Cofnodion Cyfarfod y Corff Llywodraethu – 11 Ebrill 2024
YSTAFELL GYNADLEDDA’R ACADEMI STEAM A THRWY GOOGLE MEET – 4.30yp
AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:
- Jeff Greenidge – Cadeirydd
- Emma Adamson
- Viv Buckley – Pennaeth
- Trish D’Souza
- Judith Evans
- Marion Evans – Staff-lywodraethwr
- Teodora Grancea – Myfyriwr-lywodraethwr
- Claire Marshall
- Joanne Oak
- Lloyd Tandy – Myfyriwr-lywodraethwr
- Helen Verity
ERAILL A OEDD YN BRESENNOL
- Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Ymarfer Cynhwysol)
- Gemma Carr-Evans – Cyfarwyddwr y Cwricwlwm (Heol y Bont-faen a Heol y Frenhines)
- Nicola Eyre – Clerc
- Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
- Hayley Thomas – Is-Bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd)
- Tom Millard – Uwch Reolwr Gweithrediadau (Willmott Dixon) – gadawodd ar ôl eitem agenda 3
Dechreuodd y cyfarfod am 4.30yp
1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Lisa Dobbs (Staff-lywodraethwr), Dawn Lewis-Whelan, Stephne Puddy a Catrin Sullivan (Cyfarwyddwr Cwricwlwm (Pencoed)). Derbyniwyd ymddiheuriad gan Hayden Llewellyn ar ôl y cyfarfod.
Ni fynychodd Dan Biddle y cyfarfod.
2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau ar ddechrau’r cyfarfod.
Datganodd Trish D’Souza fuddiant yn eitem agenda 11.2 ‘Polisi Rheoli Data a GDPR’ gan fod un o’i chydweithwyr wedi cynghori’r Coleg ar hyn.
3. CYFLWYNIAD A DIWEDDARIAD – CAMPWS CANOL Y DREF
Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) Tom Millard, Uwch Reolwr Gweithrediadau Willmott Dixon (WD), i’r Corff Llywodraethu a chwaraewyd y fideo o’r campws canol tref arfaethedig.
Rhoddodd Tom Millard drosolwg o’r gwaith a oedd wedi digwydd hyd yma a chynllun y prosiect ar gyfer y chwe mis nesaf.
Diolchodd y Cadeirydd i Tom Millard am ei gyflwyniad ac agorodd y drafodaeth i’r aelodau.
[GOLYGWYD]
Nid oedd rhagor o gwestiynau i Tom Millard, ac fe adawodd y cyfarfod.
Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) wrth y Corff Llywodraethol fod y contract gyda WD am £xx bellach yn barod i’w lofnodi a gofynnodd am gymeradwyaeth ffurfiol i’w lofnodi a dodi’r sêl arno. Roedd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) yn gallu rhoi sicrwydd bod y contract wedi’i adolygu’n drylwyr a’i argymell i’w gymeradwyo gan dimau cyfreithiol y Coleg a WD.
Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu yn unfrydol llofnodi a dodi’r sêl ar y contract gyda Willmott Dixon am £xx adeiladu campws canol tref y Coleg.
{Nodyn y Clerc – rhoddwyd llofnodion y Cadeirydd a’r Pennaeth a’r Sêl Gorfforaethol ar ddau gopi o’r contract yn syth ar ôl y cyfarfod}
Rhoddodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) ddiweddariad byr ar y prosiect:
- Mae’r maes parcio aml-lawr yn parhau i fod yn un o’r risgiau mwyaf.
- Cafwyd cymeradwyaeth y Gweinidog ar gyfer cost gyffredinol y prosiect o £xx.
- [GOLYGWYD]
- [GOLYGWYD]
- Mae Cofrestrau Risg y Prosiect (strategol a manwl) yn cael eu diweddaru wrth i’r prosiect fynd rhag yn ei flaen.
- Mae trafodaethau ar y brydles ar gyfer safle’r maes parcio aml-lawr ar fin dechrau.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) am y diweddariad ac nid oedd unrhyw gwestiynau pellach.
4. COFNODION CYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU AR 11 EBRILL 2024
Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethu a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024 yn gywir.
5. MATERION SY’N CODI
5.1 Cofnod Gweithredoedd
Roedd chwe cham gweithredu yn y Cofnod Gweithredoedd – un coch, dau ambr, dau wyrdd ac un yn parhau. Nid oedd y gweithredoedd ambr i’w cyflawni eto.
[GOLYGWYD]
Nododd yr aelodau’r camau gweithredu eraill a’r diweddariad a roddwyd yn erbyn pob un o’r camau gweithredu ar y Cofnod Gweithredoedd.
6. DIWEDDARIAD Y PENNAETH
Rhoddodd y Pennaeth ddiweddariad i’r Corff Llywodraethu ar y canlynol:
- Mae’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) wedi cyhoeddi ei Ddatganiad o Flaenoriaethau yn ddiweddar. Y cam nesaf fydd i CTER ddatblygu a chyhoeddi ei Gynllun Strategol yn nodi sut y caiff y blaenoriaethau hyn eu cyflawni. Ar hyn o bryd, nid oes dim byd pellach i’w adrodd.
- Coleg Bevan – Mae Estyn wedi cynnal arolygiad yn ddiweddar ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn. xx
Nodwyd bod rhai perthnasoedd gwaith allweddol wedi’u datblygu a’u cryfhau yn ystod yr arolygiad hwn.
- Newidiadau i reoliadau CGA (Cyngor y Gweithlu Addysg) – o fis Mai 2024, rhaid i bob ymarferydd sydd wedi’i gofrestru fel athro Addysg Bellach yng Nghymru feddu ar gymhwyster addysgu. Mae goblygiadau hyn yn enfawr i’r Coleg a’r sector fel ei gilydd gan fod rhai staff sydd â sgiliau penodol i’r diwydiant ond nad ydynt yn meddu ar gymhwyster addysgu neu sydd am astudio am un. Rhoddwyd enghraifft o filfeddyg cymwysedig yn addysgu ar gwrs nyrsio milfeddygol dair awr yr wythnos.
- Cynghrair Strategol gyda Phrifysgol De Cymru – cynghrair newydd gyda phedwar coleg arall yn ne ddwyrain Cymru (Y Coleg Merthyr, Coleg y Cymoedd, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Choleg Gwent) a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i llofnodi’n ddiweddar.
Tynnodd y Cadeirydd sylw’r Corff Llywodraethu hefyd at y llwyddiannau yn y Gystadleuaeth Sgiliau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth, a llongyfarchodd y Corff Llywodraethu yr holl fyfyrwyr a staff a gymerodd ran.
Holodd aelod a oedd yr Uwch Dîm Arwain wedi adolygu blaenoriaethau CTER ac wedi mapio lle mae cryfderau’r Coleg. Cadarnhaodd y Pennaeth fod y broses hon ar y gweill a bod llawer o flaenoriaethau CTER eisoes wedi’u gwreiddio yng ngwaith y Coleg. Fel enghreifftiau, nododd y trefniadau cydweithredol sefydledig sydd eisoes ar waith gyda Chynghrair Prifysgol De Cymru a’r Consortiwm Bwbl i ddangos ymrwymiad y Coleg i ganolbwyntio ar y dysgwr.
7. DIWEDDARIAD DIOGELU
Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) y diweddariad canlynol:
- Yn ddiweddar, fe gwblhaodd y cwrs hyfforddi gloywi Person Diogelu Dynodedig (DSP) deuddydd.
- Mae nifer yr achosion ar gyfer y flwyddyn yn cyd-fynd â’r disgwyl a’r flwyddyn flaenorol. Mae’n bosibl y bydd cynnydd yn nifer yr achosion yn y misoedd nesaf oherwydd pwysau’r cyfnod arholiadau ond bydd hyn yn debyg i flynyddoedd blaenorol.
- Mae copi o’r arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn darpariaeth ôl-16 a gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Ionawr wedi’i roi ar y gyriant a rennir (rhoddwyd y diweddariad hwn yng nghyfarfod mis Chwefror).
Nodwyd bod Adroddiad Hunanwerthuso’r Coleg a’r cylch ansawdd wedi’u halinio â chylch peilot newydd Estyn o dri yn hytrach na phum maes arolygu.
- [GOLYGWYD]
Cafwyd trafodaeth ynghylch faint o wybodaeth a data y dylid eu cynnwys yn yr adroddiad hwn gan fod diweddariad ar ddiogelu yn cael ei ddarparu ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd a thrwy’r Adroddiad Diogelu blynyddol.
Cytunwyd bod yr adroddiad yn rhoi digon o wybodaeth i’r Corff Llywodraethu gael dealltwriaeth o lesiant y dysgwyr a’i fod yn rhoi cyfle i unrhyw gwestiynau gael eu gofyn. Trafodwyd hefyd fod diogelu yn gymhleth iawn ac yn gyfrifoldeb enfawr i’r Coleg a phe byddai unrhyw bryderon difrifol, byddai’r ddau lywodraethwr arweiniol ar gyfer diogelu yn cael eu hysbysu gan y Person Diogelu Dynodedig. Gofynnwyd i unrhyw hysbysiadau o’r fath gael eu cynnwys mewn diweddariadau yn y dyfodol.
Cytunwyd y dylai fformat yr adroddiad aros yn y fformat presennol ond dylai hefyd gynnwys unrhyw hysbysiadau i’r llywodraethwyr arweiniol gan ei fod yn rhoi cyfle i unrhyw gwestiynau gael eu gofyn.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) am y diweddariad.
8. Y BROSES AR GYFER PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD NEWYDD
Cytunodd y Corff Llywodraethu ar y broses ar gyfer penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd. Dilynwyd y broses hon ar gyfer y penodiadau blaenorol.
9. YMESTYN CONTRACT YR ARCHWILWYR MEWNOL
[GOLYGWYD]
10. MATERION LLYWODRAETHU
CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu yr argymhellion canlynol gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu:
- Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau o 8 i 7 o fis Medi 2024 gan y teimlwyd bod y nifer hwn yn ddigonol i wasanaethu’r pwyllgor.
{Nodyn y Clerc – 7 oedd aelodaeth y pwyllgor cyn Mai 2019}
- Mae Shelley Wyatt-Williams i’w phenodi’n aelod llawn o’r Corff Llywodraethu ar ôl gwasanaethu fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio ers mis Mawrth 2021.
Darparwyd copi o broffil Shelley i holl aelodau’r Corff Llywodraethu.
- Penodi Joanne Oak am ail dymor yn y swydd (1 Rhagfyr 2024 i 30 Tachwedd 2028).
- Y diwygiadau i Gylch Gorchwyl y Pwyllgorau Cwricwlwm ac Ansawdd a Chydnabyddiaeth.
- Y calendr o gyfarfodydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
CADARNHAODD y Corff Llywodraethu yr eitemau canlynol a gymeradwywyd yn electronig rhwng cyfarfodydd y Corff Llywodraethu ym mis Chwefror a mis Ebrill:
- [GOLYGWYD]
- Penodi Trish D’Souza yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau am weddill blwyddyn academaidd 2023/24.
Nodwyd bod Trish wedi mynychu cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau ym mis Mawrth.
NODODD y Corff Llywodraethu y canlynol:
- Dyddiadau i ddod:
- Cyfarfod Materion Cyfrinachol – DYDD LLUN 29 Ebrill am 4.30pm (penodi Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol))
- Seremoni Wobrwyo Flynyddol y Myfyrwyr – Dydd Mawrth 25 Mehefin am 6pm yn Awditoriwm yr Academi STEAM
- Seremoni Raddio AU – Dydd Sadwrn 12 Hydref
- Aelodau newydd y Corff Llywodraethu – mae’r Pennaeth, y Cadeirydd a’r Clerc yn gweithio drwy’r argymhellion a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu. Gofynnodd y Clerc, os oedd gan aelodau unrhyw awgrymiadau, iddynt anfon y rhain ati.
Rhoddodd Trish D’Souza ddiweddariad i’r Clerc am y cyswllt diweddar yr oedd wedi’i wneud ag aelod posibl i ddweud ei bod yn aros am ateb.
- Defnydd o’r Sêl Gorfforaethol – defnyddiwyd hwn ar 29 Chwefror ac 11 Mawrth ar y Brydles a’r Cytundeb Prydlesu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer safle’r campws yng nghanol y dref. Roedd yr aelodau wedi derbyn hysbysiadau electronig o’r rhain.
11. POLISÏAU’R COLEG
11.1 Polisi Cwynion
Dywedodd y Pennaeth wrth y Corff Llywodraethu fod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau wedi adolygu ac argymell cymeradwyo’r polisi hwn.
Ychwanegodd y Clerc fod un aelod wedi bwydo rhai awgrymiadau oedd wedi eu cynnwys yn y polisi.
Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu y Polisi Cwynion.
11.2 Polisi Rheoli Data a GDPR
Dywedodd y Dirprwy Bennaeth (Taith y Dysgwyr, Systemau ac Arferion Cynhwysol) wrth y Corff Llywodraethu fod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau wedi adolygu ac argymell cymeradwyo’r polisi hwn. Nodwyd mai’r unig newidiadau oedd i deitlau swyddi a chynnwys atodiad ar gyfer ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun.
Datganodd Trish D’Souza fuddiant yn yr eitem hon gan fod un o’i chydweithwyr wedi cynghori’r Coleg ar hyn.
Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu y Polisi Rheoli Data a GDPR.
12. CYFRIFON RHEOLI 2023/24 A DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL ARIANNOL
Rhoddodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) drosolwg o’r Cyfrifon Rheoli gan fod y Pwyllgor wedi’u hadolygu’n drylwyr ac argymell iddynt gael eu cymeradwyo:
[GOLYGWYD]
Eglurodd y Pennaeth fod swm sylweddol o waith wedi ei wneud gan yr Uwch Dîm Arwain i nodi arbedion cost ac effeithlonrwyddau xx. Gofynnwyd i’r Myfyrwyr-lywodraethwyr a oeddent yn ymwybodol o’r angen am arbedion/effeithlonrwyddau a chytunodd y ddau nad oeddent yn ymwybodol o hyn ac nad oedd eu profiad fel myfyrwyr wedi’i gyfaddawdu na’i effeithio mewn unrhyw ffordd. Dywedodd yr un Myfyriwr-lywodraethwr mai’r adborth o’r daith gerdded y dysgwr a aeth arni oedd bod costau byw yn effeithio ar ei chyd-fyfyrwyr ac na allant fforddio’r bwyd yn y ffreutur.
Trafododd y Corff Llywodraethu eu bod yn teimlo’n dawel eu meddwl bod stiwardiaeth gref gan y Coleg ac na fyddent am i’r holl waith sydd wedi’i wneud i greu diwylliant mor gadarnhaol gael ei gyfaddawdu oherwydd toriadau cyllid.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) a’r Pennaeth am y diweddariad.
13. COFRESTR RISGIAU
Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y Gofrestr Risgiau a argymhellodd y Pwyllgor Archwilio iddi gael ei chymeradwyo.
Roedd yr ychwanegiadau/dileadau a argymhellwyd fel a ganlyn:
- Dileu Risg 4 ‘Methiant i gynnal incwm a chyfraniad o Addysg Uwch (AU) yn unol â thargedau yn effeithio’n andwyol ar y gallu i fodloni’r gyllideb’ – mae hyn wedi’i gwmpasu gan Risg 3 ‘Methiant i gyflawni’r gyllideb yn effeithio’n andwyol ar ddyfodol y gyllideb y Coleg, ar hyder rhanddeiliaid, ac ar iechyd ariannol, ac yn cael effaith negyddol ar enw da a’n gallu i ariannu neu fenthyca ar gyfer buddsoddi’. Hefyd, mae yna feysydd eraill yn y Coleg sydd â lefelau incwm uwch ac nid oes gan y rhain eu risgiau ar wahân eu hunain’.
- Ychwanegu Risg 15 ‘Bydd y Coleg yn ceisio osgoi a lleihau unrhyw effaith ar ei enw da cryf fel Coleg rhagorol o ddewis ar gyfer dysgwyr a staff, o ganlyniad i unrhyw newidiadau sefydliadol a ysgogir gan gynaliadwyedd ariannol’ – ychwanegwyd y risg hon ar gais y Pennaeth newydd.
- Ychwanegu Risg 16 ‘A yw’r Cynllun Parhad Busnes yn rhoi digon o sicrwydd i’r Coleg y gall ymateb mewn modd effeithlon ac effeithiol i fynd i’r afael â goblygiadau unrhyw ddigwyddiad mawr?’ – argymhelliad gan yr archwilwyr mewnol yw hwn.
Roedd rhai newidiadau wedi bod i eiriad rhai o’r risgiau ac roedd y rhain wedi eu hamlygu mewn coch ar y Gofrestr Risgiau.
Cafwyd trafodaeth ynghylch a yw Risg 16 (ychwanegiad arfaethedig) yn rheolaeth yn hytrach na risg. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y trafodwyd hyn gyda’r archwilwyr mewnol a nodwyd yr oedd hwn ar y Gofrestr Risgiau yn y gorffennol ond fe’i dilëwyd ar ôl y pandemig. Cytunwyd y byddai’r risg hon yn cael ei hailystyried gan y Pwyllgor Archwilio (GWEITHRED – AG).
Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu bob diwygiad i’r Gofrestr Risgiau heblaw ychwanegu Risg 16.
14. DPAau CORFFORAETHOL A’R CERDYN SGORIO MANTOLEDIG
Cyflwynwyd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau) Corfforaethol a’r Cerdyn Sgorio Cytbwys.
DPAau Corfforaethol
Nodwyd dau DPA coch:
- [GOLYGWYD]
Cerdyn Sgorio Cytbwys
[GOLYGWYD]
Gofynnodd aelod i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) beth yw’r pryder ariannol mwyaf ar hyn o bryd. Dywedodd mai’r ‘pethau anhysbys’ a chael dim ond blwyddyn o wybodaeth ariannu ar y tro yw’r heriau mwyaf gan fod y ffactorau hyn yn gwneud cynllunio ariannol yn anodd iawn. xx
[GOLYGWYD]
Nododd y Corff Llywodraethu y diweddariad.
15. COFNODION Y PWYLLGORAU
15.1 Chwilio a Llywodraethu – 26 Chwefror 2024
DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.
15.2 Archwilio (Rhannau A a B) – 29 Chwefror 2024
DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.
15.3 Cwricwlwm ac Ansawdd – 7 Mawrth 2024
DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.
15.4 Cynllunio Adnoddau – 14 Mawrth 2024
DERBYNIODD y Corff Llywodraethu y cofnodion hyn.
16. UNRHYW FATER ARALL
Dim
Nododd y Corff Llywodraethu bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 23 Mai 2024.
GWIRIWR GWERTHOEDD
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Corff Llywodraethu wedi cael digon o gyfle i graffu a gofyn cwestiynau ac a oedd yr uwch dîm yn teimlo eu bod wedi derbyn digon o gefnogaeth a chyfeiriad yn ystod y cyfarfod.
Dywedodd un aelod ei bod yn teimlo bod y pwyllgorau a’r Corff Llywodraethu yn cydweithio’n dda a bod yna edefyn aur. Ategodd y Cadeirydd y teimlad hwn a dywedodd fod gwerth y pwyllgorau wedi’i ddangos yn ystod y cyfarfod hwn. Ychwanegodd aelod arall fod yna fantais i bawb wybod eu rolau a bod yr uwch dîm yn gymwys iawn gan fod atebion ar gael ar unwaith ganddynt i gwestiynau a godir.
Dywedodd aelod arall nad oedd byth unrhyw syrpreisys yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethu gan fod y pwyllgorau yn gwneud y gwaith manwl sydd wedyn yn cael ei fwydo i fyny.
Gwnaed sylw pellach fod y papurau o safon uchel a bod y cyflwyniad ar gampws canol y dref ar ddechrau’r cyfarfod yn gynorthwyol iawn gan ei fod yn fodd i atgoffa sut olwg fydd ar yr adeiladau newydd.
Awgrymwyd, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, y gellid rhoi mwy o bwyslais ar lais y dysgwr a dathlu llwyddiannau myfyrwyr a staff yn fwy.
Gofynnwyd i’r Myfyrwyr-lywodraethwyr am eu hadborth ar y profiadau hyd yma eleni. Dywedodd Lloyd Tandy mai’r uchafbwynt iddo ef oedd y daith i Wlad Thai a’r ffrindiau y mae wedi’u gwneud o ganlyniad i hyn. Dywedodd Teodora Grancea ei bod wedi mwynhau bod yn y Coleg yn fawr a’i bod yn teimlo bod rhywbeth unigryw am Goleg Penybont. Ychwanegodd fod yr athrawon yn gyson yn ei chefnogi hi a’i chyd-fyfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial a bod cael mynediad i’r Hyb Lles ar unrhyw adeg o gymorth mawr.
Dywedodd y Pennaeth wrth y Corff Llywodraethu fod y Coleg wedi cynnal dathliad mewnol yn ystod wythnos y cyfarfod ar gyfer y myfyrwyr oedd wedi ennill gwobrau yn y Gystadleuaeth Sgiliau. Nododd y Corff Llywodraethu fod Teodora wedi mentora un o’r myfyrwyr oedd wedi ennill gwobr, a’i bod hi wedi bod yn llysgennad gwych i’r Coleg. Dywedodd Teodora ei bod wedi cael hwyl yn mentora ei chyd-fyfyrwyr ac iddi fwynhau’r seremoni wobrwyo yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol.
Cytunwyd y byddai’r Pennaeth a’r ddau Fyfyriwr-lywodraethwr yn gwneud cyflwyniad ar y cyd yng nghyfarfod olaf y Corff Llywodraethu o’r flwyddyn. Atgoffodd y Pennaeth y Corff Llywodraethu mai Saesneg yw ail iaith y ddau fyfyriwr-lywodraethwr.
Dywedodd y Pennaeth ei bod yn teimlo ei bod wedi cael atebion clir i unrhyw gwestiynau a ofynnodd i’r Corff Llywodraethu.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 6.12pm.
Cynhaliwyd cyfarfod Materion Cyfrinachol gyda’r aelodau cymwys ar ôl y cyfarfod hwn.



















