Polisi Derbyn

Adran: Taith y Dysgwr
Awdur y Ddogfen: Caroline McCarthy
Teitl Swydd: Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr
Dyddiad Cymeradwyo: Mehefin 2025
Dyddiad Adolygu: Mehefin 2027
Fersiwn: 3

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi AtebGwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei
gwblhau?
Gweler y ffurflen isod.
✔
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.✔
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried
ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.
Nac oesCyfeirir at y Polisi Rheoli Data a GDPR
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?✔
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.Nac oes
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.Nac oes
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.Nac oes
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.Nac oes
Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi?Ydy
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?
Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
Nac Ydy
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd: Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd (Llywodraethwyr)

1.0 Pwrpas ac Amcanion

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol y’n galluogi
pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn consistent ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dewisiadau a chynigion cwrs er budd addysgol gorau dysgwr unigol, gan eu galluogi i gyflawni a gwneud cynnydd (o ran sgiliau personol ond hefyd datblygiad cymdeithasol ac academaidd).

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais neu’n cofrestru ar raglen ddysgu, beth bynnag fo’r modd neu’r lleoliad astudio.

2.0 Ein Hymrwymiad

Nod ein tîm yw:

  • Cyfathrebu’n glir ac yn brydlon i bob ymholiad
  • Darparu proses ymgeisio hygyrch ac effeithlon
  • Darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid
  • Cyfeirio ymgeiswyr at wybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, a ddarperir gan staff cymwys
  • Cyfeirio ymgeiswyr at wybodaeth am gymorth ariannol, lles a chymorth dysgu ychwanegol
  • Cael adborth gan ein hymgeiswyr i werthuso a gwella’r gwasanaeth
  • Trin pob cais yn deg, yn gyson a chyda pharch, gan roi sylw dyledus i’n dyletswyddau a’n rhwymedigaethau gan gynnwys o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Safonau’r Gymraeg
  • Gweithio’n agos gyda thimau cwricwlwm i ddarparu sesiynau cyfweld, cadw mewn cysylltiad a digwyddiadau cofrestru rhagorol
  • Gwneud penderfyniadau amserol a gweithredu’n gymesur ar sail y wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ar gael a chymhwyso egwyddorion addasiadau rhesymol lle bo hynny’n gyfreithlon ac yn angenrheidiol

3.0 Cymorth i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r arweiniad gorau i ymgeiswyr. Er mwyn ein galluogi i wneud hyn, rydym yn annog ymgeiswyr i ddatgelu unrhyw gymorth neu anghenion dysgu, dewis iaith neu euogfarnau troseddol heb eu disbyddu wrth gyflwyno eu cais. Mae ffurflenni hunanddatgelu yn rhan hollbwysig o wneud cais i astudio yng Ngholeg Penybont ac mae’n sicrhau ein bod yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth gywir.

Gallwn ddarparu cefnogaeth i gwblhau a chyflwyno ceisiadau, ynghyd â chefnogaeth os oes angen cyfweliad. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os oes unrhyw anghenion hygyrchedd gennych cyn cyfweliad (lle bo angen) neu unrhyw weithgaredd cadw mewn cysylltiad neu gofrestru, fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol.

Mae nifer o nodweddion hygyrchedd wedi’u cynnwys yn ein gwefan a’n system ymgeisio ar-lein i gefnogi anghenion a dewisiadau defnyddwyr unigol.

4.0 Y Gymraeg

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg ac mae ein system ymgeisio ar-lein ar gael i unigolion yn y naill iaith neu’r llall. Anogir ymgeiswyr i nodi eu dewis iaith gyfathrebu wrth wneud cais. Bydd gohebiaeth electronig ac ysgrifenedig yn ystod eich taith dderbyn yn eich dewis iaith.

5.0 Meini Prawf Mynediad

Mae gan lawer o gyrsiau yn y Coleg feini prawf mynediad i sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o ofynion academaidd, cyflymder a thrylwyredd lefel benodol o astudio neu ddull cyflwyno penodol. Mae rhai cyrff dyfarnu cymwysterau a’n Partneriaid Addysg Uwch yn gofyn am gyflawniad ar lefel flaenorol, tystiolaeth o ddysgu blaenorol neu broffil penodol o raddau Lefel 2 neu 3. I weld gofynion mynediad cwrs penodol, cyfeiriwch at y tudalennau cyrsiau unigol ar ein gwefan.

Er bod gan gyrsiau Addysg Uwch ofynion mynediad penodol, asesir ymgeiswyr aeddfed yn ôl eu teilyngdod unigol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen i sicrhau bod rhwystrau i ddysgu yn cael eu lleihau a/neu eu dileu lle bynnag y bo modd ac yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021.

Mae cynnig lle ar rai cyrsiau yn gofyn am ymgymryd â gweithgareddau wedi’u hasesu, er enghraifft profion marchogaeth, cyflwyno gwaith portffolio, tasg ysgrifenedig neu glyweliad (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol). Mae rhai cyrsiau hefyd yn gofyn am gwblhau gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran berthnasol yn y polisi hwn).

Amlinellir y meini prawf mynediad ar gyfer pob cwrs ar dudalen y cwrs perthnasol ar wefan y coleg. Cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr os oes unrhyw gwestiynau gennych.

5.1 Cymraeg, Saesneg a Mathemateg

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr Addysg Bellach llawn amser nad ydynt wedi ennill gradd A*(9) – C (4) mewn TGAU Cymraeg, Saesneg neu Fathemateg barhau i astudio a datblygu’r sgiliau hyn fel rhan o’u rhaglen alwedigaethol.

Mae myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill Gradd A* (9) – C (4) ond sy’n dymuno gwella eu proffil o raddau ymhellach yn gallu gwneud hyn, ond bydd rhaid i’r myfyriwr dalu unrhyw ffioedd arholiad.

Mae gan y Coleg hefyd Bolisi Arholiadau sy’n amlinellu hawl dysgwr i ailsefyll dau arholiad heb unrhyw dâl ychwanegol, fodd bynnag codir tâl am unrhyw ailsefyll ychwanegol ar y gyfradd a amlinellir ym Mholisi Arholiadau’r Coleg.

5.2 Preswylio yn y DU

Os bydd ymgeisydd yn datgan nad yw wedi byw yn y Deyrnas Unedig (DU) neu’r Undeb Ewropeaidd (UE) am y tair blynedd diwethaf a/neu eu bod yn preswylio ar fisa, caiff y cais ei gyfeirio at y Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr i’w asesu cyn cydnabod y cais.

Os yw ymgeisydd yn byw ar fisa Caniatâd Amhenodol i Aros (ILR), Preswyliad Parhaol (PR), neu Ganiatâd Amhenodol i Fynediad (ILE), cysylltir â’r ymgeisydd i ofyn iddynt ddarparu eu pasbort, eu fisa, a’u cod rhannu Cerdyn Preswylio Biometrig (BRP).

Ni ddylai caniatâd cyfreithiol ymgeisydd i aros yn y DU ddod i ben lai na chwe mis o ddyddiad cychwyn y cwrs.

Mae’r coleg yn gallu pennu cymhwystra ffioedd ‘cartref’ gan ddefnyddio’r ‘Canllaw ar y fframwaith cyllido a chynllunio ôl-16’ yn ogystal â gwybodaeth arall a ddarperir gan Gyngor Materion Rhyngwladol y DU (UKCISA) a diweddariadau rheolaidd gan y Swyddfa Gartref.

5.3 Ceisiadau gan fyfyrwyr blaenorol neu gyfredol Coleg Penybont

Mae ymgeiswyr sydd wedi astudio yng Ngholeg Penybont o’r blaen neu sy’n dymuno symud ymlaen yn ddarostyngedig i’r holl ofynion a amlinellir yn y polisi hwn. Mae unrhyw gynigion dilyniant newydd yn amodol ar y gofynion mynediad cwrs ac ystyried presenoldeb a statws dinasyddiaeth/disgyblaeth yr unigolyn.

Mae’r coleg yn cadw’r hawl i beidio â symud cais neu gynnig cwrs yn ei flaen os yw unigolyn wedi bod yn ddarostyngedig i god dinasyddiaeth/disgyblaeth y coleg neu os yw presenoldeb, ymddygiad neu gyflawniad mewn perthynas â chwrs blaenorol yn anfoddhaol.

Mae’r coleg yn cydnabod, i rai unigolion, er enghraifft, y gall dysgwr ag angen dysgu ychwanegol (ADY), symud ymlaen yn ochrol, gan ennill ystod eang o sgiliau a dysgu, yn hytrach na symud ymlaen trwy lefelau dysgu, er bod hyn yn amodol ar ofynion ariannu a nodir gan yr awdurdod ariannu perthnasol.

6.0 Diogelu

Mae Coleg Penybont yn gwbl ymroddedig i les myfyrwyr, staff, ymwelwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae’r Coleg yn hyrwyddo lles cadarnhaol yr holl staff a myfyrwyr yn weithredol gan gynnwys oedolion sy’n agored i niwed a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff, gwirfoddolwr a phartner gan gynnwys cyflogwyr cysylltiedig a darparwyr lleoliadau gwaith, gefnogi a dangos yr ymrwymiad hwn bob amser.

6.1 Euogfarnau Troseddol

Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion sydd ag euogfarnau heb eu disbyddu (o dan y cyfnod adsefydlu) ddatgelu’r rhain. Rydym yn gweithio gyda NACRO, yr elusen cyfiawnder cymdeithasol blaenllaw i sicrhau, lle bynnag y bo modd, ein bod yn gallu amddiffyn a diogelu pob unigolyn a chefnogi adsefydlu.

Mae gan ymgeiswyr ddyletswydd gyfreithiol i ddatgelu unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu ar adeg cyflwyno a gwneud cais i’r coleg. Ar ôl datgelu, bydd ein tîm lles yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth, gan ein galluogi i weithio gyda sefydliadau eraill i asesu’n briodol unrhyw risg neu gymorth y gallai fod ei angen. Os ydych yn ansicr a yw eich rhybuddiad neu euogfarn wedi’i disbyddu ai peidio, gallwch ddefnyddio Cyfrifiannell Datgelu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu geisio arweiniad gan Nacro, yn unol â’r canllawiau euogfarnau troseddol wedi’u diweddaru.

6.2 Gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae rhai cyrff cyhoeddus a phroffesiynol yn cynnal gofynion llym o ran addasrwydd i ymarfer ar gyfer y rheini sy’n dymuno ymgymryd â rhai gyrfaoedd sydd wedi’u categoreiddio fel gweithgareddau a reoleiddir gyda phlant neu oedolion sydd agored i niwed. Mae meysydd cwrs sydd angen gwiriad DBS yn cynnwys gofal plant a blynyddoedd cynnar, iechyd a gofal cymdeithasol.

Os oes gan gwrs leoliad gwaith gorfodol fel rhan o waith cyffredinol a chwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i ymgeisydd gwblhau gwiriadau gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Mae’r coleg yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i gwrs neu dynnu cynnig cwrs yn ôl os byddai hysbysiad trwy wiriad DBS yn golygu na fyddai ymgeisydd yn gallu ymarfer neu ddilyn ei yrfa o ddewis o ganlyniad i’r gwiriad.

6.3 Asesiadau Risg

Mae yna amgylchiadau lle gall y Coleg ystyried bod asesiad risg yn hanfodol os credir y gallai bod effaith ar ddiogelwch, lles neu iechyd ymgeisydd neu ddysgwyr/staff eraill. Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i ymgysylltu ag arbenigwyr mewnol neu asiantaethau allanol i helpu i lywio neu gyd-gynhyrchu asesiad risg, i sicrhau ein bod yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, sy’n dangos cymorth ac addasiadau rhesymol sy’n gymesur.

6.4 Panel Cynhwysiant ADY

Os yw’r Coleg yn ymwybodol y gallai fod gan berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae gennym ddyletswydd i benderfynu a oes gan y person ifanc ADY yn unol â’r diffiniadau cyfreithiol a geir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021. Os oes gan yr ymgeisydd Gynllun Datblygu Unigol (CDU) eisoes yn ei le, rhaid i’r Coleg benderfynu a ellir darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen, er mwyn i ddysgwr gyflawni’r canlyniadau penodol a amlinellir yn y CDU. Er mwyn llywio’r broses hon, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i ymgysylltu ag asiantaethau allanol. Mewn achosion lle canfyddir na all y Coleg ddarparu’r ddarpariaeth arbenigol a nodir yn y CDU, cyfeirir y cais at yr awdurdod lleol perthnasol a’r cynghorydd gyrfaoedd arbenigol (trwy Gyrfa Cymru) i ystyried cyflwyno cais i leoliad addysg arall.

7.0 Cyngor ac Arweiniad

Mae gan y Coleg dîm o gynghorwyr gyrfaoedd gwybodus a chymwys (o’r enw Cyfleoedd) sy’n gallu darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd un-i-un. Mae gwefan y Coleg yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r holl gyrsiau a gynigir yn y Coleg, gyda meini prawf mynediad, pynciau astudio a llwybrau dilyniant posibl.

Os hoffech drefnu apwyntiad cyngor, cysylltwch â’r tîm Cyfleoedd yng Ngwasanaethau Myfyrwyr ar 01656 302 302 neu e-bostiwch hello@bridgend.ac.uk.

Gallwch hefyd archwilio gyrfaoedd gwahanol a chael cyngor ac arweiniad drwy Gyrfa Cymru: https://gyrfacymru.llyw.cymru/.

7.1 Cymorth pontio i ymgeiswyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Efallai y bydd angen pecyn o ddarpariaeth dysgu ychwanegol wedi’i bersonoli ar rhai ymgeiswyr. Gall ein tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ddarparu cymorth ychwanegol trwy fynychu adolygiadau blynyddol yn yr ysgol a chefnogi ymgeiswyr yn ystod cyfweliadau, diwrnodau cadw mewn cysylltiad ac wrth gofrestru. Gall y tîm ADY drefnu gweithgareddau pontio pwrpasol, gan gynnwys ymweliadau ychwanegol â’r campws, a byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun cymorth unigol, i gyflawni eich dyheadau a’ch deilliannau personol.

Os hoffech drafod eich anghenion cymorth dysgu ychwanegol ymhellach, cysylltwch â’r tîm ADY ar 01656 302 302 estyniad 339 neu e-bostiwch aln@bridgend.ac.uk.

8.0 Y Cylch Derbyniadau

Mae ceisiadau am gyrsiau llawn amser yn agor ym mis Hydref, ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Mae cynigion cwrs yn cael eu prosesu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn cadw’r hawl i gau ceisiadau os bydd gormod o geisiadau am gwrs ac efallai y byddwn yn creu rhestr aros am gyrsiau poblogaidd.

8.1 Gwneud Cais

Rydym yn argymell, lle bynnag y bo modd, bod ymgeiswyr yn mynychu Digwyddiad Darganfod yn y Coleg neu Daith o’r Campws cyn gwneud cais. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddarpar ymgeiswyr gwrdd â staff cwrs, archwilio’r coleg a’i gyfleusterau a chwrdd â’n timau cymorth i fyfyrwyr.

Dylai ymgeiswyr wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein. Gall y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ddarparu cymorth. Argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr yn gwneud cais am uchafswm o ddau gwrs.

Dim ond gan unigolion a fydd yn 16 oed ar yr 31ain o Awst cyn dyddiad dechrau eu cwrs y gall y coleg dderbyn ceisiadau.

Mae myfyrwyr Addysg Uwch sy’n gwneud cais i astudio cwrs rhan amser yng Ngholeg Penybont hefyd yn gwneud cais ac yn rheoli eu taith dderbyn trwy ein system cyfrif ar-lein.

8.2 Cyfweliad / Cyflwyno Portffolio / Tasg

Mae angen cael cyfweliad ar gyfer rhai cyrsiau er mwyn galluogi tiwtoriaid cwrs i sicrhau bod ymgeisydd yn bodloni’r gofynion a nodir gan y corff dyfarnu (e.e. ein cyrsiau cwnsela a achredir gan CPCAB).

Mewn achosion lle mae gormod o geisiadau am gwrs neu lle mae angen gwybodaeth, profiad neu sgiliau blaenorol, efallai y gofynnir i ymgeiswyr uwchlwytho portffolio o waith, cyflwyno geirda, cwblhau tasg neu fynychu sesiwn wybodaeth fel rhan o’u cais gyda ni. Lle bo angen hyn, fe fydd yn ofynnol i bob ymgeisydd gymryd y camau derbyn ychwanegol ar gyfer y cwrs hwnnw, gan sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael profiad cyson a theg.

Gellir cynnal cyfweliadau a sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr, yn wyneb yn wyneb neu ar-lein.

8.3 Cynigion Cyrsiau a Derbyn Lle ar Gwrs

Yn dilyn cais, cyfweliad neu adolygiad o dasg neu bortffolio a gyflwynwyd, bydd ymgeisydd yn cael un o’r canlynol fel cam nesaf:

  1. Cynnig Diamod – Yn seiliedig ar eich cyflawniad/neu eich cymwysterau blaenorol neu ddisgwyliedig, rydych chi wedi cael cynnig lle ar gwrs.
  2. Cynnig Amodol – Rydych chi wedi cael cynnig lle ar gwrs yn amodol ar un neu fwy o amodau, a allai gynnwys cyflawni graddau disgwyliedig mewn cymwysterau, cwblhau clyweliad neu asesiad neu gwblhau cwrs presennol yn llwyddiannus
  3. Atgyfeiriad am gyngor ac arweiniad – Gweler adran 7.0

Dim ond un cynnig byw y bydd y Coleg yn ei ganiatáu i unrhyw ymgeisydd. Mae hyn yn sicrhau bod argaeledd cyrsiau a lleoedd ar gyrsiau yn deg i bob ymgeisydd.

Dim ond ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig cwrs fydd yn cael sicrwydd o le ar gwrs. Pan gynigir lle ar gwrs i ymgeisydd ond nad yw’n derbyn hwn drwy ei gyfrif ar-lein o fewn pythefnos, mae’r coleg yn cadw’r hawl i ailddyrannu’r lle hwn.

8.4 Diwrnodau ‘Barod, Paratowch’

Bob blwyddyn mae’r Coleg yn cynnal digwyddiadau i helpu ymgeiswyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein llwyddiannau ac i wneud cychwyn ar eich taith gyda ni mor hawdd a chyffrous â phosibl.

Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf bob blwyddyn byddwn yn gwahodd pob myfyriwr addysg bellach llawn amser i ymuno â ni ar gyfer diwrnod profiad myfyrwyr, o’r enw ‘barod, paratowch’. Mae hwn yn gyfle i ymgeiswyr gwrdd â’u tiwtoriaid a myfyrwyr eraill ar y cwrs ac i archwilio eu hadran. Rydym yn annog yn gryf i bob ymgeisydd a wahoddir i fynychu.

8.5 Cofrestru

Mae ein prif gyfnod cofrestru yn digwydd yn ystod wythnos olaf mis Awst bob blwyddyn, fodd bynnag mae ein dull cofrestru yn cael ei adolygu’n flynyddol a gall hyn arwain at gofrestru yn gynharach yn yr haf. Bydd pob ymgeisydd sydd wedi derbyn cynnig cwrs yn cael ei wahodd i gofrestru (mae hyn yn digwydd ar y campws fel arfer, ond gall fod ar-lein). Bydd gofyn i chi ddarparu prawf adnabod, tystysgrifau cymwysterau a ffioedd cofrestru/ffioedd cysylltiedig â chyrsiau (naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb). Bydd manylion cofrestru llawn yn cael eu hanfon drwy e-bost at bob ymgeisydd, rhwng mis Mai a mis Gorffennaf yn dibynnu ar y cwrs y maent wedi gwneud cais amdano.

8.6 Ceisiadau Hwyr

Gellir ystyried ceisiadau hwyr yn ystod 6 wythnos gyntaf unrhyw gwrs llawn amser. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar argaeledd lleoedd ar gwrs, y math o gwrs a gallu’r unigolyn i ddal i fyny ag unrhyw ddysgu a gollwyd. Bydd gofyn i unrhyw un sy’n ymuno â chwrs yn ystod y cyfnod hwn fynychu sesiwn ‘Pad Lansio’ i gwblhau’r holl weithgareddau sefydlu gorfodol ac asesiadau cychwynnol cyn ymuno â’u cwrs.

9.0 Tynnu cynnig yn ôl

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynnig cwrs yn ôl pan fydd gwybodaeth a ddarperir ar gais neu fel rhan o’r broses dderbyn, gan gynnwys cyfweliad a chofrestru, yn effeithio ar allu’r coleg i ddiogelu’r ymgeisydd, myfyrwyr eraill, staff neu randdeiliaid yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys hepgor gwybodaeth sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a fyddai’n effeithio ar allu’r coleg i ddarparu’r cymorth neu’r adnoddau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion yn rhesymol.

Mae rhai o’r rhesymau y gallai cynnig gael ei dynnu’n ôl yn cynnwys (er nad yw’n hollgynhwysol):

  • Peidio â datgelu euogfarn sydd heb ei disbyddu
  • Gwybodaeth anghywir neu ffug (gan gynnwys gwybodaeth bersonol)
  • Peidio â datgelu anghenion cymorth dysgu ychwanegol sydd wedyn yn effeithio ar brofiad yr unigolyn (e.e. anghenion mynediad a chymorth)
  • Gwrthod cynnal asesiadau rhesymol a allai helpu i bennu lefel academaidd neu lefel sgil i sicrhau llwyddiant ar gwrs neu i fodloni gofynion allanol.

Efallai y bydd amgylchiadau lle bydd dyletswydd y Coleg i ddiogelu a’i bolisi diogelu neu ei bolisi barod i ddysgu yn disodli’r polisi hwn.

10. Tynnu cwrs yn ôl

Ar yr achlysur prin y byddwn yn penderfynu peidio â chynnal cwrs a hysbysebir, byddwn yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngholeg Penybont neu gyda darparwyr allanol eraill.

11. Trosglwyddo

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn hapus ar y cyrsiau y maen nhw wedi’u dewis, ond rydym yn deall weithiau y gall unigolion fod eisiau newid eu cwrs neu eu llwybr gyrfa.

Yn ystod y cyfnod sefydlu yn y coleg, mae ein hymgyrch ‘cyfnewid nid gollwng’ wedi’i gynllunio i gefnogi myfyrwyr drwy ddarparu arweiniad, cymorth a chyngor gyrfaoedd. Os nodir cwrs gwahanol sy’n addas, a bod lle ar gael ar y cwrs a bod y ddau faes cwrs yn gytûn (yr un presennol a’r un newydd), efallai y bydd modd trosglwyddo. Byddai hyn yn amodol ar dalu unrhyw ffioedd cwrs neu ffioedd deunyddiau ychwanegol.

12. Apelio

Ein nod yng Ngholeg Penybont yw rhoi profiad rhagorol i bob cwsmer, ond rhowch wybod i ni os oes rhywbeth y gallem fod wedi’i wneud yn well.

Lle bynnag y bo modd, rydym yn annog unigolion i ddefnyddio ein system adborth ‘Eich Llais’ i rannu syniadau, canmoliaeth neu bryderon gyda ni. Gallwch gyrchu ein porth adborth trwy fynd i https://www.bridgend.ac.uk/eich-llais/?lang=cy. Gall myfyrwyr hefyd roi adborth trwy’r porth myfyrwyr.

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad ynghylch eich cais, mae gennych hawl i gyflwyno apêl. Dylai’r apêl nodi rhesymau clir dros eich apêl a darparu unrhyw dystiolaeth ategol.

Dylid gwneud apeliadau yn ysgrifenedig a’u cyfeirio at:

Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr
Coleg Penybont
Heol y Bont-faen

Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3DF

Fel arall, gallwch anfon e-bost, wedi’i farcio at sylw’r Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr, at hello@bridgend.ac.uk.

Bydd yr apêl yn cael ei chydnabod ac yna bydd y Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr yn cwrdd â’r ymgeisydd a’i riant/gofalwr (os yw dan 18 oed) i drafod ei gais. Lle bo’n briodol a/neu’n angenrheidiol bydd y Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr yn ymgynghori âg aelod o’r Uwch Dîm Arwain ac yn gwneud argymhelliad iddo, a bydd ei benderfyniad yn derfynol. Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y canlyniad ac unrhyw gamau i’w cymryd yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cydnabod derbyn yr apêl.

Polisïau Cysylltiedig

  • Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Cod Dinasyddiaeth
  • Barod i Ddysgu
  • Diogelu (gan gynnwys Prevent)
  • Gweithdrefn Gwyno (Eich Llais)
  • Polisi Rheoli Data a GDPR
  • Polisi Arholiadau

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi/GweithdrefnPolisi Derbyn
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Joe Baldwin
Nod(au) a Phwrpas y PolisiSicrhau dull teg a chyson o brosesu a rheoli derbyniadau yng Ngholeg Penybont, yn unol â’n dyletswyddau dan amrywiol ddeddfwriaeth fel yr amlinellir yn y ddogfen bolisi.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔
Anabledd✔Yn darparu cymorth ychwanegol, cyfleoedd datgelu ac addasiadau rhesymol i ymgeiswyr drwy gydol y broses dderbyn
Ailbennu rhywedd✔
Priodas a phartneriaeth sifil✔
Beichiogrwydd a mamolaeth✔
Hil✔
Crefydd neu gred✔
Rhywedd✔
Cyfeiriadedd rhywiol✔

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 04 Ebrill 2025
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: J.Baldwin

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi/GweithdrefnPolisi Derbyn
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Joe Baldwin
Nod(au) a Phwrpas y PolisiSicrhau dull teg a chyson o brosesu a rheoli derbyniadau yng Ngholeg Penybont, yn unol â’n dyletswyddau dan amrywiol ddeddfwriaeth fel yr amlinellir yn y ddogfen bolisi.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff
Y Cyhoedd✔

Safonau’r Gymraeg

RhifMathSafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau
Llunio
Polisi
Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a)
cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydMesur Llwyddiant(sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)
Sicrhau bod y polisi hwn, gweithdrefnau cysylltiedig, gwasanaethau a gweithgareddau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.Gwasanaethau Myfyrwyr
Lles Myfyrwyr
Pob aelod o staff
Adeg lansioData drwy’r adroddiadau canlynol:
Adroddiad ar y Gymraeg
Arolygon dysgwyr

Dyddiad cwblhau’r asesiad: Ebrill 2025

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch