Ar 30 Awst, codwyd cerflun coffa ysbrydoledig ym Mae Rest, Porthcawl i goffau’r dynion a gollodd eu bywydau yn llongddrylliad yr S.S. Samtampa ar Ebrill 23, 1947.
Daethpwyd â’r prosiect, dan arweiniad Gary Victor o Fforwm SHOUT Porthcawl (PSF), gerbron Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) am y tro cyntaf yn 2003. Mae Gary yn cofio, er yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o’r drasiedi forwrol, fe sylweddolodd fod hon yn stori nad oedd yn cael ei hadrodd. Roedd am gyfleu’r stori anhygoel hon mewn modd y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei werthfawrogi a’i gofio.
“Roeddwn i’n ymwybodol o drychineb yr S.S. Samtampa fel digwyddiad hanesyddol, ond mae’n stori mor gryf – mae’n ddigwyddiad mor epig – ac ychydig iawn o wybodaeth sydd amdani. Mae pobl yn dod yn eu miloedd i Borthcawl ac yn mynd yn ôl adref heb erioed wybod amdano. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n anghywir ac roeddwn i eisiau newid hynny.”
Gary Victor, aelod o Fforwm SHOUT Porthcawl ac arweinydd prosiect y gofeb
Roedd PSF yn awyddus i wneud hwn yn brosiect gwirioneddol gydweithredol, gan geisio cefnogaeth a mewnbwn gan nifer o sefydliadau lleol, megis Amgueddfa a Chymdeithas Hanes Porthcawl, Gwylwyr y Glannau EM a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).
Cysylltodd PSF â Choleg Penybont yn 2017. Gan fynegi awydd i rannu’r digwyddiad hanesyddol gyda phobl ifanc a sicrhau hirhoedledd y gofeb, nododd PSF y byddai’r Coleg yn bartner delfrydol er mwyn helpu i ddod â’r weledigaeth yn fyw. Gweithiodd y darlithydd Hilary Statts Evans gyda myfyrwyr Celf a Dylunio i ddatblygu amrywiaeth o gysyniadau mewn ymateb i drychineb yr S.S. Samtampa, gan gynnwys gwaith celf a chynrychioliadau 3D.
“Mae’n wych bod y prosiect hwn, a oedd yn haniaethol ar y pryd, bellach wedi dwyn ffrwyth. I’n myfyrwyr a gymerodd ran, mae’n gyffrous y bydd hirhoedledd i’w hymdrechion a’u syniadau, ac nid yn unig ydyn nhw’n ymwybodol o’r stori ond, trwy eu gwaith, bydd y gymuned leol nawr yn ymwybodol ohoni hefyd.”
Hilary Statts Evans, Art, Design and Media Lecturer at Bridgend College
Roedd y cysyniadau artistig hyn yn elfen bwysig o’r broses greadigol a chylch gwaith y prosiect. Tra bod yr artist Martin Williams wedi cerfio’r cerflun ar ei ben ei hun, aeth Martin i’r afael â’r cyfnod dylunio mewn partneriaeth â nifer o unigolion a sefydliadau. Mae’r dyluniad terfynol, felly, wedi’i ddylanwadu gan lawer o leisiau gwahanol, gan ei wneud yn ddarn o waith gwirioneddol gydweithredol.
Roedd Martin yn awyddus i greu rhywbeth a oedd yn drawiadol yn weledol ond eto’n adnabyddadwy o bell, gan dynnu pobl i mewn. Wrth symud yn agosach at y cerflun, golyga’r cysyniad y byddai pobl yn gallu dysgu a chysylltu â’r darn trwy’r naratif a blethwyd drwy’r dyluniad.
“Gofynnodd SHOUT Porthcawl i ni edrych ar ddyluniadau’r Samtampa o safbwynt person ifanc, ac fe gafodd hyn ei integreiddio i’r dyluniadau. Yna buom yn gweithio mewn grwpiau i ddatblygu gwahanol ddyluniadau a chysyniadau i’w cyflwyno i dîm y prosiect.
O ran fy nyluniad i, canolbwyntiais ar ddeunyddiau olion y Samtampa ei hun – cadwyni, angorau, darnau o fetel, a oedd i gyd wedi cyrydu dros y blynyddoedd oherwydd y dŵr hallt.
Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch fy mod wedi bod yn rhan o’r prosiect. Mae cael dod yn ôl a bod yn rhan o ddadorchuddio’r cerflun yn eithaf arbennig.”
Laura Dunlop, former Art and Design student at Bridgend College
Mae’r gofeb, sy’n cynnwys pedwar darn cysylltiol, yn portreadu wyth aelod dewr o griw’r bad achub, Edward Prince of Wales, a gollodd eu bywydau wrth geisio helpu’r S.S. Samtampa. Mae’r cerflun, sydd wedi’i siapio fel trwyn llong, hefyd yn ymgorffori elfennau o’r llongddrylliad ei hun, gan gynnwys cadwyni, dŵr a brigiad creigiog.
Crëwyd y cerflun o garreg Portland, deunydd y mae Martin yn ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o’i weithiau. Bu Martin yn gweithio ar y cerflun chwe diwrnod yr wythnos am naw mis, gan gwblhau’r gofeb ddiwedd 2017.
Er yn wreiddiol i’r prosiect gael ei ddychmygu i gofio 70 mlynedd ers y drychineb yn 2017, rhoddwyd stop ar y prosiect oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Derbyniodd y prosiect-£70,000 ei gyllid cychwynnol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, CBSP, a rhoddwyr preifat. Fodd bynnag, oherwydd amrywiaeth o drafferthion na ragwelwyd, gan gynnwys yr angen i ail-leoli’r gofeb a chynnydd i gostau deunyddiau, gohiriwyd y prosiect tan 2023.
Cafodd safle’r cerflun, a oedd yn wreiddiol yn mynd i fod ar bromenâd Porthcawl, ei adleoli ymhellach i fyny’r arfordir i Fae Rest. Mae man gorffwys olaf y cerflun coffa yn edrych allan i Bwynt y Sger, lleoliad trychineb yr S.S. Samtampa.
Bydd y gofeb, sydd nawr yn ei lle, yn gatalydd ar gyfer meddwl a thrafodaeth, gan annog pobl i ymchwilio ymhellach i hanes y drychineb, hanes Porthcawl a hanes Cymru.
“Rwy’n gobeithio, trwy gael atgof gweledol o ddigwyddiad trasig, y bydd pobl yn gweld y gofeb ac yn cael eu hannog i ymchwilio ymhellach – darganfod pam mae pethau wedi cael eu cerfio ar yr arwyneb a beth yw eu hystyr. Rydyn ni am gynnwys eraill a’u hannog i archwilio ymhellach i un o drychinebau morol gwaethaf Cymru.”
Martin Williams, Sculptor
Sefydlwyd Fforwm SHOUT Porthcawl yn 2003 fel menter gan Lywodraeth Cymru. Ei nod fu rhoi llais i genedlaethau hŷn yn eu cymunedau ledled Cymru. Mae Gary yn gwahodd pawb yn gynnes i ddod i gyfarfodydd misol ym Mhorthcawl, gan bwysleisio nad oes angen i bobl fod yn aelodau o Fforwm SHOUT i fynychu. Os ydych yn fodlon gwrando, cyflwyno eich syniadau a thrafod syniadau pobl eraill, bydd croeso i chi.
Trychineb yr S.S. Samtampa
Ar Ebrill 19 1947, cychwynnodd yr S.S. Samtampa o Middlesbrough gyda chriw o 39, yn teithio am ddociau sych Casnewydd. Ar ôl teithio’n llwyddiannus i lawr arfordir dwyreiniol ac ar hyd arfordir deheuol Lloegr, daeth y llong ar draws gwyntoedd grym corwynt.
Dim ond 30 milltir o’i chyrchfan, anfonodd capten y llong neges yn dweud ei bod yn mynd i wneud symudiad ‘heave to’, sef ffordd o arafu llong a strategaeth amddiffynnol gyffredin yn ystod tywydd garw.
Roedd yr S.S. Samtampa, a gafodd ei adeiladu yn Portland, Maine, yn llong ‘Liberty’ yn wreiddiol – un o dros 2,700 o longau cargo a adeiladwyd yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Oherwydd ei ddyluniad economaidd o ran cyflymder gweithgynhyrchu – a oedd yn ddelfrydol yn ystod rhyfel – fe dynnwyd y llong yn ddarnau gan rym y tywydd.
Achosodd ffyrnigrwydd y storm ymchwydd llanwol, gan beri i drwyn a starn y llong gael eu gwthio i Bwynt y Sger ym Mhorthcawl. Er nad oedd yn bell o’r llan, roedd y cyflyrau’n golygu y byddai achub o’r tir yn amhosibl.
Ar ei ail ymgais, fe aeth y bad achub, Edward Prince of Wales, o’r Mwmbwls gydag wyth morwr tuag at y llongddrylliad yn y gobaith o achub criw’r S.S. Samtampa. Oherwydd y cyflyrau eithafol – gwyntoedd cryfion, distrych y tonnau, olew yn gollwng o injan y llong – fe gollodd pob un o 39 aelod criw’r llong ac 8 aelod y tîm achub eu bywydau.
































































