Diogelu Pobl Ifanc ac Oedolion sy’n Agored i Niwed

Adran: Taith y Dysgwr
Awdur y Ddogfen: Joe Baldwin
Teitl Swydd: Dirprwy Bennaeth a’r Person Diogelu Dynodedig (PDD)
Dyddiad Cymeradwyo: Tachwedd 2025
Dyddiad Adolygu: Tachwedd 2026 (neu yn unol â diweddariadau statudol)
Fersiwn: 9.0

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi AtebGwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.✔
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.✔
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.✘
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?✓ Diwygiad diweddaraf yn cyd-fynd â chanllawiau Dyletswydd Prevent 2023
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.✘
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.✘
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.✘
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.✘
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?
Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
✘
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd: Mae angen cymeradwyaeth lawn gan y Corff Llywodraethu

1. Pwrpas ac Amcanion

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

Mae Coleg Penybont yn gwbl ymrwymedig i les myfyrwyr, staff, ymwelwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae’r Coleg yn weithredol yn hyrwyddo lles y staff a myfyrwyr i gyd, gan gynnwys oedolion sy’n agored i niwed a’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac mae’n disgwyl bob aelod o staff, gwirfoddolwr a phartner, gan gynnwys cyflogwyr cysylltiedig a darparwyr lleoliadau gwaith, gefnogi ac arddangos yr ymrwymiad hwn bob amser.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros ddatblygu myfyrwyr mewn ffyrdd a fydd yn meithrin diogelwch, hyder ac annibyniaeth, gan alluogi myfyrwyr i fod yn bopeth y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod coleg ac amgylchedd gwaith sy’n saff ac yn ddiogel yn hollbwysig ar gyfer lles pob myfyriwr, ac mae Cod Dinasyddiaeth y Coleg yn ganolog i alluogi hyn, gan nodi tri disgwyliad o ran ymddygiad:

  • Bod yn Barod
  • Bod yn Barchus
  • Bod yn Ddiogel

Mae pawb sy’n gweithio yn neu i Goleg Penybont yn rhannu nod cyffredin, sef helpu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel trwy gyfrannu at:

  • ddarparu amgylchedd diogel i blant a phobl ifanc ddysgu a datblygu
  • nodi’r plant a’r bobl ifanc sydd yn dioddef neu sy’n debygol o ddioddef niwed sylweddol, a chymryd camau priodol gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel.

Rydym am alluogi pob aelod o staff a gwirfoddolwr i ddilyn 4 egwyddor allweddol:

  1. Adnabod (arwyddion a symptomau)
  2. Ymateb
  3. Adrodd
  4. Cofnodi

Mae’r polisi hwn yn ymdrin â chyfrifoldebau statudol y Coleg o ran amddiffyn plant, diogelu pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed, a dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a’r ddyletswydd ‘Prevent’ gysylltiedig.

Ystyr diogelu yw atal ac amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac addysgu pobl o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon (Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 2021).

Tra bod cyfrifoldebau statudol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn berthnasol i bobl ifanc (plant) dan 18 oed, mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ymestyn y ddyletswydd i adrodd pan fod gan y Coleg rheswm rhesymol i amau bod oedolyn mewn perygl.

2. Manylion y Polisi:

Nodir yr amcanion allweddol sy’n ymwneud â’r polisi hwn mewn deddfwriaeth diogelu, sy’n cynnwys: Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019), dogfen Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel rhif 275/2021 (sy’n cymryd lle dogfen rhif 272/2021), Deddf Llesiant Cenhedloedd y Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chanllawiau Dyletswydd Prevent ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y Coleg yn cydweddu ei ganllawiau a’i weithdrefnau â Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg a Gweithdrefn Diogelu Cymru.

Mae deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol ychwanegol i’w gweld yn atodiad 1. Bydd y dogfennau hyn, ynghyd â’r polisi hwn, yn galluogi’r Coleg i gydymffurfio â gofynion cyrff statudol yn gynnwys Estyn, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru.

3. Cyfrifoldebau (os yn berthnasol):

Mae’r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i sicrhau bod y Coleg yn:

  • Codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â diogelu a hybu lles plant a phobl ifanc yn y Coleg
  • Darparu amgylchedd diogel i blant a phobl ifanc
  • Nodi plant a phobl ifanc sy’n dioddef neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol, a chymryd camau priodol er mwyn sicrhau bod y plant a phobl ifanc hynny yn cael eu cadw’n ddiogel yn y Coleg
  • Defnyddio gweithdrefn ar gyfer adrodd ac ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn aelodau staff, dysgwyr eraill a gwirfoddolwyr
  • Gweithredu gweithdrefnau recriwtio diogel
  • Penodi aelod o staff sydd ag awdurdod digonol i gymryd cyfrifoldeb arweiniol dros amddiffyn plant, diogelu a’r ddyletswydd Prevent
  • Gwella unrhyw ddiffygion neu wendidau o ran trefniadau diogelu sy’n cael eu dwyn i sylw’r Corff Llywodraethu.
  • Bydd y Corff Llywodraethu yn adolygu ac yn cymeradwyo Polisi a Gweithdrefn y Coleg yn flynyddol.
  • Dylai’r Corff Llywodraethu ymgymryd â hyfforddiant diogelu yn ystod y tymor cyntaf ar ôl iddynt gychwyn yn y rôl.

Llywodraethwr Dynodedig sydd â chyfrifoldeb dros Ddiogelu

Bydd y Llywodraethwr Dynodedig yn gyfrifol am gysylltu â’r Pennaeth a’r Person Diogelu Dynodedig (PDD) i sicrhau:

  • Bod polisi’r Coleg yn bodloni gofynion y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol;
  • Bod y Corff Llywodraethu’n adolygu’r polisi bob blwyddyn; a
  • Rhoddir gwybod i’r Corff Llywodraethu am sut y mae’r Coleg a’i staff wedi cydymffurfio â’r polisi (gan gynnwys hyfforddiant a ymgymerwyd ag ef)

Bydd y Llywodraethwr Dynodedig hefyd yn gyfrifol am oruchwylio cyswllt ag asiantaethau priodol mewn ynghylch honiadau yn erbyn y Pennaeth. Ni fydd hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliad ffurfiol ond bydd yn sicrhau bod pleidiau yn cyfathrebu â’i gilydd ac yn darparu gwybodaeth i gynorthwyo ymholiadau.

Bydd y Llywodraethwr Dynodedig yn derbyn hyfforddiant priodol er mwyn ei gynorthwyo i gyflawni’r dyletswyddau hyn.

Pennaeth

Rhaid i’r Pennaeth sicrhau bod pob aelod o staff yn:

  • Dilyn y polisi a’r gweithdrefnau diogelu
  • Cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen i gadw pobl ifanc yn ddiogel (gan gynnwys mynediad at hyfforddiant)
  • Gwybod sut i roi gwybod am bryder ac yn gwybod pwy yw PDD y Coleg a sut i gysylltu â nhw.

Person Diogelu Dynodedig

Rhaid i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD) sy’n gyfrifol am ddiogelu, amddiffyn plant a Prevent yng Ngholeg Penybont wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod pob aelod o staff a gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant a diweddariadau rheolaidd ynghylch adnabod, ymateb ac adrodd ar bryderon, o leiaf bob dwy flynedd.
  • Gweithio fel pwynt cyswllt uniongyrchol ar gyfer asiantaethau allanol, gan gynnwys y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol (Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg) a’r Canolfan Ddiogelu Aml-asiantaeth lleol.
  • Cymryd rhan pan fydd Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth ar waith ar gyfer person ifanc.
  • Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Corff Llywodraethu sy’n adolygu sut mae’r dyletswyddau wedi’u cyflawni, gan gynnwys hyfforddiant staff ac unrhyw argymhellion.
  • Gweithio fel pwynt cyswllt uniongyrchol ar gyfer Prevent ac adrodd i Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru (a elwid gynt yn Uned Eithafiaeth a Gwrth-Derfysgaeth Cymru) ynghylch unrhyw bryderon.
  • Sicrhau bod y broses recriwtio staff (parhaol a dros dro) a gwirfoddolwyr yn dilyn y canllawiau recriwtio diogel, gan gynnwys defnyddio gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a Chyngor y Gweithlu Addysg.
  • Sicrhau bod pob aelod o staff a gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant a diweddariadau rheolaidd ynghylch adnabod, ymateb ac adrodd ar bryderon, a bod cofnod o hyfforddiant yn cael ei gadw. Rhaid cael hyfforddiant diweddaru bob dwy flynedd o leiaf.
  • Sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr newydd yn cael hyfforddiant fel rhan o broses ymgynefino ehangach ar gyfer gweithdrefnau diogelu yn y Coleg, a’u bod yn gallu cyrchu’r ddogfen bolisi hon.
  • Sicrhau bod mecanweithiau’n bodoli i sicrhau bod y defnydd o staff dros dro a staff asiantaeth yn cydymffurfio â chyfrifoldebau a gweithdrefnau diogelu’r Coleg.
  • Goruchwylio a rheoli pryderon a honiadau sy’n ymwneud â staff a rhoi diweddariadau i’r Cyfarwyddwr Pobl fel y bo’n briodol.

Rheolwr Lles a Diogelu (Dirprwy Berson Diogelu Dynodedig)

  • Sicrhau bod ymgeiswyr sydd â chollfarn droseddol datguddiedig yn cael eu hasesu’n briodol ac yn drylwyr trwy ymchwilio datgeliadau ac asesu risgiau i’w hunain ac i eraill yn seiliedig ar eu cais i astudio.
  • Cysylltu â chyflogwyr a sefydliadau hyfforddi sy’n derbyn myfyrwyr o’r Coleg ar leoliadau tymor byr neu hir (prentisiaid, hyfforddeion, interniaid a lleoliadau gwaith) i sicrhau bod y gweithdrefnau diogelu priodol yn weithredol.
  • Sicrhau amgylchedd ar-lein diogel trwy hidlo a monitro gweithgarwch gan ddefnyddio meddalwedd priodol ac ymchwilio i unrhyw logiau sy’n adrodd ar ddigwyddiadau ar-lein.
  • Sicrhau bod pob pryder diogelu yn cael ei gofnodi’n gywir ac yn ddiogel yn unol â rheoliadau diogelu data.
  • Cysylltu â’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol (Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg) fel bo’n briodol.

Swyddogion Lles a Diogelu Myfyrwyr

Aelodau dynodedig o’r tîm diogelu yw’r Swyddogion Lles a Diogelu Myfyrwyr, ac maent yn gyfrifol am:

  • Ddarparu cyswllt rheng flaen ar gyfer adrodd pryderon diogelu.
  • Rhoi cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i staff a myfyrwyr.
  • Cyfeirio amheuon o gam-drin, honiadau o gam-drin neu achosion o niwed i’r asiantaethau perthnasol.
  • Cadw cofnodion cywir o unrhyw atgyfeiriadau, cwynion neu bryderon diogelu (hyd yn oed pan na fydd y pryderon hynny’n arwain at atgyfeiriadau) yn unol â rheoliadau diogelu data.
  • Ymdrin ag achosion unigol, gan gynnwys mynychu cynadleddau achos a chyfarfodydd adolygu fel y bo’n briodol.
  • Rhoi gwybod i’r Rheolwr Lles a Diogelu a’r PDD am bob amheuaeth o gam-drin, honiad o gam-drin, ac achos o niwed.

Pob Aelod o Staff

Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb a dyletswydd i:

Gadw myfyrwyr yn ddiogel, gan roi gwybod am unrhyw bryderon mewn modd amserol, gan ddefnyddio’r sianeli adrodd a amlinellir yn atodiad 4 a 5 y polisi hwn.

  • Cysylltu ag aelod o Dîm Lles y Myfyrwyr os oes pryder ganddynt ynglŷn â myfyriwr sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei radicaleiddio.
  • Sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn ac yn cwblhau hyfforddiant a diweddariadau diogelu rheolaidd. Rhaid i hyn ddigwydd bob dwy flynedd o leiaf.
  • Rhaid i bob aelod o staff fod yn ymwybodol o’u rolau a’u cyfrifoldebau o ran atal eithafiaeth dreisgar a di-drais.
  • Rhoi gwybod i’r Person Diogelu Dynodedig am unrhyw amgylchiadau personol y gellir ystyrid eu bod codi pryderon ynghylch eu hymarfer proffesiynol neu eu penderfyniadau. Mae enghreifftiau’n cynnwys materion a allai arwain at Gyfarfod Strategaeth Broffesiynol, Cynhadledd Diogelu Plant Adran 47 neu faterion eraill sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu.

Mae pob aelod o staff mewn safle o ymddiriedaeth, ac mae bron pob rôl yn y Coleg yn cael ei chategoreiddio fel ‘gweithgaredd a reoleiddir’ yn ôl diffiniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae gofynion ychwanegol ar staff sydd wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), fel y nodir yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.

4. Recriwtio a Dethol Diogelach

Bydd Coleg Penybont yn sicrhau bod yr holl fesurau priodol yn cael eu gweithredu ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y Coleg sy’n debygol o gael eu hystyried gan y myfyrwyr fel oedolyn diogel a dibynadwy, gan gynnwys gwirfoddolwyr a staff a gyflogir gan gontractwyr.

Bydd y Coleg yn ymrwymo i sicrhau bod o leiaf un aelod o’r panel cyfweld wedi derbyn hyfforddiant ‘Recriwtio Mwy Diogel’.

Mae’r arfer recriwtio mwy diogel a fabwysiadwyd gan y Coleg yn cynnwys craffu ar ymgeiswyr; gwirio hunaniaeth a chymwysterau academaidd a galwedigaethol; sicrhau tystlythyrau proffesiynol; gwirio hanes cyflogaeth flaenorol; a sicrhau bod gan ymgeiswyr y gallu corfforol ac iechyd i wneud y swydd. Mae hefyd yn cynnwys cynnal cyfweliadau a gwirio statws Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg yr ymgeisydd, ynghyd â’i statws a’i hawl i weithio ac aros yn y DU.

Ar gyfer staff cyflenwi, bydd y Coleg yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig bod yr asiantaeth gyflogi sy’n darparu’r gweithiwr cyflenwi wedi cynnal y gwiriadau perthnasol, wedi cael y tystysgrifau priodol, a oes unrhyw dystysgrif wirio DBS uwch a thystiolaeth o gofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (lle bo angen) wedi’u darparu mewn perthynas â’r gweithiwr cyflenwi, a’r dyddiad a gafodd y cadarnhad ei dderbyn.

Ni fydd gwirfoddolwr, nas derbyniwyd unrhyw wiriadau amdano, o dan unrhyw amgylchiadau yn cael ei adael heb oruchwyliaeth na’i ganiatáu i weithio mewn gweithgaredd rheoledig gyda pherson dan 18 oed.

Pan gaiff gwasanaethau fel cludiant myfyrwyr eu caffael, bydd gofynion contractio yn amlinellu gofyniad y Coleg bod unrhyw oedolyn mewn cysylltiad uniongyrchol â myfyrwyr Coleg Penybont yn meddu ar wiriad DBS uwch dilys.

5. Perthnasoedd a Ffiniau Proffesiynol

Mae Coleg Penybont yn cydnabod y bydd perthnasoedd proffesiynol cadarnhaol gyda myfyrwyr yn arwain at y canlyniadau gorau. Mae ffiniau proffesiynol priodol yn diogelu myfyrwyr ac yn diogelu staff rhag honiadau di-sail. Mae’n brif ddyletswydd ar y Coleg i ddarparu amgylchedd dysgu saff a diogel ac i amddiffyn lles ei fyfyrwyr a’i staff.

Mae’n hanfodol bod staff yn ystyried eu hymddygiad o ran cyfathrebu gyda myfyrwyr, mewn modd wyneb yn wyneb ac yn electronig.

5.1 Cyfryngau Cymdeithasol

Nid yw’r Coleg yn cymeradwyo cysylltu â myfyrwyr trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol, gan gynnwys derbyn ceisiadau i fod yn gyfaill/dilyn/cysylltu ar blatfformau o’r fath.

Lle defnyddir mannau ar-lein neu gyfrifon sy’n gysylltiedig â chwricwlwm neu gwrs i gyfathrebu â dysgwyr, dylid cydymffurfio â Pholisi Defnydd Derbyniol a Pholisi Cyfryngau Cymdeithasol y Coleg.

5.2 Gweithio, Dysgu ac Addysgu o Bell / Ar-lein

Mae yna nifer o bethau y dylai staff a dysgwyr eu hystyried wrth weithio ac addysgu o bell neu ar-lein.

Mae cymorth ac ystyriaethau manwl i’w gweld yn atodiad 7. Cyfeirier hefyd at adran 8.

5.3 Ymweliadau Cartref

Dylid ymdrechu i gynnal cyfarfodydd yn y Coleg. Lle na ellir cyflawni hyn, disgwylir y bydd asesiad risg yn cael ei gwblhau ac y bydd dau aelod staff o’r Coleg yn bresennol ar gyfer yr ymweliad.

5.4 Cludo Myfyrwyr

Lle bynnag y bo modd, dylid defnyddio cludiant y Coleg (bysiau mini neu geir) i gludo myfyrwyr. Ni ddylai unrhyw aelod staff gludo dysgwr heb y lefelau yswiriant priodol. Dylai staff sicrhau bod y gofynion treth a MOT perthnasol yn gyfredol, a bod y cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio yn addas ar gyfer y ffordd fawr, ac nid oes mwy o bobl yn cael eu cludo na’r uchafswm a ddeil y cerbyd.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod pob teithiwr yn gwisgo gwregys diogelwch, a chyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Mae disgwyl y bydd ail aelod o staff yn teithio mewn cerbyd lle mae un myfyriwr yn unig yn cael ei gludo.

5.5 Ffotograffiaeth a Fideo

Lle mae ffotograffiaeth neu fideo yn cael eu defnyddio ar gyfer tystiolaeth cymwysterau neu ddibenion marchnata, rhaid i bawb sydd yn y llun/fideo roi caniatâd i’r delweddau a’r ffilm gael eu defnyddio. Rhaid i staff gofio y bydd rhai myfyrwyr yn cael eu hamddiffyn o dan Hysbysiad Gwarchod y Cyhoedd (PPN), a gall rhai ohonynt fod yn blant sy’n derbyn gofal mewn lleoliad mewn awdurdod lleol gwahanol i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn. Gallai defnyddio ffilm a delweddau fynd yn groes i fyfyrwyr sydd mewn sefyllfa o’r fath, a’u rhoi mewn perygl o gael niwed.

5.6 Defnyddio Ffonau / Dyfeisiau Personol

Ni ddylai staff ddatgelu eu rhif ffôn symudol personol nac unrhyw wybodaeth bersonol arall (e.e. cyfeiriad e-bost personol, enwau defnyddiwr eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cyfeiriad) i fyfyrwyr.

Os yw staff yn ymgymryd â gweithgaredd neu daith oddi ar y safle, dylid benthyg ffôn symudol coleg oddi wrth y dderbynfa ar bob campws a rhannu rhif y ffôn hwn â myfyrwyr os oes angen.

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael yn adran 8 ac yn atodiad 7 yn y polisi hwn.

5.7 Cyswllt â Myfyrwyr y Tu Allan i Oriau Gwaith

Mae’r Coleg yn cydnabod pwysigrwydd gweithio hyblyg ac ystwyth. Mae hyn, ynghyd â sesiynau gyda’r nos a’r model cyflenwi hyblyg y mae’r Coleg yn ei weithredu yn golygu nad yw hi bob amser yn bosibl nac yn ymarferol cyfathrebu â myfyrwyr yn ystod oriau craidd y busnes (8:30-17:00).

Dylai staff ystyried math, natur a thôn yr ohebiaeth, yn enwedig os y’i hanfonir yn y nosweithiau neu ar benwythnosau. Dylai gohebiaeth â myfyrwyr ymwneud â’u rhaglen ddysgu, gan gynnwys negeseuon atgoffa, diweddariadau am y cwrs a chyfleoedd, neu ymholiad ynghylch presenoldeb. Dylai staff ddefnyddio’r cyfleuster ‘trefnu anfon’ yn Gmail os nad yw’r ohebiaeth yn sensitif i amser y tu allan i oriau gwaith.

Rhaid i unrhyw ohebiaeth rhwng myfyrwyr a staff fod trwy gyfrif Coleg Penybont neu system coleg (e.e. anfon neges o gyfeiriad e-bost Coleg Penybont neu ffôn coleg, neu anfon neges destun trwy MiHub). Gweler atodiad 7 i gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau.

6. Cyfrinachedd, Rhannu Gwybodaeth, a’r Heddlu

Nid yw’r ddyletswydd cyfrinachedd yn absoliwt, a gellir ei dorri os yw hyn er lles y myfyrwyr ac er budd y cyhoedd ehangach. Os yw gweithwyr proffesiynol yn barnu bod datgelu yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y person ifanc neu eraill rhag perygl niwed difrifol, gellir torri cyfrinachedd.

Rhaid i staff beidio â datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â myfyrwyr, eu lles, neu wybodaeth bersonol heb ganiatâd pendant i wneud hynny gan y Person / Dirprwy Berson Diogelu Dynodedig. Mae’r amod hwn yn cynnwys sefyllfaoedd lle gall aelod staff dderbyn cais am wybodaeth gan riant, gwarchodwr, neu’r heddlu. Mae’n ofynnol i’r heddlu ddarparu Ffurflen Gais Data Personol i’r Coleg, wedi’i llenwi gan Dditectif Arolygydd.

Er bod gan y coleg ddyletswydd i gydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), byddwn yn gweithredu’n unol â dulliau cyfreithlon o rannu gwybodaeth at ddibenion diogelu a diogelu myfyrwyr sydd mewn perygl o niwed. Mae mwy o wybodaeth am sut y byddwn yn gwneud hyn ar gael yma.

7. Plant sy’n Colli Addysg

Yn unol â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer helpu atal plant a phobl ifanc rhag colli addysg, bydd y Coleg yn ymdrechu i sicrhau bod y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol yn cael ei hysbysebu lle godir pryderon am ddiffyg presenoldeb myfyriwr y credir ei fod mewn perygl, neu lle godir pryderon sy’n ymwneud â diffyg presenoldeb.

Yn achos myfyrwyr ar lwybrau 14-16, bydd Swyddog Lles Addysg (SLlA) yr awdurdod lleol hefyd yn cael ei hysbysu.

8. Diogelwch Ar-lein ac e-Ddiogelwch

Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i fonitro defnydd y systemau TG, Wi-Fi, a dyfeisiau eraill sy’n eiddo i’r Coleg. Mae’r Coleg yn defnyddio lefelau wal dân priodol i leihau’r perygl y bydd myfyrwyr yn cyrchu cynnwys y’u hystyrir yn amhriodol. Mae’r Coleg hefyd yn defnyddio meddalwedd monitro sy’n gallu canfod trawiadau bysellau yn seiliedig ar lyfrgelloedd geirfa fygythiol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae monitro o’r fath yn galluogi hysbysu’r rheini sy’n gyfrifol am ddiogelu yn y Coleg yn uniongyrchol am ddigwyddiadau, gan ddarparu gwybodaeth allweddol am natur y digwyddiad, rhif yr ased, a’r defnyddiwr. Defnyddir monitro er mwyn sicrhau diogelwch pob myfyriwr ac i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein, camfanteisio rhywiol, masnachu pobl, radicaleiddio, eithafiaeth, a gweithgareddau anghyfreithlon eraill.

Os yw bwlio cymar-i-gymar yn digwydd, dylid annog dysgwyr i ddefnyddio gwasanaethau diogelwch ac adrodd yn yr apiau ac ar y llwyfannau ar-lein. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys adrodd i ddarparwr y llwyfan a blocio defnyddwyr.

Os yw bwlio neu aflonyddu cymar-i-gymar yn digwydd rhwng dysgwyr Coleg Penybont, gellir rhannu pryderon â Thîm Lles Myfyrwyr y Coleg i gael cymorth pellach, cyngor ac ymyriad.

8.1 Rhannu Lluniau Noeth a Secstio

Er y gall myfyriwr rannu llun noeth neu led-noeth o’i hun yn gydsyniol, ni allant reoli’r hyn sy’n digwydd ar ôl ei rannu. Mae’n drosedd creu neu rannu lluniau cignoeth o blentyn, hyd yn oed os yw’r person sy’n gwneud hynny yn blentyn. Mae hyn yn cynnwys lluniau ohonyn nhw eu hunain, lluniau o rywun arall a dderbyniwyd, neu rannu llun o rywun arall.

Os bydd myfyriwr yn datgelu neu’n rhannu gwybodaeth gyda chi ynglŷn â secstio neu rannu lluniau, rhaid i chi beidio â:

  • Edrych ar y llun (yn fwriadol)
  • Rhannu’r llun
  • Cadw neu dynnu sgrin-lun o’r llun
  • Gofyn i’r llun gael ei anfon atoch

Mae’r gweithredoedd uchod yn anghyfreithlon.

Ni ddylai staff ymchwilio. Dylech drosglwyddo’r pryderon a’r wybodaeth i’r Tîm Lles neu’r PDD ar unwaith, a fydd yn ceisio cadarnhau’r ffeithiau ac adrodd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr NSPCC, ac mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.

Gellir cefnogi myfyrwyr (trwy’r Tîm Lles) i ddefnyddio’r gwasanaeth Adrodd i’w Dileu, sy’n helpu pobl ifanc i dynnu lluniau a fideos i lawr o wefannau.

9. Dysgu Seiliedig ar Waith a Phrofiad Gwaith

9.1 Gweithredir darpariaeth prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith y Coleg o dan gytundeb consortiwm gyda B-WBL, a arweinir gan Goleg Sir Benfro. Mae’r Coleg yn gyfrifol am gwblhau unrhyw archwiliad sy’n gysylltiedig â diogelu ac am fynychu cyfarfodydd perthnasol fel yr amlinellwyd gan y consortiwm.

9.2 Pan godir pryder diogelu sy’n ymwneud â phrentis y mae ei raglen yn cael ei darparu gan gontractwr trydydd parti, a drefnir gan Goleg Penybont, disgwylir y bydd ein polisi ein hunain yn cael ei weithredu.

9.3 Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â chyflogaeth neu leoliad gwaith mewn lleoliad addysg, iechyd neu ofal cymdeithasol yn ddarostyngedig i bolisi a gweithdrefn diogelu’r cyflogwr hwnnw. Nid yw hyn yn golygu na fydd ein polisi ein hunain hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau diogelwch a lles myfyriwr.

9.4 Cyfrifoldeb y Coleg, nid y cyflogwr, fydd arwain unrhyw gamau gweithredu, ymchwiliadau neu gymorth sy’n gysylltiedig â diogelu prentis neu fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad gwaith.

9.4 Mae’r Coleg yn cydnabod ei ddyletswydd o ran fetio a sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth ddod o hyd i gyflogwyr a’u cymeradwyo at ddibenion gweithgarwch lleoliad gwaith. Mae’r Coleg yn gyfrifol am unrhyw asesiad risg, gwirio yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y cyflogwr a monitro’r lleoliad gwaith.

9.5 Bydd adroddiad misol yn cael ei gyflwyno i B-WBL, yn darparu crynodebau rheoli achosion a data ar y rhaglen brentisiaethau yng Ngholeg Penybont. Bydd yr adroddiadau hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw fyfyrwyr sydd wedi cael cymorth gan Dîm Lles y Myfyrwyr, ynghyd ag unrhyw atgyfeiriadau a wnaed i’r awdurdod lleol.

10. Dyletswydd Prevent

‘Prevent’ yw un o bileri allweddol y strategaeth CONTEST. Nod ‘Prevent’ yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae yna bedwar piler i’r strategaeth CONTEST, sef: ‘Prevent’, ‘Pursue’, ‘Protect’ a ‘Prepare’.

Amcanion ‘Prevent’ yw:

  • mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth
  • ymyrryd yn gynnar i gefnogi pobl sy’n agored i radicaleiddio
  • galluogi pobl sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i dynnu’n ôl ohoni ac ailsefydlu

Mae’r Coleg yn ceisio diogelu ei fyfyrwyr yn erbyn risgiau radicaleiddio a/neu eithafiaeth, gan gynnwys y rheini sy’n gysylltiedig ag ideoleg Islamaidd, mudiadau’r dde eithafol a therfysgaeth hunangychwynedig (self-initiated terrorism, S-IT), ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

Mae Prevent yn digwydd cyn i unrhyw weithgarwch troseddol ddigwydd trwy gydnabod, cefnogi a diogelu pobl a allai fod yn agored i gael eu radicaleiddio.

Cyflawnir hyn trwy:

  • Ceisio lleihau amgylcheddau caniataol a mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth drwy adeiladu dealltwriaeth staff a myfyrwyr o’r problemau, a’u hyder i ddelio â nhw trwy ddatblygu staff, tiwtorialau arbenigol, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned.
  • Dwysáu ymgysylltiad â chymunedau lleol a grwpiau ffydd.
  • Partneriaeth weithredol a gwaith amlasiantaethol gyda Chanolfan Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr (MASH), Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg a Phlismona Gwrthderfysgaeth Cymru.

Bydd y Coleg yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel y’i hamlinellwyd yn y canllawiau’r ddyletswydd ‘Prevent’ ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys asesiad risg deinamig o Prevent, yn seiliedig ar fygythiadau lleol a chenedlaethol.

Os oes gan y Coleg le i gredu y gallai myfyriwr fod mewn perygl o gael ei dynnu i mewn i weithgarwch sy’n ymwneud â therfysgaeth neu ei fod mewn perygl o gael ei radicaleiddio, mae gan y Coleg ddyletswydd i wneud atgyfeiriad i Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru, gan ddefnyddio’r Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan.

Yn unol â’r Ddyletswydd Amddiffyn ddrafft, mae gweithdrefn Cyfyngiadau Symud Dynamig y coleg yn rhoi trosolwg manwl o’r dull gweithredu a gaiff ei ddilyn pe bai angen gwacáu adeiladau neu gloi pawb y tu fewn i adeiladau mewn argyfwng.

11. Adrodd ac Ymchwiliadau

Rhaid i staff rannu pryderon sydd ganddynt am ddysgwyr â’r Tîm Lles Myfyrwyr neu’r PDD. Os oes angen uwchgyfeirio’r pryder, rhennir hyn â’r gwasanaethau cymdeithasol a/neu’r heddlu mewn adroddiad.

Rhaid i’r wybodaeth:

  • fod yn fanwl, yn gryno ac yn eglur;
  • aros yn gyfrinachol a pheidio â chael ei rhannu heb law am at ddibenion sicrhau diogelwch a lles yn unig.
  • cael ei rhannu o fewn 24 awr.

Rhaid i’r Coleg roi gwybod i’r awdurdod lleol os oes rheswm rhesymol i gredu fod person ifanc mewn perygl (fel y diffiniwyd yn adran 130 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

12. Honiadau neu Bryderon am Staff

Dylid trosglwyddo pryderon neu honiadau sy’n ymwneud â staff i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD) ac nid i’r Tîm Lles Myfyrwyr neu i reolwr llinell.

Pan fydd honiad neu bryder yn codi am aelod o staff, bydd y Coleg yn cymryd camau i ymchwilio o dan ei bolisi a’i weithdrefnau disgyblu. Lle bo angen, bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r Canolfan Diogelu Aml-Asiantaeth (MASH) yn yr awdurdod lleol. Efallai y bydd achosion lle ceisir cyngor gan y MASH yn y lle cyntaf. Gellid gwahardd aelod o staff dros dro tra’n aros am ymchwiliad, neu ei roi ar absenoldeb garddio os bernir bod hyn er lles gorau’r holl unigolion dan sylw.

Pe bai honiad neu bryder yn cael ei godi fel rhan o ymchwiliad gan yr heddlu, bydd y Coleg fel rheol yn aros i ymchwiliad yr heddlu neu ddyfarniad llys ddod i ben cyn cwblhau ei ymchwiliad ei hun (gan gynnwys gwrandawiad panel, lle bo’n berthnasol). Lle mae’n amlwg o waith aml-asiantaeth bod ymchwiliad ac unrhyw ganlyniad yn debygol o barhau am gyfnod helaeth, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i barhau â’r broses briodol.

Mewn achosion lle mae honiad neu bryder yn arwain at gynnull cyfarfod strategaeth broffesiynol, lle mae cyfarfod o’r fath yn cadarnhau honiad neu bryder gan dystiolaeth neu brawf, bydd y Coleg yn bwrw ymlaen â’i bolisi a’i weithdrefnau disgyblu ei hun, gan ddefnyddio unrhyw dystiolaeth o’r fath i ystyried a yw rôl yr unigolyn wedi’i chyfaddawdu ac a yw’r unigolyn yn gallu parhau yn ei rôl a pharhau i gael ei gyflogi gan y Coleg.

Wrth gyrraedd canlyniad, mae gan y Coleg ddyletswydd i sicrhau bod diogelu pobl ifanc yn ganolog i unrhyw benderfyniadau, wrth ystyried a allai unigolyn barhau’n ddiogel yn ei rôl gydag asesiadau risg priodol a realistig a mesurau lliniaru ac i ba raddau y bernir bod rôl mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Rhaid i’r Coleg hefyd ystyried atebolrwydd ehangach a risg i enw da.

Bydd y Coleg yn ymgynghori â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) am gyngor a/neu i roi gwybod am gamau disgyblu sy’n arwain at ddiswyddo. Bydd yr heddlu hefyd yn gwneud hyn, mewn achosion sy’n arwain at erlyniad.

Bydd y coleg yn gweithredu yn unol ag Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill.

Mae rhestr o ddeddfwriaeth allweddol a chanllawiau pellach i’w gweld yn atodiad 1.

14. Adolygu’r Ddogfen

Caiff y polisi hwn a’r gweithdrefnau cysylltiedig eu hadolygu’n flynyddol, a’u diweddaru yn unol â chyhoeddiad unrhyw ganllawiau neu ddeddfwriaeth statudol.

15. Gweithdrefn Adrodd ar gyfer Diogelu

ADNABOD

Newid mewn ymddygiad, presenoldeb neu olwg? Wedi clywed sôn am rywbeth?

YMATEB

Ymatebwch yn gadarnhaol i’r dysgwr – peidiwch â beirniadu, annog neu gwestiynu’r hyn sy’n cael ei ddweud wrthoch.

ADRODD

Am fyfyriwr: Cod QR yn yr ystafell ddosbarth / gweithdy neu Happeo (staff) neu borth y myfyrwyr neu 01656 302 302 estyniad 488

Am aelod o staff: Rhowch wybod i Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth jbaldwin@bridgend.ac.uk neu 01656 302 302 estyniad 575

COFNODI

Caiff pryderon eu hymchwilio gan arweinydd diogelu hyfforddedig gyda chyfranogiad rhyngasiantaeth os oes angen.

Cofnodir yr holl gynnydd a deilliannau ar gronfa ddata diogelu ganolog a diogel.

Atodiad 1: Deddfwriaeth a Chanllawiau*

Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 2022

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019)

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan

Canllawiau statudol i helpu i atal plant a phobl ifanc rhag colli addysg 2017

Deddf Addysg 2002 (adran 175)

Deddf Plant 1989

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Deddf Llesiant Cenhedloedd y Dyfodol (Cymru) 2015

Ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill (2014)

Canllawiau ar gyfer y Ddyletswydd Prevent yng Nghymru a Lloegr (adolygwyd Gorffennaf 2015)

Canllawiau ar gyfer y Ddyletswydd Prevent mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru a Lloeg

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015

Gweithdrefn Siaradwyr Gwadd a Digwyddiadau Allanol (Coleg Penybont)

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol (Coleg Penybont)

Gweithdrefn Cyfyngiadau Symud Dynamig (Coleg Penybont)

*nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr

Atodiad 2: Rhestr o Dermau Allweddol

Cam-drin: EmosiynolCam-drin plentyn yn emosiynol yn barhaus, fel y ceir effaith anfuddiol ddifrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol y plentyn.
Cam-drin: CorfforolTaro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu achosi niwed corfforol i blentyn fel arall. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu warchodwr yn ffugio symptomau neu’n achosi salwch yn fwriadol ar blentyn y maent yn gofalu amdano.
Cam-drin: RhywiolGorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p’un a yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio, gan gynnwys:
  • cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol a di-dreiddiol.
  • gweithgareddau digyswllt, megis cynnwys plant wrth edrych ar, neu gynhyrchu, deunydd pornograffig, neu wylio gweithgareddau rhywiol.
  • annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.
ACEProfiad(au) Niweidiol yn ystod Plentyndod – profiadau llawn straen sy’n digwydd yn ystod plentyndod ac sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. camdriniaeth) neu’n effeithio arno drwy’r amgylchedd y mae’n byw ynddo (e.e. tyfu lan mewn tŷ gyda thrais domestig). Gall ACEau gynnwys cam-drin yn ystod plentyndod (corfforol, rhywiol neu emosiynol); esgeulustod (emosiynol neu gorfforol); chwalfa yn y teulu; bod yn dyst i drais domestig; neu bwy mewn cartref gyda phobl sy’n camddefnyddio sylweddau, pobl sy’n dioddef afiechyd meddwl, neu rywun sydd wedi’i garcharu.
AntisemitiaethMae’r Coleg wedi mabwysiadu’r diffiniad gweithredol canlynol, nad yw’n rhwymol yn gyfreithiol, ar gyfer gwrthsemitiaeth, fel y nodir gan Gynghrair Rhyngwladol Cofio’r Holocost.

Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth. Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi’u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.
Gwerthoedd PrydeinigGwerthoedd a nodwyd fel rhan o’r Ddyletswydd Prevent: democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, parch unigol a chyd-barch, goddefgarwch tuag at grefyddau a chredoau gwahanol.
CAMHSGwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
Plentyn mewn angenMae plentyn yn blentyn mewn angen os yw un o’r canlynol yn wir:
  • mae’n annhebygol o gyrraedd neu gadw, neu gael cyfle i gyrraedd neu gadw, safon resymol o ran iechyd neu ddatblygiad os nad yw’r awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau iddo/iddi. 
  • mae’n debygol y bydd amhariad sylweddol neu amhariad pellach ar ei iechyd neu ei ddatblygiad os nad yw gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu.
  • mae ef/hi yn anabl.
Amddiffyn plantMae amddiffyn plant yn rhan o ddiogelu a hybu lles. Mae hyn yn cyfeirio at weithgarwch a wneir i amddiffyn plant penodol sy’n dioddef neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod.
DatblygiadDatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol.
Trais DomestigAchos neu batrwm o achosion o ymddygiad rheolaethol, cymhellol, bygythiol, diraddiol a threisgar, gan gynnwys trais rhywiol, gan bartner neu gyn-bartner gan amlaf, neu gan aelod o’r teulu neu ofalwr.
EithafiaethGwrthwynebiad, ar lafar neu’n weithredol, i Werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, parch unigol a chyd-barch a goddefgarwch tuag at grefyddau a chredoau gwahanol.
NiwedCam-drin neu amharu ar iechyd neu ddatblygiad, gan gynnwys, er enghraifft, amhariad a ddioddefwyd o ganlyniad i weld neu glywed eraill yn cael eu cam-drin.
IdeolegSet o gredoau.
MAPPATrefniadau Aml-asiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd
MASHCanolfan Diogelu Aml-asiantaeth
EsgeulustodYn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ystyr esgeulustod yw “methu diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol person, sy’n debygol o amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person, neu yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn).”
Cam-drin cymar-ar-gymarTerm cyffredinol a all gynnwys bwlio neu aflonyddu person ifanc gan berson ifanc arall. Gall gamdriniaeth fod yn rhywiol, yn emosiynol neu’n gorfforol, a gellir ei chysylltu ag ymddygiadau rhywiol niweidiol ehangach.
Cyfarfod strategaeth broffesiynolDefnyddir y term yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru ac mae’n ymwneud â chyfarfod a gaiff ei gynnull a’i gadeirio gan awdurdod leol, gyda phartneriaid perthnasol yn bresennol, gan gynnwys yr heddlu ac ysgol/coleg (lle bo’n briodol).

Mae trosolwg mwy manwl o’r cyfarfod yma ar gael i’w weld yma:
https://www.diogelu.cymru/chi/c5/c5.p5.html
PoVAAmddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed.
RadicaleiddioY broses lle mae person yn dod i gefnogi terfysgaeth a ffurfiau o eithafiaeth a all arwain at derfysgaeth.
DiogeluAmddiffyn pobl sy’n agored i niwed, p’un a yw hynny rhag troseddau neu fathau eraill o gamdriniaeth, ai rhag cael eu denu i weithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth.
Niwed sylweddolMae Adran 31(10) y Ddeddf Plant 1989 yn nodi “pan fydd y cwestiwn ynghylch a yw’r niwed a ddioddefir gan blentyn yn sylweddol yn seiliedig ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, cymharir ei iechyd neu ei ddatblygiad â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol mewn plentyn tebyg.”
TrACETrawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
TerfysgaethGweithred sy’n peryglu neu’n achosi trais, niwed neu aflonyddwch difrifol, ac y bwriedir iddo ddylanwadu ar y llywodraeth neu fygwth y cyhoedd, ac a wneir gyda’r bwriad o hyrwyddo agenda gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.
Agoredrwydd i niwedFfactorau a nodweddion sy’n gysylltiedig â bod yn agored i gamdriniaeth, niwed neu radicaliaeth.
Oedolyn sy’n agored i niwedUnigolion dros 18 oed sydd angen, neu allai fod angen, gwasanaethau gofal cymunedol oherwydd anableddau meddygol neu anableddau eraill, eu hoedran, salwch, neu sydd methu neu allai bod yn methu â gofalu am eu hunain, neu sydd methu amddiffyn eu hunain yn erbyn niwed sylweddol neu ecsbloetiaeth difrifol.
LlesiantMae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio llesiant mewn perthynas ag unrhyw un o’r canlynol:

a. iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol
b. amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod
c. addysg, hyfforddiant a hamdden
d. perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol
e. gwneud cyfraniad i’r gymdeithas
f. sicrhau hawliau
g. llesiant cymdeithasol ac economaidd
h. addasrwydd llety byw

Mewn perthynas â phlentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys:
a. datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol

Atodiad 3: Mathau o Gam-drin

Cam-drin Corfforol: Gall gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu, neu achosi niwed corfforol fel arall. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu warchodwr yn ffugio symptomau neu’n achosi i blentyn fod yn sâl yn fwriadol.

Cam-drin Emosiynol: Gall gynnwys cyfleu i bobl ifanc eu bod yn ddiwerth, yn annigonol ac nad yw unrhyw un yn eu caru. Gall gynnwys bwlio difrifol (gan gynnwys seiberfwlio), gan achosi i bobl ifanc deimlo’n ofnus neu mewn perygl; neu ecsbloetio neu lygru plant neu oedolion sy’n agored i niwed. Mae rhywfaint o gamdriniaeth emosiynol ynghlwm â phob math o gamdriniaeth, er y gall ddigwydd ar ei phen ei hun.

Cam-drin Rhywiol: Mae hyn yn cynnwys gorfodi neu ddenu pobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, nad ydynt o reidrwydd yn cynnwys lefel uchel o drais. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys ymosodiad trwy dreiddio (er enghraifft, trais rhywiol neu ryw geneuol) neu weithgareddau di-dreiddiad megis mastyrbio, cusanu, rhwbio, a chyffwrdd y tu allan i ddillad. Gall hefyd gynnwys gweithgareddau digyswllt megis edrych ar, neu gynhyrchu, delweddau rhywiol; gwylio gweithgareddau rhywiol; neu feithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn neu berson sy’n agored i niwed i baratoi am gamdriniaeth. Nid yw camdriniaeth rywiol yn cael ei chyflawni gan ddynion yn unig. Gall menywod hefyd gyflawni camdriniaeth rywiol, fel y gall plant a phobl ifanc eraill.

Esgeulustod: Methiant parhaus i fodloni anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plant neu oedolion sy’n agored i niwed, sy’n debygol o arwain at amhariad difrifol i’w hiechyd neu eu datblygiad. Gall esgeulustod hefyd ddigwydd yn ystod beichiogrwydd o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau ar ran y fam. Gall esgeulustod olygu bod rhiant neu warchodwr yn methu â darparu bwyd, dillad neu loches ddigonol.

Cam-drin Gwahaniaethol: Yn cynnwys ymddygiad hiliol, rhywiaethol, ymddygiad sy’n seiliedig ar anabledd, a mathau eraill o aflonyddu, wedi’i anelu at fyfyriwr.

Cam-drin Ariannol neu Ddeunyddiol: Dwyn eiddo neu arian plant neu oedolion sy’n agored i niwed, neu eu bwlio i’w gorfodi i roi eu harian neu eu heiddo.

Cam-drin Sefydliadol/Arferion Gwael: Gofal amhriodol, amharchus neu annigonol, sy’n effeithio ar y lleoliad cyfan, ac sy’n gwrthod neu’n cyfyngu ar urddas, dewisiadau neu foddhad pobl sy’n agored i niwed.

Cam-drin Digyffwrdd: Camdriniaeth nad yw’n cynnwys cyswllt corfforol gwirioneddol, e.e. ffilmiau pornograffig neu dreisgar, cyflawni gweithredoedd rhywiol o flaen y dioddefwr, cyflawni gweithredoedd treisgar gyda’r unigolyn sy’n cael ei gam-drin yn bresennol.

Risg i’r hunan a/neu eraill: Gall gynnwys, heb fod yn gyfyngol i: hunan-niwed, tueddiadau hunanddinistriol, neu risg posibl o niweidio eraill, a all gynnwys plant neu beidio. Gall hyn fod o ganlyniad i unigolyn yn dioddef lefel sylweddol o drawma a/neu straen emosiynol personol.

Hunan-niwed: Mae’r term hunan-niwed yn ymdrin ag amrywiaeth o ymddygiadau a ddefnyddir fel dulliau ymdopi lle mae unigolion yn niweidio eu hunain trwy beri poen gorfforol neu ormodedd sylweddau er mwyn ymdopi â phoen emosiynol. Mae dulliau hunan-niwed bwriadol cyffredin yn cynnwys:

  • Torri’r croen
  • Gorfwyta neu beidio bwyta digon
  • Llosgi’r croen
  • Mewnosod gwrthrychau i’r corff
  • Taro’ch hunain neu waliau
  • Gorddosio
  • Llyncu sylweddau peryglus
  • Ymarfer y corff yn ormodol
  • Crafu a thynnu gwallt

Cam-drin Ariannol neu Ddeunyddiol: yn cynnwys lladrad; twyll; ecsbloetiaeth; pwysau mewn cysylltiad ag ewyllysiau, eiddo neu etifeddiaeth trafodion ariannol; neu gamddefnyddio neu gam-adfeddu eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau.

Camfanteisio Rhywiol: Math o gamdriniaeth rywiol lle mae plant neu bobl ifanc yn cael eu hecsbloetio’n rhywiol am arian, pŵer neu statws. Gall gynnwys ymosodiadau rhywiol treisgar, gwaradwyddus a diraddiol. Ni all bobl ifanc (dan 18 oed) rhoi caniatâd, hyd yn oed os ydynt yn credu eu bod yn cymryd rhan yn wirfoddol mewn gweithgareddau rhywiol gyda’r person sy’n eu hecsbloetio. Nid yw camfanteisio rhywiol bob amser yn golygu cyswllt corfforol, a gall ddigwydd ar-lein.

Secstio: Negeseuon rhywiol e/neu rannu delwedd, fideo neu neges destun noeth neu led-noeth gyda rhywun arall. Fe’i helwir hefyd yn rhannu delweddau noeth. Mae pobl ifanc (dan 18 oed) sy’n rhannu lluniau noeth neu led-noeth o’u hunain neu eraill yn cyflawni trosedd.

Priodas dan Orfod: Mae gorfodi rhywun i briodi yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. Mae priodas dan orfod yn un a gofrestrir heb gydsyniad llawn a rhydd y ddau berson, a lle mae trais, bygythiadau neu unrhyw fath arall o orfodaeth yn cael ei ddefnyddio i achosi person i briodi.

Trais ar sail Anrhydedd: Mae trais ar sail anrhydedd yn cwmpasu troseddau sydd wedi’u cyflawni i ddiogelu neu amddiffyn anrhydedd teulu a/neu gymuned, gan gynnwys anffurfio organau rhywiol merched, priodasau dan orfod, ac arferion megis smwddio’r fron. Mae pob math o drais ar sail anrhydedd yn gamdriniaeth a dylid eu trin felly.

Anffurfio Organau Rhywiol Benywod (FGM): Mae yna ddyletswydd adrodd orfodol ar gyfer anffurfio organau rhywiol benywod, ac mae’n cynnwys yr holl weithdrefnau sy’n ymwneud â chael gwared ag organau rhywiol allanol benywod yn llawn neu’n rhannol, neu anafiadau eraill i’r organau rhywiol benywaidd. Mae’n anghyfreithlon yn y DU, ac yn fath o gam-drin plant. Mae Adran 5B Deddf Anffurfio Organau Rhywiol Benywod 2003 (fel y’i mewnosodwyd gan adran 74 Deddf Troseddau Difrifol 2015) yn rhoi dyletswydd ar athrawon/tiwtoriaid i adrodd i’r heddlu os ydynt yn darganfod ei bod yn ymddangos bod FGM wedi’i gyflawni ar blentyn dan 18 oed.

Llinellau Cyffuriau: term i ddisgrifio gangiau a rhwydweithiau troseddu cyfundrefnol sy’n ymwneud ag allforio cyffuriau anghyfreithlon i un neu fwy o ardaloedd sy’n mewnforio (o fewn y DU), gan ddefnyddio llinellau ffôn symudol pwrpasol neu fath arall o “linell masnachu”. Maent yn debygol o ecsbloetio plant ac oedolion sy’n agored i niwed i symud (a storio) y cyffuriau ac arian, ac yn aml byddant yn defnyddio gorfodaeth, bygythion a thrais (gan gynnwys trais rhywiol) ac arfau.

Cam-drin cymar ar gymar (ymddygiad rhywiol niweidiol): ymddygiad rhywiol datblygiadol amhriodol gan blant a phobl ifanc ac sy’n niweidiol neu gamdriniol. Gallwch ddarllen mwy am y continwwm o ymddygiadau rhywiol priodol a niweidiol yn llyfrgell ddysgu’r NSPCC.

Atodiad 4: Strwythur Tîm Diogelu’r Coleg a Chysylltiadau

Mae sawl ffordd i chi rhoi gwybod am bryderon diogelu:

1. Sganio’r cod QR a geir mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai.

2. Cyflwyno pryder trwy lenwi’r ffurflen hon

3. Ffonio 01656 302 302 estyniad 488

4. Llenwi ffurflen ddatgelu sydd ar gael drwy’r ‘Launcher’ ar Happeo.

5. Wyneb yn wyneb. Gallwch adnabod pobl sydd wedi’u hyfforddi i ddelio â phryderon diogelu yn hawdd gan eu bod yn gwisgo laniardau ‘Tîm Lles’ porffor.

Hierarchiaeth y Tîm Diogelu

Person Diogelu Dynodedig (DSP)

Joe Baldwin — Dirprwy Bennaeth – Cenedlaethau’r Dyfodol

E-bost: jbaldwin@bridgend.ac.uk | Ffôn: 01656 302 302 estyniad 575

Dirprwy Berson Diogelu Dynodedig

Sion Whitehouse — Rheolwr Diogelu a Lles

E-bost: wellbeing@bridgend.ac.uk | Ffôn: 01656 302 302 estyniad 487

Uwch Arweinydd Lles a Diogelu

Karen Phillips

E-bost: wellbeing@bridgend.ac.uk | Ffôn: 01656 302 302 estyniad 488

Arweinydd Lles a Diogelu

Atodiad 5: Sicrhau Ymwybyddiaeth

Mae nifer o fesurau yn bodoli i sicrhau bod staff, myfyrwyr, ymwelwyr a rhanddeiliaid eraill yn ymwybodol o’n dyletswyddau a’n disgwyliadau o ran diogelu a Prevent.

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

  • Mae’r Tîm Lles sy’n gyfrifol am ddiogelu yn hawdd i’w hadnabod oherwydd eu cortynnau ‘Tîm Lles’ porffor.
  • Mae pob ymwelydd a chontractwr yn cofrestru wrth y dderbynfa ac yn cael bathodyn adnabod ffotograffig personol i’w wisgo tra’u bod ar safle’r Coleg.
  • Mae pob ymwelydd a chontractwr yn cael llyfryn cyngor diogelu dwyieithog ar ôl mewngofnodi.
  • Cyhoeddir negeseuon adrodd allweddol ar sgriniau electronig ar draws campysau’r Coleg.
  • Modiwl hyfforddi ar-lein ynghylch diogelu i’r staff cyfan.
  • Botwm ‘Rhowch Wybod am Bryder’ ar y ‘Launcher’ ar Happeo.
Poster ddwyieithog Coleg Penybont yn egluro bod Swyddogion Lles yn gwisgo cortyn gwddf porffor. Testun: 'Byddwch yn Ddiogel'.
Dewislen lansio meddalwedd yn dangos bar chwilio a rhestr fertigol o ddolenni i gymwysiadau.

Atodiad 6: Manylion Cyswllt Brys – Gwasanaethau Cymdeithasol

Dylech ond adrodd am bryder diogelu os na allwch siarad â Thîm Lles, Rheolwr Diogelu a Lles Dynodedig neu Uwch Berson Dynodedig y Coleg. Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan ddefnyddio rhif di-argyfwng yr heddlu, 101.

Os ydych yn gwneud atgyfeiriad yn ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, bydd rhaid i chi gysylltu ag adran briodol Cyngor yr ardal y mae’r unigolyn yn byw ynddi.

Mewn argyfwng, deialwch (9)999 os ydych chi’n defnyddio ffôn Coleg, neu 999 fel arall.

Uned Diogelu’r Cyhoedd Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr

Gorsaf Heddlu Llangrallo
Pen-y-bont ar Ogwr
01656 651 660

Gwasanaethau Plant Amddiffyn Oedolion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Gwasanaethau Plant

Tîm Derbyn ac Asesu: 01656 642320 (24 awr)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Tîm Asesu Cydlynydd Amddiffyn Oedolion
Ffôn: 01656 642479
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Bwrdd Diogelu Plant

Tîm Cyswllt ac Atgyfeirio: 0808 100 1727
Tîm Dyletswydd Brys De Ddwyrain Cymru ar ôl Oriau Gwaith
Ffôn: 0808 328 4432
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwasanaethau Oedolion
Ffôn: 0808 100 2500 neu 01443 873635 (Rheolwr)
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith:
Ffôn: 0808 328 4432
Cyngor Caerdydd
Tîm Gwasanaethau Plant: 02920 536 400
Tîm Dyletswydd Brys Ar Ôl Oriau Gwaith: 02920 448 360
Cyngor Caerdydd
Tîm Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed: 02920 536436
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 02920 788 570
Cyngor Abertawe
Tîm Mynediad ac Asesu Cychwynnol: 01792 635700
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01792 775 501
Cyngor Abertawe
Tîm Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed: 01792 636 854
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01792 775 501
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
ITîm Derbyn ac Asesu
Swyddog Dyletswydd: 01685 724 525
îm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01443 849944
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Tîm Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed
Ffôn: 01685 724 507 / 725000 / 724594 (Rheolwr)
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01443 849944
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Tîm Derbyn ac Asesu Swyddog Dyletswydd: 01639 685717
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01639 895 455
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Tîm Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed
Ffôn: 01639 763 009
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01639 895 455
Cyngor Dinas Casnewydd
Canolfan Gyswllt: 01633 656 656
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 0800 328 4432
Cyngor Dinas Casnewydd
Canolfan Gyswllt: 01633 656 656
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 0800 328 4432
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tîm Dyletswydd Gwaith Cymdeithasol: 01443 486731
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01443 849 944
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cydlynydd Amddiffyn Oedolion: 01443 427755
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 01443 849 944
Bro Morgannwg
Tîm Derbyn ac Asesu: 01446 725206
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 02920 448 36
Bro Morgannwg
Cydlynydd Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed:
Ffôn: 01446 704 740
Tîm Dyletswydd Brys ar ôl Oriau Gwaith: 02920 448 360

Atodiad 7: Gweithio, Dysgu ac Addysgu o Bell / Ar-lein

Gwyddom fod cysylltedd ar-lein ac o bell yn hanfodol er mwyn bod yn sefydliad ymatebol ac ystwyth. Mae gennym gyfrifoldeb dros sicrhau bod pob aelod staff a dysgwr yn gallu cyrchu a defnyddio cyfleoedd ar-lein yn ddiogel.

Bwriad y paramedrau a’r canllawiau a amlinellir yw sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar offer digidol a chyfleusterau ar-lein, er mwyn gwella gweithio, ymgysylltiad a chysylltedd.

Galwadau a Chynadleddau Fideo Byw

  • Sicrhewch fod eich man gweithio yn glir ac wedi’i oleuo’n dda, a gwiriwch eich cwmpasoedd / cefndir
  • Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad priodol
  • Sicrhewch fod pobl eraill yn eich lleoliad neu’ch cartref yn ymwybodol eich bod ar fideo
  • Peidiwch â recordio neu dynnu llun o sesiwn heb ymwybyddiaeth a chaniatâd pawb sy’n rhan o’r sesiwn neu’r alwad
  • Peidiwch â rhannu unrhyw recordiau, lluniau neu sgrinluniau heb ganiatâd pawb sy’n cymryd rhan. Bydd methu â gwneud hyn yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â phreifatrwydd â chydsyniad personol
  • Ystyriwch a fyddai’r opsiwn ‘sain yn unig’ yn bodloni gofynion y cyfathrebiad, ac os felly, gall cyfranogwyr anablu’r swyddogaeth fideo.

Os oes pryder gennych ynghylch unrhyw weithred neu ddigwyddiad yn ystod galwad, dylech ei derfynu ac adrodd y ffeithiau i aelod o’r tîm diogelu ar unwaith (tudalen 16 o bolisi Diogelu Coleg Penybont).

Platfformau Ar-lein

Ni ddylai staff ond gyfathrebu â dysgwyr dros lwyfannau y’u cymeradwywyd gan y Coleg, ac at ddibenion swyddogol y Coleg yn unig.

Rhaid i staff beidio â defnyddio cyfrifon personol i gysylltu neu gyfathrebu â dysgwyr (gweler adran 5 ym mholisi Diogelu Coleg Penybont).

Ni ddylid defnyddio llwyfannau megis (er nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr) WhatsApp, FaceTime, Houseparty, Facebook, Facebook Messenger, Instagram, TikTok na Snapchat i gyfathrebu neu gysylltu â dysgwyr.

Pam?

  • Cynnal ffiniau proffesiynol a lleihau unrhyw berygl anfwriadol
  • Ni chaiff llwyfannau eraill eu monitro gan feddalwedd diogelwch ar-lein y Coleg. Mae amgylchedd Google Workspace y Coleg yn cael ei fonitro, a hefyd yn defnyddio Google Vault i gadw copi wrth gefn o’r hanes
  • Ni ellir rheoli telerau defnyddwyr sy’n gysylltiedig â hawliau a defnydd data fel trwyddedau personol a menter/busnes, ac mae telerau neu ddefnydd yn wahanol
  • Nid yw llwyfannau am ddim megis YouTube a Facebook Live yn galluogi defnyddwyr i gyfyngu cynulleidfaoedd.

Cyfarfodydd Staff / Dysgwyr Ar-lein

Dylid osgoi cyfarfodydd 1:1 ar-lein rhwng aelod staff a dysgwr. Os yw amgylchiadau’n golygu y byddai hyn yn heriol (e.e. asesiad), dylai ail aelod staff fod yn bresennol ar yr alwad, neu yn ddelfrydol, dylid recordio’r cyfarfod trwy ddefnyddio’r opsiwn ar Google Meet. Dylid gofyn am ganiatâd y dysgwr cyn recordio.

Ystyriwch a oes angen defnyddio fideo ar gyfer y cyfathrebiad – a fyddai’r opsiwn ‘sain yn unig’ yn bodloni gofynion y cyfathrebiad?

Cysylltu â Dysgwyr yn y Cartref / o Bell

Gellir cysylltu â dysgwyr trwy ddefnyddio’r dulliau canlynol, ac ni ddylai staff ond ddefnyddio ei gyfrif Coleg Penybont;

  • Google Hangouts / Google Meet / Spaces
  • Google Classroom
  • E-bost (o gyfrif bridgend.ac.uk)
  • SMS trwy MiHub
  • Swyddogaethau eILP a sylwadau trwy MiHub
  • Dros y ffôn, dim ond trwy’r feddalwedd Mitel tra’n fewngofnodedig o bell, neu o ffôn symudol y Coleg.

Bwlio ac Aflonyddu Ar-lein

Gweler adran 8 ym mholisi Diogelu Coleg Penybont.

Bwlio ac Aflonyddu Ar-lein

NSPCC: Undertaking remote working safely

NSPCC: eSafety (including livestreaming and social media)

NSPCC: Internet Connected Devices (e.g Google Home or Amazon Alexa)

Atodiad 8: Gweithdrefnau Diogelu a Lles Coleg Penybont

Mae’r rhestr o ddolenni isod yn arwain at nifer o weithdrefnau’r Coleg sy’n gysylltiedig â phynciau diogelu a lles penodol.

Ysbyteiddio Myfyrwyr

Hunan-niweidio (myfyrwyr)

Camddefnyddio Sylweddau

Marwolaeth Sydyn Person (gan gynnwys hunanladdiad)

Rheoli Digwyddiadau Hiliol

Managing Dangerous Item Incidents on Campus

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi / Gweithdrefn Diogelu Pobl Ifanc ac Oedolion sy’n Agored i Niwed
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Joe Baldwin
Nod(au) a Phwrpas y PolisiSicrhau bod y Coleg yn bodloni ei ddyletswydd gyfreithiol o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔Mae’r polisi’n ceisio amddiffyn a diogelu pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed, gan roi eu barn a’u profiadau wrth wraidd gwneud penderfyniadau a diogelwch.
Anabledd✔Mae’r polisi’n ceisio amddiffyn a diogelu pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed, gan roi eu barn a’u profiadau wrth wraidd gwneud penderfyniadau a diogelwch.
Ailbennu rhywedd✔
Priodas a phartneriaeth sifil✔
Beichiogrwydd a mamolaeth✔
Hil✔
Crefydd neu gred✔
Rhywedd✔
Cyfeiriadedd rhywiol✔

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 02.10.24
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: J.Baldwin

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi / Gweithdrefn Diogelu Pobl Ifanc ac Oedolion sy’n Agored i Niwed
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Joe Baldwin
Nod(au) a Phwrpas y PolisiSicrhau bod y Coleg yn bodloni ei ddyletswydd gyfreithiol o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔

Safonau’r Gymraeg

RhifTypeSafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau Llunio PolisiPan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn
bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol)
y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydErbyn Pryd Mesur Llwyddiant (sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)
Sicrhau bod copïau Cymraeg a Saesneg o’r ddogfen ar gael i’w defnyddio a’u hadolygu ar y lansiwr a bod modd codi pryderon a delio â nhw yn y GymraegAdeg cyhoeddiMae copïau Cymraeg a Saesneg o’r ddogfen ar gael i’w defnyddio a’u hadolygu ar y lansiwr
Ni fydd unrhyw oedi i unrhyw siaradwr Cymraeg allu cael mynediad at y polisi / gweithdrefn yn y Gymraeg.

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 02.10.24

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch