Polisi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Adran: Adnoddau Dynol
Awdur y Ddogfen: Catherine Luff
Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Pobl
Dyddiad Cymeradwyo: 6/11/25
Dyddiad Adolygu: Tachwedd 2028
Version: 1
Rhestr Wirio’r Polisi:
| Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi | Ateb | Gwybodaeth ategol |
|---|---|---|
| Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod. | Ydy | |
| Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod. | Ydy | |
| Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data. | Nac ydy | |
| Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth? | Ydy | |
| Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau. | Nac oes | |
| Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu. | Oes | |
| Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach. | Nac oes | |
| Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach. | Nac oes | |
| Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi? | Ydy | |
| Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig: | ||
| Ydy hwn yn bolisi newydd? Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi. | Nac ydy | |
| Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd: |
Datganiad Sefyllfa Polisi
Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.
Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.
Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.
Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.
Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.
Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dewisiadau a chynigion cwrs er budd addysgol gorau dysgwr unigol, gan eu galluogi i gyflawni a gwneud cynnydd (o ran sgiliau personol ond hefyd datblygiad cymdeithasol ac academaidd).
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais neu’n cofrestru ar raglen ddysgu, beth bynnag fo’r modd neu’r lleoliad astudio.
1. Pwrpas ac Amcanion:
Rydym yn credu ym mhŵer safbwyntiau amrywiol. Mae ein cenhadaeth, Byddwch yn bopeth y gallwch fod, wedi’i gwreiddio mewn creu amgylchedd cynhwysol lle mae ein pobl1 yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed, a’u gwerthfawrogi. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle gall pob unigolyn, waeth beth fo’u cefndir, ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl aelodau Grŵp Coleg Penybont, gan gynnwys myfyrwyr, cydweithwyr, Llywodraethwyr, contractwyr, gweithwyr asiantaeth, cyflenwyr, partneriaid ac ymwelwyr.
Rydym yn ceisio bod yn hyrwyddwr ac yn arweinydd dros degwch, amrywiaeth a chynhwysiant drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau bod Grŵp Coleg Penybont yn sefydliad gwrth-hiliol;
- Hyrwyddo tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn;
- Herio, atal a dileu gwahaniaethu;
- Dileu rhwystrau systemig a darparu amgylchedd lle gall pawb ffynnu;
- Darparu gwasanaethau ymatebol a hygyrch;
- Hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl.
1 Er eglurder, o hyn ymlaen, os yw’r ddogfen yn cyfeirio at ‘ein pobl’, mae’n golygu ein gweithlu a’n dysgwyr, oni nodir yn unigol.
2. Manylion y Polisi:
Rydym yn glir ynglŷn â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r polisi hwn yn cwmpasu’r gwaith a wnawn gyda’n myfyrwyr, a’r gweithdrefnau mewnol sy’n llywodraethu sut rydym yn gweithredu fel sefydliad. Drwy gydol y polisi hwn, mae’r term ‘cydweithwyr’ yn berthnasol i gydweithwyr cyflogedig, cydweithwyr asiantaeth, myfyrwyr allanol sy’n ymgymryd â lleoliad/profiad gwaith ar ein campysau, contractwyr, cyfieithwyr ar y pryd, gwirfoddolwyr ac aelodau’r Bwrdd. Mae’r term ‘unigolyn/unigolion’ yn berthnasol i bob cydweithiwr, myfyriwr, contractwr allanol, gweithiwr asiantaeth, partner, cyflenwr, canolfan, cwsmer, unrhyw swyddogion, unrhyw is-gwmnïau neu eu gweithwyr neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â ni.
2.1 Ein hymrwymiadau
- Byddwn yn darparu gwasanaethau sy’n hygyrch yn gorfforol ac yn ddigidol i bob cwsmer, myfyriwr, cydweithiwr a rhanddeiliad, gan gael gwared ar unrhyw rwystrau presennol. Mae hyn yn cynnwys ‘dull hygyrchedd trwy ddylunio’ lle cynhelir gwaith adeiladu newydd neu waith adnewyddu. Mae dull hygyrchedd drwy ddylunio yn golygu darparu gwasanaethau ac amgylcheddau fel y gall pawb eu defnyddio o’r cychwyn yn lle eu hychwanegu wedyn.
- Byddwn yn sicrhau strwythur teg o bolisïau a gweithdrefnau i gefnogi ein pobl wrth ddysgu a gweithio;
- Byddwn yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod ein pobl yn cael triniaeth deg, cyfleoedd cyfartal, ac nad ydynt yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar sail rhywedd, ailbennu rhywedd, oedran, anabledd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ethnigrwydd neu hil. Bydd unrhyw dorri’r rheolau hyn yn cael eu trin yn gyflym ac yn effeithiol o dan y broses berthnasol;
- Byddwn yn mabwysiadu dull rhagweithiol o hyrwyddo Safonau’r Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg;
- Byddwn yn ceisio denu a chadw pobl amrywiol, a sicrhau bod penderfyniadau recriwtio yn seiliedig ar deilyngdod yn unig;
- Byddwn yn parchu diwylliant ac anghenion ac yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n briodol fel y gall pawb gymryd rhan;
- Byddwn yn creu ac yn cynnal amgylchedd cadarnhaol lle mae ein pobl yn wir yn gallu bod eu hunain ac yn teimlo eu bod yn perthyn;
- Byddwn yn creu lle sy’n galluogi myfyrio a dysgu, wedi’i wreiddio mewn dull adferol sy’n ystyriol o drawma. Byddwn yn sicrhau, lle mae ymddygiadau’n methu â chyrraedd ein disgwyliadau, eu bod yn cael eu rheoli’n gadarn yn unol â pholisïau perthnasol (e.e. gwahaniaethu).
3. Cyfrifoldebau (os yw’n berthnasol):
Mae Grŵp Coleg Penybont yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion priodol o ran tegwch ar waith a’u bod yn cael eu monitro a’u gweithredu’n effeithiol.
| Arweinydd | Cyfrifoldeb |
|---|---|
| Y Pennaeth | Y Pennaeth sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am weithredu’r polisi hwn ac mae’n atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr. |
| Uwch Dîm Arwain (UDA) | Mae gan yr UDA gyfrifoldeb am oruchwylio’r polisi, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb, y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth, dilyn gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a’r holl brosesau dysgwyr a phobl sy’n gysylltiedig â’r Ddyletswydd. Sicrhau bod grŵp atebolrwydd Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn craffu ac yn atebol am fonitro a gwella tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. |
| Cyfarwyddwr Pobl | Mae gan y Cyfarwyddwr Pobl gyfrifoldeb am ddilyn gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, datblygu ac adolygu’r polisi hwn a’r holl brosesau pobl sy’n gysylltiedig â’r Ddyletswydd |
| Rheolwyr llinell | Sicrhau eu bod yn deall y polisi a’u rolau ynddo. Cefnogi cydweithwyr yn eu dysgu a’u haddysg ynghylch pynciau amrywiaeth, a mynd i’r afael ag unrhyw ddiwylliant neu weithgaredd nad yw’n unol â’i hegwyddorion. |
| Ein gweithlu | Mae gan bob unigolyn gyfrifoldeb i sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei weithredu’n weithredol, a bod yr holl ymddygiad yn unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r Coleg. Dylai cydweithwyr fynd ati i chwilio am gyfleoedd dysgu ac addysg ynghylch pynciau amrywiaeth, a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad sy’n groes i’r disgwyliadau. |
| Ein dysgwyr | Mae gan bob unigolyn gyfrifoldeb i fod yn Barod, yn Barchus ac yn Ddiogel, a dilyn y Cod Dinasyddiaeth, gan roi gwybod am unrhyw ymddygiad sy’n groes i’r disgwyliadau hynny. |
| Rhanddeiliaid eraill | Disgwylir i bob unigolyn weithredu yn unol â’r polisi hwn, gan sicrhau amgylchedd parchus. |
4. Dogfennau Cysylltiedig (os yw’n berthnasol):
Polisïau eraill Grŵp Coleg Penybont, yn enwedig y Cod Ymddygiad, y gweithdrefnau Disgyblu a Chwynion a’r Polisi Bwlio ac Aflonyddu
Polisi a Gweithdrefnau Recriwtio a Dethol Coleg Penybont
Cynllun Strategol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Coleg Penybont
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth
Cynllun Gweithredu Tegwch Strategol
5. Adolygu’r ddogfen:
Tachwedd 2028
Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb
| Enw’r Polisi / Gweithdrefn | Polisi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant |
| Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn) | Catherine Luff |
| Nod(au) a Phwrpas y Polisi | Mae’n egluro pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i ni, yr egwyddorion sylfaenol y byddwn yn eu dilyn a sut rydym yn bwriadu monitro a chyflawni hyn. |
| Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio? | |
| Dysgwyr | ✔ |
| Staff | ✔ |
| Y Cyhoedd | ✔ |
| Nodwedd gydraddoldeb | Effaith gadarn haol | Effaith niwtral | Effaith negyddol | Rheswm/sylw |
|---|---|---|---|---|
| Oedran | ✔ | Drwy ymgorffori tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob arfer a gweithio’n weithredol i sicrhau bod pob unigolyn, a’r rhai rydym yn rhyngweithio â nhw, yn teimlo eu bod yn perthyn, bydd y polisi’n cael effaith gadarnhaol ar bobl sydd ag un nodwedd neu nifer o nodweddion. Bydd y polisi hwn hefyd yn rhan o strategaeth weithredol i ddileu unrhyw rwystrau systemig. | ||
| Anabledd | ✔ | Fel uchod | ||
| Ailbennu rhywedd | ✔ | Fel uchod | ||
| Priodas a phartneriaeth sifil | ✔ | Fel uchod | ||
| Beichiogrwydd a mamolaeth | ✔ | Fel uchod | ||
| Hil | ✔ | Fel uchod | ||
| Crefydd neu gred | ✔ | Fel uchod | ||
| Rhywedd | ✔ | Fel uchod | ||
| Cyfeiriadedd rhywiol | ✔ | Fel uchod |
Dyddiad cwblhau’r asesiad: Awst 2025
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: C Luff
Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
| Enw’r Polisi / Gweithdrefn | Polisi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant |
| Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn) | Catherine Luff |
| Nod(au) a Phwrpas y Polisi | Mae’n egluro pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i ni, yr egwyddorion sylfaenol y byddwn yn eu dilyn a sut rydym yn bwriadu monitro a chyflawni hyn. |
| Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio? | |
| Dysgwyr | ✔ |
| Staff | ✔ |
| Y Cyhoedd | ✔ |
Safonau’r Gymraeg
| Rhif | Type | Safon | Cadarnhaol (gallai fod o fudd) | Negyddol (gallai effeithio) | Dim Effaith |
|---|---|---|---|---|---|
| 94 | Safonau Llunio Polisi | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Cynllun Gweithredu
Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.
| Cam Gweithredu | Pwy | Erbyn Pryd | Mesur Llwyddiant (sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu) |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod y Gymraeg a diwylliant Cymreig wedi’u cynnwys ym mhrosesau a gweithdrefnau’r Coleg | Pawb | Erbyn y dyddiad cyhoeddi | Ni fydd unrhyw oedi nac anfantais i siaradwyr Cymraeg Canlyniadau gwell i siaradwyr Cymraeg Data amrywiaeth gwell |
| Sicrhau bod gan bob unigolyn y mae’r Gymraeg yn iaith ddewisol iddynt y cyfle (heb unrhyw anfantais) i gael mynediad at unrhyw ddarpariaeth neu wasanaeth drwy’r iaith o’u dewis. | Pawb | Erbyn y dyddiad cyhoeddi | Ni fydd unrhyw oedi nac anfantais i siaradwyr Cymraeg Canlyniadau gwell i siaradwyr Cymraeg Data amrywiaeth gwell |
| Bydd y Gymraeg yn rhan weithredol o’r cynllun Cydraddoldeb i gydweithwyr a’r gefnogaeth a ddarperir i fyfyrwyr. | Adnoddau Dynol | Ar waith ar hyn o bryd | Cyflawnir canlyniadau Bydd yr UDA yn cael sicrwydd o ddata gwell Bydd gan Bwyllgor Llywio EDI sicrwydd ynghylch cyflawni amcanion allweddol Bydd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn cael ei chyflawni Data amrywiaeth gwell |
Dyddiad cwblhau’r asesiad: Awst 2025



















