Mae Coleg Penybont wedi arwyddo Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r Siarter yn ailddatgan ymrwymiad y Coleg i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Mae’r Siarter yn gytundeb ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n gweithio’n rheolaidd â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae’n cynnwys cyfres o un ar ddeg o egwyddorion arweiniol sy’n sail i ymddygiadau ac ymrwymiadau allweddol sy’n helpu i hyrwyddo hawliau a diogelu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Fel Coleg Addysg Bellach (AB) sy’n croesawu dros 7000 o fyfyrwyr drwy ein drysau bob blwyddyn, rydym yn cydnabod nad oes ‘un maint sy’n ffitio pawb’ o ran cymorth. Fodd bynnag, credwn y dylid trin pawb â charedigrwydd, parch ac urddas, ni waeth beth fo’u profiadau bywyd.
Llesiant myfyrwyr yw un o elfennau canolog ein darpariaeth addysgol. Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i dderbyn y lefel o gymorth sydd ei hangen arnynt gennym ni, byddwn yn parhau i ymdrechu i wella ein harlwy i wneud i unigolion deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn ddiogel ac, yn bwysicaf oll, yn cael eu clywed.
Fel rhan o’n hymrwymiad, byddwn yn chwilio am y wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar bob myfyriwr ac yn ymdrechu i’w cyflwyno mewn modd y mae’r myfyrwyr yn eu deall. At hynny, byddwn yn parhau i sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran rhianta corfforaethol a byddwn yn darparu hyfforddiant rheolaidd i godi ymwybyddiaeth.
Yn fwy na chadw plant yn ddiogel yn unig, y Siarter Rhianta Corfforaethol yw ein haddewid i weithredu er budd gorau ein myfyrwyr. Nid yn unig ydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ofalu am y rheiny sydd wedi cael profiad o ofal, ond hefyd ein cyfrifoldeb i hybu gwellhad a gwytnwch ac i helpu i’w grymuso i wireddu eu llawn botensial mewn bywyd – i’w helpu i fod yn bopeth y gallant fod.
Fel partner ar Fwrdd Rhianta Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac fel Coleg, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn ein gofal yn cael eu cefnogi i gyflawni cenhadaeth y Coleg, sef bod y cyfan y gallant fod.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd sy’n ystyriol o drawma, lle mae pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn perthyn a lle mae gofal a charedigrwydd yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Mae’r Siarter Rhianta Corfforaethol yn darparu cyfres o egwyddorion arweiniol i’n cefnogi i gyflawni hyn yn llwyddiannus.
Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth yng Ngholeg Penybont