Polisi a Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad
Adran: Ansawdd
Awdur y Ddogfen: Claire Flay-Petty
Teitl Swydd: Pennaeth Ansawdd
Dyddiad Cymeradwyo: Rhagfyr 2025
Dyddiad Adolygu: Rhagfyr 2028
Fersiwn: 1.0
Rhestr Wirio’r Polisi:
| Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi | Ateb | Gwybodaeth ategol |
|---|---|---|
| Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod. | Ydy | |
| Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod. | Ydy | |
| Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data. | Amherthnasol | |
| Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth? | Ydy | |
| Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau. | Nac oes | |
| Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu. | Nac oes | Gall staff sy’n dilyn y weithdrefn hon gael mynediad at gyngor un-i-un |
| Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach. | Nac oes | |
| Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach. | Nac oes | |
| Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi? | Ydy | |
| Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig: | ||
| Ydy hwn yn bolisi newydd? Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi. | Nac ydy | |
| Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd: |
Datganiad Sefyllfa Polisi
Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.
Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.
Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.
Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.
Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.
Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.
1. Pwrpas ac Amcanion:
Mae Coleg Penybont yn cydnabod y gall datblygiad sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd ddigwydd y tu fewn ac y tu fas i’r amgylchedd dysgu ac addysgu traddodiadol. Mae’r Polisi a Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad yn manylu’r broses ar gyfer:
- asesu’n ffurfiol y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd a gyflawnwyd eisoes gan ddysgwyr yn ffurfiol, yn erbyn deilliannau dysgu a/neu’r meini prawf asesu ar gyfer uned neu raglen astudio;
- galluogi esemptiad rhag rhagofynion penodol neu ofynion cyflawniad rhaglen astudio i ddysgwyr sydd eisoes yn meddu ar gyflawniad ardystiedig perthnasol;
- hwyluso trosglwyddo credydau, lle gellir defnyddio credyd a oedd wedi’i ardystio’n flaenorol tuag at gymhwyster newydd, yn unol â rheolau’r sefydliad dyfarnu.
Mae’r polisi hwn ar gael i’w ddefnyddio gan ddysgwyr a staff ac mae’n berthnasol i bob darpariaeth Addysg Bellach, ac i ddarpariaeth Addysg Uwch a ddyfernir yn uniongyrchol i Goleg Penybont. Ar gyfer rhaglenni Addysg Uwch a ddarperir o dan drefniant masnachfraint â phrifysgol bartner, bydd rheoliadau a phrosesau perthnasol y Brifysgol yn berthnasol. Yn y polisi hwn, defnyddir Cydnabod Dysgu Blaenorol i gyfeirio ar y cyd at Ardystio Dysgu Blaenorol, Ardystio Dysgu Drwy Brofiadau Blaenorol, Ardystio Cyflawniad Blaenorol ac Ardystio Dysgu Ardystiedig Blaenorol.
Mae Dulliau Cydnabod Dysgu Blaenorol, esemptiad a throsglwyddo credydau, a’r prosesau penodol i’w cymhwyso, yn amrywio yn ôl sefydliad dyfarnu. Yn unol â hynny, rhaid darllen a gweithredu’r polisi hwn ar y cyd â pholisïau a rheoliadau cysylltiedig y sefydliad dyfarnu perthnasol.
2. Manylion y Polisi:
2.1 Diffiniadau
Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol yn broses asesu sy’n mesur tystiolaeth o gyflawniad, sgiliau neu gymhwysedd blaenorol dysgwr yn erbyn deilliannau dysgu a/neu feini prawf asesu uned neu gymhwyster, heb fod angen i’r dysgwr ymgymryd â’r dysgu ac addysgu ffurfiol cysylltiedig. Gall hyn gynnwys dysgu a gafwyd drwy addysg a hyfforddiant blaenorol, profiad gwaith, gweithgareddau gwirfoddol neu gymunedol, neu drwy fywyd cartref a theuluol.
Mae Esemptiad yn broses sy’n galluogi dysgwr i hawlio esemptiad rhag rhagofynion penodol neu ofynion cyflawniad rhaglen astudio, gan ddefnyddio tystiolaeth o gyflawniad blaenorol ardystiedig yr ystyrir ei fod yn gyfwerth. Gall hyn gynnwys achosion pan fydd dysgwr wedi cyflawni cymhwyster neu unedau rheoleiddiedig y cydnabyddir eu bod yn gyfwerth neu’n debyg i elfennau penodol o’r cymhwyster newydd, neu pan fydd gan ddysgwr dystysgrif neu gymhwyster a ddyfarnwyd ar sail cyflawni deilliannau dysgu neu feini prawf asesu yr ystyrir eu bod yn gyfwerth. Yn achos esemptiad, nid oes angen addysgu na asesu pellach ar gyfer yr elfen dan sylw.
Mae Trosglwyddo Credydau yn gydnabyddiaeth ffurfiol gan sefydliad dyfarnu o gredyd neu unedau y mae dysgwr eisoes wedi’u cyflawni trwy gymhwyster rheoleiddiedig arall, naill ai gyda’r un sefydliad dyfarnu neu sefydliad dyfarnu gwahanol. Mae’n caniatáu i’r dysgwr drosglwyddo’r credydau hynny tuag at gymhwyster newydd, ar yr amod bod y deilliannau dysgu, y lefel a’r gofynion asesu yn gyfwerth. Nid oes angen asesiad pellach ar drosglwyddo credydau, gan fod cyflawniad ardystiedig blaenorol y dysgwr yn bodloni’r gofynion perthnasol.
Bydd y broses Cydnabod Dysgu Blaenorol, Esemptiad a Throsglwyddo Credydau’n galluogi’r dysgwr i:
- brofi bod amcanion dysgu/meini prawf asesu uned(au) rhaglen astudio ffurfiol eisoes wedi cael eu bodloni;
- (ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol yn unig) ymgymryd â’r un asesiadau â’r rheini a ddilynir ar y rhaglen dysgu, addysgu ac asesu ffurfiol, heb orfod mynychu’r sesiynau dysgu cysylltiedig, lle nodir hynny gan y sefydliad dyfarnu perthnasol. Mewn achosion o’r fath, rhaid darparu tystiolaeth o ddilysrwydd (er enghraifft, datganiad dysgwr a gwirhad asesydd, neu ofynion eraill y sefydliad dyfarnu);
- (ar gyfer Esemptiad yn unig) cael mynediad uniongyrchol i raglen ddysgu, neu safle uwch o fewn rhaglen ddysgu. Er enghraifft, pan fydd dysgwr yn dymuno ymuno â rhaglen ddiploma estynedig ar ôl ennill y cymhwyster diploma, sy’n ffurfio hanner gyntaf y diploma estynedig, mewn sefydliad arall neu drwy sefydliad dyfarnu gwahanol.
Mae rhai Sefydliadau Dyfarnu’n nodi’n fanwl na eillir ystyried dysgu ardystiedig blaenorol ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol, a gallant fynnu bod canolfannau/dysgwyr yn gwneud cais am Esemptiad neu Drosglwyddo Credydau yn lle hynny. Mae gan bob sefydliad dyfarnu bolisïau a gweithdrefnau penodol ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad y dylid eu darllen a chydymffurfio â nhw ynghyd â’r polisi hwn.
2.2 Egwyddorion a Chyfyngiadau Cydnabod Dysgu Blaenorol, Trosglwyddo Credydau ac Esemptiad
Er mwyn gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol, bydd rhaid i ddysgwr gyflwyno portffolio o dystiolaeth, neu dystiolaeth briodol arall, i ddangos sut mae’r sgiliau, gwybodaeth a/neu gymhwysedd a gyflawnwyd yn flaenorol yn bodloni deilliannau dysgu/meini prawf asesu’r uned(au) neu raglen astudio. Bydd asesydd yn adolygu a yw’r dystiolaeth yn ddigonol i brofi bod y dysgwr wedi bodloni gofynion asesu’r cymhwyster yr hoffai’r dysgwr ymgymryd ag ef.
I gael Esemptiad, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth ardystiedig (megis tystysgrif neu drawsgrifiad) o gyflawniad blaenorol a ystyrir yn gyfwerth â’r uned(au) perthnasol.
Rhaid i’r dystiolaeth a ddarperir ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad fodloni egwyddorion VCRAS, felly rhaid i’r dystiolaeth fod yn:
- Ddilys – mae’n brofi bod gofynion y deilliannau dysgu/meini prawf asesu wedi cael eu bodloni.
- Cyfredol – mae’n adlewyrchu’r arferion diweddaraf yn y maes, ac mae wedi’i gyflawni o fewn cyfnod priodol o amser.
- Dibynadwy – byddai’r un penderfyniadau asesu’n cael eu gwneud pe bai’r asesiad yn cael ei ail-wneud.
- Gwirioneddol – rhaid iddo fod yn waith neu’n gyflawniad gwreiddiol y dysgwr ei hun.
- Digonol – digon o dystiolaeth i fodloni’r deilliannau dysgu/meini prawf asesu yn llwyr.
Os yw’r dystiolaeth yn anghyflawn neu’n annigonol, bydd yn rhaid i’r dysgwr gwblhau dysgu ac asesu priodol i sicrhau bod unrhyw ddeilliannau dysgu neu feini prawf asesu heb eu cwblhau yn cael eu cyflawni.
- Rhaid i’r dulliau asesu a ddefnyddir ar gyfer tystiolaeth Cydnabod Dysgu Blaenorol fod yn addas at y ddiben a bod mor drwyadl â’r dulliau asesu a fyddai fel arfer yn cael eu defnyddio ar gyfer y rhaglen astudio.
- Ni chaniateir Cydnabod Dysgu Blaenorol, Esemptiad na Throsglwyddo Credydau os yw’r cymwysterau’n cynnwys Trwydded i Ymarfer, cydrannau Iechyd a Diogelwch gorfodol, lleoliadau gwaith gofynnol, neu s yw’r cymhwyster yn ymwneud â phroffesiwn rheoleiddiedig. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni ellir defnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol i osgoi cydrannau o gymhwyster sy’n cael eu gosod yn allanol, eu hasesu’n allanol neu’n orfodol.
- Rhaid cwblhau unrhyw broses ar gyfer hysbysu/ymgeisio i’r sefydliad dyfarnu, neu i’r Arholwr Allanol cysylltiedig, erbyn y dyddiad cau a bennir gan y sefydliad dyfarnu.
- Rhaid cadarnhau pob cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad gyda’r Tîm Ansawdd cyn ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod cofnod canolog o geisiadau Cydnabod Dysgu Blaenoro ac Esemptiad.
- Dim ond yn unol â’r canllawiau a ddarperir gan y tîm addysgu, y sefydliad dyfarnu, ac unrhyw bolisïau coleg cysylltiedig eraill (er enghraifft Polisi a Gweithdrefn Camymddyn, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau) y dylid defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) fel rhan o’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol.
CAM 1: DARPARU GWYBODAETH A THRAFODAETH RAGARWEINIOL
- Rhoddir gwybod i ddysgwyr am y Polisi a Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad trwy brosbectysau, gwybodaeth ar y we, porth y dysgwyr, deunyddiau cofrestru a sefydlu, a/neu diwtorialau.
- Mae’r dysgwr yn gyfrifol am roi gwybod i’w ddarlithydd/tiwtor yr hoffent wneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad. Os yw dysgwr yn mynegi diddordeb mewn gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, rhaid cael trafodaeth gychwynnol yn cwmpasu’r elfennau canlynol:
- Y broses o wneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, gan gynnwys y cymorth a’r arweiniad sydd ar gael, a’r broses o hel portffolio o dystiolaeth at ei gilydd.
- Gofynion neu gyfyngiadau’r sefydliad dyfarnu, gan gynnwys dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, unrhyw gyfyngiadau ar y gyfran o’r cymhwyster y gellir cyflawni drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, ac unrhyw gapiau neu raddau uchaf a fydd yn berthnasol i asesiadau/unedau/cymwysterau y cymhwysir Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad arnynt.
- Faint o amser fydd y broses yn cymryd, ac unrhyw gostau cysylltiedig.
- Y broses apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed ynghylch Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad.
- Pryd hynny, rhaid i’r darlithydd/tiwtor wirio bod y dystiolaeth sydd angen i’r dysgwr ei darparu ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad wedi cael ei chyflawni cyn dechrau’r rhaglen astudio, a bod y dystiolaeth yn bodloni’r gofynion o ran bod yn ddilys, yn gyfredol, yn ddibynadwy, yn wirioneddol, ac yn ddigonol, fel y nodir yn adran 2.3 uchod.
