Coleg Penybont yn ennill Aur yng Ngwobrau Llesiant Gweithle Coleg Penybont

Cafodd Coleg Penybont ei gydnabod unwaith eto am ei ymrwymiad i lesiant yn y gweithle.

Roedd y Coleg yn un o 114 sefydliad i gymryd rhan ym mhumed Mynegai Llesiant Gweithle blynyddol Mind eleni, a chafodd ei gydnabod gyda Gwobr Aur. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymwreiddio iechyd meddwl yn llwyddiannus mewn polisïau ac arferion, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau arfer gorau ac arddangos ymrwymiad hirdymor a dwfn i iechyd meddwl staff.

Mae Mynegai Llesiant Gweithle Mind yn feincnod o bolisi ac arfer gorau, sy’n dathlu gwaith da cyflogwyr i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a rhoi argymhellion allweddol ar y meysydd penodol lle gellid gwella. Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein eleni dan arweiniad Paul Farmer, Prif Weithredwr Mind, ar 8 Mehefin a gwelodd tua 200 o bobl o ystod eang o sefydliadau’n dod ynghyd i ddathlu’r gwobrau.

Arolygodd Mind fwy na 42,000 o gyflogeion ar draws y 114 o gyflogwyr a gymerodd ran yn y Fynegai a chynnwys adran ychwanegol ar effaith Covid 19.

Fel Coleg, rydym wedi datblygu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall staff a myfyrwyr drafod iechyd meddwl yn agored a chael mynediad i ddewis eang o wasanaethau fel sy’n gyfleus iddyn nhw. Mae rhai o’r cynlluniau blaengar y gwnaethom eu cyflwyno i staff ar draws y Coleg yn cynnwys: yoga ar-lein am ddim, rhaglen Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Arweinwyr, opsiynau iach fel rhan o’n cynnig ffreutur a gwahanol weithgareddau ymgyfoethogi drwy gydol y flwyddyn. Drwy gymryd rhan ym Mynegai Llesiant Gweithle Mind, rydym wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i gefnogi lles meddwl ein saff. Yn y dyfodol byddwn yn adolygu canfyddiadau ein hadroddiad ac yn datblygu cynllun ar gyfer gweithredu’r argymhellion allweddol.

Yn syml ddigon, nod ein Strategaeth Llesiant yw creu amgylchedd gwaith a dysgu lle gall staff a myfyrwyr ffynnu a chyflawni eu potensial llawn. Rydym yn mesur effaith ein hymyriadau a’n cefnogaeth drwy arolygon aml ymhlith staff a myfyrwyr, ynghyd â dialog barhaus a dadansoddiad o ddata allweddol. Mae’r hyn a ddysgwn o wahanol arolygon yn sicrhau ein bod yn dal ati i gyflwyno cynllun gweithredu hollgynhwysfawr

Dywedodd Sam Morgan, Cyfarwyddwr Pobl:

“Ni fydd ein gwaith yn ymwneud â iechyd meddwl byth wedi ei gwblhau a bydd bob amser fwy y gallwn ei wneud i ostwng y stigma. Rydym yn wirioneddol falch o’r gwahaniaeth a wnaiff ein staff a sut maent yn cefnogi ei gilydd drwy’r cyfnodau caletaf. Mae’r wobr hon yn dangos pa mor bell yr ydym wedi teithio gyda’n gilydd fel sefydliad ac mae’r adborth a gawsom yn ein galluogi i ganolbwyntio ar feysydd lle gallwn gael mwy fyth o effaith yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Simon Pirotte, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol:

“Rwyf wrth fy modd fod Coleg Penybont wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon ar gyfer ein gwaith ar iechyd a lles meddyliol. Mae’r hinsawdd presennol wedi golygu fod cefnogi ein gilydd wedi dod hyd yn oed yn fwy pwysig a bu hyn yn ymdrech tîm ar y cyd drwy gyfnodau anodd. Rwy’n falch iawn i weithio gyda chydweithwyr sy’n gofalu cymaint am ei gilydd.”

Dywedodd Emma Mamo, Pennaeth Llesiant Gweithle gyda Mind:

“Mae’n fy ysbrydoli i weld sut mae’r holl sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y Fynegai yn cymryd camau cadarnhaol i gefnogi iechyd meddwl y rhai y maent yn eu cyflogi. Mae pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywyd pob un ohonom yn y flwyddyn ddiwethaf; fe wnaeth y ffordd y gweithiwn newid yn sylfaenol, p’un ai yw hynny’n gweithio ar y rheng flaen neu’n gweithio gartref. Mae cyflogwyr felly wedi wynebu, ac yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth roi cefnogaeth effeithlon i les eu pobl yn y cyd-destun newydd ac ansicr hwn. Dyna pam, eleni yn fwy nag erioed, roeddem wrth ein bodd i ddathlu bod cyflogwyr yn gwneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’w sefydliad drwy ein Gwobrau Llesiant Gweithle.

Fel y disgwyliem, mae effaith coronafeirws ar iechyd meddwl staff yn thema gyson yng nghanlyniadau Mynegai eleni; roedd gweithio oriau hirach a chydbwysedd gwaelach rhwng gwaith a bywyd yn themâu allweddol. Fodd bynnag, bu’n galonogol gweld faint o gyflogwyr sydd wedi cefnogi iechyd meddwl eu pobl yn y flwyddyn neilltuol o heriol hon, ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu’r cyflogwyr blaengar hynny sy’n ymroddedig i fuddsoddi yn llesiant eu staff.”

Hoffem ddiolch i bawb am helpu i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol yn ein gweithle ac rydym yn falch iawn i fod yn gwneud gwahaniaeth.

Modd
Y cyfan
Rhan amser
Llawn amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Ymadawyr Ysgol
Prentisiaethau
Astudio Rhan-Amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn