Rydym yn cydweithio gyda sefydliadau cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd rhagorol a blaengar i ddatblygu eich astudiaethau a’ch llwybr gyrfa.
Gall myfyrwyr wneud cais am y llinynnau dilynol:
Mae ein rhaglen ysgoloriaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 wedi dod i ben erbyn hyn, ond bydd manylion pellach ar gael yn gynnar yn 2023.
Dim ond ar gyfer un maes ysgoloriaeth y gall unigolion wneud cais amdanynt. Disgwylir fod ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen yn ganlyniad diddordeb unigolyn mewn maes pwnc a llwybr gyrfa neilltuol.
Rydym eisiau sicrhau eich bod yn derbyn cyngor ac arweiniad diduedd a gwych ar yrfaoedd i’ch helpu i wneud y dewisiadau gorau. Rydym eisiau i chi fod yn hapus a gwyddom y gall amgylchiadau newid weithiau neu efallai nad yw pethau fel y disgwyliem iddynt fod. Byddai’n llawer gwell gennym pe bai ysgolor yn newid cwrs nac aros yn anhapus ar eu cwrs presennol neu, hyd yn oed waeth, adael.
Os ydych yn ystyried am newid cwrs, bydd angen i chi siarad gyda’ch cyswllt ysgoloriaeth o fewn y coleg i wirio os y byddwch yn dal i fod yn gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth. Mae rhai o’r cyflogwyr sy’n noddi wedi gosod gofynion penodol yn gysylltiedig gyda’u nawdd i linyn ysgoloriaeth. Ni allwn gwarantu y gallwch cadw ysgoloriaeth a ddyfarnwyd i chi.
Cynlluniwyd y dyfarniad ariannol i’ch galluogi i gael mynediad i brofiadau a chyfleoedd na efallai na fedrent fod ar gael fel arfer. Nid yw elfen ariannol y rhaglen ar gyfer cefnogi gyda chostau tebyg i ffi ymrestru, tripiau cwrs, teithio i ac o’r coleg na bwyd.
Gallwch drafod sut a phryd y defnyddiwch eich dyfarniad gyda chyswllt ysgoloriaeth y coleg. Gan fod hyn yn unigryw i bob ysgolor, nid oes unrhyw ddyddiadau wedi eu gosod ar gyfer elfen ariannol y rhaglen.
Dim ond un cais ar gyfer un llinyn ysgoloriaeth y gallwch ei gyflwyno mewn unrhyw un cylch cais (un cylch ym mhob blwyddyn academaidd). Dim ond unwaith y gall unigolion dderbyn lle ysgoloriaeth. Gall ymgeiswyr aflwyddiannus wneud cais mewn blynyddoedd dilynol.
Ni fedrwn ohirio lleoedd ysgoloriaeth am unrhyw reswm (yn cynnwys amgylchiadau personol neu liniaru). Caiff y rhaglen ysgoloriaeth ei hadolygu’n flynyddol, yn seiliedig ar haelioni a chefnogaeth barhaus gan bartneriaid allanol ac, felly, ni fedrwn gwarantu y bydd cyllid a chymorth ar gael mewn cylch dilynol.
Rydym eisiau sicrhau ein bod yn diwallu eich anghenion, tra’n creu cyfle gwych i berson ifanc ddod i gysylltiad ag amgylchedd proffesiynol ac unigol. Er y byddai angen i ni ystyried pob achos yn unigol, rydym yn cefnogi opsiynau lleoliad bloc a dulliau seiliedig ar brosiect, cyn belled ag y medrant gael eu darparu o amgylch ymrwymiadau addysg ac amserlen.
Nid oes amserlen talu wedi ei phenderfynu ymlaen llaw. Caiff pob cronfa eu dal yn ganolog gan y coleg a’u haseinio i bob ysgolor. Bydd angen i bob ysgolor wneud cais i dynnu cymorth ariannol i lawr ar gyfer diben a ddynodwyd (e.e. teithio, llety a mynychu cynhadledd bresennol neu ymweliad neu drip sy’n cefnogi’r ysgolor).
Bydd adolygiad o wariant yn ffurfio rhan o’r cyfarfodydd adolygu ysgoloriaeth i sicrhau y caiff yr holl arian ei ddyrannu cyn diwedd y rhaglen.