Rydym yn falch dros ben bod ein siop goffi, Clwb Coffi, wedi derbyn sgôr hylendid bwyd pum seren gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Yn ystod yr arolygiad annisgwyl ddydd Llun 30 Ionawr, holwyd myfyrwyr am eu dealltwriaeth o hylendid bwyd, prosesau paratoi dyddiol a threfniadau glanhau yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch cenedlaethol. Llwyddodd y myfyrwyr i basio gyda sgôr berffaith o 30/30, sy’n brawf o’r safon uchel y maent yn dal eu hunain yn atebol iddi.
Mae Clwb Coffi’n cael ei redeg gan naw myfyriwr fel rhan o’u rhaglen addysgol yn y Coleg, ac maent yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth ymarferol gan diwtor profiadol a hyfforddwr swyddi. Mae pob un o’r myfyrwyr eisoes wedi ennill eu dyfarniadau Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd ac Ymwybyddiaeth o Alergenau Bwyd – cymwysterau hollbwysig i’r rheini sy’n gweithio mewn amgylchedd bwyd. Mae’r cynllun hyfforddi yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu hyder, eu sgiliau cyfathrebu a’u sgiliau craidd mewn lleoliad busnes ymdrochol.
Croesawodd Clwb Coffi aelodau’r cyhoedd am y tro cyntaf ym mis Mai 2022, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd a diodydd ffres mewn lleoliad llachar a chyfforddus. Mae’r siop goffi, sydd ar agor rhwng 10yb a 2yp o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor, yn lle perffaith i fwynhau paned o goffi adfywhaol gyda gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ar yr ochr.
Ffansio ymweld? I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliad a’r cyfleusterau, ewch i Clwb Coffi.