- Pan fydd dysgwr yn dymuno gwneud cais am Esemptiad neu Drosglwyddo Credydau ar sail dysgu neu gyflawniad ardystiedig blaenorol, rhaid i’r darlithydd/tiwtor fod yn fodlon bod y cymhwyster a gyflawnodd yn flaenorol gan y dysgwr yn cwmpasu deilliannau dysgu/meini prawf asesu sy’n sylweddol debyg, bod y cymhwyster o safon gyfwerth neu uwch, a bod y dulliau asesu yn ddigon trylwyr, cyn i’r broses symud ymlaen at y Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd.
- Ar ôl i ddysgwr gadarnhau yr hoffai barhau â’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, rhaid i’r darlithydd/tiwtor perthnasol lenwi a chyflwyno’r Ffurflen Hysbysu Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad. Rhaid cyflwyno’r ffurflen hon cyn gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad i’r sefydliad dyfarnu. Rhoddir y ffurflen hon i’r Rheolwr Cwricwlwm perthnasol a’r Tîm Ansawdd.
- Ar ôl derbyn y Ffurflen Hysbysu Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad, bydd y Rheolwr Cwricwlwm yn penodi aelod staff sy’n gymwys, ac sydd â phrofiad blaenorol o’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad i arwain y broses.
- Rhaid gwneud pob cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol a/neu Esemptiad ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y caiff yr uned ei chwblhau ynddi, oni bai bod y sefydliad dyfarnu’n nodi fel arall.
CAM 2: HEL PORTFFOLIO O DYSTIOLAETH AT EI GILYDD
Ar gyfer Camau 2 a 3, sylwch fod gan bob sefydliad dyfarnu brosesau gwahanol ar gyfer dyfarnu Cydnabod Dysgu Blaenorol, Esemptiad a Throsglwyddo Credydau. Er bod y broses isod wedi’i llunio i fodloni gofynion y rhan fwyaf o sefydliadau dyfarnu, gall rhai elfennau o’r broses fod yn wahanol. Cyfeiriwch at ganllawiau’r sefydliad dyfarnu perthnasol a chysylltwch â’r Tîm Ansawdd i gael rhagor o arweiniad.
- Er mwyn hawlio credydau o dan y broses Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, rhaid i’r dysgwr ddarparu portffolio o dystiolaeth wedi’i fapio yn erbyn deilliannau dysgu/meini prawf asesu pob uned y gwneir cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad ar eu cyfer. Rhaid i hyn gynnwys unrhyw ymarferion mapio sy’n ofynnol gan y sefydliad dyfarnu. Gall yr aelod o staff sy’n arwain y broses ystyried llunio cynllun asesu fel canllaw i’r dysgwr wrth hel y portffolio o dystiolaeth at ei gilydd.
- Pan fydd dysgu blaenorol yn brofiadol ei natur, rhaid i’r portffolio ddangos tystiolaeth o’r dysgu, y sgiliau a/neu’r cymhwysedd blaenorol a gyflawnwyd. Gallai tystiolaeth o ddysgu drwy brofiadau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngol i: bywyd cartref/teuluol, addysg a hyfforddiant blaenorol, gweithgareddau gwaith, a gwaith cymunedol/gwirfoddol.
- Pan fydd dysgu blaenorol yn cael ei ardystio, rhaid i’r portffolio gynnwys copi o’r dystysgrif wreiddiol. Rhaid i’r copi hwn gael ei lofnodi a’i ddyddio gan yr aelod o staff sy’n arwain y broses Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad i gadarnhau ei fod wedi gweld y ddogfen wreiddiol, a rhaid storio copi electronig o’r dystysgrif yn ganolog.
- Rhaid i’r portffolio o dystiolaeth gynnwys datganiad o ddilysrwydd wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan y dysgwr a’r aelod o staff sy’n arwain y broses Cydnabod Dysgu Blaenorol.
CAM 3: ASESU’R PORTFFOLIO/ MAPIO’R DYSTOLIAETH
- Rhaid asesu’r portffolio o dystiolaeth yn erbyn deilliannau dysgu/meini prawf asesu’r uned(au) y gwneir cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol/Esemptiad ar eu cyfer. Ar gyfer Esemptiad, rhaid i’r asesydd sicrhau bod pob cydran o’r cymhwyster ardystiedig yn ddigonol er mwyn bodloni gofynion pob un o ddeilliannau dysgu/meini prawf asesu’r uned(au) y gwneir cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol/Esemptiad ar eu cyfer.
- Rhaid i’r asesydd fod yn fodlon bod tystiolaeth y dysgwr yn bodloni’r holl ddeilliannau dysgu/meini prawf asesu. Os canfyddir bylchau yn y dystiolaeth a ddarparwyd, rhaid defnyddio dulliau asesu pellach er mwyn darparu digon o dystiolaeth i allu rhoi credyd am yr uned gyfan.
- Rhaid i’r dystiolaeth a gesglir drwy’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad gael ei hasesu a’i gwirhau gan ddefnyddio’r yr un gweithdrefnau sicrhau ansawdd a gaiff eu defnyddio ar gyfer unrhyw ddulliau asesu mewnol eraill, a rhaid cadw cofnodion o’r asesiadau yn y ffordd arferol. Lle cyflawnwyd uned(au) trwy Gydnabod Dysgu Blaenorol, rhaid nodi hyn ar y cofnod dysgwr perthnasol.
- Rhaid trafod canlyniad y portffolio, a’r penderfyniad i Gydnabod Dysgu Blaenorol neu roi Esemptiad neu beidio, gan gnnwys unrhyw gymorth ac arweiniad ynghylch y dewisiadau dysgu dilynol, â’r dysgwr.
- Gall ddysgwr apelio yn erbyn canlyniad ei gais am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad drwy ddilyn Polisi a Gweithdrefn Apelio’r Coleg.
CAM 4: SICRHAU ANSAWDD A HAWLIADAU
- Rhaid gwirhau unrhyw benderfyniad i roi credyd o ganlyniad i’r weithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad yn fewnol, a rhaid cynnwys hyn yn y sampl ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.
- Rhaid rhoi gwybod i unrhyw unigolyn a benodir gan y sefydliad dyfarnu i wneud gwiriadau sicrhau ansawdd allanol, er enghraifft Gwirydd Safonau neu Arholwr Allanol, am unrhyw geisiadau am Gydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad fel rhan o unrhyw weithgarwch monitro a gaiff ei gyflawni. Gall Sefydliadau Dyfarnu hefyd fynnu bod unrhyw benderfyniadau asesu a wneir o ganlyniad i’r weithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad yn cael ei samplu fel rhan o’r broses sicrhau ansawdd allanol.
- Rhaid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd am y penderfyniad asesu cyn hawlio credydau.
- Dylai unrhyw benderfyniad i roi credyd o dan y broses Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad gael ei gofnodi, a lle bo hynny’n briodol ei gadarnhau, yn y fforwm cwricwlwm perthnasol, gan gynnwys Cyfarfodydd Tîm y Cwrs a Byrddau Asesu/Cymwysterau.
- Ar ôl cwblhau a chadarnhau gwiriad mewnol ac allanol y penderfyniad asesu ynghylch Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad, dylid gwneud hawliadau am gredyd yn y modd a nodir gan y sefydliad dyfarnu perthnasol.
- Rhaid storio’r holl dystiolaeth yn ganolog, sy’n ymwneud â Chydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad, gan gynnwys portffolio’r dysgwr, cofnodion o unrhyw ohebiaeth â’r sefydliadau dyfarnu neu eu cynrychiolwyr, ceisiadau a chadarnhad o Gydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad, ac unrhyw weithgareddau mapio eraill a rhaid eu bod ar gael i’r tîm cwrs perthnasol, y Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd. Rhaid i’r cofnodion hyn fod ar gael i’w gwirio yn ôl gofyn y sefydliad dyfarnu.
3. Cyfrifoldebau (os yw’n berthnasol):
Dylai staff addysgu ymgyfarwyddo â manylion y polisi a’r weithdrefn hon, a rhoi’r polisi ar waith yn yr amgylchiadau priodol. Dylent sicrhau bod y Tîm Ansawdd yn cael gwybod am bob achos o Gydnabod Dysgu Blaenorol, Esemptiad a Throsglwyddo Credydau.
Bydd Tîm Rheoli’r Cwricwlwm yn:
- ymgyfarwyddo â manylion y polisi a’r weithdrefn hon, a rhoi’r polisi ar waith yn yr amgylchiadau priodol;
- Penodi aelod o staff sy’n gymwys, ac sydd â phrofiad blaenorol o’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad i arwain y broses.
- Sicrhau bod unrhyw geisiadau llwyddiannus am Gydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad yn cael eu cofnodi a’u hadrodd yn y modd a nodir uchod, gan gynnwys rhoi gwybod i’r Tîm Ansawdd cyn cynnal asesiad ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol neu Esemptiad.
Bydd y Tîm Ansawdd yn cefnogi’r broses ymgeisio ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol, Esemptiad a Throsglwyddo Credydau lle bo angen, a bydd yn cadw cofnod canolog o bob cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol y mae’n ymwybodol ohono.
4. Dogfennau Cysylltiedig (os yw’n berthnasol):
Rhaid darllen Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol (neu gyfwerth) y sefydliad dyfarnu a fydd yn dyfarnu’r cymhwyster ar y cyd â’r polisi hwn.
Polisi a Gweithdrefn Apelio Coleg Penybont
5. Adolygu’r ddogfen:
Caiff y ddogfen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2028. Gellir gwneud diwygiadau dros dro yn ôl yr angen oherwydd newidiadau ym mholisi’r sector. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn rhif fersiwn y ddogfen.
Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb
| Enw’r Polisi / Gweithdrefn | Polisi a Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Eithrio |
| Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn) | Claire Flay-Petty |
| Nod(au) a Phwrpas y Polisi | Nodi’r polisi a’r weithdrefn ar gyfer asesu’n ffurfiol y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd a gyflawnwyd eisoes gan ddysgwyr, yn erbyn deilliannau dysgu a/neu feini prawf asesu uned(au) rhaglen astudio, a galluogi consesiwn neu esemptiad rhag rhagofynion penodol neu ofynion cyflawniad rhaglen astudio i ddysgwyr sydd eisoes yn meddu ar gyflawniad ardystiedig perthnasol. |
| Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio? | |
| Dysgwyr | ✔ |
| Staff | ✔ |
| Y Cyhoedd |
| Nodwedd gydraddoldeb | Effaith gadarn haol | Effaith niwtral | Effaith negyddol | Rheswm/sylw |
|---|---|---|---|---|
| Oedran | ✔ | Bydd dysgwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi datblygu sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd, o fewn neu y tu allan i amgylchedd dysgu ac addysgu traddodiadol, y gellir eu hystyried ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Esemptiad. | ||
| Anabledd | ✔ | |||
| Ailbennu rhywedd | ✔ | |||
| Priodas a phartneriaeth sifil | ✔ | |||
| Beichiogrwydd a mamolaeth | ✔ | |||
| Hil | ✔ | |||
| Crefydd neu gred | ✔ | |||
| Rhywedd | ✔ | |||
| Cyfeiriadedd rhywiol | ✔ |
Dyddiad cwblhau’r asesiad: 01.12.2025
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: Claire Flay-Petty
Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
| Enw’r Polisi / Gweithdrefn | Polisi a Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol ac Eithrio |
| Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn) | Claire Flay-Petty |
| Nod(au) a Phwrpas y Polisi | Nodi’r polisi a’r weithdrefn ar gyfer asesu’n ffurfiol y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd a gyflawnwyd eisoes gan ddysgwyr, yn erbyn deilliannau dysgu a/neu feini prawf asesu uned(au) rhaglen astudio, a galluogi consesiwn neu esemptiad rhag rhagofynion penodol neu ofynion cyflawniad rhaglen astudio i ddysgwyr sydd eisoes yn meddu ar gyflawniad ardystiedig perthnasol. |
| Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio? | |
| Dysgwyr | ✔ |
| Staff | ✔ |
| Y Cyhoedd |
Safonau’r Gymraeg
| Rhif | Type | Safon | Cadarnhaol (gallai fod o fudd) | Negyddol (gallai effeithio) | Dim Effaith |
|---|---|---|---|---|---|
| 94 | Safonau Llunio Polisi | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. | ✔ |
Cynllun Gweithredu
Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.
| Cam Gweithredu | Pwy | Erbyn Pryd | Mesur Llwyddiant (sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu) |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod cyfle gan ddysgwyr i gyflwyno eu hasesiad Cydnadbod Dysgu Blaenorol drwy gyfrwng y Gymraeg lle caniateir hynny gan y sefydliad dyfarnu. | Timau’r Cwricwlwm | Parhaus | Pan fydd cyfle gan ddysgwyr i gyflwyno eu hasesiad Cydnadbod Dysgu Blaenorol drwy gyfrwng y Gymraeg lle caniateir hynny gan y sefydliad dyfarnu. |
Dyddiad cwblhau’r asesiad: 01.12.2025



















