Rydym yn blesd iawn ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cynhwysol 2023, un o ddathliadau gwobrau amrywiaeth uchaf ei barch yn y DU.
Cyrhaeddodd y Coleg restr fer gwobr ‘Menter Diwylliant Cynhwysol’, anrhydedd sy’n cydnabod sefydliadau ag ymrwyniad i sicrhau amrywiaeth. Roedd ffocws yr enwebiad ar ymgyrch ‘Be You’ y Coleg yn 2022 a oedd, a adroddwyd gan wahanol aelodau o staff, yn archwilio straeon unigol a phrofiadau o gynhwysiant o fewn y Coleg. Rhannwyd y fideos hyn yn fewnol ac â’r gymuned ehangach.
Yr ail gategori yw’r wobr ‘Prif Weithredwr y Flwyddyn’ i gydnabod Simon Pirotte OBE a’i ymrwymiad diwyro wrth arwain y Coleg tuag at ddod yn gyflogwr cynhwysol yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Ar ôl derbyn dros fil o enwebiadau gan wahanol sefydliadau, datgelodd y Gwobrau Cynhwysol restrau byr eu wyth categori heddiw. Goreuon o fusnes yw nifer o’r enwebiadau, gan gynnwys HSBC, Aviva Origins a Capital One, gan amlygu arwyddocâd ac anrhydedd cael eu cydnabod gan y corff dyfarnu.
Coleg Penybont yw’r unig sefydliad Addysg Bellach i gyrraedd y rhestr fer mewn unrhyw gategori.
“Nid yn unig y mae amrywiaeth o fewn gweithlu yn meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol, gall hefyd ddod â manteision busnes a rhoi mantais i’r farchnad. Edrychwn ymlaen at ddathlu llwyddiannau niferus ac amrywiol ein cystadleuwyr yn y rownd derfynol ac rwy’n eu llongyfarch i gyd am gyrraedd y rhestr fer am yr effaith y maent wedi’i chael.”
Paul Sesay, Prif Swyddog Gweithredol Cwmnïau Cynhwysol a Sylfaenydd Gwobrau Cynhwysol
Mae Coleg Penybont wedi gosod amrywiaeth a chynhwysiant yn uchel ar ei agenda strategol ers tro. O gydnabod cydraddoldeb rhywiol ymhlith ei gorff llywodraethu i gefnogi mentrau LGBTQ+, mae’r Coleg yn cydnabod ei rôl hanfodol wrth feithrin unigolion moesegol a pharchus.
Cyhoeddir yr enillwyr yn y seremoni Gwobrau Cynhwysol ar 5 Rhagfyr. Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o wobrau ac enwebion ar y rhestr fer.
































































