Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld yn ymuno â ni ac yn dod yn fyfyriwr Coleg Penybont. Fel rhan o hyn, bydd angen i chi fynychu cofrestru a sefydlu.
Isod mae rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol ar gyfer myfyrwyr newydd. Rydym yma i’ch cefnogi, felly cysylltwch â ni os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am ddechrau eich astudiaethau.
Ymrestru yw’r broses ffurfiol o gofrestru ar gyfer eich cwrs, sy’n ofynnol er mwyn bod yn fyfyriwr swyddogol yng Ngholeg Penybont. Byddwch yn derbyn gwahoddiad gennym ganol Gorffennaf i ddod i’r coleg a chofrestru.
Bydd y broses yn cynnwys cwrdd â’n timau Sgiliau a Chwricwlwm i sicrhau eich bod yn ymrestru ar y cwrs cywir, ar sail ar eich cymwysterau. Bydd ein tîm ymrestru wedyn yn mynd â chi drwy’r broses gofrestru, lle bydd gofyn i chi dalu’r ffi gweinyddu £40 i ymrestru.
Efallai y bydd angen i chi dalu ffi deunyddiau hefyd, yn dibynnu ar y cwrs yr ydych yn ei astudio.
Os ydych wedi ennill TGAU neu gymwysterau eraill, dewch â thystiolaeth o’ch canlyniadau gyda chi ynghyd â phrawf o bwy ydych, megis pasbort. Yna byddwn yn rhoi cerdyn myfyriwr Coleg Penybont.
Bydd cyfle hefyd i chi gael cyngor ac arweiniad ar bopeth, o gyllid myfyrwyr a chludiant i sut y gallwch gael profiad gwell fel myfyriwr.
Mae croeso i chi ddod â rhiant neu warcheidwad gyda chi. Fodd bynnag, ni fydd cludiant i ac o’r campws yn cael ei ddarparu.
Os ydych chi’n teimlo bod angen i chi gyrchu’r broses gofrestru mewn amgylchedd llai ysgogol, rhowch wybod i un o’n tîm pan fyddwch chi’n cyrraedd a gallwn eich cyfeirio at le arall.
Mae cofrestru yn digwydd ddiwedd Awst/dechrau Medi. Wythnos gyntaf y tymor ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25 yw’r wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 2 Medi.
Bydd staff o’n Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gallai fod angen i chi ei chyrchu gyda ni. Os oes gennych chi ddogfennaeth i’w rhannu gyda ni a allai ein helpu i benderfynu a oes gennych chi angen dysgu ychwanegol ac nad ydych chi wedi darparu hyn eisoes, dewch â hon gyda chi a bydd rhywun o’r Tîm ADY yn gallu cymryd copi a’i ddychwelyd i chi ar y diwrnod.
Os oes angen unrhyw ddarpariaeth ychwanegol arnoch er mwyn cyrchu eich profiad cofrestru fel cymorth cyfathrebu BSL, cysylltwch â: aln@bridgend.ac.uk
Bydd pob myfyriwr newydd yn ymgymryd â chyfnod ymgynefino yn y coleg, lle byddwn yn eich croesawu ac yn eich helpu i ymgartrefu ac i lywio bywyd yn y coleg er mwyn eich paratoi chi i lwyddo. Yn ystod wythnos gyntaf y tymor mae’r cyfnod ymgynefino fel arfer. Byddwn yn dangos i chi sut i gyrchu eich amserlen a’ch e-byst a sut i ddod o hyd i’ch mannau astudio, a bydd eich tiwtoriaid wrth law i’ch helpu.
Ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi bod yn cyrchu cymorth pontio ar lefel uwch, bydd eich cydlynydd pontio dynodedig hefyd ar gael fel wyneb cyfeillgar i’ch helpu i ymgartrefu ym mywyd coleg yn ystod gweithgareddau sefydlu.
Gall ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu gyda’ch ceisiadau cyllid myfyrwyr. Gallwch ddod o hyd i ni gyferbyn â’r siop goffi ar Gampws Penybont, i’r chwith o’r fynedfa yn y Prif Floc Addysgu ar Gampws Pencoed, ac yn y dderbynfa ar Gampws Heol y Frenhines.
Mae gennym bedwar campws ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef campysau Pencoed a Heol y Frenhines, sydd i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Sylwer: nid yw’r coleg yn trefnu cludiant unigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol os teimlwch y gallech fod â hawl i gael eich ystyried ar gyfer cymorth parhaus gan eich gwasanaeth cludiant ysgol.
Bydd! Rydym yn cynnal digwyddiad i laswyr lle mae ein holl fyfyrwyr, sy’n dychwelyd neu’n newydd, yn cael eu gwahodd i ddod draw.
Byddwch yn gallu cwrdd â myfyrwyr a staff o bob rhan o Goleg Penybont, cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau hwyliog, codi nwyddau am ddim ac ennill rhai gwobrau!
Campus Penybont – Dydd Mawrth 3 Medi, 12-2yp Campus Pencoed – Dydd Mercher 4 Medi, 12-2yp
Mae yna siop goffi a ffreutur ar gampysau Pen-y-bont, Heol y Frenhines a Phencoed, sy’n gwerthu amrywiaeth o fwydydd a diodydd poeth ac oer.