Polisi a Gweithdrefn Apeliadau

Adran: Ansawdd
Awdur y Ddogfen: Claire Flay-Petty
Teitl Swydd: Pennaeth AnsawddDyddiad Cymeradwyo: Medi 2025
Dyddiad Adolygu: Medi 2028
Fersiwn: 01

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi AtebGwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Ydy
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Ydy
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?Ydy
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.Nac oes
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.Nac oesGall staff sy’n dilyn y weithdrefn hon gael mynediad at gyngor un-i-un
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.Nac oes
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.Nac oes
Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi?Ydy
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?
Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
Nac oes
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd:

Datganiad Sefyllfa Polisi

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

1. Pwrpas ac Amcanion:

Mae Coleg Penybont wedi ymrwymo i sicrhau bod pob penderfyniad asesiad a gradd yn deg, yn ddilys, yn ddibynadwy, ac yn hygyrch i bob dysgwr. Mae’r Polisi a Gweithdrefn Apelio yn nodi’r broses i apelio yn erbyn penderfyniadau asesiadau, yn unol â gofynion y sefydliad dyfarnu a gofynion rheoleiddio.

Mae’r polisi hwn ar gael i’w ddefnyddio gan ddysgwyr a staff ac mae’n berthnasol i bob darpariaeth Addysg Bellach, ac i ddarpariaeth Addysg Uwch a ddyfernir yn uniongyrchol gan Goleg Penybont, gan gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith. Ar gyfer Addysg Uwch a ddarperir o dan drefniant masnachfraint gyda Phrifysgol bartner, bydd rheoliadau a phrosesau priodol y Brifysgol yn berthnasol.

Mae dulliau apelio yn amrywio yn ôl sefydliad dyfarnu, a gallant hefyd fod yn ddarostyngedig i reoliadau’r Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC). Yn unol â hynny, rhaid darllen a gweithredu’r polisi hwn ar y cyd â pholisïau a rheoliadau cysylltiedig y sefydliad dyfarnu perthnasol a’r Cyd-Gyngor Cymwysterau, sydd ar gael ar wefan CGC: https://www.jcq.org.uk/.

2. Manylion y Polisi:

Dylid hysbysu pob dysgwr o’u hawl i apelio yn erbyn penderfyniad asesiad yn ystod y cyfnod sefydlu a dylai tîm y cwrs atgyfnerthu hyn drwy gydol y rhaglen ddysgu.

Lle mae penderfyniad asesiad yn ymwneud ag asesiad mewnol, dylid ceisio datrysiad anffurfiol rhwng yr asesydd/darlithydd a’r dysgwr cyn gynted â phosibl. Gall y Gwiriwr Mewnol fod yn rhan o’r trafodaethau anffurfiol hyn er mwyn ceisio datrysiad cynnar. Dylai’r datrysiad anelu at fod yn amserol ac mor gyflym â phosibl.

Rhaid codi unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb penderfyniad gradd gyda’r Rheolwr Cwricwlwm perthnasol cyn gynted â phosibl gan fod gan apeliadau amserlenni llym.

Cyn apelio (cam anffurfiol)

  • Dylai’r dysgwr godi ei bryder gyda’r asesydd/darlithydd a’r Rheolwr Cwricwlwm cyn gynted â phosibl ar ôl cael penderfyniad yr asesiad. Dylai’r asesydd neu’r darlithydd adolygu sylwadau’r dysgwr yn gyflym ac yn wrthrychol, wrth ymgynghori â’r Gwiriwr Mewnol/Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol os yw’n briodol, a rhaid iddo hysbysu’r Rheolwr Cwricwlwm am bryderon y dysgwr ar unwaith.
  • Os na ellir datrys y pryder yn anffurfiol, rhaid hysbysu’r dysgwr o’i hawl i apelio’n ffurfiol. Mae’r cam hwn yn bwysig gan mai dim ond o fewn 10 niwrnod i gael gwybod am benderfyniad yr asesiad y gall y dysgwr apelio’n ffurfiol.
  • Gall cyflwyno apêl fewnol ffurfiol arwain at radd uwch, gradd is neu’r un radd.

Cam 1: Apêl Fewnol Ffurfiol

  • Os hoffai’r dysgwr apelio’n ffurfiol yn erbyn penderfyniad yr asesiad, rhaid i’r dysgwr gyflwyno apêl ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod gwaith i gael gwybod am benderfyniad yr asesiad. Gall dysgwr apelio os yw’n credu:
    • na chafodd gyfle cyfartal i ddangos cymhwysedd na gwybodaeth;
    • nad oedd y meini prawf asesu yn glir neu eu bod wedi’u cymhwyso’n anghyson;
    • nad yw’r penderfyniad a wnaed yn adlewyrchu ansawdd na lefel ei waith yn deg;
    • bod gwall gweinyddol neu weithdrefnol wedi digwydd wrth brosesu ei radd.
  • Rhaid cyflwyno’r apêl drwy lenwi’r Ffurflen Apelio i Ddysgwyr a’i hanfon at y Rheolwr Cwricwlwm a’r Tîm Ansawdd drwy e-bost. Mae’r ffurflen yn cynnwys canllawiau cam wrth gam i ddysgwyr ar sut i lenwi a chyflwyno’r ffurflen.
  • Ar ôl i’r dysgwr gyflwyno’r apêl yn ffurfiol, ni all y dysgwr ddiwygio nac ychwanegu at y dystiolaeth neu’r wybodaeth sy’n sail i’r apêl.
  • Dylid cyflwyno’r apêl i Reolwr Cwricwlwm y Maes Cwricwlwm perthnasol, a’r Tîm Ansawdd (quality@bridgend.ac.uk).
  • Rhaid i’r apêl ysgrifenedig gael ei hadolygu a’i thrafod gan aelod o’r Tîm Ansawdd, y Rheolwr Cwricwlwm a lle bo’n berthnasol y darlithydd/asesydd a wnaeth y penderfyniad.
  • Bydd y Tîm Ansawdd yn penodi Adolygydd Apeliadau annibynnol, ac ni ddylai fod wedi bod yn rhan o benderfyniad gwreiddiol yr asesiad.
  • Bydd yr Adolygydd Apeliadau yn gwerthuso’r dystiolaeth, yn dod i benderfyniad, yn cwblhau Adroddiad Adolygu’r Apêl ac yn ei gyflwyno i’r Tîm Ansawdd.
  • Bydd canlyniad yr apêl yn cael ei gyfleu i’r dysgwr yn ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod gwaith i dderbyn yr apêl ysgrifenedig.
  • Os caiff yr apêl ei chadarnhau, rhaid rhoi camau unioni ar waith, a rhaid nodi achos y methiant a mynd i’r afael ag ef.
  • Ni all Coleg Penybont ddiwygio penderfyniadau asesiadau yn uniongyrchol sy’n ymwneud ag asesiad crynodol, asesiad a osodir/asesir yn allanol, na dyfarniadau cymhwyster terfynol. Pan fydd apêl o’r natur hon yn cael ei chadarnhau, efallai y bydd angen i’r apêl symud ymlaen i Gam 2: Apêl Allanol Ffurfiol er mwyn rhoi camau unioni ar waith.
  • Os yw’r dysgwr yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl derbyn canlyniad Cam 1: Apêl Ffurfiol, gall ofyn i Goleg Penybont gyflwyno apêl i’r sefydliad dyfarnu perthnasol, lle caniateir hyn o dan reoliadau’r sefydliad hwnnw. Mae hyn yn ôl disgresiwn Coleg Penybont. Mewn achosion o’r fath, rhaid gwneud y cais o fewn amserlenni cyhoeddedig y sefydliad dyfarnu, ac efallai y bydd gofyn i’r dysgwr dalu ffi i’r sefydliad dyfarnu cysylltiedig. Mae’r cais hwn yn amodol ar y wybodaeth benodol a amlinellir yng Ngham 2: Apêl Allanol Ffurfiol, isod. Os caiff Apêl Allanol Ffurfiol (Cam 2) ei gadarnhau, bydd ffi i’r sefydliad dyfarnu cysylltiedig yn cael ei had-dalu.

Cam 2: Apêl Allanol Ffurfiol

  • Pan fydd cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan sefydliad allanol, gall dysgwyr, ar ôl i broses fewnol Coleg Penybont gael ei chwblhau, ofyn i’r coleg gyflwyno apêl i’r sefydliad dyfarnu perthnasol yn unol â gweithdrefnau cyhoeddedig y sefydliad hwnnw. Mewn achosion lle nad yw Coleg Penybont yn gallu cymryd camau unioni i asesiad crynodol, asesiad allanol neu radd cymhwyster terfynol yr effeithiwyd arnynt, bydd angen i’r apêl symud ymlaen i broses apelio’r sefydliad dyfarnu.
  • Ar gyfer cymwysterau a reoleiddir gan y Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC), bydd hyn yn dilyn gweithdrefnau Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau ac Adolygu Marcio’r CGC. I weld rhestr gyfredol o sefydliadau dyfarnu’r CGC, ewch i https://www.jcq.org.uk/. Ar gyfer sefydliadau dyfarnu eraill, bydd Coleg Penybont yn dilyn y broses benodol sy’n ofynnol gan y sefydliad dyfarnu hwnnw.
  • Bydd Coleg Penybont yn cefnogi dysgwyr i gael mynediad at ddogfennaeth ac amserlenni perthnasol ond ni all warantu y bydd apêl allanol yn cael ei derbyn.
  • I symud ymlaen i Gam 2: Apêl Allanol Ffurfiol, rhaid i’r dysgwr roi ei ganiatâd datganedig ysgrifenedig i gadarnhau ei fod yn dymuno bwrw ymlaen, erbyn y dyddiad cau a bennir. Cynghorir dysgwyr y gall Cam 2: Apêl Allanol Ffurfiol arwain at radd uwch, gradd is neu’r un radd.
  • Ar ôl derbyn caniatâd ysgrifenedig i symud ymlaen i Gam 2: Apêl Allanol Ffurfiol gan y dysgwr, bydd Coleg Penybont yn cwblhau ac yn cyflwyno dogfennaeth berthnasol i’r sefydliad dyfarnu gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gan y dysgwr yn y Ffurflen Apelio. Ni all yr apelydd ddiwygio nac ychwanegu at y dystiolaeth na’r wybodaeth sy’n sail i’r apêl. Gall y geiriad penodol a ddefnyddir gan Goleg Penybont gael ei aileirio neu ei gyd-destunoli i natur yr apêl, ac ni fydd yr apelydd yn cael ei ymgynghori ynghylch cynnwys na strwythur yr apêl. Gellir darparu copi o’r ddogfennaeth hon ar gais gan y dysgwr.
  • Gall pob dysgwr sy’n apelio gael mynediad at gefnogaeth a chymorth lles gan y Tîm Lles. Nid yw’r Tîm Lles yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau ac ni fydd yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr am fanylion penodol ynghylch yr apêl.
  • Caiff pob apêl ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data a Pholisi Rheoli Data’r Coleg. Caiff cofnodion eu storio’n ddiogel a’u rhannu dim ond gyda staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r broses.

Ymddygiad Blinderus neu Afresymol

Mae Coleg Penybont wedi ymrwymo i drin pob dysgwr â pharch ac yn disgwyl yr un peth yn ôl. Ni oddefir gohebiaeth sy’n ormodol, yn ailadroddus, a wneir gyda’r bwriad o amharu neu aflonyddu, neu sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu sarhaus. Bydd pob apêl yn cael ei hasesu’n unigol i sicrhau nad yw materion dilys yn cael eu hanwybyddu a bydd y coleg yn rhoi cyngor ar sut y gellir codi pryderon yn y dyfodol. Gall Coleg Penybont gyfyngu ar gyfathrebu neu atal cyfathrebu mewn achosion o ymddygiad blinderus neu afresymol.

3. Cyfrifoldebau (os yw’n berthnasol):

Bydd y rhai sy’n gyfrifol am gyflwyno a/neu asesu cymwysterau yn ymgyfarwyddo â manylion y polisi a’r weithdrefn hon, ac yn eu cymhwyso i’r amgylchiadau priodol, a byddant yn sicrhau bod y Tîm Ansawdd yn cael gwybod am bob apêl gan ddysgwyr.

Bydd Tîm Rheoli’r Cwricwlwm yn:

  • ymgyfarwyddo â manylion y polisi a’r weithdrefn hon, ac yn eu cymhwyso i’r amgylchiadau priodol;
  • sicrhau bod unrhyw apeliadau gan ddysgwyr yn cael eu cofnodi a’u hadrodd yn y modd a nodir uchod, gan gynnwys hysbysu’r Tîm Ansawdd pan fydd dysgwr yn mynegi awydd i gyflwyno Apêl Fewnol Ffurfiol (Cam 1).

Bydd y Tîm Ansawdd yn cefnogi’r broses apeliadau dysgwyr lle bo angen, a bydd yn cynnal cofnod canolog o bob apêl ffurfiol gan ddysgwyr.

4. Dogfennau Cysylltiedig (os yw’n berthnasol):

Rhaid ymgynghori â pholisi a gweithdrefn apelio’r sefydliad dyfarnu perthnasol sy’n dyfarnu’r cymhwyster ar y cyd â’r polisi hwn.

Canllawiau apelio’r CGC: https://www.jcq.org.uk/.

Polisi Cwyno (Eich Llais)

5. Adolygu’r ddogfen:

Caiff y ddogfen hon ei hadolygu ym mis Medi 2028. Gellir gwneud diwygiadau dros dro yn ôl yr angen oherwydd newidiadau ym mholisi’r sector. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn rhif fersiwn y ddogfen.

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi / GweithdrefnPolisi a Gweithdrefn Apeliadau
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Claire Flay-Petty
Nod(au) a Phwrpas y PolisiDarparu polisi a gweithdrefn fel y gall dysgwyr apelio yn erbyn penderfyniadau asesiadau
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔
Anabledd✔
Ailbennu rhywedd✔
Priodas a phartneriaeth sifil✔
Beichiogrwydd a mamolaeth✔
Hil✔
Crefydd neu gred✔
Rhywedd✔
Cyfeiriadedd rhywiol✔

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 05.10.2025
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesia: Claire Flay-Petty

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi / GweithdrefnPolisi a Gweithdrefn Apeliadau
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Claire Flay-Petty
Nod(au) a Phwrpas y PolisiDarparu polisi a gweithdrefn fel y gall dysgwyr apelio yn erbyn penderfyniadau asesiadau
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd

Safonau’r Gymraeg

RhifTypeSafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau Llunio PolisiPan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydMesur Llwyddiant (sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)
Sicrhau bod cyfle gan ddysgwyr i apelio drwy gyfrwng y Gymraeg lle caniateir hynny gan y sefydliad dyfarnu.Timau’r CwricwlwmParhausPan fydd cyfle gan ddysgwyr i apelio drwy gyfrwng y Gymraeg lle caniateir hynny gan y sefydliad dyfarnu.

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 05.10.2025

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch