Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn statws partner gyda ‘When The Adults Change’ (WTAC) fel Coleg Addysg Bellach (AB), y cyntaf a roddwyd i unrhyw sefydliad AB.
Mae’r statws yn gydnabyddiaeth o’r ymrwymiad i newid a’r daith ddiwylliannol y mae Coleg Penybont wedi ymgymryd â hi dros y degawd diwethaf, yn enwedig o ran Arfer Perthynol a’i ddull o reoli ymddygiad yn gadarnhaol.
Mae Arfer Perthynol yn fframwaith sy’n gosod perthnasoedd ag eraill, ymddiriedaeth ac ymdeimlad o berthyn wrth wraidd pob ymdrech. Er bod iddo lawer o gymwysiadau, mae wedi bod yn arbennig o effeithiol ym myd addysg, gan ddarparu amgylchedd diogel a modelau rôl cadarnhaol i bobl ifanc.
Mae When The Adults Change yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan yr arbenigwr ymddygiad Paul Dix, sy’n canolbwyntio ar newid a arweinir gan oedolion mewn addysg. Maent yn darparu hyfforddiant sy’n arwain y sector a strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli ymddygiad mewn ysgolion, gyda phwyslais ar gyfathrebu, cysylltu a chreu arferion cyson – elfennau allweddol yr Arfer Perthynol.
Arweiniodd profiad helaeth Paul mewn ysgolion at ddod yn siaradwr a chynghorydd addysgol, gan arwain sefydliadau ar greu amgylcheddau cadarnhaol a chynhwysol sy’n galluogi pobl ifanc i ffynnu. Mae sefydliadau y mae Paul yn nodi eu bod wedi cymhwyso’r gwersi craidd hyn i’w polisïau a’u strategaethau mewnol wedi cael statws Partner WTAC.
Mae Coleg Penybont yn un o ddim ond 20 o sefydliadau addysgol i gael eu cydnabod ledled y byd a’r unig goleg AB.
Wrth siarad gyda’i gilydd ar ei bodlediad, trafododd Paul a Viv Buckley, Dirprwy Bennaeth Coleg Penybont, yr heriau a wynebwyd gan y Coleg yn hanesyddol a sut, dros y degawd diwethaf, mae gweithredu hyfforddiant ymddygiadol yn ofalus wedi ail-lunio cymuned y Coleg. Mae hi’n cydnabod mai ar ôl mynychu sesiwn hyfforddi gan Paul, dechreuodd y sifft ddiwylliannol angenrheidiol.
“Roeddwn i’n ffodus iawn i gael hyfforddiant gyda Paul ychydig o flynyddoedd yn ôl, a heb amheuaeth dyma’r dysgu mwyaf trawsnewidiol i mi ei wneud. Des i â’r dysgu hwnnw yn ôl i Goleg Penybont a dechreuodd ein taith. Dydyn ni ddim erioed wedi edrych yn ôl. Ac, er nad yw’r gwaith hwn byth yn cael ei wneud, mae sylfaen gadarn o gysondeb a dealltwriaeth o’r cyfrifoldeb sydd gennym ni i gyd fel oedolion i osod y naws a chreu diwylliant tawel y gall myfyrwyr ffynnu ynddo.”
Viv Buckley, Dirprwy Bennaeth Coleg Penybont
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r Coleg wedi addasu’r ffordd y mae’n gweithio er mwyn cyflawni’r ymdeimlad gwirioneddol o gymuned y mae’n ei fwynhau heddiw. Un o’r newidiadau allweddol fu symud oddi wrth ddull awdurdodaidd a thuag at un sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, sydd wedi ail-fframio safbwyntiau staff ac wedi meithrin diwylliant o barch ar draws y Coleg.
Er bod ‘meysydd problemus’ – meysydd y nodwyd bod angen eu gwella’n academaidd neu o ran ymddygiad – wedi’u targedu ar gyfer newid i ddechrau, nid tan i ddull coleg cyfan gael ei fabwysiadu y dechreuodd canlyniadau cadarnhaol ddigwydd.
Agwedd hanfodol ar hyn oedd dull y Coleg o hyfforddi staff. Mae pob hysbyseb swydd a chynefino staff bellach yn nodi’r dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o’r diwrnod cyntaf, ac mae diwrnodau dysgu proffesiynol pwrpasol yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn, gan atgyfnerthu ethos y Coleg a chyfrannu at amgylchedd gwaith cadarnhaol.
Er mwyn cadarnhau strategaethau WTAC, mae wedi bod yn hanfodol cynnwys pob tîm ar draws y Cwricwlwm a Chymorth Busnes. Mae polisïau amrywiol wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod lefel y cymorth i fyfyrwyr yn cael ei gynnal yn gyson, gan gynnwys amserlen i’r holl staff i ‘gwrdd a chyfarch’ myfyrwyr wrth gatiau’r Coleg a gweithredu bod rheolwyr yn bresennol amser cinio, i ryngweithio â myfyrwyr a sicrhau’r diogelwch myfyrwyr yn y ffreuturau.
Yn ogystal, cafodd holl ymarferwyr addysgu’r Coleg gopi o lyfr Paul – ‘When The Adults Change, Everything Changes: Seismic Shifts in School Behaviour’ – y Nadolig diwethaf, ar ôl bod yn sail i’r diwrnod dysgu proffesiynol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr.
Mae’r strategaethau hyn, a llawer mwy, wedi arwain at allbynnau ymddygiadol myfyrwyr gwych. Ers gweithredu’r newidiadau hyn, nid yn unig y mae nifer y myfyrwyr sy’n derbyn disgyblaethau wedi gostwng yn sylweddol, ond mae cyfradd llwyddiant arholiadau’r Coleg bellach yn gyfforddus uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar bron bob lefel.
I ddysgu mwy am y Coleg a’i waith ym maes Ymarfer Perthynol, gwrandewch ar bennod podlediad Paul a Viv.
“Coleg Penybont yw’r coleg AB cyntaf i gael Statws Coleg Partner i gydnabod eu gwaith eithriadol gyda dysgwyr o bob oed a gallu. Mae ymrwymiad y staff ar bob lefel i ddarparu’r cymorth gorau posibl yn rhyfeddol. Yng Nhholeg Penybont, mae’r ffiniau yn gyson, mae’r disgwyliadau’n uchel a pherthnasoedd yn sylfaen i lwyddiant. Efallai yn fwyaf nodedig i’r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu tanwasanaethu yn hanesyddol gan addysg, mae Coleg Penybont yn brwydro’n galed i unioni’r fantol. Rydym yn falch o gefnogi eu gwaith mewn ymddygiad, perthnasoedd a rheoli dosbarth.”
Paul Dix, Arbenigwr Ymddygiad, awdur, diwygiwr addysg a Sylfaenydd o When The Adults Change
Bydd Viv yn camu i’r rôl fel Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol dros dro Coleg Penybont o 1 Medi, yn dilyn ymadawiad Simon Pirotte i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) a noddir gan Lywodraeth Cymru.
































































