Mae Coleg Penybont yn falch iawn i gefnogi Llwybr Ci gyda Snoopy, llwybr awyr agored artistig o amgylch Porthcawl a gynhelir rhwng 8 Ebrill a 5 Mehefin eleni.
Gan weithio gyda Wild in Art, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Snoopy – cyfaill Charlie Brown yng nghartŵn Peanuts – fydd prif atyniad y llwybr. Bydd y llwybr ym Mhorthcawl yn cynnwys chwe cherflun mawr o Snoopy a gynlluniwyd gan artistiaid lleol, yn ogystal â thri cerflun bach ohono a gynlluniwyd gan ysgolion lleol. Bydd hefyd lwybrau yng Nghaerdydd a Chaerffili. Gallwch weld lleoliad holl gerfluniau Snoopy ar wefan Llwybr Ci.
Bydd Llwybr Ci yn creu oriel awyr agored yn cynnig arddangosiad lliwgar o gelf ar draws Porthcawl, yn ogystal â chefnogi’r gymuned, twristiaeth a’r economi lleol. Bydd y rhaglen ddysgu gysylltiedig hefyd yn sicrhau y gall plant o ysgolion lleol gymryd rhan.
Mae’r Ymddiriedolaeth Cŵn, sydd â chanolfan ailgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal y llwybr, gyda’r cerfluniau enfawr o Snoopy yn cael eu cynnig mewn arwerthiant ar ddiwedd yr ymgyrch i godi arian i’w cefnogi i barhau i wella llesiant cŵn yng Nghymru a thu hwnt.
Caiff cerflun Coleg Penybont o Snoopy ei gynllunio’n greadigol gan yr artist Joe Davies, sy’n seiliedig yng Nghaerdydd ac yn arbenigo mewn darlunio a phaentio, ond sy’n arbrofi gyda nifer o wahanol gyfryngau a disgyblaethau. Mae cynllun Joe, Kintsugi, yn seiliedig ar lesiant meddwl, rhywbeth y mae Coleg Penybont yn angerddol am ei gefnogi. Mae’r addurn a’r patrwm yn cynrychioli ymwybyddiaeth ofalgar a gwerthfawrogi harddwch natur yn defnyddio ein synhwyrau. Mae’r craciau a’r gwythiennau aur o amgylch y cerflun yn cynrychioli celf Japaneaidd ac athroniaeth Kintsugi, y weithred o ddefnyddio aur i drwsio crochenwaith i gofleidio harddwch ei amherffeithrwydd.
Mae’n gyffrous i Goleg Penybont fod yn noddi’r cynllun gwych hwn ym Mhorthcawl. Rydym yn falch i gefnogi achos fydd yn gwneud gwahaniaeth i’n cymuned gan annog pobl i ymchwilio ein tirwedd hardd a chael hwyl ar yr un pryd.
































































