Datganiad Polisi Cynaliadwyedd

Cod Dogfen SPS 01

Adran:Cynaliadwyedd

Awdur y Ddogfen: Chris Long

Teitl Swydd: Pennaeth Cynaliadwyedd

Dyddiad Cymeradwyo:

Dyddiad Adolygu: 5 Medi 2027

Fersiwn: 17

Mae gan Grwp Goleg Penybont dros 7,500 o ddysgwyr ac mae’n cyflogi tua 730 aelod staff. Rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau, o lefel Mynediad hyd at lefel Gradd mewn dros 20 o feysydd galwedigaethol. Rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr a busnesau gan gynnig cefnogaeth arbenigol, prentisiaethau a phrentisiaethau uwch i gefnogi datblygiad gweithlu proffesiynol a medrus. Yn ogystal, mae Coleg Bevan yn darparu lleoliadau dydd a phreswyl o ansawdd uchel i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, fel sefydliad ôl-16 arbenigol annibynnol.

Gydag uchelgais o fod yn sefydliad eithriadol, mae Grwp Coleg Penybont yn cydnabod ac yn derbyn bod pryderi am y byd naturiol, addysg am gynaliadwyedd, iechyd, lles, a diogelwch ei staff, myfyrwyr, contractwyr, ymwelwyr ac aelodau’r gymuned leol a byd-eang yn rhan annatod a sylfaenol o strategaeth y Coleg ar gyfer llwyddiant. Byddwn yn ysbrydoli pobl, yn dathlu ac yn rhannu llwyddiant ac yn hyrwyddo’r rôl hollbwysig sydd gan addysg wrth gyflawni’r Nodau Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) a’r gwerth y mae’n ei roi i’n dysgwyr a’n staff. , busnesau a’r gymdeithas ehangach. Fel cyflogwr a darparwr addysgol mawr, rydym yn cydnabod ein bod ni’n galluogi newidiadau cadarnhaol a bod gan ein penderfyniadau effaith yn bell y tu hwnt i derfyn y Coleg, yn y presennol ac yn y dyfodol.

Mae Coleg Penybont yn llwyr ymrwymedig i addysg am gynaliadwyedd, diogelu iechyd a lles pobl, ei ystâd, y byd naturiol, ac atal llygredd yn ei holl ffurfiau, a byddwn yn gwella’r system rheoli cynaliadwyedd yn barhaus er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn. Mae gan yr ymrwymiad hwn gefnogaeth lawn y Corff Llywodraethol, yr Uwch Dîm Arwain, a’r Pennaeth, sydd yn y pen draw yn gyfrifol am ei weithredu a sicrhau ei fod yn brif bryder i’r aelodau staff a’r myfyrwyr i gyd.

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wneud datblygu cynaliadwy (iechyd, addysg, lles, diogelwch a’r byd naturiol) yn un o’r egwyddorion trefniadol craidd y gwneir penderfyniadau a pholisïau yn eu herbyn. Yn 2018, ni oedd y coleg cyntaf yng Nghymru i arwyddo Cytundeb Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig (CU), gan ymrwymo i adroddiadau gorfodol ar lefel rhyngwladol. Ar ben hynny, yn 2019, ni oedd y coleg cyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae ein heffeithiau sylweddol yn cynnwys darparu cwricwlwm, defnyddio trydan a nwy, defnyddio cludiant, gwastraff sy’n mynd i safle tirlenwi, defnyddio dŵr, caffael nwyddau a gwasanaethau, isadeiledd, defnyddio tir, a bioamrywiaeth. Byddwn yn nodi bygythiadau o’n gweithgareddau a naill ai yn eu gwaredu neu’n eu rheoli’n effeithiol ac, ar y lleiaf, byddwn yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eraill, a byddwn yn cydweithredu’n llawn gyda’r awdurdodau perthnasol i gyd. Wrth symud ymlaen, byddwn yn:

  • Dangos arweinyddiaeth eithriadol a datblygu arweinwyr eithriadol ar draws y sefydliad i’n helpu ni gyflawni ein hamcanion addysgol, iechyd, lles, diogelwch, cynaliadwyedd a byd natur.
  • Sicrhau bod ein penderfyniadau yn ystyried costau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel rhan o feddylfryd twf.
  • Gweithio’n ddiflino i leihau allyriadau carbon trwy ein Strategaeth Sero erbyn 2030 (cwmpasau 1 a 2) a 2035 (cwmpas 3)
  • Adrodd ar ein hallyriadau carbon yn flynyddol, gan gynnwys fel rhan o gynllun adrodd carbon Llywodraeth Cymru
  • Adrodd effeithiau ein huchelgeisiau i fod yn sefydliad eithriadol i’r CU fel rhan o’r Cytundeb SDG.
  • Sicrhau y dosrennir, derbynnir a chyflawnir cyfrifoldebau dros sicrhau diogelwch, lles, iechyd a chynaliadwyedd o’r radd flaenaf yn y coleg.
  • Gosod targedau penodol a monitro cynnydd o fewn ein Strategaeth Datblygu Cynaliadwy a sero net erbyn 2030
  • Parhau i wreiddio a datblygu addysg ar gyfer cynaliadwyedd ar draws y sefydliad a sicrhau bod pob aelod o staff a dysgwr, ar bob lefel, yn cael eu cefnogi i’n helpu ni i gyd i gyflawni ein nodau a’n huchelgeisiau ar y cyd, gan gynnwys trwy Sgiliau ar gyfer Llwyddiant, Llais y Dysgwr a Strategaeth Cwricwlwm Dyfodol Cynaliadwy
  • Sicrhau ein bod ni’n dangos gonestrwydd ac eglurder mewn adroddiadau i’r cyhoedd.
  • Asesu effeithiau Deallusrwydd Artiffisial a chynaliadwyedd yn barhaus

Bydd y datganiad polisi hwn yn cael ei ddwyn i sylw pob aelod o staff a myfyriwr trwy fewnrwyd a gwefan a bydd copïau ar gael am ddim i’r cyhoedd, cyflenwyr, contractwyr ac awdurdodau rheoleiddio. Bydd y ddogfen hon yn cael ei hadolygu, o leiaf, yn flynyddol.

Viv Buckley

Dyddiad: 05/09/2025

(Pennaeth a Phrif Weithredwr)
On behalf of the Senior Management Team

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch