Cofnodion Cyfarfod y Corff Llywodraethu – 8 Chwefror 2024

YSTAFELL GYNADLEDDA’R ACADEMI STEAM AC AR GOOGLE MEET – 4:30yp

AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:

  • Jeff Greenidge – Cadeirydd
  • Emma Adamson
  • Viv Buckley – Pennaeth
  • Trish D’Souza
  • Lisa Dobbs – Staff-lywodraethwr
  • Judith Evans
  • Marion Evans – Staff-lywodraethwr – ymunodd am 5.07pm
  • Teodora Grancea – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Hayden Llewellyn
  • Stephne Puddy
  • Helen Verity

ERAILL A OEDD YN BRESENNOL

  • Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Ymarfer Cynhwysol)
  • Gemma Carr-Evans – Cyfarwyddwr y Cwricwlwm (Heol y Bont-faen a Heol y Frenhines) – ymunodd am 4.55pm
  • Nicola Eyre – Clerc
  • Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
  • Catrin Sullivan – Cyfarwyddwr Cwricwlwm (Campws Pencoed)

Dechreuodd y cyfarfod am 4.30yp

1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a llongyfarchodd Viv Buckley ar ei phenodiad yn Bennaeth ar Goleg Penybont. Dywedodd y Cadeirydd fod Viv yn arweinydd cryf i’r Uwch Dîm Arwain ac i’r Coleg a bod cam nesaf y Coleg yn mynd i fod yn un cyffrous. Rhoddodd y Corff Llywodraethu gymeradwyaeth iddi, a diolchodd Viv i bawb am yr ymddiriedaeth y maent wedi ei rhoi ynddi.

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Dan Biddle, Lloyd Tandy (Myfyriwr-lywodraethwr), Claire Marshall a Joanne Oak. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dawn Lewis-Whelan ar ôl y cyfarfod.

2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU

Dim

3. CYFLWYNIAD – CYNLLUN GWELLA ANSAWDD Y COLEG

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arfer Cynhwysol) y broses o sut mae’r Adroddiad Hunanwerthuso (SER) yn cael ei ysgrifennu a sut mae hyn yn bwydo i mewn i’r Cynllun Gwella Ansawdd (QIP):

  1. Yn gyntaf, mae pob rheolwr yn cyfarfod â’u timau i drafod yr hyn sy’n gweithio’n dda a pha feysydd sydd i’w gwella.
  2. Mae SER a QIP adrannol yn cael eu llunio yn dilyn y trafodaethau hyn.
  3. Defnyddir y SERs a’r QIPs adrannol i lunio QIP a SER y Coleg, a chaiff y rhain eu craffu a’u cadarnhau gan yr Uwch Dîm Arwain cyn eu cyflwyno i Grŵp Gweithredol y Coleg a’r Corff Llywodraethu.

Nodwyd, am y tro cyntaf eleni, bod aelodau’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd wedi mynychu’r cyfarfodydd lle y cyflwynwyd y SERs a’r QIPs adrannol i’r Uwch Dîm i ddeall yn uniongyrchol sut mae’r broses hon yn gweithio ac i ofyn cwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd.

  1. Yna caiff y QIP ei fonitro’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn gan yr Uwch Dîm. Mae Rheolwyr Ansawdd y Cwricwlwm yn gyfrifol am fonitro QIPs adrannau’r cwricwlwm, a chaiff QIPs adrannau Cymorth Busnes eu hadolygu ganol y flwyddyn ym mis Chwefror.

Ochr yn ochr â’r broses hon mae tri Diwrnod Ansawdd a dau Bwyllgor Safonau lle defnyddir dashfyrddau data a dangosyddion perfformiad allweddol i fonitro perfformiad.

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) ymhellach fod Fframwaith Arolygu newydd Estyn yn symud o bump i dri maes arolygu a phenderfynwyd seilio’r SER a’r QIP ar y tri maes hyn. Cyflwynwyd Maes Arolygu 3, sef “Arwain a Gwella”, i’r aelodau fel enghraifft o’r QIP i ddangos y ffyrdd y mae’r Coleg yn gyrru gwelliant yn barhaus.

Cyflwynwyd dadansoddiad o boblogaeth myfyrwyr y Coleg ar gyfer 2022/23 ac esboniwyd sut mae’r SER a QIP yn cymryd golwg gyfannol wrth hunanasesu perfformiad.

Nodwyd nad oes angen bellach i anfon y dogfennau hyn i Lywodraeth Cymru (LlC) ond teimlir bod budd yn fewnol i barhau â’r broses hon gan fod y QIP yn ddogfen fyw ac mae’r wybodaeth yn gweithredu fel meincnod ar gyfer y dyfodol.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) am y diweddariad a dywedodd, gan fod y QIP yn cael ei adolygu’n rheolaidd, fod hyn yn rhoi hyder i’r Corff Llywodraethu fod ansawdd wedi’i fewnblannu ym mhob proses. Ategodd aelod arall y teimlad hwn a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled wrth lunio’r dogfennau hyn gan fod llawer o wybodaeth ddwys ynddynt. Mynegodd yr aelod hwn ei siom nad yw’r SER a QIP bellach yn cael eu hanfon at LlC.

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch lefel ymgysylltiad y timau. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) fod pob Rheolwr Gweithredol yn y Coleg yn cyfarfod â’u timau yn ystod y Diwrnod Ansawdd cyntaf i gael trafodaeth lawr gwlad ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella fel bod perchnogaeth lawn o’r SER a’r QIP yn digwydd. Nodwyd bod cyrsiau yn cael eu hystyried ar lefel gronynnog ar gyfer timau’r cwricwlwm.

Dywedodd aelod arall fod y dogfennau wedi creu argraff arni a’i bod yn dda gweld bod y meysydd blaenoriaeth yn adlewyrchu’r rhai o fewn y sector. Gofynnodd yr aelod a oedd unrhyw rannu traws-sector yn digwydd, gan nodi Jisc a thrawsnewid digidol fel enghreifftiau. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) fod rhywfaint o gydweithio ar draws y sector addysg bellach ond mae colegau hefyd yn canolbwyntio mwy o sylw ar bartneriaethau cymdeithasol erbyn hyn. Nodwyd bod egin yn ymddangos ledled De-ddwyrain Cymru yn y gwaith y mae colegau yn ei wneud ynghylch eu cenhadaeth ddinesig.

Trafodwyd y gwobrau y mae’r Coleg wedi’u hennill dros y blynyddoedd diwethaf a sut mae’r rhain yn effeithio ar y cwricwlwm a’r dysgwyr. Trafodwyd bod y gwobrau hyn yn ddiduedd ac yn rhoi dilysiad a sicrwydd allanol o ansawdd a chyflawniadau’r Coleg. Ychwanegodd y Pennaeth y gallai ffocws y Coleg o ran gwobrau symud yn awr i wobrau mwy unigol i staff a dysgwyr.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) am y diweddariad.

4.55pm – Ymunodd Gemma Carr-Evans â’r cyfarfod

4. COFNODION CYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU AR 8 RHAGFYR 2023

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethu a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2023 yn gywir.

5. MATERION SY’N CODI

5.1 Cofnod Gweithredoedd

Roedd chwe cham gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd – un ambr, dau las, day wyrdd, ac un ar y gweill. Nid oedd y camau ambr a glas yn ddyledus eto.

[GOLYGWYD]

Nododd yr aelodau’r camau gweithredu eraill a’r diweddariad a roddwyd yn erbyn pob un o’r camau gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd.

6. DIWEDDARIAD Y PENNAETH

Nododd y Corff Llywodraethu Ddiweddariad y Pennaeth (Newyddion a Chyflawniadau yn unig oherwydd bod dyddiadau’r cyfweliadau’n agos at y cyfarfod hwn).

Hefyd, rhoddodd y Pennaeth ddiweddariad i’r Corff Llywodraethu ar y canlynol:

  • Nid yw’r gostyngiad i gyfraddau dargadwedd a brofwyd ym mis Ionawr yn y blynyddoedd blaenorol wedi digwydd eleni ac mae hyn yn dyst i waith caled y ddau Gyfarwyddwr Cwricwlwm – Catrin Sullivan a Gemma Carr-Evans a’u timau.
  • Roedd y tân a ddigwyddodd ar y stad ddiwydiannol ychydig y tu ôl i gampws Queens Road ganol mis Ionawr yn frawychus iawn. Anfonwyd llythyr o ddiolch at Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth iddyn nhw lwyddo i atal y tân rhag lledu i gampws y Coleg. Nodwyd, ar ôl cau am bythefnos, fod y campws bellach yn ôl ar agor yn dilyn glanhau trylwyr. Diolchodd y Pennaeth i dimau’r ystadau a chwricwlwm am sicrhau nad oedd y myfyrwyr a oedd wedi’u dadleoli wedi colli unrhyw ddysgu, a gorffennodd drwy ddweud bod y Coleg yn meddwl am y bobl a’r busnesau hynny a effeithiwyd arnynt gan y tân.
  • Roedd y Coleg wedi derbyn setliad cyllid LlC ar gyfer 2024/25 am 4.20pm y diwrnod cyn y cyfarfod hwn. Gan fod hyn mor agos at y cyfarfod hwn, nid yw’r Uwch Dîm wedi cael cyfle i’w drafod eto. Nodwyd bod y Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) wedi cael adolygiad cychwynnol ac mae’r setliad yn agos i’r hyn yr oedd y Coleg yn disgwyl iddo fod.

Cafwyd trafodaeth ynghylch pa mor ymroddedig yw’r Coleg i ymgysylltu â myfyrwyr a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar gadw myfyrwyr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm fod cynllunio ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu eisoes wedi dechrau ar gyfer y cyfnod nesaf.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth a’i thîm am ymateb y Coleg i’r tân ac am roi diweddariadau i’r Corff Llywodraethu drwy gydol y sefyllfa.

7. DIWEDDARIAD AR BROFIAD Y DYSGWYR

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) y gweithgareddau a oedd wedi digwydd drwy gydol Ionawr a Chwefror. Roedd y rhain yn cynnwys lansio siop barbwr dros dro ar gampws Heol y Bont-faen, y myfyrwyr Chwaraeon yn codi arian, y myfyrwyr Cerddoriaeth a Theatr Gerdd yn cipio gwobr ‘Dewis y Myfyrwyr’ yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, Digwyddiad Darganfod i Fyfyrwyr (Diwrnod Agored) lle ymwelodd 288 o ddarpar ddysgwyr ac aeth 119 o’r rhain ymlaen i wneud cais am gwrs (cyfradd drosi o 43%) a llawer o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol.

Cyflwynwyd y ffigyrau Diogelu; mae’r rhain yn unol â’r flwyddyn flaenorol ar hyn o bryd. Nodwyd mai’r tri maes sy’n peri’r pryder mwyaf o hyd yw iechyd meddwl, gorbryder a phrofedigaeth a bod nifer a chymhlethdod yr atgyfeiriadau i aml-asiantaethau yn cynyddu. Nodwyd hefyd, o ganlyniad i’r pryderon hyn, fod y Coleg yn treialu’r defnydd o Gaplan fel bod gan fyfyrwyr rywun diduedd y gallant siarad â nhw.

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) wrth y Corff Llywodraethu fod Estyn wedi cyhoeddi arweiniad atodol ar gyfer arolygu arferion diogelu yn ddiweddar (yn weithredol o dymor y gwanwyn 2024).(GWEITHREDU – JB) – Bydd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) yn rhannu’r ddolen hon â’r aelodau drwy’r Clerc.

5.07pm – Ymunodd Marion Evans 

Canmolwyd yr adroddiad gan aelod a ddiolchodd i’r timau am eu hymdrechion o ran ymgysylltu â myfyrwyr a lles/diogelu y myfyrwyr. Dywedodd yr aelod y byddai’n ddefnyddiol gweld ar ddiwedd y flwyddyn sut yr oedd y diwrnodau dysgu proffesiynol yn cael eu llywio gan anghenion dysgwyr y Coleg (GWEITHREDU – JB).

Eglurodd un o Gyfarwyddwyr y Cwricwlwm fod llawer mwy o gysylltiad â gweithwyr cymdeithasol a phartneriaid allanol erbyn hyn oherwydd y cynnydd yng nghymhlethdod anghenion diogelu. Ychwanegodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) fod system raddio ar gyfer pryderon lles yn cael ei defnyddio (Graddau 1-4) a bod aelod o’r tîm Lles yn ymdrin â phryderon Gradd 3 neu 4.

Croesawodd aelod arall y drefn newydd o roi diweddariadau rheolaidd i’r Corff Llywodraethu ar ddiogelu gan fod hyn yn rhoi sicrwydd ynghylch y nifer a’r mathau o achosion. Cafwyd trafodaeth ar y dull cyfannol a ddilynwyd a sut mae ymateb fforensig y Coleg i bob achos yn cefnogi’r dysgwyr. Ychwanegodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwyr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) y byddai’r archwiliad mewnol tair-blynyddol i Ddiogelu yn cael ei gynnal yn fuan a bydd y canlyniadau’n cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

8. MATERION LLYWODRAETHU

NODODD y Corff Llywodraethu y canlynol:

  • Adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd 2023. Cytunodd y Corff Llywodraethu y byddai hwn yn awr yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau yn y dyfodol.
  • Newid dyddiadau cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu y mis Ionawr, cyfarfod y Corff Llywodraethu ym mis Mawrth, a chyfarfod y Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd ym mis Mehefin.

9. DIWEDDARIAD ARIANNOL

Rhoddodd y Dirprwy Bennaeth y diweddariad ariannol canlynol gan fod y cyfarfod hwn wedi disgyn rhwng y cylch rhagolygon chwarterol:

  • [GOLYGWYD]

Nododd y Corff Llywodraethu y bydd rhagolwg ariannol manwl yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau ym mis Mawrth a chyfarfod y Corff Llywodraethu ym mis Ebrill.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) am y diweddariad.

10. CAMPWS YNG NGHANOL Y DREF

[GOLYGWYD] 

11. DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL CORFFORAETHOL A CHERDYN SGORIO CYTBWYS

[GOLYGWYD] 

12. ADRODDIAD Y GYMRAEG

Cyflwynodd y Pennaeth yr adroddiad i’r Corff Llywodraethu ei nodi a diolchodd i Liz Evans, Uwch Hwylusydd Prosiectau, am ei gwaith yn cynhyrchu’r adroddiad hwn gan fod Pennaeth y Gymraeg yn absennol o’r gwaith gyda salwch hirdymor.

Nododd y Corff Llywodraethu Adroddiad y Gymraeg.

13. CANMOLIAETH A CHWYNION

Cyflwynodd y Pennaeth yr adroddiad hwn a hysbysodd y Corff Llywodraethu, o ganlyniad i drefn gŵynion newydd gael ei chyflwyno, bod cwynion bellach yn cael eu trin ar y lefel briodol. Roedd yr adroddiad yn nodi nad oes unrhyw dueddiadau yn y cwynion a dderbyniwyd.

14. UNRHYW FATER ARALL

14.1 CTER – DYDDIAD GWEITHREDU NEWYDD

Roedd yr aelodau wedi derbyn copi o’r llythyr a anfonwyd at y Pennaeth yn ei hysbysu mai 1 Awst 2024 fydd y dyddiad gweithredu newydd oherwydd problemau gyda systemau cyfrifiadurol LlC. Nodwyd na fydd yr oedi yma yn cael unrhyw effaith weithredol ar golegau addysg bellach.

Gofynnodd aelod a oedd yna unrhyw wybodaeth bellach am gynlluniau CTER, a thrafodwyd bod CTER yn disgwyl cyd-adeiladu eu model gweithredu ac y bydd yn cymryd blynyddoedd lawer nes i hyn gael effaith. Cytunwyd bod LlC yn ymddiried yng Ngholeg Penybont ac y bydd yn gwrando ar farn yr Uwch Dîm Arwain ar yr hyn sydd orau i fyfyrwyr a staff yn y sector AB.

GWIRIWR GWERTHOEDD

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o’r trafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau. Cytunwyd bod yr holl aelodau a staff wedi cael cyfle i gyfrannu at y cyfarfod.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.57pm.

Cynhaliwyd cyfarfod Materion Cyfrinachol gyda’r aelodau cymwys ar ôl y cyfarfod hwn.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch