Polisi a Gweithdrefn Camymarfer, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau
Adran: Ansawdd
Awdur y Ddogfen: Claire Flay-Petty
Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Ansawdd Dros Dro
Dyddiad Cymeradwyo: Uwch Dîm Arwain – Mawrth 2026,
Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd – Mai 2026
Dyddiad Adolygu: Mawrth 2029
Fersiwn: 02
Rhestr Wirio’r Polisi:
| Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi | Ateb | Gwybodaeth ategol |
|---|---|---|
| Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod. | Yes | |
| Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod. | Yes | |
| Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data. | Amherthnasol | |
| Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth? | Yes | |
| Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau. | No | |
| Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu. | No | Darperir hyfforddiant sy’n ymwneud â chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial i aelodau staff perthnasol. |
| Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach. | Yes | Rôl AD wrth gynghori staff ynghylch Polisi Disgyblu a chanlyniadau posibl ymchwiliad. |
| Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach. | No | |
| Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi? | Yes | |
| Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig: | ||
| Ydy hwn yn bolisi newydd? Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi. | No | |
| Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd: Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd |
Datganiad Sefyllfa Polisi
Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.
Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.
Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.
Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.
Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.
Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dewisiadau a chynigion cwrs er budd addysgol gorau dysgwr unigol, gan eu galluogi i gyflawni a gwneud cynnydd (o ran sgiliau personol ond hefyd datblygiad cymdeithasol ac academaidd).
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais neu’n cofrestru ar raglen ddysgu, beth bynnag fo’r modd neu’r lleoliad astudio.
1. Pwrpas ac Amcanion:
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau uniondeb a dilysrwydd pob rhaglen ddysgu. Mae gan achosion o gamymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau’r potensial i gael effaith andwyol ar ddysgwyr, enw da’r Coleg, ac enwau da’r sefydliadau dyfarnu cysylltiedig. Mae’r Coleg yn ystyried honiadau ac achosion o gamymarfer a chamweinyddu o ddifrif, a bydd yn cymryd pob cam rhesymol i atal achosion o’r fath rhag digwydd.
Mae’r polisi hwn ar gael i’w ddefnyddio gan ddysgwyr a staff ac mae’n berthnasol i holl ddarpariaethau grŵp Coleg Penybont. Ar gyfer Addysg Uwch a ddarperir o dan drefniant masnachfraint â Phrifysgol bartner, bydd rheoliadau a phrosesau’r Brifysgol yn berthnasol.
Mae dulliau o ymdrin â chamymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau yn amrywio yn ôl sefydliad dyfarnu, a gallant hefyd fod yn ddarostyngedig i reoliadau’r Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC/JCQ). Yn unol â hynny, rhaid darllen a gweithredu’r polisi hwn ar y cyd â pholisïau a rheoliadau cysylltiedig y sefydliad dyfarnu perthnasol a’r CGC, sydd ar gael ar wefan y CGC: www.jcq.org.uk
2. Manylion y Polisi:
2.1 Trosolwg
Nod y polisi hwn yw:
- helpu staff a dysgwyr i ddeall beth yw camymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau, a thrwy hynny leihau’r risg y bydd achosion o’r rhain yn digwydd, drwy ddarparu diffiniadau ac enghreifftiau eglur o gamymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau.
- darparu gwybodaeth gynhwysfawr am y weithdrefn i fynd i’r afael ag unrhyw achosion honedig neu dybiedig o gamymarfer, gamweinyddu neu wrthdaro buddiannau gan ddysgwyr neu staff, a’r deilliannau a’r canlyniadau posibl.
- bodloni’r gofynion a nodir gan sefydliadau dyfarnu a chyrff rheoleiddio, gan gyfeirio’n benodol at bolisïau, gweithdrefnau, a mecanweithiau adrodd y Cyd-Gyngor Cymwysterau ynghylch camymarfer a chamweinyddu.
2.2 Diffiniadau
Mae Camymarfer yn disgrifio gweithred, arfer neu weithgaredd sy’n fwriadol yn mynd yn groes i reoliadau, yn peri rhagfarn i ymgeiswyr, ac yn peryglu uniondeb y broses asesu fewnol neu allanol neu ddilysrwydd tystysgrifau. Mae llên-ladrad yn fath o gamymarfer dysgwyr.
Mae Camweinyddu’n ymwneud ag esgeulustod, diffyg neu arfer arall sy’n arwain at beidio â chydymffurfio â gofynion a gweithdrefnau’r Coleg, y sefydliad dyfarnu cysylltiedig, a/neu’r corff rheoleiddio. Gallai hyn gynnwys camgymeriadau parhaus, gweinyddiaeth wael, diffyg gofal, diffyg sylw neu anghymhwysedd. Bydd camweinyddu cyson cystal â chamymarfer, a chaiff hyn ei drin felly.
Gall achosion o gamymarfer neu gamweinyddu beryglu uniondeb cymwysterau rheoledig, yn ogystal â hygrededd ac enw da’r Coleg a/neu’r sefydliad dyfarnu.
Gall camymarfer a chamweinyddu gael eu cyflawni gan ddysgwyr, aelodau o staff neu unrhyw un arall sy’n rhan o ddarparu, gweinyddu neu ardystio cymwysterau rheoledig. Mae’r polisi hwn yn cwmpasu achosion o gamymarfer a chamweinyddu a gyflawnir gan ddysgwyr a staff. At ddibenion y ddogfen hon, mae camymarfer/camweinyddu tybiedig yn golygu pob achos honedig neu dybiedig o gamymarfer neu gamweinyddu.
Gall Gwrthdaro Buddiannau godi pan fydd gan unigolyn neu sefydliad fuddiannau neu deyrngarwch sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, a all beryglu (neu ymddangos i fod yn peryglu) ei allu i wneud penderfyniadau os na reolir y buddiannau’n gywir. Enghraifft o wrthdaro buddiannau posibl yw pan fydd aelod o staff yn addysgu neu’n asesu gwaith aelod o’i deulu neu un o’i ffrindiau. Dylai’r holl staff fod yn ymwybodol o wrthdaro buddiannau posibl, a dylid rheoli unrhyw sefyllfa o’r fath i sicrhau nad yw’r gwrthdaro buddiannau yn effeithio’n andwyol ar safonau’r cymhwyster neu’r gwasanaeth a ddarperir i ddysgwyr. Rhaid datgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl i’r Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd. Dylid dogfennu a chofnodi pob achos, gan gynnwys y mesurau a gymerwyd i sicrhau tegwch, a rhaid i’r Rheolwr Cwricwlwm gadw copïau o’r ddogfennaeth hon yn ganolog a darparu copïau i’r Tîm Ansawdd. Gall methu â datgan gwrthdaro buddiannau gael ei ystyried yn gamymarfer/camweinyddu.
Pe bai achos o wrthdaro buddiannau yn cael ei ddatgan a/neu ei nodi, dylai aelod gwahanol o staff adolygu unrhyw asesiad sydd wedi cael ei wneud a’i ddilysu’n fewnol, a dylai’r Rheolwr Cwricwlwm gydlofnodi hyn.
Rhaid dilyn canllawiau’r sefydliad dyfarnu a’r corff rheoleiddio perthnasol ynghylch datgan a datrys unrhyw achosion posibl o wrthdaro buddiannau ochr yn ochr â’r polisi hwn a’r Cod Ymddygiad.
3. Camymarfer Dysgwyr
Gall dysgwyr gamymarfer mewn unrhyw fath o asesiad, gan gynnwys arholiadau, asesiadau rheoledig, gwaith cwrs neu asesiadau eraill nad ydynt yn arholiadau, cyflwyno gwaith ymarferol, a hel portffolios o dystiolaeth asesiadau at ei gilydd.
Gall enghreifftiau o gamymarfer gan ddysgwyr gynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI), gan gynnwys Modelau Iaith Mawr (LLMs), i greu unrhyw ran o asesiad y mae’r dysgwr yna’n ei chyflwyno fel ei waith gwreiddiol ei hun (a drafodir yn fanylach yn adran 3.1)
- llên-ladrad (h.y. copïo neu ailysgrifennu gwaith o ffynonellau eraill heb gydnabyddiaeth)
- cyfeirnodi anghyflawn neu annigonol
- cydgynllwynio drwy gydweithio ag eraill i greu gwaith y mae’r dysgwr yna’n ei gyflwyno fel ei waith unigol/gwreiddiol ei hun
- gwneud ffug-ddatganiad o ddilysrwydd o ran awduraeth gwaith a asesir
- camddefnyddio, neu geisio camddefnyddio, deunyddiau arholiad neu asesu
- hwyluso camweinyddiaeth ar ran dysgwyr eraill
- ffugio bod yn rhywun arall mewn asesiad neu arholiad
- ffugio canlyniadau a/neu dystiolaeth
- methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau neu gyngor yr asesydd, goruchwyliwr, neu gynrychiolydd arall o’r Coleg mewn perthynas â rheolau, rheoliadau a diogeledd yr asesiad neu’r arholiad
- diwygio unrhyw ddogfen ganlyniadau, gan gynnwys tystysgrifau
- twyllo i gael mantais annheg
- defnyddio ‘melinau traethodau’ i greu deunydd y mae’r dysgwr yna’n ei gyflwyno fel ei waith gwreiddiol ei hun
3.1 Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Gan fod technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) yn esblygu’n gyflym, mae’n hanfodol bod dysgwyr a staff yn deall sut y gellir camddefnyddio AI mewn asesiadau. Gan ei bod yn debygol iawn y bydd gweithleoedd academaidd a phroffesiynol yn defnyddio AI yn y dyfodol, bydd Coleg Penybont yn cefnogi staff a’n dysgwyr i ddefnyddio offer AI yn effeithiol, yn foesegol ac yn unol â chanllawiau sefydliadau dyfarnu a rheoleiddio. Mae rhagor o ganllawiau ynghylch safbwynt Coleg Penybont ar ddeallusrwydd artiffisial yn y ddogfen Defnydd effeithiol a moesegol o AI yng Ngholeg Penybont.
Ystyrir bod defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI), gan gynnwys Modelau Iaith Mawr (LLMs), i greu unrhyw ran o asesiad y mae’r dysgwr yna’n ei chyflwyno fel ei waith gwreiddiol ei hun, yn gamymarfer gan y dysgwr. Dylai darlithwyr a thimau cwrs gymryd camau i osgoi pob achos o gamymarfer gan ddysgwr, gan gynnwys yr hyn sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio AI, drwy:
- sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’r Polisi a’r Weithdrefn Camymarfer, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau, gan gynnwys y canlyniadau posibl, yn ystod y cyfnod sefydlu, ac atgoffa dysgwyr o hyn yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen astudio
- sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’r gofynion a’r disgwyliadau wrth ddefnyddio AI fel ffynhonnell eilaidd mewn asesiadau, gan gynnwys y canllawiau a gyhoeddwyd gan y CGC ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Asesiadau: Diogelu Uniondeb Cymwysterau
- rhoi canllawiau i ddysgwyr ar yr hyn sy’n cyfrif fel llên-ladrad, a dangos/cyfeirio at fformatau cyfeirnodi derbyniol
3.2 Dilysu gwaith dysgwyr
Yn y pen draw, addysgwyr sy’n gyfrifol am gadarnhau dilysrwydd gwaith dysgwyr. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ddarlithwyr:
- sicrhau bod asesu ffurfiannol cadarn yn digwydd er mwyn cael dealltwriaeth dda o’r safon y mae dysgwyr yn gweithio arni drwy weithgareddau fel cwisiau neu dasgau yn y dosbarth
- adolygu’r dulliau asesu crynodol yn rheolaidd – os yn bosibl, cynllunio asesiadau sy’n seiliedig ar brosiectau, y gellir eu cynnal yn y dosbarth neu o dan amodau arholiad neu eu hasesu drwy drafodaeth broffesiynol wedi’i recordio
- siarad â dysgwyr am eu gwaith yn rheolaidd
- sicrhau bod datganiad o ddilysrwydd sy’n cyfeirio at gamddefnyddio AI yn cael ei lofnodi gan y dysgwr ar gyfer asesiadau crynodol. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau dyfarnu yn darparu templedi ar gyfer y rhain.
Mae rhagor o ganllawiau i staff a dysgwyr ar gael:
- Atal Camddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial – Canllawiau i Staff (cyflwyniad i gefnogi staff i ddeall camddefnyddio deallusrwydd artiffisial)
- Cyflwyniad AI i Ddysgwyr (cyflwyniad dwyieithog y gall staff ei haddasu, ei phersonoli a’i chyflwyno i ddysgwyr i helpu i atal camddefnyddio deallusrwydd artiffisial).
3.3 Cosbau i ddysgwyr sy’n camymarfer
Gall achosion o gamymarfer gan ddysgwyr fod yn fân neu’n ddifrifol, ac yn dibynnu ar ddifrifoldeb y digwyddiad, fe all arwain at
- roi’r broses ddisgyblu ar waith, a nodir yn y Cod Dinasyddiaeth;
- rhybudd ffurfiol gan y Coleg a/neu’r sefydliad dyfarnu;
- colli marciau am adran benodol o’r gwaith, am gydran o’r cymhwyster (er enghraifft papur arholiad cyfan), neu am yr uned gyfan
- anghymhwyso o’r cymhwyster cyfan, neu o bob cymhwyster gyda’r sefydliad dyfarnu penodol hwnnw
4. Enghreifftiau o Gamymarfer a Chamweinyddu Staff
Gall achos o gamymarfer neu gamweinyddu honedig gan staff arwain at weithredu’r Polisi Disgyblu wrth i’r Coleg ymchwilio i’r achos honedig.
Gall enghreifftiau o gamymarfer neu gamweinyddu staff gynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- gwallau neu hepgoriadau niferus, neu weinyddiaeth annigonol yn y ganolfan sy’n arwain at gofnodion annigonol o asesiadau dysgwyr
- cofnodi penderfyniadau asesu dysgwyr yn anghywir, gan arwain at ddyfarniadau annilys am ardystiad
- diffyg cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad dyfarnu perthnasol
- methu â chadw cynlluniau marcio’n ddiogel
- diwygio cynlluniau marcio a meini prawf asesu a graddio’r sefydliad dyfarnu
- cynorthwyo dysgwyr i gynhyrchu gwaith ar gyfer asesiad mewn modd a all ddylanwadu ar ganlyniadau’r asesiad y tu hwnt i’r hynny’n sy’n ofynnol ar gyfer dysgu effeithiol, e.e. lle mae staff yn gwneud gwaith ar ran y dysgwr
- cynhyrchu tystlythyrau ffug, e.e. ar gyfer tystiolaeth nad yw’r dysgwr wedi’i chyflwyno
- caniatáu i dystiolaeth, y mae’r aelod staff yn gwybod nad gwaith gwreiddiol y dysgwr ydyw, i gael ei chynnwys fel rhan o aseiniad/tasg/portffolio/gwaith cwrs dysgwr
- camddefnyddio’r amodau ar gyfer trefniadau arbennig, e.e. lle mae gan ddysgwyr hawl i gael cymorth megis darllenydd neu ysgrifennydd. Caniateir hyn hyd at y pwynt lle mae’n bosibl y bydd y cymorth yn dylanwadu ar ganlyniad yr asesiad
- tor diogelwch, gan gynnwys methu â chadw ffeiliau electronig y dysgwyr yn ddiogel
- ffugio cofnodion/tystysgrifau, e.e. drwy ddiwygio, amnewid neu dwyllo. Mae hyn yn cynnwys hawliadau twyllodrus am dystysgrifau, h.y. hawlio tystysgrif cyn i’r dysgwr fodloni holl ofynion yr asesiad
- methu â chadw papurau asesiad/arholiad/prawf yn ddiogel cyn yr asesiad/arholiad/prawf
- cael mynediad heb awdurdod at ddeunydd asesu/arholiad/prawf cyn yr asesiad/arholiad/prawf
- methu â chydymffurfio ag ymchwiliad
- peidio â datgelu unrhyw wrthdaro buddiannau
Bydd achosion niferus neu gyson o gamweinyddu yn cael eu trin fel camymarfer.
5. Gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gamymarfer neu gamweinyddu tybiedig neu honedig
CAM 1: HYSBYSU
- Rhaid adrodd unrhyw achosion o gamymarfer/camweinyddu tybiedig neu honedig i’r Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd cyn gynted â phosibl. Bydd y Tîm Ansawdd yn rhoi gwybod i Bennaeth y Ganolfan a, lle mae honiad wedi’i wneud ynghylch camymarfer/camweinyddu gan staff, Adnoddau Dynol. Os yw aelod o staff yn amau bod dysgwr/dysgwyr wedi camddefnyddio AI, dilynwch y broses a amlinellir yn atodiad 1.
- Bydd y Coleg yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r dysgwr/aelod staff, y gwnaed yr honiad yn ei erbyn, am y canlynol cyn gynted â phosibl:
- natur y camymarfer/camweinyddu honedig
- y dystiolaeth a ddarparwyd i gefnogi’r honiad
- canlyniadau posibl, os profir yr honiad
- y cyfle i bleidio ei achos
- i aelodau staff, y bydd hyn yn cael ei ystyried ar y cyd â’r Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu a Chod Ymarfer ac Ymddygiad Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, ac mae ganddynt hawl i gael cynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr o’i dewis yn gwmni iddynt yn ystod y broses
- yr hawl i apelio yn erbyn unrhyw gosb ddisgyblaethol a roddir iddynt
- Rhaid i unrhyw achos o gamymarfer/camweinyddu honedig neu dybiedig gael ei adrodd i’r Corff Rheoleiddio a/neu’r Sefydliad Dyfarnu perthnasol gan ddefnyddio’r gwaith papur gofynnol, fel y nodwyd gan y Corff Rheoleiddio a/neu’r Sefydliad Dyfarnu. Rhaid rhoi ystyriaeth benodol i bolisïau, gweithdrefnau a mecanweithiau adrodd y CGC ynghylch camymarfer.
CAM 2: YMCHWILIAD
- Caiff ymchwiliadau eu cynnal mewn modd prydlon ac amserol yn unol â’r polisi hwn, a byddant yn gymesur â natur yr honiad.
- Caiff aelod staff priodol, hyfforddedig a chymwys (a elwir yn ymchwilydd o hyn ymlaen) ei benodi, nad oes ganddo unrhyw gysylltiad personol i’r achos na’r canlyniad, i gynnal yr ymchwiliad. Pwrpas yr ymchwiliad yw:
- sefydlu a yw camymarfer neu gamweinyddu wedi digwydd
- adolygu’r dystiolaeth ategol
- argymell deilliannau, gan gynnwys, mewn achosion sy’n ymwneud ag aelodau staff, a yw canlyniad yr ymchwiliad yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ystyried gwrandawiad disgyblu
- argymell rhoi camau ar waith i atal camymarfer/camweinyddu rhag digwydd eto.
- Caiff yr ymchwiliad ei chynnal yn unol â manylebau’r sefydliad dyfarnu a/neu’r corff rheoleiddio, ac mewn achosion sy’n ymwneud â staff, yn unol â Pholisi a Gweithdrefn Disgyblu’r Coleg.
CAM 3: PENDERFYNIAD
- The investigator will consider all of the available evidence in determining the appropriate actions, and will make a recommendation to the Quality Team. The final decision rests with the relevant senior leadership team member, and should be reached in the appropriate forum: this will differ for staff and learner cases. If it is evident that malpractice/maladministration has taken place, one or more of the following actions may be taken:
- rhoi cynllun gweithredu cytunedig ar waith ar gyfer y maes cwricwlwm dan sylw
- darparu hyfforddiant/canllawiau i’r aelod o staff a/neu’r dysgwr i atal camymarfer/ camweinyddu rhag digwydd eto
- gweithredu’r Cod Dinasyddiaeth i fyfyrwyr neu’r Broses Disgyblu i staff. Gall sefydliadau dyfarnu hefyd roi cosbau pellach.
- Bydd yr ymchwilydd yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Tîm Ansawdd ac, ar gyfer aelodau staff, i Adnoddau Dynol.
- Rhoddir gwybod i’r dysgwr neu’r aelod staff y gwnaed yr honiad yn ei erbyn am ganlyniadau’r ymchwiliad ac am ei opsiynau o ran apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad, os yw hynny’n berthnasol. Rhoddir gwybod i’r aelod o staff bod yr ymchwiliad wedi dod i ben, ac a yw’r achos wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer ystyried gwrandawiad disgyblu. Os na gyrhaeddir y trothwy, bydd y deilliannau posibl yn unol â’r rheini a nodwyd yn y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu.
- Bydd achosion wedi’u cadarnhau o gamymarfer/camweinyddu yn cael eu hadrodd i’r sefydliad dyfarnu cysylltiedig a/neu’r corff rheoleiddio, yn unol â chanllawiau cyhoeddedig.
6. Cyfrifoldebau (os yn berthnasol):
- Rhaid i dimau cwricwlwm sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’r Polisi Camymarfer, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau yn ystod y cyfnod sefydlu, a thrwy gydol y rhaglen astudio.
- Rhaid adrodd am unrhyw achosion o gamymarfer/camweinyddu tybiedig neu honedig i’r Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd cyn gynted â phosibl.
- Rhaid i roi gwybod i’r Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl. Gall methu â datgan gwrthdaro buddiannau gael ei ystyried yn gamymarfer/camweinyddu.
- Bydd achosion wedi’u cadarnhau o gamymarfer/camweinyddu yn cael eu hadrodd i’r sefydliad dyfarnu cysylltiedig a/neu’r corff rheoleiddio, yn unol â chanllawiau cyhoeddedig.
7. Dogfennau Cysylltiedig (os yn berthnasol):
Rheoliadau’r CGC ar Gamymarfer a Chamweinyddu
Cod Ymddygiad
Polisi Disgyblu
Defnydd effeithiol a moesegol o AI yng Ngholeg Penybont
8. Adolygu’r ddogfen:
Atodiad 1
Beth i’w wneud os ydych yn amau bod dysgwr wedi camddefnyddio AI mewn asesiadau
- Nodwch y dyddiad a’r amser y gwnaethoch chi nodi camddefnydd amheus o AI
- Nodwch yn glir pam rydych yn amau bod camddefnydd AI wedi digwydd, gan gyfeirio at waith blaenorol y dysgwr. Tynnwch sylw at adrannau perthnasol o waith y dysgwr.
- Gwiriwch y Polisi Camymarfer, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau
- Rhowch wybod i’ch Rheolwr Cwricwlwm/Dirprwy Reolwr Cwricwlwm am eich pryderon
- Eglurwch i’r dysgwr pam rydych yn amau camddefnydd AI, a nodwch eu hymateb
| Os nad yw’r dysgwr wedi llofnodi’r datganiad dilysrwydd: | Os yw’r dysgwr wedi llofnodi’r datganiad dilysrwydd: |
|---|---|
Siaradwch â’ch Rheolwr Cwricwlwm/Dirprwy Reolwr Cwricwlwm a dewiswch gamau gweithredu priodol, er enghraifft:
| Siaradwch â’ch Rheolwr Cwricwlwm/Dirprwy Reolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd i gael rhagor o arweiniad. Peidiwch â chysylltu â’r sefydliad dyfarnu’n uniongyrchol. |
Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb
| Enw’r Polisi / Gweithdrefn | Polisi a Gweithdrefn Camymarfer, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau |
| Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn) | Claire Flay-Petty |
| Nod(au) a Phwrpas y Polisi | Diffinio a darparu enghreifftiau eglur o gamymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau; amlinellu’r weithdrefn ar gyfer delio ag achosion honedig neu dybiedig o gamymarfer, camweinyddu neu wrthdaro buddiannau; bodloni’r gofynion a nodir gan sefydliadau dyfarnu a chyrff rheoleiddio. |
| Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio? | |
| Dysgwyr | ✔ |
| Staff | ✔ |
| Y Cyhoedd |
| Nodwedd gydraddoldeb | Effaith gadarn haol | Effaith niwtral | Effaith negyddol | Rheswm/sylw |
|---|---|---|---|---|
| Oedran | ✔ | Mae’r polisi’n gyson yn ei ddull o ymdrin â’r ymddygiad a ddisgwylir gan staff a dysgwyr mewn perthynas â chamymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau, ni waeth beth yw eu nodwedd gydraddoldeb. | ||
| Anabledd | ✔ | Fel uchod | ||
| Ailbennu rhywedd | ✔ | Fel uchod | ||
| Priodas a phartneriaeth sifil | ✔ | Fel uchod | ||
| Beichiogrwydd a mamolaeth | ✔ | Fel uchod | ||
| Hil | ✔ | Fel uchod | ||
| Crefydd neu gred | ✔ | Fel uchod | ||
| Rhywedd | ✔ | Fel uchod | ||
| Cyfeiriadedd rhywiol | ✔ | Fel uchod |
Dyddiad cwblhau’r asesiad: 01.03.2026
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: Claire Flay-Petty
Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
| Enw’r Polisi / Gweithdrefn | Polisi a Gweithdrefn Camymarfer, Camweinyddu a Gwrthdaro Buddiannau |
| Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn) | Claire Flay-Petty |
| Nod(au) a Phwrpas y Polisi | Diffinio a darparu enghreifftiau eglur o gamymarfer, camweinyddu a gwrthdaro buddiannau; amlinellu’r weithdrefn ar gyfer delio ag achosion honedig neu dybiedig o gamymarfer, camweinyddu neu wrthdaro buddiannau; bodloni’r gofynion a nodir gan sefydliadau dyfarnu a chyrff rheoleiddio. |
| Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio? | |
| Dysgwyr | ✔ |
| Staff | ✔ |
| Y Cyhoedd |
Safonau’r Gymraeg
| Rhif | Type | Safon | Cadarnhaol (gallai fod o fudd) | Negyddol (gallai effeithio) | Dim Effaith |
|---|---|---|---|---|---|
| 94 | Safonau Llunio Polisi | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. | ✔ |
Cynllun Gweithredu
Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.
| Cam Gweithredu | Pwy | Erbyn Pryd | Mesur Llwyddiant (sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu) |
|---|---|---|---|
| Bydd y polisi hwn a’r broses gysylltiedig ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. | Pawb sy’n defnyddio’r polisi hwn | Drwy gydol oes y polisi | Bydd y polisi hwn ar gael yn Gymraeg. |
| Bydd staff a dysgwyr yn gallu ymgymryd â’r broses drwy gyfrwng y Gymraeg heb brofi unrhyw anfantais. | Pawb sy’n defnyddio’r polisi hwn | Drwy gydol oes y polisi | Bydd staff a dysgwyr yn gallu ymgymryd â’r broses drwy gyfrwng y Gymraeg heb brofi unrhyw anfantais. |
Dyddiad cwblhau’r asesiad: 01.03.2026



















