Anrhydedd yw i Goleg Penybont nid yn unig gael y wobr Aur ar gyfer Arloesedd a Chreadigrwydd yng Ngwobrau FE First eleni, ond hefyd ‘Canmoliaeth Uchel’ yn y categori Tîm Marchnata’r Flwyddyn (Mawr).
Fe wnaeth y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Rwydwaith Marchnata’r Colegau, ddod a channoedd o broffesiynolion o’r diwydiant at ei gilydd i ddathlu rhagoriaeth o ran marchnata yn y sector Addysg Bellach yn y Deyrnas Unedig. Roedd y Coleg wrth ei fodd nid yn unig o fod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y ddau gategori, ond hefyd o fod wedi llwyddo i ennill cydnabyddiaeth yn y ddau.
I weld rhestr lawn o gategorïau’r gwobrau a’r enillwyr, cliciwch yma: m-network.org/fe-first-awards-2024-the-winners/
“Mae ennill y gwobrau hyn yn dyst i angerdd a gweledigaeth y tîm marchnata sy’n gweithio’n galed i ddarparu datrysiadau creadigol ac arloesol. Maen nhw’n dîm gwych sy’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth hon!”
Helen Major, Rheolwr Marchnata yng Ngholeg Penybont
Roedd buddugoliaeth y Coleg yn y categori Arloesedd a Chreadigrwydd yn seiliedig ar ei ymgyrch ‘Datgloi Eich Potensial’, a lansiwyd ar gyfer SkillsCymru 2023 – y digwyddiad sgiliau, gyrfaoedd a phrentisiaethau mwyaf yng Nghaerdydd. Roedd yr arddangosfa, a oedd wedi’i dylunio a’i chyflwyno gan Dîm Marchnata mewnol y Coleg, yn seiliedig ar thema ‘varsity’, ac yn cynnwys llawr campfa, loceri ar gyfer pynciau gwahanol a gyda gwobrau ynddynt, a stondin hunluniau thema ‘ystafell newid’, gan apelio’n ddiwylliannol ac yn aesthetaidd i ddemograffeg y myfyrwyr a oedd yn bresennol.
Fe lwyddodd yr ymgyrch, a oedd yn brosiect cwbl gydweithredol, i ddod â sgiliau arbenigol o wahanol dimau ar draws y Coleg at ei gilydd. Trwy roi datrysiad TG pwrpasol ar waith, roedd ymwelwyr yn gallu mwynhau profiad difyr tra hefyd yn elwa o wybodaeth ac arbenigedd y Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr, a oedd wrth law yn ystod y digwyddiad.
“Mae’r elfennau o ‘gamification’, cynwysoldeb, darparu gwybodaeth, cyngor ac arweinad, parhad o ran gweithredu’r cysyniad, marchnata gweledol, ac ymgysylltu â staff oll yn awgrymu bod hwn yn dîm ymroddedig a deinamig sy’n cydweithio’n falch i osod bar newydd ar gyfer disgwyliadau o ran digwyddiadau. Mae hon yn ymgyrch integredig ryngweithiol wirioneddol, a dylid ei chanmol am ei chysyniad hynod arloesol a chreadigol a’i chyflwyniad arbenigol.”
Sylwadau’r Beirniaid ar gais Coleg Penybont am y Wobr Arolesedd a Chreadigrwydd
































































