Cofnodion Cyfarfod y Corff Llywodraethu – 10 Ebrill 2025
Ystafell Gynadledda Academi STEAM a thrwy Google Meet – 5.00yp
AELODAU A OEDD YN BRESENNOL:
- Joanne Oak (Cadeirydd)
- Viv Buckley – Pennaeth/Prif Swyddog Gweithredol
- Joe Castle
- Ceri Dixon
- Lisa Dobbs – Staff-lywodraethwr
- Ben Fisher – Myfyriwr-lywodraethwr
- Claire Marshall
- Noah Murray – Myfyriwr-lywodraethwr
- Lloyd Powell
- Stephne Puddy
- Susan Smith
- Shelley Wyatt-Williams
ERAILL A OEDD YN BRESENNOL
- Joe Baldwin – Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol)
- Nicola Eyre – Clerc
- Andrew Gibbs – Dirprwy Bennaeth (Adnoddau)
- Matthew Rees – Is-bennaeth (Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol)
- Catrin Sullivan – Cyfarwyddwr Cwricwlwm
- Hayley Thomas – Is-Bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd)
- Laura Williams – Planning Director, Savills – eitem 7 ar yr agenda yn unig
Dechreuodd y cyfarfod am 5.00yp. Cynhaliwyd cyfarfod busnes neilltuedig yn union cyn y cyfarfod hwn.
Defnyddiwyd Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Google Gemini) i helpu i ddrafftio’r cofnodion hyn.
1. CROESO GAN Y CADEIRYDD AC YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Joanne Oak oedd yn gadeirydd y cyfarfod gan fod Emma Adamson wedi cyflwyno ymddiheuriad am absenoldeb.
Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Emma Adamson, Charlize Cosker (Myfyriwr-lywodraethwr), Marion Evans (Staff-lywodraethwr), Hayden Llewellyn, Tomos Owen, Helen Verity a Gemma Carr-Evans (Cyfarwyddwr Cwricwlwm). Ni fynychodd Donna Ali y cyfarfod.
2. DATGANIADAU O FUDDIANNAU
Joanne Oak – eitem 7 ‘Tir ar Gampws Pencoed’ oherwydd ei chyflogaeth fel Prif Weithredwr Grŵp Cymoedd i’r Arfordir.
3. COFNODION CYFARFOD Y CORFF LLYWODRAETHU A GYNHALIWYD AR 20 CHWEFROR 2025
Cadarnhawyd bod y cofnodion o gyfarfod y Corff Llywodraethu ar 20 Chwefror 2025 yn gywir.
4. MATERION SY’N CODI
4.1 COFNOD O GAMAU GWEITHREDU
Roedd pedwar cam gweithredu yn y Cofnod o Gamau Gweithredu:
- Cam Gweithredu 1 – GOLYGWYD
- Cam Gweithredu 2 – Ystyried partneriaethau cymdeithasol – nid oes angen ei gwblhau eto. Cafodd hyn ei gynnwys fel rhan o Ddiweddariad gan y Pennaeth (eitem agenda 5).
- Cam Gweithredu 3 – Cyflwyniad ar Gynaliadwyedd – heb ei gyflwyno eto.
- Cam Gweithredu 4 – Cyflwyno dyraniadau cyllid Llywodraeth Cymru – wedi’i gwblhau. Rhoddodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) gyflwyniad i’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.
Nododd yr aelodau’r diweddariad.
5. DIWEDDARIAD GAN Y PENNAETH
Tynnodd y Pennaeth sylw at y canlynol yn ei hadroddiad:
- Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol i drafod creu partneriaeth gymdeithasol ffurfiol. Mae’r Uwch Dîm Arwain yn aros am arweiniad ar y camau nesaf gan Undeb Prifysgolion a Cholegau a fydd yn cynnwys ymgysylltu â’r Corff Llywodraethu.
- Mae’r Coleg wedi perfformio’n gryf iawn yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru:
- 26 medal, 20 gwobr ‘canmoliaeth uchel’ ac 1 gwobr ‘gorau yn y rhanbarth’.
- Mae 5 dysgwr Coleg Penybont wedi’u dewis i hyfforddi ar gyfer y tîm a fydd yn cynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth WorldSkillsUK (86 wedi’u dewis i gyd ac 20 o’r rhain o Gymru). Cynhelir y gystadleuaeth yn Shanghai yn 2026.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth am ei diweddariad a thynnodd sylw hefyd at y Bathodynnau Gwerthoedd sydd wedi cael eu dyfarnu ers mis Ionawr.
6. DIOGELU
Tynnodd y Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) sylw at y canlynol yn ei ddiweddariad ysgrifenedig:
- Cyflwynwyd cyfanswm nifer y pryderon gan fyfyrwyr ac achosion staff ar gyfer y flwyddyn hyd yma ac o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.
- Mae un atgyfeiriad Prevent wedi’i wneud ers y cyfarfod diwethaf; tri i gyd am y flwyddyn hyd yma.
- Cynhaliodd y Coleg ddiwrnod hyfforddi Channel (Prevent) a drefnwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a’r Swyddfa Gartref ym mis Chwefror. Ers terfysgoedd Southport y llynedd, mae awdurdodau lleol wedi canolbwyntio eu sylw ar ddiogelu a Prevent.
- Mae dysgwyr yn parhau i ddefnyddio ap Wisdom.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Cenedlaethau’r Dyfodol) am y diweddariad.
Cyflwynwyd eitem agenda 7 ar ôl eitem 11
8. MATERION LLYWODRAETHU
Materion i’w cymeradwyo
- Cymeradwyodd y Corff Llywodraethu’r calendr o gyfarfodydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Materion i’w nodi
- Nododd y Corff Llywodraethu y bydd Medr yn ymgynghori ar y Fframwaith Rheoleiddio newydd ym mis Mai.
- Nododd y Corff Llywodraethu fod disgrifiadau llywodraethwyr bellach yn fyw ar wefan y Coleg.
- Nodwyd manylion hyfforddiant gwrth-hiliaeth ColegauCymru (ar gael ar y Gyriant a Rennir).
- Nodwyd y dyddiadau canlynol:
- 15 Mai am 3yp – ymweld â champws canol y dref
- 26 Mehefin am 6yh – Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol yn Academi STEAM.
- [GOLYGWYD]
Diolchodd y Cadeirydd i’r Clerc am y diweddariad.
9. CYFRIFON RHEOLI 2024/25 GAN GYNNWYS DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL
Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y wybodaeth ganlynol:
- [GOLYGWYD]
Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) a hysbysodd yr aelodau bod y Cyfrifon Rheoli wedi’u trafod yn fanwl yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau ym mis Mawrth. GOLYGWYD
CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu’r Cyfrifon Rheoli a’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
10. GWERTHU EIDDO AR HOLTON ROAD, Y BARRI
Cafodd yr aelodau adroddiad cynhwysfawr yn egluro hanes yr eiddo hwn a’r rhesymau dros ei werthu. Roedd y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau wedi trafod y gwerthiant yn ei gyfarfod ym mis Mawrth ac wedi gwneud argymhelliad i’r Corff Llywodraethu y dylid ei werthu gan ei fod yn weddill i anghenion y Coleg.
Yn unol â gofynion Rheoliadau Ariannol y Coleg, CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu werthu’r eiddo ar Heol Holton, y Barri.
11. COFRESTR RISGIAU
Eglurodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y newidiadau arfaethedig i’r Gofrestr Risgiau a argymhellwyd i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio:
- Ychwanegu Risg 15 ‘Is-gwmnïau’r Coleg yn tangyflawni’n ariannol’
- Mae’r UDA i ystyried cynnwys risg newydd sy’n cwmpasu ystod eang o ffactorau allanol sy’n effeithio ar y Coleg a’r sector AB e.e. Medr, newidiadau mewn cymwysterau galwedigaethol, cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
- Bydd yr UDA yn ystyried cyfuno nifer y risgiau ar y Gofrestr Risg yn yr adolygiad nesaf.
- Risg 3 ‘Methiant i gyflawni’r gyllideb …’ – mae’r risg gweddilliol wedi’i leihau o 20 i 15 ond yn parhau i fod yn Uchel (Tebygolrwydd wedi’i leihau o 4 i 3 ond mae’r effaith yn parhau ar lefel 5). Mae hyn wedi gostwng oherwydd y newid cadarnhaol yn y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn academaidd hon ond efallai y bydd hyn yn cynyddu eto yn yr adolygiad nesaf gan y bydd ansicrwydd am y flwyddyn academaidd 2025/26.
- Risg 8 ‘Prosiect Campws Canol y Dref’ – mae’r risg gweddilliol wedi’i leihau o 25 i 20 ond yn parhau i fod yn Uchel (Tebygolrwydd wedi’i leihau o 5 i 4 ond mae’r effaith yn parhau ar lefel 5). Mae hyn wedi’i leihau ychydig gan fod risgiau’r prosiect yn lleihau.
CYMERADWYODD y Corff Llywodraethu’r Gofrestr Risgiau ddiwygiedig.
Gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod ar gyfer eitem 7 ar yr agenda oherwydd gwrthdaro buddiannau (a gyflogir fel Prif Weithredwr Grŵp Cymoedd i’r Arfordir). Gweithredodd Lloyd Powell fel Cadeirydd ar gyfer yr eitem ganlynol ar yr agenda.
7. TIR AR GAMPWS PENCOED
- [GOLYGWYD]
Cafwyd egwyl cysur fer
Ailymunodd Joanne Oak â’r cyfarfod
12. DIWEDDARIAD AR GAMPWS CANOL Y DREF
Chwaraewyd fideo byr o ffilm drôn o gampws canol y dref.
Rhoddodd y Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) y diweddariad canlynol ar gampws canol y dref:
- Mae’r Coleg yn ceisio sicrhau cyfarfod gyda CBS Pen-y-bont ar Ogwr i gwblhau’r brydles am safle’r maes parcio aml-lawr.
- Mae’n bosibl y bydd oedi cyn cwblhau’r gwaith o ddymchwel y maes parcio aml-lawr tan ganol i ddiwedd mis Mai.
- Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i gostau’r prosiect ers y cyfarfod diwethaf.
- Bydd y Cais Amrywiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst/Medi. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ganlyniadau arolygon cyflwr tir y maes parcio aml-lawr cyn cyflwyno’r cais hwn i’w ystyried.
- Mae ffrâm campws canol y dref yn codi’n gyflym.
Cafwyd trafodaeth am ddefnyddio gwleidyddion er mwyn ceisio symud materion ymlaen gyda’r brydles. Cytunwyd bod hyn yn rhywbeth y gellir ei ystyried os na cheir ymateb gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn fuan.
Gofynnodd aelod i ba raddau y mae dysgwyr a rhanddeiliaid wedi cymryd rhan yn y prosiect. Eglurodd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm y bu llawer o ymgysylltu ystyrlon â dysgwyr, gan gynnwys ymweliadau safle, sesiynau Iechyd a Diogelwch a chyfweliadau.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Bennaeth (Adnoddau) am y diweddariad.
13. DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL CORFFORAETHOL A CHERDYN SGORIO CYTBWYS
Nododd y Corff Llywodraethu’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol a’r Cerdyn Sgorio Cytbwys a oedd yn gadarnhaol iawn.
14. COFNODION Y PWYLLGORAU
14.1 Cwricwlwm ac Ansawdd – 24 Mawrth 2025
DERBYNIODD y Corff Llywodraethu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2025.
Rhoddodd Lloyd Powell (Cadeirydd newydd) grynodeb byr o’r cyfarfod hwn.
14.2 Cynllunio Adnoddau – 27 Mawrth 2025
DERBYNIODD y Corff Llywodraethu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2025.
Dywedodd Joanne Oak (Cadeirydd) fod nifer o eitemau agenda o gyfarfod y pwyllgor yn llifo i’r cyfarfod Corff Llywodraethu hwn.
15. UNRHYW FATER ARALL
Dim
16. GWIRIWR GWERTHOEDD
Cytunwyd bod y cyfarfod wedi’i gynnal yn unol â chwe gwerth craidd y Coleg a bod papurau’r cyfarfod yn gynhwysfawr ac o safon uchel.
Diolchwyd i’r Cadeirydd am gamu i’r adwy ar fyr rybudd.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 6.28yh.



















