Cofnodion Cyfarfod Y Corff Llywodraethu – 23 Mai 2024

YSTAFELL GYNADLEDDA’R ACADEMI STEAM A THRWY GOOGLE MEET – 4:30yp

AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:

  • Jeff Greenidge – Cadeirydd (hyd at ac yn cynnwys eitem 3 ar yr agenda) – ymddiswyddodd o’r Corff Llywodraethu ar ôl eitem 3 ar yr agenda
  • Emma Adamson – Cadeirydd (o eitem 4 ar yr agenda ymlaen)
  • Viv Buckley – Pennaeth
  • Joe Castle
  • Lisa Dobbs – Staff-lywodraethwr
  • Judith Evans
  • Marion Evans – Staff-lywodraethwr
  • Teodora Grancea – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Dawn Lewis-Whelan – gadawodd am 5.30pm
  • Hayden Llewellyn
  • Joanne Oak
  • Lloyd Tandy – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Helen Verity

ERAILL A OEDD YN BRESENNOL

  • Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol)
  • Nicola Eyre – Clerc
  • Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)

Dechreuodd y cyfarfod am 4.30yp

1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Cadarnhawyd penodiad Joe Castle fel aelod o’r Corff Llywodraethu ac yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau ar ôl i’r Corff Llywodraethu gymeradwyo hynny’n electronig.

Rhoddwyd croeso arbennig i Joe Castle yn ei chyfarfod cyntaf o’r Corff Llywodraethu a chyflwynodd bawb o gwmpas y ford eu hunain.

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Trish D’Souza, Claire Marshall, Stephne Puddy a Shelley Wyatt-Williams.

Ymddiheurodd Gemma Carr-Evans, Cyfarwyddwr Cwricwlwm (Heol y Bont-faen a Ffordd y Frenhines); Catrin Sullivan, Cyfarwyddwr Cwricwlwm (Pencoed); a Hayley Thomas, Is-bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd) am eu habsenoldeb gan eu bod yn cefnogi’r Digwyddiad Darganfod a oedd yn cael ei gynnal ar gampws Pen-y-bont a Phencoed y noson honno.

Ni fynychodd Dan Biddle y cyfarfod.

2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau ar ddechrau’r cyfarfod.

3. PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD NEWYDD Y CORFF LLYWODRAETHU

Gadawodd Emma Adamson a Joanne Oak y cyfarfod

Roedd y Corff Llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o enwebiad Emma Adamson ar gyfer rôl y Cadeirydd a Joanne Oak ar gyfer rôl yr Is-gadeirydd bythefnos cyn y cyfarfod. Roedd copi o’u CV a datganiadau ategol hefyd wedi’u rhannu ar yr adeg hon.

Dywedodd y Pennaeth ei bod yn ddiolchgar iawn i Emma Adamson am fod yn barod i ymgymryd â’r rôl hon. Ychwanegodd y Pennaeth fod gan Emma Adamson ddiddordeb gwirioneddol yng Ngholeg Penybont a’i bod yn hyrwyddwr rhagorol i’r Coleg. Yn yr un modd, dywedodd y Pennaeth fod Joanne Oak yn gefnogwr cryf o’r Coleg ac yn dod â phersbectif gwahanol i’r Corff Llywodraethu gan ei bod yn dod o sector gwahanol er ei bod yn dal i fod o fewn y sector cyhoeddus felly yn deall y pwysau ariannu.

Cymeradwyodd y Corff Llywodraethol y canlynol yn unfrydol:

  • Penodi Emma Adamson yn Gadeirydd am gyfnod o dair blynedd a hynny i ddod i rym ar unwaith.
  • Penodi Joanne Oak yn Is-gadeirydd am gyfnod o dair blynedd a hynny i ddod i rym ar unwaith.

Ailymunodd Emma Adamson a Joanne Oak â’r cyfarfod

Dymunodd Jeff Greenidge longyfarchiadau Emma Adamson a Joanne Oak ar eu penodiadau a dywedodd ei fod yn teimlo’n freintiedig o fod wedi dal swydd y Cadeirydd. Dywedodd fod gan y Coleg ddiwylliant arbennig a bod hyn wedi’i gyflawni trwy ymdrechion ei staff a’r Corff Llywodraethu.

Diolchodd Judith Evans, yr Is-gadeirydd ymadawol, i Jeff Greenidge ar ran y Corff Llywodraethu a dymunodd y gorau i Emma Adamson a Joanne Oak yn eu rolau newydd.

Rhoddodd y Pennaeth air olaf o ddiolch a dywedodd fod cyfraniadau Jeff Greenidge wedi dysgu llawer i’r Coleg am ddiwylliant a’i fod wedi gwneud gwahaniaeth iddi hi’n bersonol ac i’r Coleg.

4.46pm – Gadawodd Jeff Greenidge y cyfarfod a chymerodd Emma Adamson yr awenau

Diolchodd Emma Adamson i’r Corff Llywodraethu am ymddiried ynddi a dywedodd ei bod yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Joanne Oak. Adleisiodd Joanne Oak y teimlad hwn.

Diolchwyd yn arbennig i Judith Evans am ei holl gefnogaeth ac arweiniad fel Is-gadeirydd.

4. COFNODION CYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU AR 11 EBRILL 2024

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethu a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2024 yn gywir.

5. MATERION SY’N CODI

5.1 Cofnod Gweithredoedd

Roedd pum cam gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd – un coch, tri ambr ac un yn mynd rhagddo. Nid oedd y gweithredoedd ambr i’w cyflawni eto.

[GOLYGWYD]

Nododd yr aelodau’r camau gweithredu eraill a’r diweddariad a roddwyd yn erbyn pob un o’r camau gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd.

5.2 Cyflwyniad ar rôl yr Ymarferydd Arweiniol

Rhoddodd Marion Evans, Staff-lywodraethwr ac Ymarferydd Arweiniol: Dysgu, Addysgu ac Asesu (Cymraeg a Dwyieithrwydd), gyflwyniad ar ei rôl fel Ymarferydd Arweiniol a sut mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn cael eu gwreiddio yn y cwricwlwm.

Cyflwynwyd y wybodaeth ganlynol i’r Corff Llywodraethu:

  • Mae Rhaglen Datblygu’r Gymraeg i staff sy’n cynnwys cynllun Ein Taith Iaith i ddysgu sgiliau Cymraeg i staff y gallant eu defnyddio yn y dosbarth. Mae yna hefyd uned Agored ‘Datblygu Sgiliau Cyflwyno’n Ddwyieithog’.
  • Mae 32 aelod o staff wedi dilyn y Cynllun Ein Taith Iaith gyda chyfradd cwblhau llwyddiannus o 100%.
  • Mae erthygl wedi’i hysgrifennu ar gyfer Cylchgrawn Addysg Cymru ar wella ymarfer dysgu dwyieithog yng Ngholeg Penybont.
  • Mae’r adborth gan staff sydd wedi cwblhau’r cynllun wedi bod yn gadarnhaol iawn ac maen nhw wedi dweud bod ganddynt yr hyder bellach i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u dysgwyr. Fe wnaeth y dysgwyr hefyd adrodd yn ôl yn ystod wythnos y daith ddysgu fod eu tiwtoriaid yn defnyddio’r Gymraeg a’u bod yn hoffi’r arddull addysgu ddwyieithog.
  • Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn i astudiaeth achos gael ei hysgrifennu i rannu’r cynllun fel arfer da.
  • Bydd y cynllun yn cael ei ehangu o Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant i ddau faes blaenoriaeth arall – Adeiladwaith a’r Celfyddydau Creadigol gyda’r nod o recriwtio 40 o aelodau staff pellach.
  • Mae’r Ystafell Ddianc ddwyieithog ‘Plasdy Cyfrinachau’ wedi bod yn boblogaidd iawn a hyd yma. Mae 232 o staff, dysgwyr ac ymwelwyr o golegau eraill wedi’i chwblhau.
  • Enwebwyd Marion Evans ar gyfer Gwobr Addysgwr Arloesol y Flwyddyn (seremoni Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gynhelir ar 20 Mehefin 2024).
  • Bydd y poster ‘Gwella Arferion Dysgu Dwyieithog: Gwerthusiad o’r Cynllun “Ein Taith Iaith”, os caiff ei dderbyn, yn cael ei gyflwyno yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol De Cymru (PDC) ddechrau Gorffennaf.
  • Mae cynllun Ein Taith Iaith a’r Ystafell Ddianc yn cyfrannu at Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Diolchodd y Cadeirydd i Marion Evans am y cyflwyniad a gwahoddodd adborth gan yr aelodau.

Dywedodd aelod ei bod yn braf iawn gweld nifer y staff yn cymryd rhan a sut mae gwahanol lefelau o ddyfarniadau yn dibynnu ar hyfedredd.

Dywedodd un o’r aelodau ei bod yn hoff iawn o’r syniad o’r Ystafell Ddianc a pha mor arloesol yw’r ymagwedd hon at ddysgu gweithredol gan ei fod yn rhoi hyder i ddysgwyr ac yn eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Dywedodd un o’r Myfyrwyr-lywodraethwyr a oedd wedi cwblhau’r Ystafell Ddianc ei bod yn meddwl ei fod yn effeithiol iawn a’i bod wedi gwneud ei dysgu’n hwyl. Ychwanegodd fod gallu cymhwyso’r theori a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth ar waith yn yr Ystafell Ddianc wedi rhoi hyder iddi ac wedi dysgu iddi sut i beidio â chynhyrfu wrth ymdrin â sefyllfaoedd bywyd go iawn. Yn ogystal, ychwanegodd fod ei thiwtoriaid yn defnyddio’r Gymraeg yn achlysurol ac yn annog ei chyd-ddysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd aelod arall ei bod yn wych gweld profiad trochi dwyieithog yn cael ei ddefnyddio a bod cyflogwyr wir yn gwerthfawrogi’r mathau hyn o brofiadau. Holwyd a ellid cynnig yr Ystafell Ddianc i sefydliadau allanol a dywedodd y Pennaeth ei bod yn agored i unrhyw un sydd am ei defnyddio.

Rhoddodd y Corff Llywodraethu ei longyfarchiadau i Marion Evans ar gael ei henwebu ar gyfer y wobr a dymunodd bob lwc iddi ar gael y poster wedi’i gymeradwyo ar gyfer y digwyddiad PDC. Daeth yr eitem i ben gyda sylw ar sut mae angerdd Marion at y Gymraeg yn heintus.

5.3 Diwrnodau Dysgu Proffesiynol – ffurfio rhaglen flynyddol

Eglurodd y Pennaeth fod y Diwrnodau Dysgu Proffesiynol yn cael eu llunio o nifer o ffynonellau gan gynnwys y Strategaeth Dysgu a Datblygu, gwybodaeth a ddysgwyd o’r Cylch Gwella Ansawdd a darganfyddiadau ffenomenolegol.

Hysbyswyd y Corff Llywodraethu bod yr holl reolwyr canol wedi derbyn dau ddiwrnod o hyfforddiant gan yr Ymddiriedolaeth Arweinyddiaeth i’w paratoi ar gyfer y sgyrsiau anodd a allai fod yn angenrheidiol fel rhan o Gynllun Rheoli Newid 5 Cam y Coleg.

Nododd y Corff Llywodraethu yr eitem.

6. DIWEDDARIAD Y PENNAETH

Rhoddodd y Pennaeth ddiweddariad i’r Corff Llywodraethu ar y canlynol:

  • Cyhoeddwyd adroddiad ‘Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru’ gan ColegauCymru; dyma’r tro cyntaf i unrhyw adroddiad geisio dal yr effaith y mae AB ​​yn ei chael ar y gymuned ehangach a gallu Cymru i gyflawni’r saith nod a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Tynnodd y Pennaeth sylw at astudiaethau achos y Coleg a gynhwyswyd yn yr adroddiad ar gynaliadwyedd a mentrau bwyd iach.
  • Cau’r Feithrinfa Ddydd:
    • Mae hon wedi bod yn broses anodd iawn ond mae’r staff sy’n gweithio yn y Feithrinfa wedi bod yn broffesiynol iawn ac yn deall sefyllfa’r Coleg.
    • Mae llawer o weithgarwch wedi bod ynglŷn â hyn ar gyfryngau cymdeithasol ond mae’r ffocws wedi bod ar faint mae gofal plant wedi cael ei danariannu yn hytrach na’r penderfyniad i gau’r Feithrinfa.
    • Roedd staff a chleientiaid y Feithrinfa yn deall y rheswm am y penderfyniad. Mae angen canmol y ffordd y cafodd hyn ei gyfleu a’i drin.
  • Mae newidiadau rheoli gwastraff newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) o fis Ebrill ymlaen wedi golygu bod llawer o amser wedi’i dreulio’n siarad am sbwriel fel bod y Coleg yn cydymffurfio â rheoliadau LlC.
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – mae’r Coleg wedi llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, a fydd yn galluogi partneriaid AU ac AB i gydweithio â’i gilydd.
  • Nodwyd y polisïau sy’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Cwricwlwm ac Ansawdd a Chynllunio Adnoddau i’w cymeradwyo – Polisi Derbyn a Pholisi a Gweithdrefn Recriwtio a Dethol.
  • Amlygwyd newyddion a chyflawniadau’r Coleg yn ogystal â’r Seremoni Wobrwyo Flynyddol a gynhelir ar 25 Mehefin. Anogodd y Pennaeth yr aelodau i fynychu’r digwyddiad hwn os ydynt yn gallu.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth am ei diweddariad a gwahoddodd unrhyw gwestiynau neu sylwadau gan yr aelodau.

Dywedodd un o’r aelodau ei bod yn falch iawn o weld y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cenedlaethol Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth 2024 a’r enwebiad ar gyfer Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2024. Cytunodd y Cadeirydd â hyn a dywedodd fod hyn yn gydnabyddiaeth sylweddol o werthoedd a diwylliant y Coleg.

Diolchodd Lisa Dobbs, Staff-lywodraethwr a Rheolwr y Feithrinfa Ddydd, yn arbennig i’r Uwch Dîm Arwain ac i Adnoddau Dynol am eu cefnogaeth wych yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn galonogol oherwydd, er ei fod yn benderfyniad anodd iawn, y ffordd y mae’n cael ei drin sy’n bwysig.

Gofynnwyd bod rôl Coleg Penybont ym Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a sut y gall y Corff Llywodraethu gefnogi hyn orau gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol (GWEITHREDU – NE).

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

7. DIWEDDARIAD DIOGELU

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) y diweddariad canlynol:

  • Mae graff newydd yn dangos dadansoddiad o achosion o fis i fis a chymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.
  • Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng cyflwyno’r ap ‘Wisdom’ (ap cymorth myfyrwyr) a’r gostyngiad yn nifer yr achosion diogelu; mae’r ap hwn yn darparu cymorth dwyieithog 24/7 i ddysgwyr y Coleg.
  • Mae cofnodi bellach yn digwydd fesul achos yn hytrach na fesul pryder. Yn flaenorol, efallai y bu nifer o bryderon ynghylch dysgwr a byddai’r rhain wedi’u cofnodi fel achosion ar wahân ond nawr, gellir cofnodi nifer o bryderon mewn un achos i adlewyrchu mai’r un person ydyw.

5.30pm – gadawodd Dawn Lewis-Whelan y cyfarfod

  • Mae archwiliad mewnol o weithdrefnau a dull diogelu’r Coleg yn cael ei gynnal ddechrau mis Mehefin a bydd canfyddiadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.
  • Mae’r Tîm Lles wrthi’n cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod arholiadau hwn.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) am y diweddariad a gwahoddodd gwestiynau gan yr aelodau.

Holodd aelod faint o Swyddogion Diogelu a gyflogir gan y Coleg ac a yw’r nifer hwn yn ddigon. Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) fod Sion Whitehouse yn cael ei gyflogi fel Rheolwr Lles a Diogelu a bod tri Arweinydd Diogelu. Esboniodd fod y nifer hwn yn ddigon ar y cyfan ond gall y tîm gael ei ymestyn pan fydd dysgwyr yn dychwelyd o wyliau ac yn ystod amser arholiadau. Nodwyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflogi pedwerydd Arweinydd Diogelu fel bod dau ym Mhen-y-bont a dau ym Mhencoed.

Dywedodd un o’r Myfyrwyr-lywodraethwyr ei bod wedi cyrchu’r ap Wisdom a bod ei ddefnyddio wedi cael effaith gadarnhaol iawn arni.

Canmolodd y Cadeirydd ansawdd yr adroddiad a nododd y Corff Llywodraethu ei gynnwys.

8. MATERION LLYWODRAETHU

NODODD y Corff Llywodraethu y canlynol:

  • Penodi Lloyd Tandy yn Fyfyriwr-lywodraethwr ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
  • [GOLYGWYD]

9. DIWEDDARIAD AR GAMPWS CANOL Y DREF

Rhoddodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y diweddariad canlynol:

[GOLYGWYD]

10. DIWEDDARIAD ARIANNOL

Cyflwynwyd datganiad o’r sefyllfa a nododd y Corff Llywodraethu hwn gan fod y cyfarfod y tu allan i’r rhagolygon chwarterol.

Nid oedd unrhyw wybodaeth newydd wedi’i chynnwys yn y diweddariad hwn.

11. DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL CORFFORAETHOL A CHERDYN SGORIO CYTBWYS

Cyflwynwyd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau) Corfforaethol a’r Cerdyn Sgorio Cytbwys.

DPAau Corfforaethol

Ni fu unrhyw symudiad yn y DPAau Corfforaethol ers cyfarfod mis Ebrill. Nodwyd y bydd hwn yn cael ei ddiweddaru fel rhan o Ragolygon mis Mai.

Cerdyn Sgorio Cytbwys

Dywedodd y Pennaeth fod y canlyniadau sy’n cael eu hadrodd yn galonogol iawn, yn enwedig wrth ystyried y sefyllfa o ran gorfod cyflwyno a rheoli Cynllun Rheoli Newid 5 Cam. Nodwyd y gyfradd dargadwedd bresennol o xx% a nodwyd nad yw myfyrwyr yn teimlo effaith yr arbedion y mae’r Coleg yn gorfod eu gwneud.

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl staff am gyflawni’r canlyniadau hyn a dywedodd fod yr amgylcheddau dysgu dan do ac yn y mannau gwyrdd yn y Coleg wedi creu argraff arni gan fod y rhain yn cymryd amser ac ymdrech i’w cynnal.

Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.

12. COFNODION Y PWYLLGORAU

12.1 Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu – 2 Mai 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethol y cofnodion hyn.

13. UNRHYW FATER ARALL

Gofynnwyd i’r Corff Llywodraethu ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth a’r Cadeirydd gytuno i bwy y dylid dyfarnu Cymrodoriaethau’r Coleg yn seremonïau graddio AU mis Hydref.

CYTUNODD y Corff Llywodraethu i ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth a’r Cadeirydd benderfynu ar ddyfarnu Cymrodoriaethau’r Coleg i’w cyflwyno yn seremonïau graddio AU mis Hydref.

GWIRIWR GWERTHOEDD

Gofynnwyd i’r Myfyrwyr-lywodraethwyr am eu barn ar y cyfarfod a nododd y ddau ei fod wedi bod yn gadarnhaol a chynhyrchiol iawn. Mwynhaodd y ddau yn enwedig y cyflwyniad a roddwyd gan Marion Evans.

Dywedodd aelod arall hefyd ei bod wedi mwynhau ac wedi elwa o wrando ar y cyflwyniad gan nad yw’n gweithio yn y sector AB. Dywedodd hefyd ei bod yn gweld y diweddariad a gafwyd ar ddiogelu yn fuddiol a bod hyn wedi gwneud iddi feddwl am broblemau cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc. Yn ogystal, roedd hi’n gwerthfawrogi clywed Lisa Dobbs yn canmol y ffordd yr ymdriniwyd â chau’r Feithrinfa Ddydd.

Diolchodd y Clerc i Teodora Grancea am fynychu Sioe Ffasiwn y Coleg yn gynharach yr wythnos honno a gofynnodd, os oedd unrhyw aelodau am fynychu unrhyw un o ddigwyddiadau’r Coleg, i roi gwybod iddi.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 5.55pm.

Cynhaliwyd cyfarfod Materion Cyfrinachol gyda’r aelodau cymwys ar ôl y cyfarfod hwn.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch