Polisi Defnydd Derbyniol TG

Adran: Gwasanaethau TG
Awdur y Ddogfen: Scott Morgan
Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol
Dyddiad Cymeradwyo: Uwch Dîm Arwain 12/05/2026 a’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau 18/06/2026
Dyddiad Adolygu: Gorffennaf 2029
Fersiwn: 2.0

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi AtebGwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Yes
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Yes
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.No
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?Yes
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.No
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.YesMae’r polisi hwn yn rhan o’r pecyn hyfforddi gorfodol.
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.Yes
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.No
Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi?Yes
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?
IOs ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r hestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
No
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd:

Datganiad Sefyllfa Polisi

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

1. Pwrpas ac Amcanion:

Nod y polisi hwn yw sicrhau bod holl ddefnyddwyr saernïaeth TG y Grŵp yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol cyfredol y DU, arferion gorau Systemau Seiber a Gwybodaeth a thrwy wneud hynny, yn diogelu holl ddefnyddwyr systemau TG y Grŵp.

Mae’r Polisi’n berthnasol i unrhyw ddefnyddiwr system TG y Grŵp, ni waeth beth fo’u lleoliad neu’r ddyfais y maent yn cyrchu adnoddau’r Grŵp arni, gan gynnwys technolegau a defnyddiau newydd a rhai sy’n datblygu, na chyfeirir atynt yn benodol o bosibl.

Gellir diffinio defnyddwyr fel, ond heb fod yn gyfyngedig i: Staff, Myfyrwyr, Contractwyr, Gwesteion, Llywodraethwyr, Athrawon dan Hyfforddiant a Gweithwyr Asiantaeth.

Gall unrhyw achos o dorri’r polisi hwn arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys, mewn achosion eithafol, gwaharddiad dros dro neu waharddiad o’r Grŵp. Mae’r Grŵp hefyd yn cadw’r hawl i roi gwybod i’r awdurdodau priodol am unrhyw dor o’r fath, os yw’n ystyried bod hynny’n angenrheidiol.

2. Manylion y Polisi:

Rhaid peidio â datgelu cyfrineiriau a/neu fathau eraill o awdurdodi i unigolion eraill naill ai o fewn neu’r tu allan i’r Grŵp. Am resymau diogelwch ni ddylai eich cyfrinair unigol gael ei argraffu, ei storio ar-lein na’i roi i eraill. Os yw defnyddiwr yn gwybod neu’n amau ​​bod ei gyfrinair neu ei fanylion mewngofnodi wedi cael eu peryglu, eu datgelu neu eu cyrchu gan barti heb awdurdod, rhaid iddo newid ei gyfrinair ar unwaith a rhoi gwybod i’r Ddesg Gymorth TG.

Dim ond at ddibenion sy’n ymwneud â gwaith y dylid defnyddio systemau a dyfeisiau’r Grŵp ac nid er elw personol neu fasnachol.

Mae’r Grŵp yn cadw’r hawl i fonitro unrhyw gyfrifiadur, e-bost, Google Chat, Google Gemini a defnydd o’r rhyngrwyd i sicrhau bod defnyddwyr yn dilyn y polisi hwn a dylai pob defnyddiwr fod yn ymwybodol nad yw eu defnydd yn breifat pan fyddant ar y campws neu wrth ddefnyddio dyfeisiau a reolir gan y Grŵp.

Eiddo’r Grŵp yw cyfrifiaduron (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i liniaduron, Chromebooks, cyfrifiaduron personol, Macbooks, iMacs, tabledi a dyfeisiau symudol) a chyfrifon Google a ddarperir i’w defnyddio gan staff, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.

Dylid defnyddio dyfeisiau’r Grŵp a chyfrifon Google at y diben yn unig o gyflawni eich dyletswyddau fel aelod o staff, dysgwr neu randdeiliad arall.

Ni cheir defnyddio cyfleusterau TG y Grŵp i greu neu rannu deunydd y gellid yn rhesymol ei ystyried yn ddifenwol neu’n wahaniaethol ar sail hil, rhywedd, crefydd neu gred, anabledd, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol, nac achosi aflonyddu, bwlio a/neu erledigaeth, hyrwyddo unrhyw weithred anghyfreithlon, hyrwyddo neu annog eithafiaeth neu radicaleiddio neu achosi unrhyw weithred arall a allai roi enw drwg i’r Grŵp.

Ni ddylai gwybodaeth sensitif neu bersonol adnabyddadwy gael ei lawrlwytho i unrhyw ddyfais ar unrhyw adeg. Ar ben hynny, ni ddylai defnyddwyr gyrchu, gweld na phrosesu gwybodaeth sensitif neu bersonol adnabyddadwy ar ddyfeisiau personol heb eu rheoli. Rhaid cynnal unrhyw ryngweithio â’r data hwn ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau symudol personol sy’n eiddo i’r Coleg sydd wedi’u diogelu gan offer rheoli Google y Grŵp.

Dylai staff sicrhau eu bod yn dilyn gweithdrefnau’r Grŵp, Deddf Diogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Nid yw’r gallu i gysylltu â systemau cyfrifiadurol eraill drwy’r rhwydwaith yn golygu bod gennych chi’r hawl i gysylltu â’r systemau hynny na’u defnyddio nhw oni bai bod y Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol wedi awdurdodi hynny. Ni ddylech addasu na chopïo ffeil sy’n perthyn i ddefnyddiwr arall heb yn gyntaf gael caniatâd gan y person a greodd y ffeil.

Mae’n rhaid i’r holl randdeiliaid sy’n dod o dan y polisi hwn, gan gynnwys contractwyr allanol, lenwi’r Ffurflen Gais am Fynediad at Systemau a chael awdurdodiad gan y Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol cyn cyrchu unrhyw systemau neu fannau’r Grŵp sy’n cynnwys saernïaeth neu offer rhwydweithio, boed yn rhithwir neu wyneb yn wyneb.

Mae angen i’r Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol awdurdodi caffael, lawrlwytho neu ddefnyddio unrhyw offer a meddalwedd TG yn ffurfiol. Mae’r gofyniad awdurdodi hwn yn ymestyn i bob gwasanaeth cwmwl, cymwysiadau gwe, estyniadau porwr ac offer Deallusrwydd Artiffisial am ddim neu â thâl. Fodd bynnag, gall defnyddwyr ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol cyhoeddus ar gyfer syniadau cyffredinol, drafftio cyfathrebiadau generig neu ymchwil gyhoeddus, ar yr amod nad oes unrhyw ddata sy’n benodol i’r Grŵp, manylion staff/myfyrwyr na gwybodaeth berchnogol wedi’u cynnwys yn y cais cychwynnol nac yn y ffeiliau sy’n cael eu huwchlwytho.

Dylid trin holl offer TG y Grŵp, gan gynnwys perifferolion cyfrifiadurol, â pharch. Dylid rhoi gwybod i Wasanaethau TG am unrhyw golled neu ddifrod i offer TG cyn gynted â phosibl.

Ni ddylid cyflwyno feirws/maleiswedd nac unrhyw raglen a allai gael effaith niweidiol ar y Systemau TG, yn fwriadol i rwydwaith y Grŵp. Mae defnyddwyr yn rhannu’r cyfrifoldeb am gynnal diogelwch dyfeisiau. Ni ddylai defnyddwyr ohirio, osgoi na rhwystro diweddariadau system gorfodol a chlytiau meddalwedd. Rhaid ailgychwyn dyfeisiau ar unwaith pan fydd y system yn gofyn am hyn er mwyn sicrhau bod clytiau diogelwch hanfodol yn cael eu rhoi ar waith o fewn y cyfnod gofynnol o 14 diwrnod.

Bydd rhaid i unrhyw ddefnyddiwr sy’n cael cyfrif gweinyddol ddefnyddio’r cyfrif hwn i gwblhau dyletswyddau gweinyddol awdurdodedig yn unig. Ni ddylid defnyddio cyfrifon gweinyddol, o dan unrhyw amgylchiadau, i gyflawni gweithgareddau arferol dyddiol fel pori’r we, gweld e-byst neu greu dogfennau generig.

Rhaid amgryptio pob dyfais lle bo modd. Waeth beth fo statws amgryptio’r ddyfais, mae Dilysu Aml-Ffactor yn orfodol i bob defnyddiwr wrth gael mynediad at wasanaethau cwmwl a data’r Grŵp. Rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio cyfrinair diogel, gyda 12 nod o leiaf. Ar gyfer dyfeisiau symudol personol sydd wedi’u cofrestru yn system rheoli Google, rhaid i ddefnyddwyr gydymffurfio â’r holl bolisïau diogelwch gorfodol, gan gynnwys sgriniau cartref gorfodol, amgryptio dyfeisiau a gwahanu proffiliau personol a gwaith lle bo’n berthnasol.

Ni ddylid symud adnoddau TG o’u lleoliad heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Reolwr yr adran a’r Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol.

Gwaherddir ffilmio neu recordio unigolion gan ddefnyddio camerâu neu ddyfeisiau recordio sydd wedi’u hintegreiddio â dyfais symudol oni bai ei fod yn rhan o’r cwricwlwm neu os oes gennych ganiatâd gan y person(au), fel y nodir yn y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol.

Mae hawlfraint yn berthnasol i bob testun, llun, fideo a sain, gan gynnwys y rhai a anfonir drwy e-bost neu ar y rhyngrwyd. Gellir lawrlwytho ffeiliau sy’n cynnwys deunydd o’r fath a ddiogelir gan hawlfraint, ond ni ellir eu hanfon ymlaen na’u rhannu â thrydydd partïon heb ganiatâd awdur y deunydd neu gydnabyddiaeth o ffynhonnell wreiddiol y deunydd, fel y bo’n briodol.

Mae defnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth sy’n cael ei hargraffu neu ei chopïo yn cael ei thynnu o’r argraffydd/copïwr yn syth ar ôl ei hargraffu. Mae’r Grŵp yn mabwysiadu polisi “dilyn fi” sy’n caniatáu i dasgau argraffu gael eu rhyddhau ar unrhyw ddyfais, ar unrhyw gampws. Cedwir y tasgau argraffu hyn yn ganolog ar weinydd argraffu a chaiff tasgau argraffu eu dileu o giwiau argraffu ar ôl 3 diwrnod.

Ni ddylai defnyddwyr fewnbynnu, uwchlwytho na phrosesu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy, cofnodion myfyrwyr, data cyfrinachol y Grŵp nac eiddo deallusol mewnol i offer Deallusrwydd Artiffisial cyhoeddus na Modelau Iaith Mawr (LLMs) (e.e., ChatGPT, Gemini, Claude) heb awdurdod. Os caiff data’r Grŵp ei brosesu gan offer deallusrwydd artiffisial, rhaid gwneud hyn drwy atebion masnachol sydd wedi’u cymeradwyo gan TG ac mae gan y Grŵp gytundeb ffurfiol na fydd data’n cael ei ddefnyddio i hyfforddi modelau cyhoeddus.

Bydd gweithredoedd bwriadol i osgoi unrhyw reolaethau y mae’r Grŵp wedi’u rhoi ar waith i ddiogelu diogelwch ei systemau a’i ddefnyddwyr neu i atal neu amharu ar ddefnyddwyr eraill rhag cael mynediad at rwydwaith y Grŵp yn cael eu hystyried yn groes i’r polisi hwn.

Bydd ymchwiliadau’n cychwyn lle mae amheuaeth resymol o dorri’r polisi hwn neu unrhyw bolisi perthnasol arall. Os yw unigolyn yn amau ​​bod y polisi hwn wedi’i dorri, rhaid iddo roi gwybod ar unwaith i’r Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol i gychwyn ymchwiliad i’r digwyddiad cyn cymryd camau priodol.

3. Cyfrifoldebau (os yw’n berthnasol):

Cyfrifoldeb pob defnyddiwr systemau TG y Grŵp yw uniondeb pob system gyfrifiadurol ganolog, cyfrinachedd unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y systemau hyn neu sydd ar gael iddynt neu drwyddynt.

Rhaid rhoi gwybod am unrhyw achos o dorri rheolau diogelu data i’r Swyddog Diogelu Data cyn gynted â phosibl drwy e-bostio data@bridgend.ac.uk, yn unol â’r Polisi Rheoli Data a GDPR.

Mae holl ddefnyddwyr systemau TG y Grŵp yn gyfrifol am roi gwybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau TG i’r Ddesg Gwasanaeth TG, drwy e-bostio itsupport@bridgend.ac.uk.

4. Dogfennau Cysylltiedig (os yw’n berthnasol):

5. Adolygu’r Ddogfen:

Gorffennaf 2029

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi / GweithdrefnPolisi Defnydd Derbyniol TG
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol: Scott Morgan
Nod(au) a Phwrpas y PolisiGosod disgwyliadau o ran defnyddio systemau TG.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔
Anabledd✔
Ailbennu rhywedd✔
Priodas a phartneriaeth sifil✔
Beichiogrwydd a mamolaeth✔
Hil✔
Crefydd neu gred✔
Rhywedd✔
Cyfeiriadedd rhywiol✔

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 20/04/2026
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: S. Morgan

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi / GweithdrefnPolisi Defnydd Derbyniol TG
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Cyfarwyddwr Data a Saernïaeth Ddigidol: Scott Morgan
Nod(au) a Phwrpas y PolisiGosod disgwyliadau o ran defnyddio systemau TG.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔

Safonau’r Gymraeg

RhifTypeSafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau Llunio PolisiPan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydMesur Llwyddiant (sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 20/04/2026

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch