Cofnodion Cyfarfod y Corff Llywodraethu – 4 Gorffenaf 2024

YSTAFELL GYNADLEDDA’R ACADEMI STEAM AC AR GOOLE MEET- 4.30yp

AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:

  • Emma Adamson – Cadeirydd
  • Viv Buckley – Pennaeth
  • Joe Castle
  • Lisa Dobbs – Staff-lywodraethwr
  • Marion Evans – Staff-lywodraethwr
  • Hayden Llewellyn
  • Claire Marshall
  • Stephne Puddy
  • Lloyd Tandy – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Helen Verity
  • Shelley Wyatt-Williams – ymunodd am 4.39pm

ERAILL A OEDD YN BRESENNOL 

  • Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol)
  • Gemma Carr-Evans – Cyfarwyddwr y Cwricwlwm (Heol y Bont-faen a Heol y Frenhines)
  • Nicola Eyre – Clerc
  • Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
  • Hayley Thomas – Is-Bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd)

Dechreuodd y cyfarfod am 4.30yp

Generative AI (Google Gemini) was used to help draft these minutes.

1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Cyflwynwyd Tystysgrif o Gyflawniad a thaleb rhodd i Lloyd Tandy i’w ddiolch am wasanaethu fel myfyriwr-lywodraethwr yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Trish D’Souza, Judith Evans, Teodora Grancea (Myfyriwr-lywodraethwr), Joanne Oak a Catrin Sullivan (Cyfarwyddwr y Cwricwlwm (Pencoed)). Roedd Catrin ar y ffordd i Gambodia gyda thaith Heriau Dramor y Coleg.

Ni fynychodd Dawn Lewis-Whelan y cyfarfod.

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai Shelley Wyatt-Williams yn ymuno ychydig yn ddiweddarach ac mai hwn fyddai ei chyfarfod Corff Llywodraethu cyntaf ar ôl gwasanaethu fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio ers mis Mawrth 2021.

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau fod nodyn o ddiolch wedi’i roi i Trish D’Souza yng nghyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd yn gynharach yr wythnos hon gan ei bod ar fin cymryd blwyddyn sabothol i ymgymryd â rôl Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Caerdydd a’r Cylch. Nodwyd y bydd Trish yn ailymuno â’r Corff Llywodraeth ym mis Medi 2025. Er nad oedd Trish yn bresennol yn y cyfarfod, rhoddwyd diolch ffurfiol am y ei phum mlynedd o wasanaethu ar y Corff Llywodraethu.

Diolchwyd hefyd i Lloyd Tandy a Teodora Grancea am eu blwyddyn o wasanaethu fel myfyrwyr-lywodraethwyr a mynegodd y Cadeirydd werthfawrogiad y Corff Llywodraethu am bopeth a wnaed ganddynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Canmolodd y Cadeirydd hefyd gymuned y Coleg am greu amgylchedd lle mae ei ddysgwyr am ymwneud yn weithredol â’r Corff Llywodraethu. Nodwyd y bydd Charlize Cosker, dysgwr Gofal Plant Lefel 3, yn gwasanaethu ochr yn ochr â Lloyd fel myfyriwr-lywodraethwr ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 academic year.

Nododd y Corff Llywodraethu fod Donna Ali wedi cael ei chyfweld gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu yr wythnos honno ac y bydd cymeradwyaeth ffurfiol i’r argymhelliad i’w phenodi yn cael ei hystyried fel rhan o eitem 10 ar yr agenda ‘Materion Llywodraethu’.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Corff Llywodraethu fod trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gyda darpar aelodau eraill a gofynnodd i unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethu a oedd yn adnabod unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn ymaelodi, i anfon eu manylion ymlaen at y Clerc.

[GOLYGWYD]

Llongyfarchwyd Marion Evans am ennill y wobr Addysgwr Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar, a nodwyd bod Simon Pirotte wedi cyflwyno’r wobr i Marion yn Gymraeg. Diolchodd Marion i bawb a dywedodd fod cefnogaeth a gwaith tîm gwych wedi cyfrannu at ei buddugoliaeth.

4.39pm – ymunodd Shelley Wyatt-Williams â’r cyfarfod

Croesawodd y Cadeirydd Shelley i’w cyfarfod cyntaf ar y Corff Llywodraethu.

2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU

Dim

3. CYFLWYNIAD – Ein Myfyrdodau Terfynol (Lloyd Tandy, Myfyriwr-Lywodraethwr)

Rhoddodd y Pennaeth rhagarweiniad i’r cyflwyniad a baratowyd ar y cyd gan y ddau fyfyriwr-lywodraethwr, Lloyd Tandy a Teodora Grancea. Rhoddodd Lloyd y cyflwyniad gan fod Teodora wedi mynegi ymddiheuriad am absenoldeb oherwydd argyfwng teulu.

Roedd y cyflwyniad yn trafod:

  • Eu pryderon am gymuned y Coleg:
    • Ymddygiad, cymuned yn y Coleg lle mae pawb yn perthyn, mannau astudio tawel, costau byw, a chyngor/arweiniad gyrfaol.
  • Rhwystrau i’w llwyddiant yn y dyfodol:
    • Arian, camu y tu fas i’w parth cyfforddus, a theimlo’n rhy ifanc
  • Beth sy’n eu pryderu fwyaf am y byd
    • Newid hinsawdd, tlodi, diffyg dealltwriaeth am wleidyddiaeth, y rhyfeloedd yn Wcráin a Gaza ar hyn o bryd, a gwahaniaethu/diffyg gwrando ar farn bobl ifanc.
  • Gobeithion ar gyfer y dyfodol
    • Darpariaeth ddwyieithog, addysgu pobl ifanc am wleidyddiaeth, ymgysylltu â’r gymuned, profiad gwaith, a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol.

Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu Lloyd ar ei gyflwyniad. Dywedodd aelod ei bod yn bleser gweld Lloyd yn ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn am Wasanaethau Cyhoeddus, yn ogystal â’r holl fyfyrwyr eraill a enwebwyd, yn y Noson Wobrwyo Myfyrwyr a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â sut mae’n bwysig bod y Corff Llywodraethu yn deall y bylchau yng ngwybodaeth a phrofiadau dysgwyr yn ogystal â’r hyn sy’n eu poeni fwyaf.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm (GCE), ei bod wedi bod yn bleser iddi hi â’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm arall (CS) gefnogi Lloyd a Teodora a’u gweld yn ffynnu yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd ei bod yn falch iawn bod Teodora yn mynd ymlaen i astudio gradd mewn Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau ym Mhrifysgol Abertawe a bod Lloyd yn parhau â’i astudiaethau yn y Coleg ar y cwrs HND Gwasanaethau Cyhoeddus.

Diolchodd y Pennaeth i Lloyd am ei gyflwyniad a dywedodd y bydd y Coleg yn ymchwilio ac yn gweithredu ar y pryderon a godwyd.

Aildrefnwyd trefn yr agenda.

5. COFNODION CYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU AR 23 MAI 2024

Cadarnhawyd bod y cofnodion o gyfarfod y Corff Llywodraethu ar 23 Mai 2024 yn gywir.

6. MATERION SY’N CODI

6.1 Cofnod Gweithredoedd

Roedd pedwar cam gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd – tri gwyrdd ac un ambr. Nid oedd y camau gweithredu ambr yn ddyladwy eto.

Roedd y tri cham gweithredu gwyrdd wedi’u cynnwys fel rhan o eitemau’r agenda.

4. CYFLWYNIAD A THRAFODAETH – Gwerthu Tir

4.58pm – ymunodd Scott Caldwell (Savills) â’r cyfarfod

[GOLYGWYD]

5.37pm – gadawodd Scott Caldwell y cyfarfod

7. DIWEDDARIAD Y PENNAETH

Rhoddodd y Pennaeth ddiweddariad i’r Corff Llywodraethu ar y canlynol:

  • Rhoddwyd dyfarniad Aur i’r Coleg unwaith eto ym Mynegai Lles yn y Gweithlu yr elusen Mind, a dywedodd y Pennaeth fod hyn yn brawf o agwedd y Corff Llywodraethu, yr Uwch Dîm Arwain a holl staff y Coleg gan fu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd eleni o ganlyniad i doriadau ariannol yn ogystal â newidiadau i dîm arwain y Coleg. Nodwyd mai dim ond ychydig o sefydliadau addysgol sy’n ymddangos yn y Mynegai hwn.
  • Cyflawniadau a ragwelir ar gyfer 2023/24:
    • [GOLYGWYD]
  • Enw CTER bellach fydd Medr, a bydd digwyddiad ymgysylltu’n cael ei gynnal ar 8 Gorffennaf {nodyn y Clerc – bydd y Pennaeth a’r Cadeirydd yn y mynychu’r digwyddiad hwn.}
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dyfarniad cyflog o 3.5% yn ei ddyraniad cyllid ar gyfer y colegau i gyd, ond ni chafwyd unrhyw drafodaethau gydag undebau llafur. Yn ogystal, nid yw setliad yr athrawon wedi cael ei gytuno eto, ac mae’n annhebygol y bydd unrhyw ffigwr sy’n uwch na 3.5% yn fforddiadwy i’r sector; byddai hyn yn golygu diwedd ar gyflogau cyfartal.
  • Cyfeiriwyd yn anuniongyrchol at raglen interniaeth y Coleg a gefnogir gan PHS yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddar.
  • Mae Rio Architects wedi cyhoeddi erthygl ar gyfleusterau AB addasadwy gyda’r ffocws ar yr Academi STEAM.
  • Mae’r Coleg newydd gael ei gyhoeddi fel Coleg ‘Google Reference’ y Flwyddyn.
  • Rhoddwyd y Coleg ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Cwmni Amrywiol’ yng Ngwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2024. Nodwyd mai’r Coleg yw’r unig sefydliad addysg ar y rhestr fer ar gyfer unrhyw un o’r categorïau.

Dywedodd aelod fod llawer o gyflawniadau gwych yn yr adroddiad hwn, ac fe longyfarchodd y Pennaeth a’r staff i gyd ar hyn. Adleisiodd y Cadeirydd y teimlad hwn.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

8. GWEITHDREFN CYNLLUNIO STRATEGOL (argymhelliad yr Archwilwyr Mewnol)

Esboniodd y Pennaeth fod yna argymhelliad hirsefydlog gan yr Archwilwyr Mewnol i ddatblygu gweithdrefn sy’n esbonio’r broses i’w dilyn wrth lunio Cynllun Strategol.

Esboniodd y Pennaeth y weithdrefn hon a rhoddodd wybod i’r Corff Llywodraethu fod y staff i gyd wedi cael cyfle i rannu eu syniadau am yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn y Cynllun Strategol nesaf yn ystod y Diwrnod Dysgu Proffesiynol a gynhaliwyd yn ystod yr un wythnos â’r cyfarfod. Ychwanegodd y Pennaeth y byddai’r Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg (a oedd i’w gymeradwyo fel rhan o eitem 13) yn ffurfio rhan o’r weithdrefn hon gan ei fod yn hollbwysig i’r broses o wneud penderfyniadau.

Nododd y Corff Llywodraethu y weithdrefn.

9. DIWEDDARIAD DIOGELU

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) y diweddariad ar ddiogelu a thynnodd sylw at y ffaith bod archwiliad mewnol o weithdrefnau a dull diogelu’r Coleg wedi cael ei gynnal gan TIAA ddiwedd mis Mehefin. Nodwyd nad yw’r adroddiad wedi dod i law eto, ond bydd yn cael ei adolygu gan yr Uwch Dîm Arwain a’r Pwyllgor Archwilio.

Dywedodd aelod fod y data tueddiadau yn edrych yn bositif a gofynnodd a oedd rheswm am hyn. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) y bu llawer o gyfeirio at yr ap Wisdom (ap cymorth lles ar gyfer myfyrwyr y Coleg) yn ogystal â strategaethau eraill sydd ar waith, ond bod angen gwneud rhagor o waith dros yr haf i ddadansoddi’r data’n llawn a’i ddeall.

Ychwanegodd y Pennaeth fod y gostyngiad yn y nifer o achosion yn cyd-fynd â’r gwelliant o ran cyfraddau cadw a chanlyniadau. Nodwyd bod nifer y materion lles/diogelu lefel is yn lleihau wrth i fyfyrwyr ddod yn fwy gwydn, fodd bynnag mae’r achosion mwy cymhleth bellach yn ymwneud â gwasanaethau aml-asiantaeth.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

6.00pm-6.10pm – egwyl

10. MATERION LLYWODRAETHU

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu’r canlynol:

  • Penodi Donna Ali i’r Corff Llywodraethu a’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd am dymor o bedair blynedd. Roedd yr holl aelodau wedi derbyn hysbysiad o’r argymhelliad o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf yn ogystal â chopi o CV Donna a llythyr eglurhaol.

CADARNHAODD y Corff Llywodraethu y canlynol:

  • Penodi Rachel Bowen i’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau.

NODODD y Corff Llywodraethu y canlynol:

  • Trafododd y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu strwythur y pwyllgorau a chynigiwyd rhai newidiadau i’r pwyllgorau ar gyfer 2024/25. Dywedodd y Clerc wrth yr aelodau y byddai’n cysylltu â nhw’n uniongyrchol i drafod y rhain.
  • Hyfforddiant – darparwyd manylion am hyfforddiant ColegauCymru ar Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hyfforddiant y Grŵp Arweinyddiaeth Ddu ar Ddatblygiad Proffesiynol Gwrth-hiliaeth ar gyfer Llywodraethwyr AB.

11. POLISÏAU’R COLEG

11.1 Defnydd o’r Gymraeg

Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu y polisi hwn yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd a’r Uwch Dîm Arwain.

11.2 Polisi Dewisol Pensiynau

Cymeradwyodd y Corff Llywodraethol y polisi hwn yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau a’r Uwch Dîm Arwain.

12. CYFRIFON RHEOLI, DIWEDDARIAD CHWARTEROL A DPAau ARIANNOL

[GOLYGWYD]

13. ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISGIAU A DATGANIAD O’R ARCHWAETH RISGIAU

Adolygu’r Gofrestr Risgiau

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) fod y Gofrestr Risgiau wedi’i hadolygu gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Mehefin a’u bod wedi ailystyried Risg 15 (Risg 16 yn flaenorol) fel y gofynnwyd gan y Corff Llywodraethu yn ei gyfarfod ym mis Ebrill. Yr argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio oedd y dylai’r Gofrestr Risgiau ddiwygiedig gael ei chymeradwyo gan y Corff Llywodraethu.

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y fersiwn diweddaraf o’r Gofrestr Risgiau.

Datganiad o’r Archwaeth Risgiau

Gofynnwyd i’r Corff Llywodraethu gymeradwyo’r datganiad hwn wedi i’r Uwch Dîm Arwain, y Pwyllgor Archwilio a’r Corff Llywodraethu wneud nifer o adolygiadau a diwygiadau iddo.

[GOLYGWYD]

Dywedodd aelod ei bod yn meddwl bod y datganiad yn glir iawn ac yn hawdd ei ddeall.

Diolchodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) i Helen Verity a oedd wedi gwneud yr awgrym i gyflwyno Datganiad o’r Archwaeth Risgiau.

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y Datganiad o’r Archwaeth Risgiau a’i gynnwys yn y Weithdrefn Cynllunio Strategol.

14. CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL AR GYFER 2024/25

Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi argymell cymeradwyo’r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2024/25 yn dilyn adolygiad gan y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) a TIAA (Archwilwyr Mewnol).

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2024/25.

15. CYNLLUN ARCHWILIO ALLANOL AR GYFER 2023/24

[GOLYGWYD]

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y Cynllun Archwilio Allanol ar gyfer 2023/24.

16. CYLLIDEB Y COLEG AR GYFER 2024/25

[GOLYGWYD]

17. DIWEDDARIAD AR GOLEG BEVAN

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) wrth y Corff Llywodraethu fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Coleg Bevan yn ddiweddar iawn fel Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol. Nodwyd bod llawer o weithgarwch wedi digwydd ers i’r gymeradwyaeth ddod i law gan gynnwys:

  • hysbysebu dwy rôl newydd gyda thelerau ac amodau Coleg Bevan;
  • Mae Google wedi cymeradwyo sefydlu Coleg Bevan fel endid annibynnol; a
  • trefnu cyfarfod cyntaf y Bwrdd ym mis Hydref.

Atgoffodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) y Corff Llywodraethu, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 ymlaen, mai’r Awdurdod Lleol fydd yn ariannu’r lleoliadau yng Ngholeg Bevan yn hytrach na bod y cyllid yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) a’i dîm am ddod â Choleg Bevan i’r cam hwn a dywedodd fod angen i’r Corff Llywodraethu ystyried y strategaeth tymor hirach yn y cyfarfodydd nesaf (GWEITHREDU – JB).

18. DIWEDDARIAD AR Y CAMPWS CANOL TREF

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) wrth y Corff Llywodraethu fod y rigiau pentyrru ar y safle a’u bod wedi dechrau ar y gwaith o osod sylfeini’r adeilad newydd. Nodwyd bod cyfleoedd i ymgysylltu â myfyrwyr a’r gymunedol wedi’u cynllunio gyda Willmott Dixon a bod grŵp o fyfyrwyr Adeiladwaith wedi ymweld â’r safle yn ddiweddar i gael profiad uniongyrchol o safle adeiladu byw.

Nodwyd hefyd bod y dyddiad dymchwel arfaethedig o ganol mis Gorffennaf ar gyfer y maes parcio aml-lawr yn dal i fod yn destun newid a’i fod bellach yn cyrraedd y cam hollbwysig lle gallai amserlen y prosiect gael ei beryglu pe bai’n cael ei ohirio’n llawer hirach.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) am y wybodaeth a gofynnodd fod y Corff Llywodraethu dderbyn diweddariadau dros fisoedd yr haf.

Cytunwyd y byddai taith o amgylch ystâd y Coleg yn cael ei threfnu i’r Corff Llywodraethu weld maint daliadaeth tir y Coleg (GWEITHREDU – NE).

19. DPAau CORFFORAETHOL A CHERDYN SGORIO CYTBWYS

Cyflwynwyd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau) Corfforaethol a’r Cerdyn Sgorio Cytbwys.

DPAau Corfforaethol

[GOLYGWYD]

Cerdyn Sgorio Cytbwys

Mae llawer o ddeilliannau gwyrdd o ran y DPAau ar gyfer Tymor 3. Nodwyd y bydd yr Uwch Dîm Arwain yn ystyried y meincnodi ar gyfer yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau ei fod yn darparu’r cymariaethau mwyaf ystyrlon.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

20. COFNODION Y PWYLLGORAU

20.1 Archwilio – 6 Mehefin 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.

20.2 Cynllunio Adnoddau – 13 Mehefin 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.

20.3 Cwricwlwm ac Ansawdd – 17 Mehefin 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.

21. UNRHYW FATER ARALL

Dywedodd y Pennaeth wrth y Corff Llywodraethu fod strwythur dros dro yr Uwch Dîm Arwain bellach wedi’i wneud yn barhaol ar ôl penodi Catherine Luff yn Gyfarwyddwr Pobl parhaol. Llongyfarchwyd Catherine Luff.

GWIRIWR GWERTHOEDD

Diolchodd Lloyd Tandy bawb am ei gefnogi fel Myfyriwr-Lywodraethwr a dywedodd ei fod wedi mwynhau’r flwyddyn yn fawr, a’i fod yn edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf.

Cytunwyd bod pob aelod wedi cael cyfle i gyfrannu a bod y cyfarfod wedi cael ei gynnal yn unol â gwerthoedd y Coleg.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod, a daeth y cyfarfod i ben am 7.02pm.

Ni chynhaliwyd cyfarfod Materion Cyfrinachol gan fod yr holl faterion wedi cael eu trafod fel rhan o drafodion arferol y Corff Llywodraethu.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch