Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Tâl
Wedi’i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethu ar 21 Mai 2026
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
Bydd y Corff Llywodraethu’n gyfrifol am sefydlu Pwyllgor Tâl y bydd y canlynol yn aelodau ohono:
- Cadeirydd y Corff Llywodraethu, ex officio;
- Is-gadeirydd y Corff Llywodraethu, ex officio, a fydd yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn;
- tri aelod annibynnol a benodir gan ac o’r Corff Llywodraethu (bydd y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu’n gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethu).
Bydd angen i ddau aelod o leiaf fod yn bresennol i gael cworwm.
Awdurdod
Awdurdodir y Pwyllgor gan y Corff Llywodraethu i adolygu amodau tâl, telerau ac amodau a, lle bo’n briodol, amodau diswyddo’r Pennaeth a deiliaid swyddi uwch dynodedig. Bydd y Pwyllgor yn gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethu eu hystyried fel materion cyfrinachol.
Gall y Pwyllgor wahodd rhywun sydd â phrofiad i ddod i’w gyfarfodydd i roi cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â thâl.
Trafodion
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn i drafod tâl deiliaid swyddi uwch dynodedig. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cyfarfod yn ôl yr angen pan fydd:
(i) penodiad newydd yn cael ei wneud; neu
(ii) telerau ac amodau ar gyfer deiliaid swyddi uwch dynodedig yn cael eu diwygio;
Bydd y Pwyllgor yn gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethu eu hystyried yn ei gyfarfod materion cyfrinachol nesaf.
Os yw taliad diswyddo’n cael ei ystyried ar gyfer deiliad swydd uwch, bydd y pwyllgor yn llunio’r argymhelliad ar ffurf electronig a bydd y Clerc yn gofyn am gymeradwyaeth gan aelodau cymwys o’r Corff Llywodraethu drwy e-bost. Bydd hyn yn sicrhau bod y mater yn cael ei drin yn gyflym.
Gellir gwahodd y Pennaeth i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor er nad yw’n aelod ohono, ond ni chaniateir iddo for yn bresennol pan fydd ei dâl, ei delerau ac amodau neu ei daliad diswyddo yn cael eu hystyried.
Clerc y Corff Llywodraethu fydd yn gwasanaethu fel clerc yng nghyfarfodydd y Pwyllgor, ac eithrio pan fydd tâl, telerau ac amodau neu daliad diswyddo’r Clerc yn cael eu hystyried. Ni fydd y Clerc yn bresennol am y trafodaethau hyn, a bydd rhywun arall sy’n bresennol yn gwasanaethu fel clerc yn lle.
Dyletswyddau
Bydd y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethu ynghylch telerau ac amodau a thâl y Pennaeth a deiliaid swyddi uwch dynodedig yn flynyddol. Bydd yr adolygiad yn cynnwys darpariaethau ar gyfer unrhyw fuddion eraill, e.e. pensiynau, trefniadau ar gyfer dod â chyflogaeth i ben (gan gynnwys, lle bo’n briodol, taliadau diswyddo) a thelerau cytundebol eraill.
Bydd y pwyllgor yn defnyddio Polisi Tâl Deiliaid Swyddi Uwch a’r adroddiadau ar berfformiad unigol ar gyfer y flwyddyn dan sylw i lunio’r argymhellion.
Bydd perfformiad unigolion yn erbyn targedau cytunedig yn cael eu hadolygu gan y bobl ganlynol:
- Pennaeth a Phrif Weithredwr – Cadeirydd y Corff Llywodraethu
- Deiliaid Swyddi Uwch Dynodedig – Y Pennaeth
- Y Clerc – Cadeirydd y Corff Llywodraethu
Gweithdrefnau Adrodd
Bydd cofnodion y Pwyllgor Tâl yn cael eu cyflwyno i’r Corff Llywodraethu yn ei gyfarfod Materion Cyfrinachol.
Nicola Eyre, Clerc y Corff Llywodraethu
Diwygiwyd: Ionwar 2026
Cymeradwywyd: 21 Mai 2026
Dyddiad yr Adolygiad Nesaf: Mai 2028
Atodiad (ychwanegwyd Ionawr 2022 – diweddarwyd Mai 2026)
Mae’r rolau canlynol wedi’u dynodi’n swyddi uwch gan y Corff Llywodraethu:
- Pennaeth a Phrif Weithredwr
- Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol)
- Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
- Prif Swyddog Gweithredu
- Y Clerc



















