Ar y cyd â Choleg y Cymoedd a Choleg Merthyr Tudful, fe gynhaliodd Coleg Penybont ei ‘Bŵtcamp Busnes’ cyntaf yn ddiweddar, lle roddwyd cyfle i fyfyrwyr brwd fynychu cyfres o sgyrsiau a gweithdai oedd â’r nod o ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Coleg Penybont wedi cymryd rhan yn ‘Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf’, digwyddiad ar-lein arobryn a ddarperir gan rai o feddyliau mwyaf clyfar y meysydd Menter a Busnes yn y sectorau Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) yng Nghymru. Eleni, fodd bynnag, lansiodd y tri choleg eu digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf.
Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, cynhaliwyd y bŵtcamp dros dri diwrnod o 20 i 22 Mehefin, gyda phob coleg yn cynnal diwrnod o weithdai. Yn ystod y bŵtcamp, cymerodd myfyrwyr o’r colegau ran mewn cyfres o sesiynau a oedd wedi’u cynllunio’n ofalus ac oedd yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o bynciau entrepreneuraidd hanfodol, gan gynnwys cynllunio busnes, technegau marchnata, a rhwydweithio.
Cynhaliodd Coleg Penybont ei weithdai yn yr Academi STEAM arobryn ym Mhencoed. Dechreuodd sesiynau’r dydd gyda Chris Jones, Entrepreneur Preswyl y Coleg, a roddodd cyngor ac awgrymiadau ar gyfer llwyddo mewn busnes, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithio. Yn dilyn hynny, cyflwynodd Destiny Kirk o Yellow Hat sesiwn ‘Marchnata 101’, gan dynnu ar ei phrofiad personol fel perchennog busnes ac fel arbenigwr cyfryngau cymdeithasol a chynnwys.
Cyflwynwyd sesiwn olaf y dydd gan Ryan Stephens, Hyfforddwr Meddylfryd a Llesiant, a siaradodd am ei brofiad ei hun o ddatblygu busnesau gan drafod pwysigrwydd datblygu strategaethau cadarnhaol i reoli iechyd meddwl.
Yn dilyn y digwyddiad tridiau, rhoddodd y cyfranogwyr adborth ardderchog ar y sesiynau. Nid yn unig y dywedodd pob myfyriwr y byddent yn argymell y Bwtcamp Busnes i’w cyfoedion, ond bod y sesiynau wedi eu hysbrydoli i ddechrau eu mentrau busnes eu hunain.
“Hyfryd oedd croesawu cymaint o ddarpar entrepreneuriaid oedd ag amrywiaeth eang o syniadau busnes gwych i’r Bŵtcamp Busnes cyntaf. Roeddem wrth ein bodd yn clywed y mynychwyr yn disgrifio’r tridiau fel rhai ‘addysgiadol’, ‘ysbrydoledig’ a ‘chymhellol’, a dywedodd pob un ohonynt y byddent yn ei argymell i ddysgwyr eraill.”
Ruth Rowe, Swyddog Entrepreneuriaeth yng Ngholeg Penybont
Mae’r Coleg yn cynnig darpariaeth Menter fewnol i fyfyrwyr, gan roi’r cyfle iddynt archwilio eu syniadau busnes a derbyn arweiniad gan gynghorydd busnes profiadol. Mae’r gwasanaeth Menter yn cynnal gweithdai ym mhob maes cwricwlwm, ac mae hefyd ar gael ar sail un-i-un.
Dysgwch fwy am wasanaeth gyrfaoedd a Menter y Coleg.
































































