Mae bwyty Coleg Penybont, Bwyty31, wedi ennill sgôr hylendid 5 seren am ei safon uchel o ran cydymffurfio’n rheoleiddiol â chodau ymddygiad y diwydiant.
Yn dilyn yr arolygiad diwethaf, canmolwyd tîm y bwyty ar eu gwaith o weithredu’r protocol rheoli diogelwch bwyd, ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’, gyda monitro clir a hyfforddiant rhagorol i staff.
Ers agor ei ddrysau o dan yr enw ‘Seasons’ i ddechrau, cafodd y bwyty ei ailfrandio’n Bwyty31 yn 2019. Mae’r bwyty, sydd wedi’i leoli ar gampws y coleg ar Heol y Bont-faen, wedi’i drwyddedu’n llawn ac yn cynnig profiad ciniawa ffurfiol a the prynhawn bob dydd Mercher a nos Iau yn ystod y tymor academaidd. Mae Bwyty31 hefyd ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau preifat.
Sgôr ardderchog Bwyty31 yw’r ail brawf eleni o safon uchel cyfleusterau arlwyo’r coleg, ar ôl i Clwb Coffi dderbyn sgôr 5 seren ym mis Chwefror. Mae’r ddau leoliad ar agor i’r cyhoedd yn ystod y flwyddyn academaidd, gan gynnig awyrgylch cyfoes a hamddenol ar gyfer amrywiaeth o achlysuron. I ddysgu mwy am y cyfleusterau ar y safle, eu lleoliad ac i’w llogi, ymwelwch â Bwyty31.