Cyllid a Buddsoddi Moesegol

Adran: Cynaliadwyedd
Awdur y Ddogfen: Chris Long
Teitl Swydd: Rheolwr Cynaliadwyedd
Dyddiad Cymeradwyo: 09/10/2025
Dyddiad Adolygu: 09/10/2028

Pwrpas ac Amcanion:

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn bobl-ganolog, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod popeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dewisiadau a chynigion cwrs er budd addysgol gorau dysgwr unigol, gan eu galluogi i gyflawni a gwneud cynnydd (o ran sgiliau personol ond hefyd datblygiad cymdeithasol ac academaidd).

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais neu’n cofrestru ar raglen ddysgu, beth bynnag fo’r modd neu’r lleoliad astudio.

1. Pwrpas ac Amcanion:

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymuno â sefydliadau ledled y byd i ddatgan yn gyhoeddus argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Rydym wedi llofnodi’r Cytundeb Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs), wedi sicrhau bod ein targed carbon sero ar gael i’r cyhoedd ac wedi cwblhau, ac yn parhau i ddatblygu, ein strategaeth cynaliadwyedd. Ymhellach, rydym wedi mabwysiadu’r Nodau Llesiant a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gyda’i gilydd, mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a’r nodau llesiant yn gweithredu fel y glasbrint i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Maent yn mynd i’r afael â’r heriau byd-eang sy’n ein hwynebu, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â thlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, diraddio amgylcheddol, heddwch a chyfiawnder’’. Mae cynaliadwyedd yn ganolog i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’r polisi hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol yn gyfrifol, gydag uniondeb, didwylledd a thryloywder.

1.1 Pwrpas y ddogfen hon yw sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i faterion llywodraethu cymdeithasol, amgylcheddol a chorfforaethol ynghylch unrhyw fuddsoddiadau ariannol a phenderfyniadau y gallwn eu gwneud.

1.2 Nod y ddogfen hon yw lleihau’r effeithiau negyddol sy’n codi o ganlyniad i’n penderfyniadau prynu neu ariannu, a chael gwared â nhw yn gyfan gwbl os oes modd gwneud hynny. Ar ben hynny, byddwn yn ymdrechu i wella effeithiau positif ar faterion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a llywodraethu corfforaethol pan fydd y cyfle i wneud hynny yn codi.

2. Manylion y Ddogfen:

Wrth wneud penderfyniadau am gyllid a buddsoddi, byddwn yn cymryd camau rhesymol i nodi a gweithredu ynghylch y canlynol, lle bo modd:

  1. Gwahardd caffael nwyddau a gwasanaethau oddi wrth fusnesau sy’n ymwneud â dosbarthu cynhyrchion tybaco
  2. Gwahardd caffael nwyddau a gwasanaethau oddi wrth fusnesau sy’n ymwneud â chynhyrchu arfau a systemau arfau, gan gynnwys bomiau cawod a ffrwydron tir gwrth-bersonél
  3. Gwahardd caffael nwyddau a gwasanaethau oddi wrth fusnesau sydd wedi cyflawni troseddau hawliau dynol, gan gynnwys masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, neu os oes tystiolaeth fod y busnes yn cyfrannu at sefydliadoli tlodi trwy arferion masnachu gwahaniaethol, neu wahaniaethu ar sail hil neu ryw.
  4. Gwahardd defnyddio cwmnïau sy’n profi ar anifeiliaid at ddibenion cosmetig yn unig.
  5. Gwahardd caffael nwyddau neu wasanaethau gan sefydliadau a gafwyd yn euog o, neu sy’n ymwneud â, difrod amgylcheddol amlwg.

Yn benodol, byddwn yn:

  1. Hyrwyddo hawliau dynol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gydraddoldeb o ran rhyw, hil a rhywioldeb, gan gynnwys fel rhan o gyfleoedd dysgu ac addysgu.
  2. Hyrwyddo moeseg busnes dda ac arferion cyflogi da, gan gynnwys fel rhan o gyfleoedd dysgu ac addysgu.
  3. Diogelu’r amgylchedd lleol a byd-eang, ei hinsawdd a’i fioamrywiaeth, gan gynnwys fel rhan o gyfleoedd addysgu a dysgu a chyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn y strategaeth datblygu cynaliadwy.
  4. arparu a chaffael adnoddau a gwasanaethau mewn modd cynaliadwy.
  5. Ymgymryd â moeseg busnes da ac arferion cyflogaeth da.
  6. Ymgymryd â buddsoddi cymunedol a chaffael adnoddau a gwasanaethau lleol lle bo modd gwneud hynny.
  7. Cynnal cyflenwad trydanol sydd yn 100% adnewyddadwy.
  8. Buddsoddi mewn systemau gwresogi nad ydynt yn defnyddio tanwyddau ffosil, fel rhan o’r strategaeth hinsawdd.
  9. Annog unrhyw un sy’n dymuno herio ein harferion o ran buddsoddi moesegol i leisio eu pryderon.
  10. Gweithio gyda sefydliadau moesegol a rhannu arferion da.

3. Cyfrifoldebau:

3.1 Mae’r Uwch Dîm Arwain yn gyfrifol am gymeradwyo’r ddogfen hon ac am dynnu sylw Grŵp Gweithredu’r Coleg ati.

3.2 Mae Pennaeth Cynaliadwyedd yn gyfrifol am gynnal y ddogfen hon a datblygu’r weithdrefn gaffael gynaliadwy ac anghenion hyfforddi ar y cyd â Phennaeth Cyllid a’r Swyddog Caffael.

3.3 Mae’r Rheolwr Marchnata yn gyfrifol am sicrhau bod y prif bwyntiau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Coleg.

4. Dogfennau Cysylltiedig:

SPS01 Datganiad Polisi Cynaliadwyedd

Gweithdrefnau Ariannol

Gweithdrefn Caffaeliad Cynaliadwy

5. Adolygu’r ddogfen:

Bydd y ddogfen hon yn cael ei hadolygu o leiaf unwaith bob dwy flynedd, neu ar ôl unrhyw newidiadau sylweddol iddi.

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi AtebGwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Y
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Y
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.N/A
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?Y
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.N
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.N
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.N
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.N
Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi?Y
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?
Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd:

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi / GweithdrefnBuddsoddiad Moesegol a Chyllid
Perchennog y Polisi
(i lenwi’r asesiad effaith hwn)
Chris Long
Nod(au) a Phwrpas y PolisiSicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i faterion llywodraethu cymdeithasol, amgylcheddol a chorfforaethol ynghylch unrhyw fuddsoddiadau ariannol a phenderfyniadau y gallwn eu gwneud.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔Mae’r polisi hwn o reidrwydd yn cwmpasu’r materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a llywodraethu corfforaethol eang sy’n ymwneud ag effeithiau gweithgareddau ariannol yn ei holl ffurfiau. Er ei bod yn bosibl nad oes gan effeithiau gwariant gysylltiadau uniongyrchol a chlir â nodwedd gydraddoldeb benodol, mae myrdd o ganlyniadau anuniongyrchol ac anfwriadol yn gysylltiedig â phob penderfyniad ariannol. Er bod y polisi hwn wedi’i ysgrifennu’n syml, mae ganddo effeithiau pellgyrhaeddol.
Anabledd✔As above
Ailbennu rhywedd✔As above
Priodas a phartneriaeth sifil✔As above
Beichiogrwydd a mamolaeth✔As above
Hil✔As above
Crefydd neu gred✔As above
Rhywedd✔As above
Cyfeiriadedd rhywiol✔As above

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 09/10/2025
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: Chris Long

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi / GweithdrefnBuddsoddiad Moesegol a Chyllid
Perchennog y Polisi
(i lenwi’r asesiad effaith hwn)
Chris Long
Nod(au) a Phwrpas y PolisiSicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i faterion llywodraethu cymdeithasol, amgylcheddol a chorfforaethol ynghylch unrhyw fuddsoddiadau ariannol a phenderfyniadau y gallwn eu gwneud.
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd✔

Safonau’r Gymraeg

RhifMathSafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau Llunio PolisiPan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydMesur Llwyddiant
(sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)
Fersiwn Gymraeg gyflawnChris LongAr unwaithFersiwn Gymraeg wedi’i chwblhau

Dyddiad cwblhau’r asesiad: 09/10/2025

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch