Arian ac Aur i sefydliadau sy’n gwneud adduned i, yn arddangos neu’n siarad o blaid cefnogi amddiffyniad a chymuned y lluoedd arfog. Er bod y cynllun yn cydnabod cymorth o fewn y sector preifat yn bennaf, mae sefydliadau sector cyhoeddus hefyd yn gymwys i gymryd rhan. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
































































