Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu
Wedi’i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethu ar 21 Mai 2026
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
Mae’r Corff Llywodraethu’n gyfrifol am sefydlu’r pwyllgor hwn ac am benodi ei aelodau. Cadeirydd y Corff Llywodraethu fydd Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn. Bydd Is-gadeirydd y Corff Llywodraethu, y Pennaeth ac un myfyriwr-lywodraethwr hefyd yn aelodau o’r Pwyllgor hwn. Gellir penodi hyd at un aelod arall o’r Corff Lywodraethu. Rhaid i’r Pwyllgor gael o leiaf tri aelod, a bydd angen i o leiaf 2 fod yn bresennol i gael cworwm.
Awdurdod
Mae’r Pwyllgor wedi’i awdurdodi gan y Corff Llywodraethu i:
- Chwilio am aelodau addas ar gyfer y Corff Llywodraethu o fewn cyfansoddiad ac aelodaeth statudol y Corff Llywodraethu, ac i argymell i’r Corff Llywodraethu llawn a ddylai gymeradwyo penodiad yr aelodau hynny ai peidio.
- Rhoi cyngor i’r Corff Llywodraethu ar bob mater sy’n ymwneud â threfniadau llywodraethu a sicrhau bod gwerthoedd y Coleg yn cael eu cynnal.
Trafodion
Bydd y Pwyllgor yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Dyletswyddau
Bydd dyletswyddau’r Pwyllgor yn cynnwys:
- Cynghori’r Corff Llywodraethu ar bob mater sy’n ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys:
- Cyfansoddiad y Corff Llywodraethu a llenwi swyddi gwag ar sail yr amrywiaeth briodol o sgiliau, profiad a chefndir;
- Penodi ac ailbenodi llywodraethwyr ac eithrio’r Pennaeth;
- Sefydlu a diddymu pwyllgorau, eu haelodau a’u Cylchoedd Gorchwyl;
- Adolygu perfformiad y Cadeirydd ac aelodau’r Corff Llywodraethu;
- Gwneud penderfyniadau ar y canlynol:
- Rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr gan gynnwys deiliaid swyddi;
- Sefydlu, hyfforddi a datblygu llywodraethwyr a chynllunio ar gyfer olyniaeth;
- Trefniadau ar gyfer penodi’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a deiliaid swyddi eraill; a
- Gweithdrefnau sy’n ymwneud â’r Corff Llywodraethu a Deiliaid Swyddi Uwch:
- Gweithdrefn Penodi Deiliaid Swyddi Uwch
- Gweithdrefn Disgyblu Deiliaid Swyddi Uwch
- Gweithdrefn Cwyno Deiliaid Swyddi Uwch
- Gweithdrefn Penodi Aelodau Newydd o’r Corff Llywodraethu
- Proses Cyfethol Aelodau i Bwyllgorau
- Proses i benodi Cadeirydd/Is-gadeirydd newydd
- Gweithdrefn Disgyblu Aelodau o’r Corff Llywodraethu ac Aelodau Cyfetholedig
- Dadansoddi canlyniadau ymarfer hunanasesu blynyddol y Corff Llywodraethu a chymryd camau gweithredu priodol;
- Ymgymryd ag archwiliadau blynyddol o sgiliau’r Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau i nodi unrhyw fylchau sgiliau a cheisio penodi aelodau newydd gyda’r sgiliau hyn;
- Derbyn ac adolygu cofnodion presenoldeb blynyddol. Bydd y pwyllgor yn penderfynu ar y camau gweithredu priodol os bydd presenoldeb aelod o’r Corff Llywodraethu yn is na’r lefel ofynnol. Os ystyrir ei bod yn briodol terfynu aelod o’r Corff Llywodraethu/aelod cyfetholedig, gwneir hyn drwy argymhelliad i’r Corff Llywodraethu;
- Adolygu Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu, y Rheolau Sefydlog, Cod Ymddygiad a’r Gofrestr Buddiannau a gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethu yn eu cylch a lle bo hynny’n briodol;
- Adolygu ymgynghoriadau gan gyrff allanol sy’n ymwneud â materion llywodraethu, a, lle bo’n briodol ac ar ôl cael barn y Corff Llywodraethu, ymateb iddynt;
- Ystyried pob mater llywodraethu sy’n codi o ganlyniad i adolygiadau mewnol a/neu allanol o’r Coleg, a sicrhau y cymerir camau priodol;
- Monitro a chynghori’r Corff Llywodraethu ar faterion llywodraethu sy’n codi;
- Ystyried unrhyw faterion llywodraethu y mae’r Corff Llywodraethu neu unrhyw bwyllgor arall yn eu cyfeirio at y Pwyllgor;
Gweithdrefnau Adrodd
Bydd y Clerc yn adrodd ar y camau gweithredu ac argymhellion y pwyllgor hwn yng nghyfarfod nesaf y Corff Llywodraethu drwy’r eitem sefydlog ar yr agenda “Materion Llywodraethu”
Darperir cofnodion y pwyllgor i’r Corff Llywodraethu drwy Glerc y Corff Llywodraethu.
Adolygwyd gan y Clerc: Ionwar 2026
Adolygwyd gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu: Ionwar 2025
Cymeradwywyd gan y Corff Llywodraethu: 21 Mai 2026
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Mai 2028



















