Cofnodion Cyfarfod y Corff Llywodraethu – 17 Hydref 2024

Ystafell Fwrdd Penybont a thrwy Google Meet – 4.30yp

AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:

  • Emma Adamson – Cadeirydd
  • Viv Buckley – Pennaeth/Prif Swyddog Gweithredol
  • Donna Ali
  • Joe Castle
  • Charlize Cosker – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Ceri Dixon
  • Lisa Dobbs – Staff-lywodraethwr
  • Judith Evans
  • Ben Fisher – Myfyriwr-lywodraethwr
  • Claire Marshall – ymunodd am 4.54pm
  • Lloyd Powell
  • Helen Verity
  • Shelley Wyatt-Williams

ERAILL A OEDD YN BRESENNOL

  • Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Ymarfer Cynhwysol)
  • Nicola Eyre – Clerc
  • Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
  • Matt Rees – Is-bennaeth ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol
  • Catrin Sullivan – Cyfarwyddwr Cwricwlwm
  • Hayley Thomas – Is-Bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd)

Dechreuodd y cyfarfod am 4.30yp

Defnyddiwyd AI Cynhyrchiol (Google Gemini) i helpu i ddrafftio’r cofnodion hyn.

1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Rhoddodd y Cadeirydd groeso arbennig i’r aelodau newydd yn eu cyfarfod Corff Llywodraethu cyntaf – Donna Ali, Lloyd Powell, Ceri Dixon, Ben Fisher (Myfyriwr-lywodraethwr) a Charlize Cosker (Myfyriwr-lywodraethwr).

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gemma Carr-Evans (Cyfarwyddwr Cwricwlwm), Marion Evans (Staff-lywodraethwr) Dawn Lewis-Whelan, Hayden Llewellyn, Joanne Oak a Stephne Puddy.[KC2]

Diolchodd y Pennaeth i aelodau’r Corff Llywodraethu a fynychodd y seremonïau graddio AU a gynhaliwyd ar y dydd Sadwrn cyn y cyfarfod hwn. Dywedodd fod y diwrnod yn un o uchafbwyntiau calendr y Coleg gan ei fod yn ddathliad gwirioneddol o fyfyrwyr yn “bod popeth y gallant fod”. Ychwanegodd eu bod yn ein hatgoffa pam fod y Coleg yn cynnig cymwysterau lefel uwch oherwydd efallai na fyddai llawer o’r graddedigion wedi gallu cael mynediad i gyrsiau AU pe na baent yn cael eu cynnig yn agos i’w cartrefi.

Atgoffwyd y Corff Llywodraethu fod Jeff Greenidge, cyn-Gadeirydd y Corff Llywodraethu, a Tracy Myhill OBE, cyn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ill dau wedi derbyn Cymrodoriaethau Coleg am eu gwaith ar ansawdd a chynhwysiant. Roedd Huw Irranca-Davies AS (Dirprwy Brif Weinidog Cymru) a Maer Pencoed hefyd yn bresennol.

Nodwyd bod llawer o ganmoliaeth am gampws Pencoed a’i fod yn ddiwrnod llawn balchder a chred.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Corff Llywodraethu ei bod hi, y ddau Fyfyriwr-lywodraethwr a’r Clerc wedi mynychu Cynhadledd Partneriaeth Llywodraethu Myfyrwyr/Dysgwyr Medr ar 7 Hydref. Nodwyd bod Vikki Howells MS (Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch) a Simon Pirotte (Prif Swyddog Gweithredol Medr) ill dau wedi rhoi cyflwyniadau a chynnal sesiynau holi ac ateb. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Corff Llywodraethu fod yr heriau mewn perthynas â lles, iechyd meddwl, costau cludiant i fynychu’r coleg ac argyfwng costau byw ymhlith y materion a godwyd. Dywedodd y Myfyrwyr-lywodraethwyr eu bod wedi mwynhau’r diwrnod a’i bod yn ddefnyddiol cyfarfod â’u cymheiriaid o golegau eraill a deall beth mae eu rôl yn ei olygu.

Nodwyd bod Ben Fisher yn rhan o’r grŵp myfyrwyr sy’n rhoi adborth o’r Coleg ar yr ymgynghoriad ar Gynllun Strategol Medr.

Dywedodd y Pennaeth wrth y Corff Llywodraethu fod y seremoni torri’r tir ar gyfer campws Canol y Dref, carreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect hwn, wedi’i chynnal yn gynharach y diwrnod hwnnw gyda’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Roedd cynrychiolwyr yno o Lywodraeth Cymru (LlC), Willmott Dixon, Cyngor Pen-y-bont, gan gynnwys y Maer a’r Dirprwy Faer, a’r Coleg (Cadeirydd, Is-gadeirydd, Pennaeth a dau Ddirprwy Bennaeth). Nodwyd bod cryn gefnogaeth a brwdfrydedd ledled Cymru ar gyfer y prosiect hwn a bod y Coleg bellach angen cefnogaeth y rhanddeiliaid hyn i’w gwblhau.

CYFLWYNIAD – INCWM O ENGAGE A GWEITHGAREDDAU MASNACHOL (Is-bennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol)

Cyflwynodd yr Is-bennaeth DSW a Gweithgarwch Masnachol y wybodaeth ganlynol i’r Corff Llywodraethu:

[Hepgorwyd]

4.54yp – Ymunodd Claire Marshall â’r cyfarfod

[Hepgorwyd]

Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-bennaeth (DSW a Gweithgarwch Masnachol) am y cyflwyniad.

2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU

Dim ar ddechrau’r cyfarfod.

Datganodd Lloyd Powell fuddiant yn eitem 9 ar yr agenda oherwydd ei swydd fel Pennaeth ACCA Cymru Wales.

3. COFNODION CYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU AR 4 GORFFENNAF 2024

Cadarnhawyd bod y cofnodion o gyfarfod y Corff Llywodraethu ar 4 Gorffennaf 2024 yn gywir.

4. MATERION SY’N CODI

4.1 Cofnod Gweithredoedd

Roedd tri cham gweithredu yn y Cofnod Gweithredoedd – un nad yw’n ddyledus eto mewn perthynas â’r cymorth y gall y Corff Llywodraethu ei roi i’r Coleg ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, un cam gweithredu parhaus mewn perthynas â’r strategaeth tymor hirach ar gyfer Coleg Bevan, ac un wedi’i gwblhau ynghylch cael taith o amgylch daliad tir y Coleg.

4.2 Camau Gweithredu a Gwblhawyd 2023/24

Rhannwyd rhestr o’r camau gweithredu a gwblhawyd gyda’r Corff Llywodraethu i ddangos sut mae’r camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt mewn cyfarfodydd wedi cael eu cyflawni hyd at eu cwblhau.

5. DIWEDDARIAD GAN Y PENNAETH

Tynnodd y Pennaeth sylw at y canlynol yn ei hadroddiad:

  • Mae niferoedd ymrestriadau myfyrwyr yn parhau i fod yn uwch na’r targed ar gyfer y flwyddyn academaidd hon gyda llawer llai yn tynnu’n ôl ac yn cyfnewid cyrsiau o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.

Gofynnwyd i’r Myfyrwyr Lywodraethwyr a ydynt wedi sylwi ar wahaniaeth o ran pa mor brysur y mae’r campysau’n teimlo a chytunwyd ei fod yn teimlo’n brysurach eleni.

  • Llwyddiannau:
    • Cyflawnwyd aur ym Mynegai Llesiant Gweithle Mind sy’n destament enfawr i’r Uwch Dîm Arwain, y tîm Adnoddau Dynol a staff ehangach y Coleg.
    • Mae’r Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yn y Gwobrau Cynhwysiant (cynhelir noson wobrwyo ar 28 Tachwedd, 2024).
    • Mae’r Coleg wedi’i hysbysu ei fod wedi’i osod ymhlith y 50 Cyflogwr Gorau yn y DU gan Inclusive Companies ac mae’n aros i ddarganfod yr union leoliad.

Dywedodd aelod fod cyflawni cyfradd cwblhau llwyddiannus o 90% ar gyfer 2023/24 yn rhagorol. Dywedodd y Pennaeth fod hyn bellach wedi codi i 91% a phan gaiff hyn ei gymharu â data Cymru ar gyfer 2022/23, mae’n 5% yn uwch na’r coleg sy’n perfformio orau. Gorffennodd y Cadeirydd drwy ddweud bod hwn yn gyflawniad arwyddocaol gan y Coleg ac mae i’w ganmol.

Chwaraewyd y fideo 2 funud a wnaed ar gyfer y Diwrnod Dysgu Proffesiynol lle cafodd detholiad o ddysgwyr eu cyfweld am eu hoff wersi a rhyngweithiadau â’u darlithwyr. Rhannwyd y fersiwn lawn o hwn gyda’r Corff Llywodraethu pan ddosbarthwyd yr agenda a’r papurau wythnos cyn y cyfarfod.

Cafwyd trafodaeth am sut mae’r adborth a gasglwyd o’r cyfweliadau hyn a gynhaliwyd cyn diwedd y flwyddyn academaidd wedi helpu i lywio’r broses sefydlu, llunio’r gwaith o osod targedau a gwella profiad cyffredinol y dysgwr. Dywedodd un o’r Myfyrwyr-lywodraethwyr a oedd yn fideos hyn fod ei dosbarth wedi trafod y cwestiynau cyn y cyfweliad ac yna bu’n gweithredu fel llefarydd ar gyfer ei dosbarth, a bod hynny wedi gweithio’n dda yn ei barn hi. Nodwyd bod timau cwricwlwm wedi gwneud addewidion yn y Diwrnod Dysgu Proffesiynol ac y byddir yn ailymweld â’r rhain yn y Diwrnodau Ansawdd.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth am ei diweddariad.

6. DIOGELU

Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu a nodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

[Hepgorwyd]

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) am y diweddariad ac ychwanegodd fod y Coleg yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn gallu bod eu hunain go iawn.

Polisi Diogelu

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) y Polisi Diogelu, sy’n cyd-fynd â chanllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at newidiadau allweddol:

  • Ychwanegu Datganiad Cenhadaeth (wedi’i gynnwys ar bob polisi newydd a phresennol adeg yr adolygiad).
  • Tynnwyd y cyfeiriadau at Arolygiaeth Gofal Cymru a Thŷ Weston gan fod gan Goleg Bevan/Tŷ Weston ei Bolisi Diogelu ei hun.
  • Ychwanegwyd y dolenni canlynol:
    • Y Weithdrefn Cyfyngiadau Symud Deinamig newydd. Mae’r holl staff a dysgwyr wedi cael gwybod am hyn.
    • Siart Llif Rheoli Digwyddiad Hiliol.
  • Diweddariadau i’r strwythur staffio.

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y Polisi Diogelu.

7. MATERION LLYWODRAETHU

Penodiadau

  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Ceri Dixon i’r Corff Llywodraethu, y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau a’r Pwyllgor Tâl am dymor o bedair blynedd o 1 Medi 2024.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Lloyd Powell i’r Corff Llywodraethu a’r PwyllgorCwricwlwm ac Ansawdd am dymor o bedair blynedd o 1 Medi 2024.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Stephne Puddy i’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau o 1 Medi 2024.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Helen Verity i’r Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Tâl o 1 Medi 2024.

Myfyrwyr-lywodraethwyr ar gyfer 2024/25

  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Charlize Cosker (2il flwyddyn Astudiaethau Gofal Plant Lefel 3) a Ben Fisher (2il flwyddyn Peirianneg Drydanol Lefel 3) yn fyfyrwyr-lywodraethwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu gynyddu nifer y myfyrwyr-lywodraethwyr i dri i gael llais cryf gan ddysgwyr mewn cyfarfodydd.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu gynnwys myfyriwr-lywodraethwr yn aelodaeth y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu. Mae’r Cylch Gorchwyl i’w ddiweddaru i gynnwys hyn (GWEITHREDU – NE).

Strwythur y Pwyllgorau ar gyfer 2024/25

  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu strwythur y pwyllgorau ar gyfer 2024/25.

Ffyrdd newydd o weithio

  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y bydd pwyllgorau’n cael mwy o awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau yn amodol ar ofynion yr Offeryn Llywodraethu ar ddirprwyo swyddogaethau a phwyllgorau.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y bydd adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth newydd yn unig. Os oes unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd yn flaenorol yn berthnasol i’r eitem ar yr agenda, bydd yr adroddiad yn cyfeirio darllenwyr at y wybodaeth honno yn y Gyriant Cyffredin.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y taflenni clawr newydd ar gyfer eitemau ar yr agenda.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y categorïau newydd ar gyfer agendâu cyfarfodydd (Corff Llywodraethu a phwyllgorau).
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y newid i’r Gwiriwr Gwerthoedd a gofynnwyd i hyd at ddau aelod adrodd yn ôl ar ddiwedd y cyfarfod.
  • CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y bydd cyfarfod materion cyfrinachol yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn ac yn unol â’r Offeryn Llywodraethu.

Adroddiad y Clerc ar gyfer 2023/24

Canmolodd y Cadeirydd y Clerc am ei gwaith ar yr adroddiad, sydd o ansawdd uchel, yn cynnwys ehangder o weithgarwch adroddedig a rheoleiddiol, ac wedi ei gyflwyno mewn modd amserol er mwyn galluogi’r Pennaeth a’r Cadeirydd i allu adolygu a gwneud sylwadau.

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu Adroddiad y Clerc ar gyfer 2023/24 a’i fod ar gael i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gais.

Llywodraethwr Cyswllt Diogelu Dynodedig

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Ceri Dixon fel y Llywodraethwr Dynodedig newydd gyda chyfrifoldeb am ddiogelu o fis Ionawr 2025.

Cynrychiolydd y Corff Llywodraethu ar Fwrdd Coleg Bevan

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu benodiad Shelley Wyatt-Williams fel cynrychiolydd y Corff Llywodraethu ar Fwrdd Coleg Bevan.

Aelod newydd posibl o’r Corff Llywodraethu

Dywedodd un o’r aelodau wrth y Corff Llywodraethu ei bod wedi awgrymu aelod newydd posibl yng nghyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a chadarnhaodd y Clerc ei bod i fod i gwrdd â’r person hwn yn fuan.

Gwahoddodd y Cadeirydd y Corff Llywodraethu i gyflwyno unrhyw awgrymiadau ar gyfer aelodau newydd a allai fod ganddynt nawr neu yn y dyfodol.

Canlyniadau Hunanasesiad y Corff Llywodraethu a’r Dadansoddiad Sgiliau

NODODD y Corff Llywodraethu y canlyniadau hyn.

Cinio Nadolig y Corff Llywodraethu

NODODD y Corff Llywodraethu ddyddiad y cinio Nadolig – dydd Iau 5 Rhagfyr am 6.30pm.

8. PROSES CYFETHOL I’R PWYLLGORAU

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y Broses Cyfethol i Bwyllgorau.

9. PENODI ARCHWILWYR MEWNOL

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) argymhelliad y Pwyllgor Archwilio, sef [Hepgorwyd]

10. DIWEDDARIAD AR GYFRIFON DIWEDD BLWYDDYN 2023/24, CYFRIFON RHEOLI, A DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y cyfrifon diwedd blwyddyn drafft a oedd yn dangos [Hepgorwyd]

CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu y cyfrifon diwedd blwyddyn drafft, y Cyfrifon Rheoli a’r DPAau Ariannol.

11. Defnyddio’r Sêl Gorfforaethol – Gwarant Rhiant-Gwmni Willmott Dixon

[Hepgorwyd]

12. DIWEDDARIAD AR GAMPWS CANOL Y DREF

[Hepgorwyd]

NODODD y Corff Llywodraethu’r diweddariad.

13. DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL CORFFORAETHOL A CHERDYN SGORIO CYTBWYS

DPA 1 “Cyflawni cyfradd cwblhau llwyddiannus o 90% o leiaf ar gyfer pob llwybr dysgu” – dathlwyd cyrhaeddiad o 91% ar gyfer cyrsiau AB llawn amser.

NODODD y Corff Llywodraethu’r diweddariad.

14. COFNODION Y PWYLLGORAU

14.1 Chwilio a Llywodraethu – 1 Gorffennaf 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2024.

14.2 Chwilio a Llywodraethu – 10 Gorffennaf 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024.

14.3 Chwilio a Llywodraethu – 19 Medi 2024

DERBYNIODD y Corff Llywodraethu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024.

15. UNRHYW FATER ARALL

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) wrth y Corff Llywodraethu y bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer y cais cynllunio amlinellol ar gyfer y tir ym Mhencoed yn mynd yn fyw ar y dydd Llun ar ôl y cyfarfod. Bydd y ddolen i’r meicrowefan sy’n cael ei chynnal gan Savills yn cael ei rhannu â’r Corff Llywodraethu (GWEITHREDU – AG).

16. GWIRIWR GWERTHOEDD

Gofynnwyd i’r aelodau newydd roi adborth ynghylch a oeddent yn meddwl bod y cyfarfod wedi’i gynnal yn unol â gwerthoedd y Coleg.

Rhoddodd y llywodraethwyr newydd adborth cadarnhaol ar eu profiad o’u cyfarfod cyntaf, gan amlygu proffesiynoldeb, tryloywder a chynwysoldeb y trafodion.

Dywedodd y Pennaeth ei bod wedi mwynhau’r pwyslais ar fyfyrwyr yn arbennig yn y cyfarfod hwn.

Ategodd y Cadeirydd yr ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth ymhlith y llywodraethwyr a mynegodd un o’r aelodau ei bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfrannu a chynnig ei harbenigedd i gefnogi prosiect y campws Canol y Dref.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu. Daeth Rhan A y cyfarfod i ben am 6.29pm.

Gadawodd y myfyrwyr-lywodraethwyr y cyfarfod.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch