Polisi Cyngor ac Arweiniad Gyrfaol

Adran: Gwasanaethau Myfyrwyr
Awdur y Ddogfen: Caroline McCarthy
Teitl Swydd: Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr
Dyddiad Cymeradwyo: 4 Tachwedd 2025
Dyddiad Adolygu: Tachwedd 2027
Fersiwn: 2

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi Yes / No /
N/A
Gwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Ydy
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Ydy
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.Nac ydy
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?Ydy
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.Nac ydy
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.Nac ydy
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.Nac ydy
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.Nac ydy
Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi?Ydy
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?

Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
Nac ydy
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd:

Datganiad Sefyllfa Polisi

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dewisiadau a chynigion cwrs er budd addysgol gorau dysgwr unigol, gan eu galluogi i gyflawni a gwneud cynnydd (o ran sgiliau personol ond hefyd datblygiad cymdeithasol ac academaidd).

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais neu’n cofrestru ar raglen ddysgu, beth bynnag fo’r modd neu’r lleoliad astudio.

1. Pwrpas ac Amcanion:

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyngor ac arweiniad gyrfaol rhagorol drwy raglen o addysg, gwybodaeth a chefnogaeth yrfaol sy’n ystyriol o drawma i bob myfyriwr presennol a darpar fyfyriwr. Mae ein rhaglen yrfaol wedi’i chynllunio i rymuso myfyrwyr gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol, boed y myfyriwr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, prentisiaethau, entrepreneuriaeth, cyflogaeth neu annibyniaeth.

Yn unol â Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Grŵp Coleg Penybont, blaenoriaeth allweddol fydd meithrin a datblygu perthnasoedd presennol â chyflogwyr a nodi cyfleoedd newydd ar gyfer lleoliadau gwaith ystyrlon.

Rydym wedi ymrwymo i weithredu wyth Meincnod Gatsby (Gweler y dogfennau cysylltiedig)

2. Cyflwyno’r Rhaglen:

Cyflwynir y rhaglen yrfaol gan ein Tîm Gyrfaoedd, Cyfleoedd, trwy gyfuniad o sesiynau galw heibio, apwyntiadau wedi’u trefnu a gweithgareddau cwricwlwm integredig fel tiwtorialau a sesiynau sgiliau uwch yn yr hybiau llwyddiant.

3. Taith gyrfaoedd: (Gweler y dogfennau cysylltiedig i weld y graffeg gyrfaoedd)

Eich Taith GyrfaoeddLefel Mynediad a Lefel 1Lefel 2Lefel 3
Cyfnod Cofrestru a Sefydlu: Gallu siarad â’n Tîm Gyrfaoedd, Cyfleoedd, wrth gofrestru i drafod opsiynau cwrs (os oes angen) Cwrdd â’r tîm gyrfaoedd a chael trosolwg o’ch taith gyrfa✔✔✔
Tymor yr Hydref: Ymgyrch ‘Cyfnewid Peidiwch â Gollwng’ – Archwiliwch opsiynau cwrs amgen✔✔✔
Tymor yr Hydref: Cyflwyniad i blatfform gyrfaoedd, Unifrog✔✔✔
Tymor yr Hydref: Lleoliad gwaith gorfodol yn dechrau✔✔
Tymor yr Hydref: Dechrau gweithgareddau UCAS. Sesiynau i helpu gyda datganiadau personol, sesiynau cyngor ac arweiniad UCAS gan nifer o ddarparwyr AU allanol. Ymweliadau â ffeiriau Addysg Uwch.✔
Tymor yr Hydref: Mae cymhwyster Cyflogadwyedd City & Guilds yn dechrau.✔
Tymor yr Hydref: Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd✔✔
Tymor yr Hydref: Wythnos Mewnwelediad i’r Diwydiant✔✔✔
Tymor yr Hydref: Ffair Prentisiaethau✔✔✔
Tymor yr Hydref: Ffair AU✔
Tymor y Gwanwyn: Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ✔✔
Tymor y Gwanwyn: Sgyrsiau dilyniant i gynllunio llwybrau gyrfa a sesiynau un-i-un am y camau nesaf✔✔✔
Tymor y Gwanwyn: Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, siaradwyr gwadd, ymweliadau cyflogwyr, ffair gyrfaoedd✔✔✔
Tymor y Gwanwyn: Ffair ADY✔✔✔
Tymor yr Haf: Barod, Paratowch✔✔✔
Tymor yr Haf: Sgyrsiau dilyniant i gynllunio llwybrau gyrfa a sesiynau un-i-un am y camau nesaf✔✔✔
Drwy gydol y flwyddyn: Sesiynau cyngor ac arweiniad diduedd 1-i-1✔✔✔
Drwy gydol y flwyddyn: Sesiynau grŵp mewn tiwtorialau✔✔✔
Drwy gydol y flwyddyn: Ymchwil gyrfa bersonol gan ddefnyddio adnoddau cynllunio gyrfa’r Coleg fel Unifrog✔✔✔
Drwy gydol y flwyddyn: Gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd sy’n seiliedig ar y cwricwlwm, sgyrsiau diwydiant, prosiectau cydweithredol a theithiau✔✔✔
Drwy gydol y flwyddyn: Paratoi ar gyfer profiad gwaith a thrafodaethau am leoliadau gwaith✔✔

4. Cyfrifoldebau

Mae’r Arweinydd Gyrfaoedd a Chyflogaeth

Mae’r Arweinydd Gyrfaoedd a Chyflogaeth yn gyfrifol am gynllunio, datblygu a chydlynu’r rhaglen yrfaol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Trefnu gweithdai, gan ddefnyddio ein platfform gyrfaoedd Unifrog, ar gyfer ysgrifennu CVs, sgiliau cyfweld, a chwilio am swyddi; ffeiriau gyrfaoedd a chyflwyniadau gan gyflogwyr. Mae’r gweithdai hyn yn ychwanegol at y cymhwyster Cyflogadwyedd a ymgymerir gan fyfyrwyr Lefel 2 a Lefel 3, fel rhan o’u rhaglen diwtorial Sgiliau Uwch.
  • Trefnu profiad gwaith gorfodol, gyda chefnogaeth gan yr Hwylusydd Lleoliadau Gwaith. Cofnodir lleoliadau ar Unifrog, i gofnodi cwblhau a chydymffurfiaeth ag Iechyd a Diogelwch.
  • Trefnu sesiynau cyngor ar Addysg Uwch, Prentisiaethau ac opsiynau hyfforddi.
  • Sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â safonau addysgol perthnasol ac anghenion y myfyrwyr neu’r unigolion y mae’n eu cefnogi.
  • Hyrwyddo cyfleoedd gwaith lleol.
  • Trefnu sesiynau ymgysylltu â chyflogwyr, digwyddiadau a siaradwyr gwadd.
  • Mynychu digwyddiadau/grwpiau/fforymau rhwydweithio ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Cyflwyno adroddiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn i Medr, gan amlinellu gweithgarwch y Biwro Cyflogaeth a Menter.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i gael cyngor ac arweiniad gyrfaol yn y Gymraeg, trwy gydweithio â Gyrfa Cymru.

Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr yn:

  • Adolygu’r polisi yn flynyddol, gan ystyried y farchnad lafur gyfredol a newidiadau mewn polisi addysg.
  • Goruchwylio cyflwyno adroddiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn i Medr, gan amlinellu gweithgarwch y Biwro Cyflogaeth a Menter.
  • Mesur effeithiolrwydd y rhaglen yrfaol drwy adborth gan staff a Llais y Dysgwr a data dilyniant.

Bydd y Swyddog Entrepreneuriaeth yn:

  • Gyrru agenda Entrepreneuriaeth Ieuenctid, drwy alluogi, ymgysylltu, grymuso a chyfarparu myfyrwyr i greu a thyfu busnesau drwy ystod o weithgareddau entrepreneuriaeth a menter.
  • Goruchwylio gweinyddiaeth y cynllun Gwisgoedd Gwaith

5. Dogfennau Cysylltiedig (os yn berthnasol):

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 2025/28

Cynllun Gwisgoedd Gwaith – Working Wardrobe 

Meincnodau Gatsby 

Graffeg Fy Nhaith Gyrfaoedd

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi / GweithdrefnPolisi Cyngor ac Arweiniad Gyrfaol
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Caroline McCarthy
Nod(au) a Phwrpas y PolisiMae Coleg Penybont wedi ymrwymo i ddarparu cyngor ac arweiniad gyrfaol rhagorol trwy raglen o addysg, gwybodaeth a chefnogaeth yrfaol i bob myfyriwr presennol a darpar fyfyriwr.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff
Y Cyhoedd✔
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔
Anabledd✔
Ailbennu rhywedd✔
Priodas a phartneriaeth sifil✔
Beichiogrwydd a mamolaeth✔
Hil✔
Crefydd neu gred✔
Rhywedd✔
Cyfeiriadedd rhywiol✔

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 29/7/25
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: Caroline McCarthy

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi / GweithdrefnPolisi Cyngor ac Arweiniad Gyrfaol
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Caroline McCarthy
Nod(au) a Phwrpas y PolisiMae Coleg Penybont wedi ymrwymo i ddarparu cyngor ac arweiniad gyrfaol rhagorol trwy raglen o addysg, gwybodaeth a chefnogaeth yrfaol i bob myfyriwr presennol a darpar fyfyriwr.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔

Safonau’r Gymraeg

RhifTypeSafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau Llunio PolisiPan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydMesur Llwyddiant
(sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)
Archwiliwch opsiynau Gyrfa Cymru ynghylch apwyntiadau gyrfaoedd yn y Gymraeg.Candice ThomasWedi’i gwblhauGall myfyrwyr gael mynediad at wasanaeth cwbl ddwyieithog (Cymraeg), trwy broses atgyfeirio.

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 29/7/25

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch