Cofnodion Cyfarfod y Corff Llywodraethu – 26 Hydref 2023

YSTAFELL GYNADLEDDA’R ACADEMI STEAM A THRWY GOOGLE MEET – 4:30yp

AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:

  • Judith Evans – Cadeirydd Dros Dro
  • Emma Adamson
  • Viv Buckley – Pennaeth
  • Lisa Dobbs – Staff-lywodraethwr
  • Marion Evans – Staff-lywodraethwr
  • Teodora Grancea – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Claire Marshall
  • Joanne Oak -ymunodd am 4.40pm
  • Stephne Puddy
  • Lloyd Tandy – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Helen Verity

ERAILL A OEDD YN BRESENNOL

  • Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Ymarfer Cynhwysol)
  • Gemma Carr-Evans – Cyfarwyddwr Cwricwlwm
  • Nicola Eyre – Clerc
  • Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
  • Cath Luff – Cyfarwyddwr Pobl
  • Matt Rees – Is-Bennaeth (Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol)
  • Catrin Sullivan – Cyfarwyddwr Cwricwlwm

Cychwynnodd y cyfarfod am 4.35pm

1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Rhoddodd y Cadeirydd groeso arbennig i’r ddau fyfyriwr-lywodraethwr newydd, Teodora Grancea a Lloyd Tandy, a llongyfarchodd hefyd yr aelodau canlynol o’r Uwch Dîm Arwain ar eu penodiadau diweddar:

  • Viv Buckley – Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Dros Dro
  • Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
  • Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth Dros Dro (Taith y Dysgwr, Systemau ac Ymarfer Cynhwysol)
  • Matt Rees – Is-Bennaeth (DSW a Gweithgarwch Masnachol)
  • Cath Luff – Cyfarwyddwr Pobl Dros Dro

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jeff Greenidge (Cadeirydd), Trish D’Souza, Dawn Lewis-Whelan a Hayden Llewellyn.

Ni fynychodd Dan Biddle.

2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU

Roedd Trish D’Souza, er nad oedd yn bresennol, wedi datgan buddiant yn y Polisi ADY (eitem agenda 7) gan ei bod wedi helpu i lunio’r cynnwys gyda’r Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arfer Cynhwysol).

[GOLYGWYD]

3. COFNODION O GYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU AR 6 GORFFENNAF 2023

Cadarnhawyd bod y cofnodion o gyfarfod y Corff Llywodraethu ar 6 Gorffennaf 2023 yn gywir.

4. MATERION SY’N CODI

4.1 Cofnod Gweithredoedd

Roedd pedwar cam gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd – un gwyrdd, un ambr, un glas ac un wedi’i ddisodli.

Nododd yr aelodau’r camau gweithredu a’r diweddariad a roddwyd ar gyfer pob un o’r camau gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd.

4.2 Camau Gweithredu a Gwblhawyd 2022/23

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn ddefnyddiol gweld hyn bob blwyddyn gan ei bod yn dangos faint o waith sy’n cael ei wneud gan y Corff Llywodraethu a’r Uwch Dîm Arwain.

5. DIWEDDARIAD Y PENNAETH A DIWEDDARIAD AM DDYSGU AC ADDYSGU

Diweddariad y Pennaeth

Cyflwynodd y Pennaeth y wybodaeth ganlynol:

  • Yn ogystal â’r newidiadau i’r Uwch Dîm a restrir yn eitem 1 ar yr agenda, bydd Hayley Thomas yn ymuno fel Is-Bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd) ar 6 Tachwedd 2023.
  • Mae JoAnna Singh wedi cael ei phenodi’n Rheolwr Hyb Llwyddiant newydd a phenodwyd Sion Whitehouse yn Rheolwr Llesiant a Diogelu newydd yn ddiweddar; mae’r ddau yn benodiadau allanol.
  • Mae niferoedd a ymrestrwyd wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru (LlC) xxxxxxx.
  • Mae LlC yn cynnal adolygiad manwl o’r ffordd y mae’n ariannu’r sector AB gan ei bod yn wynebu diffyg o £900m ar gyfer 2023/24. Mae rhai o’r ffyrdd y maent yn bwriadu cyflawni hyn yn cynnwys newid y fethodoleg ariannu ar gyfer dysgwyr llawn amser, lleihau’r nifer o raglenni rhan amser a dysgu seiliedig ar waith, dileu cyllid ar gyfer rhai prosiectau penodol a newid y ffordd y caiff Cyfrifon Dysgu Personol eu hariannu.

Gofynnodd aelod, yn dilyn cyhoeddiad diweddar LlC, a oedd potensial iddynt adennill unrhyw gyllid yn ystod y flwyddyn. Cadarnhawyd nad oes unrhyw effaith ar eleni ond gallent edrych ar y flwyddyn academaidd flaenorol ac adfachu unrhyw gyllid lle na chyrhaeddwyd y targedau.

Dywedodd aelod arall yr hoffai weld pa effaith y byddai lleihau a thynnu cyllid o feysydd penodol yn ei chael ar y Coleg. Dywedodd y Pennaeth fod y gwaith hwn wedi dechrau’n fewnol ac y byddir yn adrodd arno pan fydd ar gael (GWEITHREDU – VB).

  • Mae’r Coleg wedi sicrhau £xxxx o gyllid o’r rhaglen ‘Lluosi’ yn dilyn proses dendro gystadleuol. Pwrpas y cyllid hwn cefnogi dysgwyr gyda’u sgiliau mathemateg a rhifedd.
  • Bu nifer sylweddol o gyflawniadau rhwng Gorffennaf a Medi (pob un wedi’u rhestru yn Adroddiad y Pennaeth) a gwahoddodd y Pennaeth Lloyd Tandy i ddweud wrth y Corff Llywodraethu am ei lwyddiant diweddar.

Dywedodd Lloyd wrth yr aelodau ei fod, ar ôl proses gystadleuol, wedi cael ei benodi’n un o bedwar Llysgennad Cymraeg cenedlaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24; Roedd Lloyd yn Llysgennad Cymraeg i’r Coleg yn 2022/23. Llongyfarchodd y Corff Llywodraethu Lloyd a dymuno’r gorau iddo yn y rôl hon.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

Diweddariad Dysgu ac Addysgu

Eglurodd y Pennaeth fod newidiadau wedi cael eu gwneud i’r broses ymgynefino eleni a bod yr adborth gan y dysgwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol – dywedodd dros 85% o’r dysgwyr eu bod yn gyffrous am eu cwrs ac yn hapus i fod yn y Coleg. Nodwyd y cafwyd miloedd o ymatebion i’r arolwg cynefino dros y ddau ddiwrnod, gan ddarparu adborth gwerthfawr iawn i’r Coleg. Diolchodd y Pennaeth i Gemma Carr-Evans a Catrin Sullivan, Cyfarwyddwyr y Cwricwlwm, am eu hymdrechion aruthrol yn arwain ar hyn a dywedodd fod y prosesau sydd ar waith yn awr yn arwain y sector.

Amlinellodd y Pennaeth hefyd y newidiadau sydd i ddod i’r ffordd y bydd y Pwyllgor Safonau yn cael ei redeg a diolchodd i aelodau’r Corff Llywodraethu sydd wedi cytuno i fynychu’r cyfarfodydd hyn ar ôl hanner tymor.

Yn olaf, hysbyswyd yr aelodau bod dwy rôl Ymarferydd Arweiniol newydd wedi’u creu, a’u cylch gorchwyl yw gwella safonau dysgu ac addysgu a datblygu arfer pedagogaidd gyda thimau cwrs. Roedd y Pennaeth yn falch o gyhoeddi bod un o’r swyddi hyn yn un ddwyieithog a bod Marion Evans, staff-lywodraethwr, wedi cael ei phenodi iddi. Nid oedd Marion yn bresennol ar gyfer y rhan hon o’r cyfarfod a dywedodd y Cadeirydd yr hoffai i’r Corff Llywodraethu longyfarch Marion pan fydd yn ymuno.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth am y diweddariad manwl a dywedodd ei bod yn gadarnhaol iawn clywed am yr adborth ar y broses gynefino. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Cwricwlwm (Pencoed) fod y dysgwyr wedi sôn llawer am y broses gynefino yn ystod y gorymdeithiau dysgu diweddar, sy’n dangos pa mor dda yr aeth hi.

Amlygodd y Cadeirydd hefyd fod cyllid bob amser yn risg ond eleni, mae’n teimlo fel risg mwy o lawer ac ategwyd hyn gan y Pennaeth. Ychwanegodd y Cadeirydd fod y Corff Llywodraethu yno i gefnogi’r Uwch Dîm ac y bydd yn helpu mewn unrhyw ffordd y gall. Cwestiynwyd a oedd CTER (Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) yn rhan o unrhyw un o’r trafodaethau ariannu ac esboniwyd nad yw CTER yn dod yn weithredol tan Ebrill 2024 ond eu bod yn cadw mewn cyswllt yn y cyfamser.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

6. MATERION LLYWODRAETHU

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu’r canlynol:

  • Cylch Gorchwyl y Pwyllgorau Archwilio a Chwilio a Llywodraethu.
  • Gwelliannau i’r Rheolau Sefydlog a’r Offeryn Llywodraethu i gynnwys y darpariaethau ar gyfer cymeradwyaeth electronig. Bydd y geiriad a awgrymwyd gan y Clerc ac a argymhellwyd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu yn cael ei ddefnyddio.
  • Cynnwys Adroddiad y Clerc ar gyfer 2022/23 a’i gyflwyno ymlaen i Lywodraeth Cymru ar gais. Dywedodd y Clerc wrth yr Uwch Dîm fod trafodaeth wedi cael ei chynnal yng nghyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu am ddefnyddio rhannau o’r adroddiad hwn yn fewnol mewn adroddiadau eraill i osgoi dyblygu gwaith.
  • Strwythur pwyllgorau’r Corff Llywodraethu ar gyfer 2023/24.

NODODD y Corff Llywodraethu y canlynol:

  • Hunanasesiad y Corff Llywodraethu ar gyfer 2022/23 a’r Dadansoddiad Sgiliau.
  • Mae Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Ymarfer Cynhwysol) wedi derbyn statws Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y Feithrinfa Ddydd a’r Cynllun Chwarae ac mae’n aros am gadarnhad o hynny ar gyfer Tŷ Weston/Coleg Bevan. [Nodyn y Clerc: Derbyniwyd cadarnhad o statws Unigolyn Cyfrifol Joe Baldwin ar gyfer Tŷ Weston/Coleg Bevan y diwrnod ar ôl y cyfarfod.]
  • Bydd cyfarfod y Corff Llywodraethu ym mis Rhagfyr yn cael ei gynnal ddydd Mercher 13 Rhagfyr yn lle dydd Iau 7 Rhagfyr.
  • Bydd Cinio Nadolig y Corff Llywodraethu’n cael ei gynnal ddydd Iau 30 Tachwedd a bydd gwahoddiadau’n cael eu hanfon yn fuan iawn.

Dywedodd y Clerc wrth y Corff Llywodraethu fod hyfforddiant rheoli risg wedi cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a’r Uwch Dîm ar 29 Chwefror 2024 rhwng 1-4pm a gwahoddir holl aelodau’r Corff Llywodraethu i fynychu’r hyfforddiant wyneb yn wyneb hwn. Roedd gwahoddiad dyddiadur wedi cael ei anfon at gyfeiriadau e-bost coleg holl aelodau’r Corff Llywodraethu.

7. POLISI ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arfer Cynhwysol) fod y Ddeddf ADY bellach yn cynnwys pobl ifanc hyd at 25 oed.

Cyflwynwyd y wybodaeth ganlynol am y polisi:

  • Mae hwn yn bolisi newydd sydd wedi bod trwy lawer o iteriadau cyn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo.
  • Yn flaenorol roedd cynnwys y polisi hwn yn rhan o bolisïau eraill.
  • Mae’r polisi wedi cael ei adolygu gan gynghorwyr cyfreithiol y Coleg ac mae’n addas i’r diben.
  • Mae’r Coleg yn gyfrifol am greu, cynnal ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer dysgwyr.
  • Mae gan y polisi gylch adolygu dwy flynedd.

Gofynnodd y Cadeirydd pryd mae angen i’r polisi hwn gael ei fabwysiadu i gydymffurfio â deddfwriaeth. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arfer Cynhwysol) fod angen i’r polisi fod yn ei le erbyn Medi 2024 ond mae’r Coleg yn ei dreialu’n gynnar.

Cwestiynodd aelod arall a oedd yr amser gweithredu o 35 diwrnod ar gyfer CDU yn gyraeddadwy, yn enwedig mewn rhai meysydd megis prentisiaethau a Dysgu Seiliedig ar Waith oherwydd pwysau ar adnoddau. Eglurwyd mai dyma’r nod ond mae’r polisi yn caniatáu ymestyn yr amserlen hon os oes angen. Trafodwyd bod yna lawer o waith i gadw dogfennau’n ddiweddar a rhoi diweddariadau i bartïon perthnasol.

Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu y Polisi ADY a chytunwyd mai Hydref 2025 fydd y dyddiad adolygu nesaf.

5.00pm – Ymunodd Marion Evans â’r cyfarfod

Llongyfarchodd y Pennaeth a’r Corff Llywodraethu Marion Evans ar ei phenodiad yn un o’r Ymarferwyr Arweiniol a thrafodwyd bod y rolau hyn yn dangos ymrwymiad y Coleg i fuddsoddi mewn dysgu ac addysgu. Cytunwyd y byddai Marion yn adrodd yn ôl ar y gwaith y mae’n ei wneud mewn un o gyfarfodydd y Corff Llywodraethu yn y dyfodol (GWEITHREDU – ME).

8. CAMPWS CANOL Y DREF

Roedd y Corff Llywodraethu wedi derbyn dwy e-bost gan y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) yn rhoi’r newyddion diweddaraf am gynnydd prosiect y campws yng nghanol y dref ar 15 Medi a 5 Hydref.

Nodwyd bod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau wedi trafod campws canol y dref yn fanwl yn ei gyfarfod ar 5 Hydref.

[GOLYGWYD]

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

9. POLISI DIOGELU, CYNLLUN GWEITHREDU ‘PREVENT’ A’R ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arfer Cynhwysol) y wybodaeth ganlynol:

Polisi Diogelu

  • Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru canllawiau’r ddyletswydd ‘Prevent’ a fydd yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023. Ni fu unrhyw newidiadau mawr i sefydliadau addysgol ond defnyddir rhywfaint o derminoleg newydd.
  • Mae’r unig newidiadau i’r fersiwn hon o’r polisi yn Adran 10, ac maent yn adlewyrchu canllawiau’r ddyletswydd ‘Prevent’ uchod. Nodwyd mai dyma’r trydydd tro i’r polisi hwn gael ei ddiweddaru eleni.

Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu y Polisi Diogelu diweddaredig.

Cynllun Gweithredu ‘Prevent’

  • Mae’r Cynllun Gweithredu ‘Prevent’ wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn y canllawiau newydd a gyhoeddwyd.
  • Nid yw’r Ddyletswydd Prevent wedi’i datganoli i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb am Ddiogelu wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
  • Rhaid bod asesiad risg gweithredol/cynllun gweithredu yn ei le gan y coleg.
  • Mae archwiliad mewnol ar gyfer ‘Prevent’ a Diogelu wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
  • Mae tri maes risg yn Adran 8 ‘Rheoli Gofod’ sydd angen rhywfaint o waith pellach e.e. polisi hurio lleoliad. Nodwyd bod gwaith wedi dechrau ar y rhain.

Nododd y Corff Llywodraethu y Cynllun Gweithredu ‘Prevent’.

Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu 2022/23

  • Cynhaliwyd cyfarfod gyda Dawn Lewis-Whelan, y llywodraethwr sy’n gyfrifol am Ddiogelu, i drafod ac adolygu diogelu a’r adroddiad blynyddol.
  • [GOLYGWYD]
  • [GOLYGWYD]
  • [GOLYGWYD]
  • Mae cymhlethdod achosion diogelu yn cynyddu.
  • Mynychodd yr holl staff sesiwn friffio orfodol i staff ar ddiogelu ym mis Mehefin eleni.
  • Sicrhawyd cyllid gan yr elusen ‘Your Best Friend’ – yr unig goleg i dderbyn hwn. Pwrpas y cyllid hwn yw grymuso menywod ifanc a phobl anneuaidd gyda’r wybodaeth a’r hyder i helpu eu ffrindiau gyda phynciau allweddol megis caniatâd a cham-drin cyfoedion. Cynhaliodd y Coleg gyrsiau hunanamddiffyn, gweithdai a sesiynau diogelwch personol gyda’r cyllid hwn.
  • Mae’r cam gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd wedi’i gwblhau – mae tabl newydd yn dangos y 25 achos diogelu uchaf wedi’i ychwanegu at yr adroddiad. Tynnwyd sylw’r Corff Llywodraethu at y ffaith nad yw’r tabl hwn yn cynnwys rhai o’r achosion mawr sy’n digwydd yn anaml e.e. ymgyfraniad yr heddlu.
  • Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn bryder parhaus.
  • Cyflwynwyd y dadansoddiadau o achosion fesul maes cwricwlwm, fesul campws a fesul mis.
  • Am y tro cyntaf, adroddir am ddiogelu staff. xxxx

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth a phawb arall a gymerodd ran am y diweddariad a dywedodd ei bod yn drist gweld y nifer uchel o achosion. Gofynnwyd a oedd gan y Timau Diogelu/Lles unrhyw gefnogaeth gan eu bod yn delio â hyn yn ddyddiol. Cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth eu bod yn cael cymorth gan wasanaeth cwnsela allanol.

Dywedodd aelod arall fod yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn iddi a’i bod yn bwysig bod y staff sy’n ymwneud â’r achosion hyn yn cael mynediad at y cwnsela sydd ar gael iddynt. Gofynnwyd cwestiwn am unrhyw dueddiadau newydd yn y maes iechyd meddwl. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth fod dwy duedd amlwg:

  1. Ymgyfraniad aml-asiantaeth gan gynnwys yr Heddlu, yn enwedig mewn perthynas â chyn-gyfeillion ysgol; a
  2. Perthnasoedd gyda chyfoedion a theuluol – mae’r rhain yn dod dan fwy o straen ac mae hyn yn rhannol oherwydd pwysau ariannol sy’n gwneud sefyllfaoedd yn fwy heriol. Mae tystiolaeth o hyn i’w weld yn y nifer sy’n manteisio ar y fenter brecwast am ddim sydd wedi cynyddu’n aruthrol eleni.

Trafodwyd mai mewn addysg fyddai’r lle gorau i rai pobl ifanc sy’n wynebu heriau fod. Fodd bynnag, mae angen i’r Coleg amddiffyn diogelwch ei ddysgwyr a’i staff eraill ac felly nid yw bob amser yn bosibl iddynt gofrestru yn y Coleg.

Dywedodd staff-lywodraethwr fod un o’i thîm wedi defnyddio gwasanaeth cwnsela’r Coleg a’i bod yn teimlo bod y cymorth hwn wedi ei galluogi i aros yn y gwaith. Mae’r cyngor, y gefnogaeth a’r offer a gafodd drwy’r cwnsela yn cael eu rhannu gyda’i chydweithwyr i helpu i gefnogi’r tîm cyfan.

Cwestiynwyd a oedd LlC yn casglu ystadegau ar ddiogelu, iechyd meddwl a lles a nodwyd y gofynnwyd i’r Coleg, trwy ColegauCymru, ddarparu gwybodaeth am y pedair blynedd diwethaf (cyflwynwyd y wybodaeth yn ddiweddar). Dywedwyd bod LlC wedi bod yn gefnogol iawn i’r sector addysg bellach yn ystod y cyfnod hwn.

Nododd y Corff Llywodraethu yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu.

10. DIWEDDARIAD AR GYFRIFON DIWEDD BLWYDDYN 2022/23, CYFRIFON RHEOLI A DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL

[GOLYGWYD]

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad a bod yr archwiliad allanol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

11. DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL CORFFORAETHOL

Roedd y Corff Llywodraethu wedi derbyn y DPAau Corfforaethol a’r Cerdyn Sgorio Mantoledig. Roedd y Cerdyn Sgorio Mantoledig yn wag ac eithrio’r targedau ar gyfer 2023/24 a’r ffigurau gwirioneddol ar gyfer 2022/23 gan ei bod yn rhy gynnar am wybodaeth 2023/24.

[GOLYGWYD]

Nododd y Corff Llywodraethu y DPAau Corfforaethol a’r Cerdyn Sgorio Mantoledig.

12. COFNODION Y PWYLLGORAU

12.1 Cwricwlwm ac Ansawdd – 22 Mehefin 2023

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.

[GOLYGWYD]

12.2 Chwilio a Llywodraethu – 28 Medi 2023

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn. Roedd yr holl argymhellion wedi’u cynnwys yn eitem agenda 6 ‘Materion Llywodraethu’.

12.3 Cynllunio Adnoddau – 5 Hydref 2023

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn. Roedd un argymhelliad ac un eitem i’w nodi:

[GOLYGWYD]

13. UNRHYW FATER ARALL

Dim

GWIRIWR GWERTHOEDD

  • Cadeiriwyd y cyfarfod yn dda.
  • Cafodd pawb gyfle i siarad.
  • Roedd llawer o wybodaeth ddefnyddiol yn yr Adroddiad Diogelu a’r diweddariad.
  • Mae’n ymddangos bod y Coleg yn gefnogol iawn ac yn gofalu am ei staff a’i ddysgwyr.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.58pm.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch