Rydym yn falch tu hwnt i gyhoeddi fod Coleg Penybont wedi cryfhau ei safiad yn erbyn hiliaeth drwy lofnodi polisi Dim Hiliaeth Cymru.
Mae Dim Hiliaeth Cymru yn galw ar bob sefydliad ac unigolyn sy’n ymroddedig i hyrwyddo cytgord hiliol a thegwch i gytuno i’w bolisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru.
Mae Dim Hiliaeth Cymru yn galw ar bob sefydliad ac unigolyn sy’n ymroddedig i hyrwyddo cytgord hiliol a thegwch i gytuno i’w bolisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru.
Dywedodd Simon Pirotte, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Penybont:
“Cenhadaeth Coleg Penybont yw galluogi pawb i fod yn ‘bopeth y gallant fod’. Mae llofnodi’r ymrwymiad Dim Hiliaeth yn cadarnhau ein hymroddiad i fod yn sefydliad cynhwysol. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae mor bwysig gwneud popeth a fedrwn i ddileu rhwystrau, dathlu amrywiaeth a galluogi pob unigolyn i gynyddu eu potensial i’r eithaf.”
Mae myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant a gyflwynwyd gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth – prif elusen addysgol gwrth-hiliaeth Prydain sy’n defnyddio statws proffil uchel pêl-droed a chwaraewyr pêl-droed mewn ysgolion a cholegau, gan annog pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am yr hyn a’i glywant a’i herio, a’r hyn a welant, o ffynonellau allanol fel y cyfryngau. Gwahoddwyd Llysgenhadon Myfyrwyr y Coleg a Chynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr i fynychu sesiwn hyfforddiant i ymchwilio’r themâu hyn a datblygu gwybodaeth am adnabod hiliaeth a sut i ymateb mewn modd priodol i gefnogi eraill a hwy eu hunain.
Mae ein disgwyliadau craidd ar gyfer dinasyddiaeth yn cynnwys dangos parch a bod yn ddiogel ac fel coleg, rydym yn hollol ymroddedig i hyn. Ymrwymwn i ddysgu ac addysgu i wneud gwahaniaeth i fywyd pob cymuned. Yn haf 2020, dangosodd y Coleg eu cefnogaeth i’r rhai sy’n ymwneud â phrotest heddychlon leol Black Lives Matter a chadarnhau ein hymrwymiad i hybu gwaith i ostwng diffyg cydraddoldeb hiliol a mân ymosodedd o fewn cymuned y coleg.