Cod Dinasyddiaeth yn cynnwys Disgyblaeth Myfyrwyr

Adran: Taith y Dysgwr
Awdur y Ddogfen: Joe Baldwin
Teitl Swydd: Dirprwy Bennaeth
Dyddiad Cymeradwyo: Awst 2026
Dyddiad Adolygu: Awst 2029
Fersiwn: 6

Rhestr Wirio’r Polisi:

Gofynion ar gyfer Llunio’r Polisi AtebGwybodaeth ategol
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Ydy
Ydy’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau? Gweler y ffurflen isod.Ydy
Ydy Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei ystyried ynghylch y polisi hwn? Os ydyw, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data.Nac ydy
Ydy’r adolygiad wedi cymryd y canllawiau / deddfwriaeth ddiweddaraf i ystyriaeth?Ydy
Oes angen cyngor cyfreithiol? Os oes, sicrhewch eich bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau’r cyngor cyfreithiol priodol cyn parhau.Nac oes
Oes angen hyfforddi staff? Os oes, sicrhewch fod yr hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei drefnu drwy’r Cynghorydd Dysgu a Datblygu.OesSesiynau briffio staff ac e-fodiwl ar y system ‘Dysgu’
Oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol sydd angen eu hystyried? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr AD i drafod hyn ymhellach.Nac oes
Oes unrhyw faterion ariannol cysylltiedig? Os oes, cysylltwch â’r Rheolwr Cyllid i drafod hyn ymhellach.Nac oes
Ydy’r Datganiad Cenhadaeth wedi cael ei ychwanegu at ddechrau’r polisi?Ydy
Defnydd yr Uwch Dîm Arwain yn unig:
Ydy hwn yn bolisi newydd?
Os ydy, mae angen i’r Uwch Dîm Arwain lenwi’r Rhestr Wirio Dirprwyo Cymeradwyaeth ar gyfer Polisïau’r Coleg adeg y cymeradwyir y polisi.
Nac ydy
Lefel y gymeradwyaeth a roddwyd: Uwch Dîm Arwain

1. Datganiad Polisi

Mae ein cenhadaeth yn un syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod.

Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.

Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.

Rydyn ni am i Goleg Penybont fod yn lle noddfa, gan feithrin ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae trawma yn ei gael ar fywydau unigolion ac yn deall bod agwedd dosturiol a chydymdeimladol yn hanfodol i gefnogi ein myfyrwyr a’n staff ar eu teithiau academaidd a phersonol. Byddwn yn gwneud hyn drwy fod yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalgar wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Ein bwriad yw bod yn goleg gwrth-hiliol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn barchus a lle mae hyn yn treiddio trwy bopeth a wnawn. Rydyn ni am ddatblygu diwylliant lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gydag ymddiriedaeth a gonestrwydd – man dysgu agweithio lle mae pobl yn ffynnu.

Fel sefydliad addysg, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwyddom nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn, ond rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu ac addysgu ein hunain ar ein taith i fod yn sefydliad eithriadol.

2. Pwrpas ac Amcanion

Rydym yn gwbl ymrwymedig i les myfyrwyr, staff, ymwelwyr, a rhanddeiliaid eraill. Mae’r Coleg yn hyrwyddo lles cadarnhaol yr holl staff a myfyrwyr yn weithredol, gan gynnwys oedolion sy’n agored i niwed a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac mae’n disgwyl i’r holl aelodau staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid, gan gynnwys cyflogwyr cysylltiedig a darparwyr lleoliadau gwaith, gefnogi ac arddangos yr ymrwymiad hwn ar bob adeg.

  • Bod yn Barod
  • Bod yn Barchus
  • Bod yn Ddiogel

Mae’r disgwyliadau ymddygiad hyn yn cefnogi’r cyfrifoldebau sefydliadol sydd gennym o dan y Ddyletswydd Prevent er mwyn hyrwyddo pum Gwerth Prydain:

  1. Democratiaeth
  2. Rheol y gyfraith
  3. Rhyddid personol
  4. Cyd-barch
  5. Goddefgarwch

Mae’r Cod Dinasyddiaeth hwn, sy’n ymgorffori ein hagwedd tuag at ddisgyblu myfyrwyr, yn nodi’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan bob myfyriwr sy’n dewis cofrestru yng Ngholeg Penybont neu unrhyw un o’i is-gwmnïau cysylltiedig neu sefydliadau partner.

Pan amheuir camymddygiad academaidd gan fyfyriwr addysg uwch, bydd y polisi perthnasol yn cael ei gymhwyso a’i gynnal. Pan roddir a chadarnheir unrhyw sancsiwn yn erbyn prentis Coleg Penybont, byddwn yn rhoi gwybod i gyflogwr y prentis. Pan fydd materion disgyblu yn ymwneud â myfyriwr sydd wedi cofrestru ar lwybr cyn-16 (e.e. Prentisiaethau Iau, Uned Cyfeirio Disgyblion, ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol), gall bolisi’r ysgol neu’r Awdurdod Lleol perthnasol ddisodli’r polisi hwn.

3. Manylion y Polisi

Nod y polisi hwn yw sicrhau ymagwedd ragweithiol a chadarnhaol tuag at y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r naw nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf, a’n dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth allweddol eraill gan gynnwys; Gweithdrefnau Diogelu Cymru, Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chanllawiau Dyletswydd Prevent ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru a Lloegr

Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar bob un o safleoedd y coleg ac i bob gweithgaredd sy’n gysylltiedig â’r coleg, ar neu oddi ar y safle, megis cludiant i’r Coleg ac adref a drefnir gan y coleg, ymweliadau, teithiau astudio, a phreswylfeydd (yn y DU neu dramor).

Mae’r polisi hwn yn cydnabod, os ymddengys bod presenoldeb, perfformiad, neu ymddygiad myfyriwr yn arwydd o broblem iechyd meddwl, anghenion dysgu ychwanegol, salwch neu anaf, efallai y byddai’n fwy priodol dilyn y gweithdrefnau a nodir yng ngweithdrefn ‘Parod i Ddysgu’ y Coleg.

Mae’r polisi hwn yn cynnwys ein disgwyliadau o ran presenoldeb ac ymddygiad myfyrwyr.

4. Cyfrinachedd

Nid yw’r ddyletswydd cyfrinachedd yn absoliwt, a gellir ei dorri os yw hynny er lles y myfyriwr neu’r cyhoedd ehangach. Os yw gweithwyr proffesiynol o’r farn bod angen datgelu gwybodaeth er mwyn amddiffyn myfyriwr neu eraill rhag perygl difrifol o niwed, efallai y torrir cyfrinachedd.

Rhaid i staff beidio â datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â myfyrwyr, eu lles, neu eu gwybodaeth bersonol heb ganiatâd penodol i wneud hynny gan yr Uwch Berson Dynodedig (DSP) neu’r Rheolwr Diogelu a Lles Dynodedig. Mae’r amod hwn yn cynnwys sefyllfaoedd lle bydd aelod staff yn derbyn cais am wybodaeth gan riant, gwarcheidwad, neu o’r heddlu. Mae’n rhaid i’r heddlu ddarparu Ffurflen Gais am Ddata Personol i’r coleg sydd wedi’i llenwi gan Dditectif Arolygydd.

Mae amserlenni cadw data a pholisïau data sy’n ymwneud â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ar gael ar wefan y coleg, a gellir gwneud cais amdanynt yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data’r Coleg.

5. Radicaleiddio ac Eithafiaeth

Mae’r coleg yn ceisio amddiffyn ei fyfyrwyr rhag negeseuon eithafiaeth dreisgar, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y rheini sy’n gysylltiedig ag ideoleg Islamaidd, mudiadau’r dde eithafol, mudiadau hawliau anifeiliaid eithafol, a therfysgaeth hunangychwynedig (‘self-initiated terrorism’, S-IT).

Bydd unrhyw ymddygiadau a gweithredoedd a ystyrir eu bod yn eithafol neu’n radicalaidd eu natur yn cael eu trin yn unol â pholisi diogelu’r coleg, sydd ar gael ar wefan y Coleg.

Bydd y Coleg yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel y’u hamlinellir yng nghanllawiau Dyletswydd Prevent ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys asesiad deinamig o risgiau ‘Prevent’, yn seiliedig ar fygythiadau lleol a chenedlaethol.

6. Bwlio ac Aflonyddu

Diffinnir bwlio fel camddefnydd bwriadol o bŵer neu ddylanwad a gall gymryd sawl ffurf. Lle nad y bwriad o bosibl yw achosi niwed yn fwriadol, gellir o hyd ei ystyried yn fwlio os yw’r dioddefwr yn ei weld fel hynny. Mae bwlio yn cynnwys gweithredoedd corfforol, geiriol, emosiynol, rhywiol, homoffobig, hiliol, ar-lein, troseddau casineb, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion neu weithredoedd sy’n seiliedig ar grefydd.

Mae siart llif ar gyfer rheoli digwyddiadau o’r fath i’w gweld yn atodiad 3 yn y polisi hwn.

7. Achosion y Tu Allan i’r Coleg

Pan fydd digwyddiadau neu achosion yn digwydd y tu allan i’r coleg (naill ai oddi ar y campws neu y tu allan i oriau agor y coleg) sy’n dwyn anfri ar enw da’r Coleg, byddwn yn gweithredu yn unol â’r polisi hwn.

8. Ffonau Symudol

Mae adegau pan nad yw defnyddio ffôn symudol mewn amgylcheddau dysgu yn cael ei ganiatáu. Gallai hyn fod am resymau diogelwch (er enghraifft, mewn gweithdy neu wrth gynnal gweithgareddau ymarferol).

Disgwylir i bob myfyriwr ddefnyddio ffonau symudol mewn ffordd ddiogel a pharchus a rhaid iddynt beidio â ffilmio na recordio pobl eraill heb eu gwybodaeth a’u caniatâd. Ystyrir bod defnyddio neu addasu unrhyw ddeunydd o’r fath wedi’i recordio yn weithred bosibl o fwlio neu aflonyddu a bydd yn cael ei reoli o dan y Cod Dinasyddiaeth.

Gall defnyddio ffonau symudol amharu ar ddysgu a phrofiadau pobl eraill ac yn aml arwain at golli amser dysgu gwerthfawr. Dim ond mewn sesiynau gyda chyfarwyddiadau penodol gan aelod o staff y dylid defnyddio ffonau. Ni chaniateir eu defnyddio heb y cyfarwyddyd penodol hwn.

Os bydd aelod o staff yn dweud wrth fyfyriwr am beidio â defnyddio ffôn symudol, disgwylir i’r myfyriwr wneud hynny. Os nad yw myfyriwr yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn, mae hyn yn enghraifft o beidio â bod yn barchus a bydd yn arwain at weithredu’r Cod Dinasyddiaeth.

Yn ystod gweithgareddau dysgu, gall aelod o staff ddefnyddio’r logo ‘Ardal Dim Ffonau’. Mae hyn yn golygu na chaniateir defnyddio ffonau am hyd y gweithgaredd a rhaid i roi ffonau i ffwrdd yn ddiogel, allan o’r golwg. Gall bwriad hyn fod i gefnogi dysgu annibynnol, i gynnal asesiadau ffug neu asesiadau dan reolaeth neu i wella profiad pob myfyriwr yn y sesiwn.

Mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae myfyriwr yn disgwyl cyfathrebu oherwydd argyfwng neu amgylchiad esgusodol, disgwylir i’r myfyriwr roi gwybod i’r staff perthnasol yn ystod y sesiwn, fel y gall staff gefnogi a rheoli hyn yn briodol.

Blue and red sign with a phone inside a prohibition circle. Text: 'ARDAL DIM FFONAU' and 'NO PHONE ZONE'.

9. Cytundeb Dysgu Cod Dinasyddiaeth

Byddwch yn Bopeth y Gallwch Fod trwy fod yn Barod, yn Barchus ac yn Ddiogel

Parod

  • Byddwch yn brydlon
  • Cymerwch ran ym mhob gweithgaredd dysgu a chyfoethogi a amserlennir ac a drefnir
  • Dewch â’r offer a’r Cyfarpar Diogelwch Personol angenrheidiol gyda chi
  • Rhowch wybod i’r Coleg am unrhyw absenoldebau trwy anfon e-bost at absennol@bridgend.ac.uk 

Parchus

  • Parchwch fyfyrwyr eraill, staff, ac ymwelwyr
  • Parchwch eich amgylcheddau dysgu
  • Parchwch bobl eraill, beth bynnag eu rhywedd, rhywioldeb, anabledd, oedran, crefydd, credoau neu hil
  • Ysmygwch neu defnyddiwch e-sigaréts yn y mannau dynodedig yn unig, y tu allan i adeiladau’r Coleg ac i ffwrdd ohonynt
  • Parchwch y rheol ‘Dim Ffonau’ yn ystod gweithgareddau dysgu a dilynwch gyfarwyddiadau ynghylch defnyddio ffonau.

Diogel

  • Sicrhewch eich bod yn dangos eich bathodyn adnabod bob amser tra byddwch ar y campws
  • Dilynwch gyfarwyddiadau iechyd, diogelwch a thân wrth ddefnyddio offer ac wrth fynd o amgylch y Coleg
  • Rhowch wybod i aelod o staff neu i’r Tîm Lles am unrhyw bryderon sydd gennych am eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall
  • Dilynwch bolisi Defnydd Derbyniol Rhwydwaith TG y Coleg, gan gynnwys diogelwch ar-lein, defnyddio rhwydweithiau Wi-Fi, a defnyddio cyfryngau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial (AI) (gan gynnwys camgyfleu’r Coleg neu fwlio)

Weithiau, nid yw ymddygiadau yn cydymffurfio â’n Cod Dinasyddiaeth, sef bod yn barod, yn barchus ac yn ddiogel.

Mae enghreifftiau o ymddygiadau a gweithgareddau o’r fath yn cynnwys:

  • Gweithgarwch troseddol a chamddefnyddio sylweddau (lladrad, twyll, difrod troseddol, ymosod, meddu ar neu gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon neu gyffuriau penfeddwol cyfreithlon, a chario arfau ymosodol)
  • Eithafiaeth (naill ai’n dreisgar neu’n ddi-drais), a allai gynnwys terfysgaeth neu weithredoedd sy’n peryglu eraill (o dan y Ddeddf Terfysgaeth 2000)

Ein Disgwyliadau

Cofiwch eich bod yn llysgennad i’r coleg, ac mae hyn yn cynnwys wrth i chi deithio i’r coleg ac adref o’r coleg a phan fyddwch chi allan ar deithiau neu’n gwneud gweithgareddau gyda’r coleg.

Trwy lofnodi ein Cod Dinasyddiaeth, rydych chi’n cadarnhau eich bod yn deall hyn, ac yn cytuno i arddangos yr ymddygiadau hyn bob amser.

10. Cydnabyddiaeth (Nodiadau Cadarnhaol a Gwobrau Myfyrwyr)

Rydyn ni am i fyfyrwyr ffynnu a chyflawni eu potensial o ran dysgu a bywyd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a chyfoethogi rhagorol sy’n gwella profiad ein myfyrwyr ac sy’n darparu llwyfan sy’n eu galluogi i ragori a chyflawni. Gellir dosbarthu Nodiadau Cadarnhaol fel cardiau post corfforol ac fel cofnodion ar y dangosfwrdd staff.

Anogir pob aelod staff i roi nodiadau cadarnhaol pan fydd myfyrwyr yn dangos rhagoriaeth o ran agwedd, allbynnau gwaith neu gyflawniadau dysgu. Mae ein Seremoni Gwobrau Myfyrwyr flynyddol hefyd yn rhoi cyfle gwych i gydnabod cyflawniadau eithriadol gan fyfyrwyr.

11. Y Broses Ddisgyblu

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i ofyn am gyfarfodydd a chyfathrebu ysgrifenedig a llafar cysylltiedig drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg heb oedi.

Byddwn bob amser yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau adferol lle bo hynny’n briodol, i gefnogi myfyrio a dysgu.

11.1 Cofnodion Materion

11.1.1 Mae Cofnodion Materion yn ddull y mae staff yn ei ddefnyddio i gofnodi pryderon parhaus sy’n codi gyda myfyriwr y maent yn credu ei bod yn addas eu cofnodi ar y porth myfyrwyr (sy’n cael ei gofnodi trwy’r dangosfwrdd staff).

11.1.2 Gall aelod o staff gofnodi hyd at dri chofnod mater; bydd y trydydd cofnod mater o fewn cyfnod o chwe wythnos yn uwchgyfeirio’r achos at Gam Un gyda thiwtor y myfyriwr neu Hyfforddwr Cynnydd y myfyriwr.

11.1.3 Nid oes hawl i apelio yn erbyn Cofnod Mater.

11.2 Cam Un

Perchennog y broses: Tiwtor neu Hyfforddwr Cynnydd

11.2.1 Pan fydd tri Chofnod Mater ar y porth myfyrwyr, cynhelir cyfarfod Cam Un rhwng y myfyriwr a’r Tiwtor neu’r Hyfforddwr Cynnydd.

11.2.2 Bydd Cynllun Gweithredu yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda chanlyniadau â therfynau amser a gytunir arnynt. Bydd y myfyriwr a’r Tiwtor neu’r Hyfforddwr Cynnydd yn llofnodi hwn, a bydd copi ohono’n cael ei storio ar y porth myfyrwyr.

11.2.3 Anfonir copi o’r Cynllun Gweithredu yn uniongyrchol at y myfyriwr a’r Tiwtor neu’r Hyfforddwr Cynnydd. Mae Cynllun Gweithredu enghreifftiol i’w weld yn atodiad 2.

11.2.4 Cynhelir cyfarfod adolygu bythefnos ar ôl cyfarfod cychwynnol Cam Un i drafod unrhyw gynnydd a wnaed. Os yw’r materion yn parhau, ewch ymlaen i Gam Dau.

11.2.5 Os yw’r myfyriwr wedi cwblhau’r holl gamau gweithredu sydd yn y Cynllun Gweithredu erbyn y terfynau amser a gytunwyd arnynt, gall Perchennog y Broses isgyfeirio’r myfyriwr o Gam Un ar ddiwedd y tymor.

11.2.6 Nid oes modd gwneud apêl ffurfiol ar y cam yma.

11.3 Cam Dau

Perchennog y broses: Dirprwy Reolwr Cwricwlwm

Gall myfyriwr symud ymlaen i Gam Dau os nad yw’n cadw at y Cynllun Gweithredu o Gam 1 neu os yw’r myfyriwr yn gyson yn torri’r Cod Dinasyddiaeth (Parod, Parchus a Diogel).

11.3.1 Yng Ngham Dau bydd y Dirprwy Reolwr Cwricwlwm yn trefnu cyfweliad gyda’r myfyriwr i asesu/nodi/trafod unrhyw faterion a godwyd yn ystod y broses ddisgyblu hyd yma.

11.3.2 Bydd pob agwedd ar ymddygiad y myfyriwr yn cael ei gymryd i ystyriaeth i lunio cynllun gweithredu manwl o gefnogaeth er mwyn dod â’r myfyriwr yn ôl ar y trywydd iawn i ennill ei gymhwyster. Rhaid i gynllun gweithredu’r myfyriwr gynnwys targedau adeiladol a chadarnhaol er mwyn hyrwyddo cynllun dysgu gweithredol a chyraeddadwy ar gyfer y myfyriwr. Dylid ystyried gwasanaethau cymorth ychwanegol, gan gynnwys y Tîm Lles, y Tîm Cymorth Dysgu Ychwanegol a Hyfforddwyr Cynnydd.

11.3.3 Cofnodir y cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar y porth myfyrwyr ac anfonir copïau at Berchennog y Broses ac at y myfyriwr.

11.3.4 Mewn achosion lle y gellir ei ystyried yn briodol, gall Perchennog y Broses isgyfeirio neu uwchgyfeirio cam y broses ddisgyblu yn unol â’r dystiolaeth a ddarparwyd. Bydd hyn yn cael ei ddogfennu ar y porth myfyrwyr.

11.3.5 Dylid cynnal cyfarfod adolygu cynllun gweithredu rhwng y myfyriwr a’r Dirprwy Reolwr Cwricwlwm bythefnos ar ôl cyfarfod Cam Dau, a dylid cofnodi hwn, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu newydd, ar y porth myfyrwyr. Mae gan y Tiwtor neu’r Hyfforddwr Cynnydd a staff eraill sy’n cyflwyno’r cwricwlwm gyfrifoldeb hefyd i annog y myfyriwr i ymgysylltu â’i gynllun gweithredu.

11.3.6 Lle na chyflawnwyd camau gweithredu neu lle mae ymddygiad yn parhau i ddisgyn yn is na’r disgwyl, dylid nodi ail ddyddiad adolygu ynghyd ag unrhyw ymyriadau neu gymorth ychwanegol sydd eu hangen.

11.3.7 Bydd methu â chyflawni camau gweithredu yn dilyn yr ail gyfarfod adolygu yn arwain at symud ymlaen i Gam Tri o’r broses ddisgyblu.

11.3.8 Os, ar ôl rhoi’r cynllun gweithredu hwn ar waith, bydd y dysgwr yn gysylltiedig â digwyddiadau mwy difrifol a ystyrir yn gamymddwyn/camymddwyn difrifol, dylid uwchgyfeirio hyn yn unol â hynny.

11.3.9 Nid oes modd gwneud apêl ffurfiol ar y cam yma.

11.4 Cam Tri

Perchennog y broses: Rheolwr Cwricwlwm

11.4.1 Os yw presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad dysgwr yn fwy difrifol ei natur, neu os nad yw presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad wedi gwella ar ôl ymyriadau Cam Dau, bydd gofyn i’r myfyriwr fynychu cyfweliad Cam Tri gyda Rheolwr y Cwricwlwm.
Bydd Uwch Weinyddwyr Cwricwlwm yn cynorthwyo i gydlynu cyfarfod i gynnwys rhieni/gofalwyr.

11.4.2 Anfonir llythyr at y myfyriwr yn amlinellu’r pryderon ac yn amlygu hawl y myfyriwr i ddod â rhywun yn gwmni iddo; cadarnhad o amser a lleoliad y cyfweliad; a datganiad yn egluro, os bydd y myfyriwr yn methu â bod yn bresennol neu os na chaiff dyddiad arall ei drefnu, bod Rheolwr y Cwricwlwm yn cadw’r hawl i aildrefnu’r cyfarfod, heb fawr o rybudd, os o gwbl, yn ôl ei gyfleustra ei hun.

11.4.3 Bydd gan y myfyriwr yr hawl i ddod â chyfoedion, cynrychiolydd myfyrwyr, aelod o’r teulu, neu berson priodol arall yn achos oedolyn sy’n agored i niwed, (ond nid cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd proffesiynol arall oni bai bod y Coleg yn cytuno fel arall) yn gwmni iddo yn y cyfarfod. Caniateir cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd proffesiynol arall os yw’r Coleg yn bwriadu cael cynghorydd allanol yn bresennol.

11.4.4 Yn y cyfweliad, bydd gan y myfyriwr hawl i ddatgan ei achos gan gynnwys unrhyw ffactorau lliniarol cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud a/neu i gynllun gweithredu gael ei lunio.

11.4.5 Os bydd y myfyriwr yn anghytuno â’r dystiolaeth, gall Rheolwr y Cwricwlwm ohirio’r cyfweliad er mwyn ymchwilio i’r hyn sy’n destun dadl a cheisio rhagor o dystiolaeth briodol. Bydd y cyfweliad yn cael ei ailgynnull o fewn 10 diwrnod gwaith.

11.4.6 Os yw’n ymddangos bod presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad y myfyriwr yn arwydd o broblem iechyd meddwl, salwch neu anaf, gall fod yn fwy priodol dilyn y gweithdrefnau a nodir yng ngweithdrefn Parod i Ddysgu’r Coleg. Yn ogystal, gellir gohirio’r cyfweliad er mwyn penderfynu ar gamau gweithredu yn y dyfodol.

11.4.7 Bydd Rheolwr y Cwricwlwm yn cwblhau Cynllun Gweithredu Cam Tri y mae’n rhaid iddo gynnwys targedau adeiladol a chadarnhaol er mwyn hyrwyddo cynllun dysgu gweithredol a chyraeddadwy i’r myfyriwr. Bydd hwn yn cael ei adolygu gan yr Hyfforddwr Dilyniant yn wythnosol ac fe ailymwelir ag ef ar y cyd â’r dysgwr ar y dyddiad a gynigir yn y Cynllun Gweithredu gan y bobl sy’n ymwneud â Cham Tri fel yr amlinellir yn Atodiad 1. Rhaid i’r myfyriwr, Rheolwr y Cwricwlwm a, lle bo’n briodol, rhiant, gofalwr neu warcheidwad, lofnodi’r Cynllun Gweithredu.

11.4.8 Os bydd y dysgwr yn cwblhau’r camau gweithredu gofynnol a nodir ar Gam Tri o’r Cynllun Gweithredu, gellir penderfynu isgyfeirio’r dysgwr i Gam Dau yn y broses ddisgyblu.

11.4.9 Os, ar ôl rhoi’r cynllun gweithredu hwn ar waith, bydd y dysgwr yn gysylltiedig â digwyddiadau mwy difrifol a ystyrir yn gamymddwyn/camymddwyn difrifol, dylid uwchgyfeirio hyn yn unol â hynny.

11.4.10 Nid oes modd gwneud apêl ffurfiol ar y cam yma.

11.5 Cam Pedwar

Perchennog y broses: Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm)

11.5.1 Os yw presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad dysgwr yn fwy difrifol ei natur neu’n gamymddwyn difrifol, neu os nad yw presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad wedi gwella ar ôl ymyriadau Cam Tri, bydd gofyn i’r myfyriwr fynychu cyfweliad disgyblu Cam Pedwar gyda’r Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) a’r Rheolwr Cwricwlwm.

11.5.2 Bydd Uwch Weinyddwyr Cwricwlwm yn trefnu gohebiaeth.

11.5.3 Bydd crynodeb o’r camymddwyn difrifol yn cael ei gynnwys yn y llythyr ynghyd â hawl y myfyriwr i ddod â rhywun yn gwmni iddo; cadarnhad o amser a lleoliad y cyfweliad; a datganiad yn egluro, os bydd y myfyriwr yn methu â bod yn bresennol neu os na threfnir dyddiad arall, bod y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) yn cadw’r hawl i aildrefnu’r cyfarfod, heb fawr o rybudd, os o gwbl, yn ôl ei gyfleustra ei hun.

11.5.4 Os yw dysgwr o dan 18 oed, mae ganddo’r hawl i ddod ag un cynrychiolydd i’r cyfarfod. Gall hwn fod yn rhiant neu’n warcheidwad.

11.5.5 Bydd Rheolwr y Cwricwlwm yn gweithredu fel y swyddog ymchwilio ac yn cyflwyno’r achos ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd i fynychwyr y cyfarfod Cam Pedwar.

11.5.6 Ni ragwelir y bydd canlyniad na phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn ystod y cyfarfod. Yn hytrach, pwrpas y cyfarfod yw rhoi cyfle i’r myfyriwr gyflwyno ei achos ac egluro ffeithiau. Bydd canlyniadau a phenderfyniadau terfynol yn cael eu cyfathrebu’n ysgrifenedig o fewn 7 diwrnod gwaith.

11.5.7 Mewn rhai achosion, efallai y bydd Cyfarwyddwr y Cwricwlwm yn barnu ei bod yn briodol isgyfeirio neu uwchgyfeirio yn ôl tystiolaeth a natur unigol pob achos. Bydd hyn yn cael ei ddogfennu ar y porth myfyrwyr.

11.5.8 Mewn rhai achosion lle nad oes angen cymryd camau disgyblu, bydd y Coleg yn ystyried bod yr achos wedi’i gau.

11.5.9 Os bydd rhybudd ysgrifenedig terfynol yn cael ei roi, bydd y rhybudd yn nodi y gallai presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad pellach gan y myfyriwr arwain at wahardd y myfyriwr o’r coleg.

11.5.10 Mewn achosion difrifol o bresenoldeb, perfformiad neu ymddygiad gwael, gan gynnwys camymddwyn mynych neu gamymddwyn difrifol, gall y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) roi Rhybudd Terfynol gyda chynllun gweithredu ysgrifenedig.

11.5.11 Os bydd Rhybudd Terfynol yn cael ei roi neu pan fydd cynllun gweithredu wedi’i osod (gyda neu heb ataliad), bydd y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) yn pennu dyddiad ac amser i adolygu cynnydd.

11.5.12 Mae gan y myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn 7 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr canlyniad. Dylid cyflwyno apeliadau trwy’r post neu e-bost, a’u cyfeirio at y Dirprwy Bennaeth.

11.5.13 Os yw’r coleg yn barnu bod yr ymddygiad yn annerbyniol, gall y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) wneud argymhelliad i’r Dirprwy Bennaeth i wahardd y myfyriwr. Os bydd y Dirprwy Bennaeth yn cadarnhau’r penderfyniad i wahardd, bydd y dysgwr yn cael cyfle i apelio fel yr amlinellir yn adran 14.

11.5.14 Dylid cofnodi’r cyfarfod hwn a’r canlyniadau dilynol ar y porth myfyrwyr.

12. Argymhellion i Wahardd

Bydd y Dirprwy Bennaeth yn ystyried y ddogfennaeth a gyflwynir gan y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) a’r Rheolwr Cwricwlwm, a’r rhesymau dros yr argymhelliad.

Gall y Dirprwy Bennaeth benderfynu peidio â chynnal yr Argymhelliad i Wahardd ac nad oes angen unrhyw gamau disgyblu pellach.

Gall y Dirprwy Bennaeth argymell y dylid gosod sancsiynau eraill.

Gall y Dirprwy Bennaeth benderfynu cadarnhau’r Argymhelliad i Wahardd. Hysbysir y myfyriwr o’r penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith i’r llythyr canlyniad sy’n argymell gwaharddiad. Mae gan y myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad drwy ysgrifennu, o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr gwahardd, at y Pennaeth.

13. Gwahardd

Y Dirprwy Bennaeth sy’n penderfynu ar gyfnod y gwaharddiad ond ni fydd yn hwy na phum mlynedd. Yn ystod unrhyw gyfnod o waharddiad, ni chaiff unrhyw fyfyriwr sydd wedi’i wahardd ddychwelyd i’r coleg heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Dirprwy Bennaeth neu’r sawl a fydd yn trefnu goruchwyliaeth berthnasol.

Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi’u gwahardd yn flaenorol ac sy’n dymuno dychwelyd i’r coleg wneud cais i’r Pennaeth a Phrif Weithredwr. Bydd penderfyniad y Pennaeth a Phrif Weithredwr yn derfynol.

Mae croeso i unrhyw fyfyriwr wneud cais i Goleg Penybont a bydd pob cais yn cael ei adolygu heb ragfarn.

14. Apelio yn erbyn Gwaharddiad

Dylid gwneud unrhyw apêl yn erbyn gwahardd myfyriwr i’r Pennaeth, a fydd yn cael y ddogfennaeth gyflawn sydd wedi arwain at y gwaharddiad.

Bydd y Pennaeth yn ystyried y ddogfennaeth ac a yw’r gweithdrefnau ym Mholisi’r Cod Dinasyddiaeth (sy’n cynnwys Disgyblu Myfyrwyr) wedi cael eu dilyn.

Bydd y Pennaeth yn dod i benderfyniad ynghylch a ddylid cadarnhau’r gwaharddiad ac yn hysbysu’r myfyriwr o’r penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y llythyr apêl yn erbyn gwaharddiad.

Mae penderfyniad y Pennaeth yn derfynol ac nid oes modd apelio’n ffurfiol ar y cam yma.

15. Gwaharddiad Dros Dro Tra Bod Ymchwiliad / Cyfweliad Disgyblu

Gall myfyriwr gael ei wahardd o’r Coleg dros dro ar unwaith gan aelod o Uwch Dîm Arwain y coleg. Rhoddir y myfyriwr yn syth ar Gam Pedwar o Bolisi’r Cod Dinasyddiaeth (sy’n cynnwys Disgyblu Myfyrwyr) a bydd y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) yn gweithredu fel y swyddog ymchwilio ac yn dilyn y drefn a amlinellir yn adran 11.5.

Gall gwaharddiad dros dro oherwydd camymddwyn difrifol neu esgeulustod difrifol arwain at gyfweliad Cam Pedwar a allai arwain at naill ai dim gweithredu pellach, argymhelliad am gosb arall neu argymhelliad i wahardd.

Bydd gwaharddiad dros dro oherwydd gweithred o gamymddwyn difrifol neu esgeulustod difrifol yn disodli unrhyw gamau disgyblu eraill y gallai myfyriwr fod yn rhan ohonynt.

Bydd unrhyw waharddiad o’r fath yn cael ei gadarnhau’n ysgrifenedig gan y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) (o fewn 7 diwrnod gwaith iddo ddigwydd).

Ni ddylai gwaharddiad bara mwy na 10 diwrnod gwaith heb i’r gwaharddiad gael ei ddiddymu neu heb i ddyddiad ar gyfer cyfweliad gael ei bennu.

Os bydd y gwaharddiad yn para mwy na 10 diwrnod gwaith bydd gan y myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn y gwaharddiad drwy ysgrifennu at y Dirprwy Bennaeth.

Bydd hawl gan y myfyriwr i ddod â chyfoed, cynrychiolydd myfyrwyr neu aelod o’r teulu, neu berson priodol arall yn achos oedolyn agored i niwed (ond nid cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd proffesiynol arall oni bai bod y coleg yn cytuno i hynny) yn gwmni iddo i’r apêl.

Rhoddir gwybod i’r myfyriwr o ganlyniad yr apêl cyn gynted â phosibl ac yn sicr o fewn 10 diwrnod gwaith. Nid oes modd gwneud apêl bellach yn erbyn y penderfyniad hwn.

16. Myfyrwyr wedi’u Gwahardd Dros Dro

Bydd y Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm) yn rhoi ystyriaeth ddyledus i fyfyrwyr sydd wedi’u gwahardd y mae angen iddynt sefyll arholiadau allanol neu asesiadau mewnol o ran a ddylid caniatáu iddynt fynychu. Mewn achosion o’r fath, bydd aelod o staff cymorth yn mynd yn gwmni i unrhyw fyfyrwyr sydd wedi’u gwahardd, a byddant fel arfer yn sefyll yr arholiad neu’r asesiad ar wahân i fyfyrwyr eraill.

17. Troseddau

Os oes gan unrhyw aelod o staff reswm i gredu y gallai myfyriwr fod wedi troseddu, bydd y coleg yn cyfeirio’r mater at yr heddlu a gall barhau ag achos disgyblu o dan y polisi hwn neu wahardd y myfyriwr dros dro wrth aros am ganlyniad ymholiadau’r heddlu ac unrhyw gyhuddiadau yn erbyn y myfyriwr. Os yw myfyriwr wedi’i wahardd o dan y ddarpariaeth hon, pan fydd canlyniadau’r ymholiadau hynny ac unrhyw achosion troseddol yn hysbys, ceidw’r coleg yr hawl i ailddechrau achos o dan y polisi hwn mewn perthynas â’r mater. Bydd tystysgrif euogfarn gan lys awdurdodaeth gymwys yn brawf terfynol o’r euogfarn honno.

Os oes gan y coleg reswm i gredu bod myfyriwr wedi gwneud cais llwyddiannus i’r coleg ac wedi methu â datgelu euogfarn droseddol sydd heb ei disbyddu, mae’n cadw’r hawl i gymryd camau disgyblu, gan gynnwys tynnu’r cynnig yn ôl lle credir bo hynny’n briodol er diogelwch a lles yr unigolyn, y boblogaeth ehangach o fyfyrwyr, a staff y Coleg.

Pan fo digwyddiad, naill ai o fewn neu’r tu allan i’r coleg, sy’n arwain at gyhuddiad neu ymchwiliad gan yr heddlu, a/neu amodau mechnïaeth, byddwn yn aros am gasgliad unrhyw ymchwiliad neu wrandawiad cyn gweithredu (lle bo’n berthnasol) y polisi hwn, oni bai bod yr amserlen ar gyfer cyhuddiad neu ganlyniad yn debygol o effeithio’n sylweddol ar ddysgu (cyflawniad) neu lle mae elfennau eraill o’r digwyddiad dan sylw yn dal i groes i’r polisi hwn. Yn dibynnu ar natur y cyhuddiad, mae’r coleg yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ddysgwr hyd nes y bydd achos yr heddlu wedi dod i ben. Gall y Coleg barhau i gynnal ei ymchwiliad ei hun a chymryd camau o dan y polisi hwn lle mae gwybodaeth sydd ar gael yn dangos nad yw gweithgarwch yr Heddlu wedi’i gyfyngu’n benodol o ran amser ac felly’n effeithio ar allu myfyriwr i barhau i ddysgu a chwblhau ei raglen ddysgu.

  • Polisi Diogelu Plant ac Oedolion sy’n Agored i Niwed ● Polisi Derbyniadau
  • Polisi Derbyniadau
  • Parod i Ddysgu

19. Adolygu’r Ddogfen:

Bydd y polisi hwn a’r gweithdrefnau cysylltiedig yn cael eu hadolygu’n flynyddol, er y byddant yn cael eu diweddaru yn unol â chyhoeddiad unrhyw ddeddfwriaeth neu ganllawiau statudol.

Asesiad O’r Effaith Ar Gydraddoldeb

Enw’r Polisi / GweithdrefnCod Dinasyddiaeth (gan gynnwys Disgyblu Myfyrwyr)
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Joe Baldwin
Nod(au) a Phwrpas y Polisi Disgwyliadau o ran ymddygiad a dinasyddiaeth
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd
Nodwedd gydraddoldebEffaith gadarn haolEffaith niwtralEffaith negyddolRheswm/sylw
Oedran✔
Anabledd✔Mae gan y Coleg bolisi Parod i Ddysgu, a gynlluniwyd i fod yn fesur cefnogol i fyfyrwyr a allai fod ag angen dysgu ychwanegol neu a allai fod ag angen lles a allai gael effaith tymor byr ar ymgysylltiad a/neu ymddygiad.
Ailbennu rhywedd✔
Priodas a phartneriaeth sifil✔
Beichiogrwydd a mamolaeth✔
Hil✔Mae siart lif a phroses ar reoli digwyddiadau hiliol yn rhoi eglurder ychwanegol ynghylch sut y bydd y coleg yn rheoli digwyddiad o’r fath.
Crefydd neu gred✔
Rhywedd✔
Cyfeiriadedd rhywiol✔

Dyddiad cwblhau’r asesiad: Awst 2026
Llofnod y rheolwr a gwblhaodd yr asesiad: Joe Baldwin

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Enw’r Polisi / GweithdrefnCod Dinasyddiaeth (gan gynnwys Disgyblu Myfyrwyr)
Perchennog y Polisi (i lenwi’r asesiad effaith hwn)Joe Baldwin
Nod(au) a Phwrpas y Polisi Disgwyliadau o ran ymddygiad a dinasyddiaeth
Ar bwy mae’r polisi hwn yn effeithio?
Dysgwyr✔
Staff✔
Y Cyhoedd

Safonau’r Gymraeg

RhifMath SafonCadarnhaol (gallai fod o fudd)Negyddol (gallai effeithio)Dim Effaith
94Safonau
Llunio Polisi
Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid i chi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.✔

Cynllun Gweithredu

Dylai’r cynllun gweithredu nodi’r camau i’w cymryd i leihau neu, lle bo modd, ddileu unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg.

Cam GweithreduPwyErbyn PrydMesur Llwyddiant
(sut byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni’r camau gweithredu)

Dyddiad cwblhau’r asesiad: Awst 2026

Atodiad 1: Siart Lif ar gyfer Disgyblu

Fel rheol, bydd myfyrwyr yn symud trwy’r camau yn gynyddrannol, i fyny ac i lawr y camau disgyblaeth. Er hyn, os tybir bod angen ymyriad ar radd uwch er mwyn ymdrin ag ymddygiad neu weithrediad (e.e. camymddygiad difrifol), gall myfyrwyr ddechrau’r broses ddisgyblu ar unrhyw lefel.

Gweld disgrifiad y siart

Siart llif proses sy’n mapio cynnydd perfformiad ac ymddygiad myfyrwyr ar draws pum colofn allweddol: Llinell Amser, Cam, Perchennog y Broses, Enghraifft/Enghreifftiau, a Llif Gwaith Hysbysu Awtomataidd..

Cam Cofnod Materion (Cylch 6 Wythnos Parhaus)

  • Perchennog y Broses: Unrhyw Aelod o Staff
  • Camau: Log Materion 1 (melyn) $\rightarrow$ Log Materion 2 (oren) $\rightarrow$ Log Materion 3 (coch)
  • Enghreifftiau: Defnyddio iaith amhriodol dro ar ôl tro; cyrraedd yn hwyr yn gyson; methu â dod â’r offer neu’r wisg ofynnol i sesiynau yn rheolaidd; parhau i ddefnyddio ffôn symudol er gwaethaf ceisiadau i beidio â gwneud hynny, neu yn ystod gweithgaredd mewn ‘Ardal Dim Ffôn’.
  • Hysbysiad:$\ge 3$ Mae cofnodi materion o fewn cyfnod parhaus o chwe wythnos yn sbarduno hysbysiad e-bost neu hysbysiad ar y dangosfwrdd i’r Hyfforddwr Cynnydd.

Cam 1 (2 Wythnos)

  • Perchennog y Broses: Hyfforddwr Cynnydd
  • Camau: Cam 1 $\rightarrow$ Cam 1 Adolygiad o’r Cynllun Gweithredu
  • Hysbysiad: Hysbysiad atgoffa i’r Hyfforddwr Cynnydd i adolygu’r cynllun gweithredu neu gyfeirio at Gam 2.
  • Penderfyniad (Gwelliant?):
    • IE: Parhau i fod yn weithredol tan yr hanner-dymor blaenorol.
    • NA: Yn symud i Gam 2.

Cam 2 (2 Wythnos)

  • Perchennog y Broses: Dirprwy Reolwr Cwricwlwm
  • Camau: Cam 2$\rightarrow$ Adolygiad Cam 2
  • Enghreifftiau: Methu â chyflawni Cynllun Gweithredu OnTrack neu faterion cysylltiedig parhaus pellach; presenoldeb o lai nag 85%; fandaliaeth ar eiddo’r Coleg.
  • Hysbysiadau: Hysbysiad cychwynnol i’r Dirprwy Reolwr Cwricwlwm; hysbysiad atgoffa i’r Dirprwy Reolwr Cwricwlwm i adolygu’r cynllun gweithredu neu gyfeirio at Gam 3.
  • Penderfyniad (Gwelliant?):
    • IE: Parhau i fod yn weithredol tan yr hanner-dymor blaenorol.
    • NA: Yn symud i Gam 3.

Cam 3 (Wythnosol)

  • Perchennog y Broses: Rheolwr y Cwricwlwm
  • Camau: Cam 3 $\rightarrow$ Adolygiad Cam 3
  • Enghreifftiau: Cynllun Gweithredu Cam 2 heb ei gyflawni; problemau ymddygiad sylweddol; bwlio neu aflonyddu.
  • Hysbysiadau: Hysbysiad cychwynnol i’r Rheolwr Cwricwlwm; hysbysiad atgoffa i’r Rheolwr Cwricwlwm i adolygu’r cynllun gweithredu neu gyfeirio at Gam 4.
  • Penderfyniad (Gwelliant?):
    • IE: Arhoswch yn weithredol tan yr hanner tymor nesaf.
    • NA: Yn symud i Gam 4.

Cam 4

  • Canlyniadau: Gwahardd neu aros yn weithredol tan ddiwedd y tymor blaenorol.
  • Perchennog y Broses: Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm)
  • Camau: Cam 4 $\rightarrow$ Adolygiad Contract Cam 4
  • Enghreifftiau: Methu â chyflawni Cynllun Gweithredu Cam 3; camau gweithredu sy’n peri risg sylweddol i’r unigolyn ei hun neu i eraill; meddu ar arf.
  • Hysbysiadau: Hysbysiad cychwynnol i’r Is-bennaeth (Cwricwlwm); hysbysiad atgoffa i’r Is-bennaeth i adolygu’r contract.

Atodiad 2: Cynllun Gweithredu Enghreifftiol

Sylwer: mae hwn yn cael ei fewnbynnu’n uniongyrchol i’r dangosfwrdd staff (gall myfyrwyr weld hyn drwy’r porth myfyrwyr))

Nodiadau (gan gynnwys nodi sut y mae’r ymddygiad yn cysylltu â’n disgwyliadau: Parod / Parchus / Diogel)
Materion Allweddol: Dwyt ti ddim yn dangos dy fod ti’n barod i ddysgu gan mai 89% yw dy bresenoldeb ar hyn o bryd, ac rydym yn pryderu dros dy hwyrni. Dwyt ti ddim yn dangos parch tuag at eraill pan rwyt ti’n defnyddio iaith amhriodol.
Fe wnaethom ni drafod dy reswm dros beidio â mynychu, sef heriau ac amgylchiadau personol yn dy fywyd cartref. Mae hyn wedi dy rwystro rhag derbyn dy lwfans cynhaliaeth addysgol (LCA), sydd wedi arwain atat ti’n cael trafferth talu am y bws, gan orfodi i ti gerdded i’r Coleg sawl bore, ac achosi i ti fod yn hwyr i’r sesiwn gyntaf.
Fe esboniaist ti dy fod yn teimlo bod peth o’r gwaith yn llethol, ac mae hyn yn cael ei gymhlethu bellach wrth i ti golli rhannau o wersi naill ai drwy fod yn hwyr neu drwy fod yn absennol. Fe wnest ti gydnabod bod dy iaith yn annerbyniol ac yn amhriodol.

 
Cam GweithreduPobl y bydd angen i mi gael cefnogaeth ganddynt…
Sicrhau bod yr iaith rwy’n ei defnyddio yn barchus
Cwrdd â’r Tîm Lles yn y sesiynau ‘galw heibio’ wythnosol er mwyn i mi allu trafod sut ydw i’n teimlo ac er mwyn i’r Tîm Lles monitro sut mae pethau gartref. Tîm Lles
Siarad â Gwasanaethau Myfyrwyr er mwyn trefnu cymeradwyaeth ar gyfer lwfans cynhaliaeth addysgol (LCA) felly bod gen i arian i dalu am y bws, a bydd hyn yn fy ngalluogi i fod yn brydlon. Gwasanaethau Myfyrwyr
Byddaf yn mynychu sesiynau cymorth ychwanegol Sgiliau er mwyn i mi allu dal i fyny gyda’r gwaith rwy’n cael trafferth gydag ef a chael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnaf. Hwyluswyr Dysgu Cynhwysol

Enghraifft o’r sgrin ‘Parchus/Diogel’ ar y Dangosfwrdd Staff:

Sgrin-ddalfa o ryngwyneb gwe Cymraeg o'r enw "Parchus / Diogel" ar gyfer dyfarnu bathodynnau digidol a chofnodi canmoliaeth neu bryderon.

Atodiad 3: Rheoli Digwyddiad Hiliol

Siart llif ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau, yn amlinellu llwybrau ar wahân ar gyfer ymchwilio a chofnodi yn dilyn digwyddiad a adroddwyd i'r Tîm Lles.

Gweld disgrifiad y siart

Diagram llif gwaith sy’n mapio’r broses adrodd, ymchwilio a datrys ar gyfer digwyddiadau a adroddwyd i’r Tîm Lles, wedi’i rannu yn ôl llwybrau Myfyrwyr a Staff:

1. Adrodd Cychwynnol

  • Sbardun: Digwyddiad wedi’i adrodd i’r Tîm Lles.

2. Cam Ymchwilio (Llwybrau Gwahanol)

  • Cangen Myfyrwyr: Ymchwiliwyd gan Ddirprwy Reolwr y Cwricwlwm; hysbyswyd y rhiant/rhieni neu’r gofalwr/gofalwyr.
  • Cangen Staff: Ymchwiliwyd gan y Rheolwr Llinell.

3. Tystiolaeth a Phenderfyniad (Camau a Rennir)

  • Datganiadau a gymerwyd gan unrhyw un dan sylw, gan gynnwys tystion.
  • Penderfyniad wedi’i wneud yn dilyn ymchwiliad.
  • Hwyluswyd sancsiwn / cymorth / addysg / sgwrs adferol briodol.

4. Cam Cofnodi a Chanlyniad (Llwybrau Gwahanol)

Canlyniad yn ymwneud â staff: Cyrhaeddwyd canlyniad a chafodd ei gofnodi fel digwyddiad hiliol ar ffeil y aelod o staff ac yn y log cwynion.

Canlyniad i’r Myfyriwr: Cyrhaeddwyd canlyniad a chafodd ei gofnodi fel digwyddiad hiliol ar borth y myfyrwyr ac ar MyConcern.

Atodiad 4: Panel Safoni

Bydd panel safoni o groestoriad o hyd at chwe aelod o staff yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn academaidd, unwaith y tymor fesul campws. Bydd y panel yn cynnwys cynrychiolwyr o’r tîm Lles Myfyrwyr, y tîm Cymorth Dysgu, Gwasanaethau Myfyrwyr, y tîm Hyfforddwyr Cynnydd a’r tîm cwricwlwm.

Pwrpas

Ar bob campws, bydd y panel safoni yn adolygu o leiaf 10 achos dinasyddiaeth ar draws pob un o’r pedwar cam, ynghyd â’r cofnodion materion.

Bydd y panel yn ystyried, yn trafod ac yn dogfennu’r canlynol:

  • Lefel yr ymyrraeth (cam) yn erbyn yr ymddygiadau neu’r pryderon a gofnodwyd ac a yw camau wedi’u cymhwyso’n gyson yn erbyn yr ymddygiadau neu’r pryderon a gofnodwyd (trothwyon)
  • Os yw’r cynlluniau gweithredu a’r broses adolygu’n gadarn (lle bo’n berthnasol)
  • Effeithiolrwydd achosion sy’n cael eu symud i fyny neu i lawr y camau
  • Defnyddio ac ymgysylltu â gwasanaethau cymorth cofleidiol i gefnogi’r myfyriwr yn ddigonol i gyflawni unrhyw gamau gweithredu a amlinellwyd (nodi hyn o fewn y cynllun ac os yw’r myfyriwr wedi ymgysylltu ag unrhyw gymorth)

Cyfrifoldebau

Bydd y Penaethiaid Cynorthwyol (Cwricwlwm) yn gyfrifol am gydlynu pob panel safoni a dogfennu manylion yr adolygiad a drafodir yn ystod pob sesiwn panel. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Nifer yr achosion dinasyddiaeth a adolygwyd ac ar ba lefelau
  • Cysondebau ac anghysondebau a nodwyd
  • Darparu adroddiad byr i Dîm Arwain y Cwricwlwm ar unrhyw themâu allweddol, gofynion hyfforddi sy’n dod i’r amlwg a chyfleoedd i wella
Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Law
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch