Cod Ymddygiad i Aelodau’r Corff Llywodraethu ac Aelodau Cyfetholedig

Mabwysiadwyd ar 6 Tachwedd 2025

  1. CYFLWYNIAD

    1.1. Nodir dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Corff Llywodraethu yn yr Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu a gymeradwywyd gan Lywodraethu Cymru yn 2006. Mabwysiadodd Corff Llywodraethu Coleg Penybont ei Offeryn a’i Erthyglau Llywodraethu ei hun ym mis Hydref 2023.

    Bwriedir i’r Cod hwn fod yn ganllaw i aelodau unigol o’r Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau (gan gynnwys aelodau cyfetholedig). Mae’n nodi’r safonau ymddygiad y disgwylir i aelodau o’r Corff Llywodraethu ac aelodau cyfetholedig gydymffurfio â nhw er mwyn eu galluogi i ddeall a chyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol a chynnal perthnasau cywir â’r Corff Llywodraethu a’r Pennaeth, ac uwch reolwyr eraill. Bwriedir i’r Cod hwn ddarparu arweiniad ar gyfer llywodraethu corfforaethol effeithiol a gwybodus. Ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad diffiniol nac awdurdodol o’r gyfraith.

    1.2. Yn ogystal â’r Cod hwn, argymhellir i lywodraethwyr ymgyfarwyddo eu hunain â’r canlynol:

    (a) yr Offeryn a’r Erthyglau Llywodraethu;
    (b) Rheolau Sefydlog y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau, yn ogystal â Chylch Gorchwyl pob pwyllgor y maent yn eistedd arno;


    (c) Cynllun Strategolpresennol y Coleg
    (ch) Rheoliadau Ariannol a’r Memorandwm Ariannol y cytunodd Coleg Penybont arno gyda Llywodraeth Cymru.

    1.3. Os yw aelod o’r Corff Llywodraethu neu aelod cyfetholedig yn ansicr o ddarpariaethau’r Cod hwn, dylid cysylltu â’r Clerc ac, os oes angen, dylid ceisio cyngor proffesiynol. Fodd bynnag, yn sylfaenol yr aelod unigol sy’n gyfrifol am ymddwyn mewn modd priodol yn ei swydd fel aelod o’r Corff Llywodraethu / aelod cyfetholedig ac am unrhyw weithred neu hepgoriad yn rhinwedd y swydd honno.

    1.4. Mae’r Cod hwn yn berthnasol i bob pwyllgor ac is-gwmni y penodir yr aelod iddo.

    1.5. Drwy dderbyn penodiad i’r Corff Llywodraethu, mae pob aelod yn cytuno i dderbyn darpariaethau’r Cod hwn.

    1.6. Mae pob aelod, trwy dderbyn darpariaethau’r Cod hwn, yn cytuno y gall unrhyw achos o dorri’r Cod hwn ganddo arwain at ei ddiswyddo o’i rôl fel aelod.
  2. DEHONGLIAD

    2.1 Yn y Cod hwn, mae “Corff Llywodraethu” yn golygu Corff Llywodraethu Coleg Penybont, ac mae “Llywodraethwr”, “Cadeirydd”, “Pennaeth”, a “Clerc” yn eu tro yn golygu aelod o’r Corff Llywodraethu, Cadeirydd y Corff Llywodraethu, y Pennaeth, a’r Clerc i’r Corff Llywodraethu. Mae i bob diffiniad arall yr un ystyr a’r hynny a nodwyd yn yr Offeryn a’r Erthyglau Llywodraethu.
  3. EGWYDDORION NOLAN

    Fel y corff sydd ag awdurdod a chyfrifoldeb cyffredinol dros lywodraethu sefydliad sy’n cael ei ariannu yn y sector cyhoeddus, mae’n rhaid i Gorff Llywodraethu Coleg Penybont gydymffurfio â’r egwyddorion a nodwyd gan y Pwyllgor Nolan i’r rhai sydd â deiliaid swyddi cyhoeddus, sef:

    3.1. Anhunanoldeb: ‘Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd yn unig. Ni ddylent wneud penderfyniadau er mwyn iddynt hwy, eu teulu neu eu ffrindiau, elwa’n ariannol neu’n faterol.’

    3.2. Uniondeb: ‘Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus roi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.’

    3.3. Gwrthrychedd: ‘Wrth gyflawni busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon neu fuddiannau, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau yn ôl haeddiant.’

    3.4. Atebolrwydd: ‘Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt gytuno i fod yn destun i ba bynnag graffu sy’n briodol i’w swydd.’

    3.5. Bod yn agored: ‘Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a’r camau a gymerir ganddynt. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau a pheidio â chyfyngu ar y wybodaeth onid oes angen am hynny er budd ehangach y cyhoedd.’

    3.6. Gonestrwydd: ‘Mae’n ddyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n ymwneud â’u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy’n codi er mwyn diogelu buddiannau’r cyhoedd.’

    3.7. Arweinyddiaeth: ‘Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi’r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad a dangos esiampl.’
  4. DYLETSWYDDAU LLYWODRAETHWYR

    4.1. Mae gan lywodraethwyr ddyletswydd ymddiriedol i’r Coleg. Golyga hyn y dylent ddangos ffyddlondeb o’r radd eithaf, gweithredu ag ewyllys da er budd y Coleg, a pheidio â gwneud unrhyw elw preifat o ganlyniad i’w swydd fel llywodraethwr. Dylai llywodraethwyr weithredu mewn modd gonest, diwyd, ac annibynnol (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cod hwn o ran cyfrifoldeb ar y cyd).

    4.2. Dylai llywodraethwyr gefnogi nodau ac amcanion y Coleg a hyrwyddo’r Coleg a’i staff a’i fyfyrwyr yn y gymuned ehangach.

    4.3. Pa bynnag benderfyniadau y mae llywodraethwyr yn eu gwneud yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau, mae’n rhaid eu bod er budd y Coleg cyfan ac nid at unrhyw ddiben amhriodol nac er budd unrhyw unigolyn yn bersonol. Gellir dehongli “budd y Coleg” i olygu, yn bennaf oll, budd ei staff, myfyrwyr a defnyddwyr eraill gwasanaethau’r Coleg, a diogelu cyllid cyhoeddus. Dylai llywodraethwyr ystyried y buddion hyn, a rhaid iddynt beidio â chaniatáu i unrhyw fuddion adrannol gymryd blaenoriaeth. Yn benodol, ni phenodir llywodraethwyr i fod yn ‘gynrychiolwyr’ neu’n ‘ddirprwyon’ o unrhyw sefydliad allanol, ac ni allant fod yn gyfreithiol rwym i orchmynion a roddir gan eraill.

    4.4. haid i lywodraethwyr gydymffurfio â darpariaethau’r Offeryn a’r Erthyglau Llywodraethu, ac yn benodol y cyfrifoldebau a roddwyd i’r Coleg gan Erthygl 3(1) o’r Erthyglau Llywodraethu. Er gellir dirprwyo rhai pwerau neu swyddogaethau i Bwyllgorau’r Corff Llywodraethu neu i’r Cadeirydd ni ellir dirprwyo’r canlynol:

    (i) pennu cenhadaeth a chymeriad addysgol y sefydliad;
    (ii) cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol ar gyfer incwm a gwariant;
    ((iii) cyfrifoldeb dros sicrhau solfedd y Coleg a’r Corff Llywodraethu a diogelu eu hasedau;
    (iv) penodi’r Pennaeth, y Clerc, a deiliaid swyddi uwch eraill;
    ((v) cyfrifoldeb dros glywed apeliadau yn erbyn diswyddo’r Pennaeth a deiliaid swyddi uwch eraill, a, phan fydd y Clerc yn aelod staff, clywed apêl y Clerc yn erbyn ei ddiswyddiad yn rhinwedd ei swydd fel aelod o staff;
    (vi) addasu neu ddirymu’r Erthyglau Llywodraethu.


    4.5. Dylai llywodraethwyr hefyd fod yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli, a’r cyfrifoldebau gwahanol ond cyflenwol a roddir i’r Pennaeth fel arweinydd academaidd a Phrif Weithredwr y Coleg. Tra mai swyddogaeth y Corff Llywodraethu yw cymeradwyo polisi strategol a chyfeiriad cyffredinol, a monitro perfformiad y Pennaeth ac unrhyw ddeiliaid swyddi uwch eraill. Rôl y Pennaeth, gyda chefnogaeth aelodau eraill o’r uwch dîm reoli, yw cyflwyno polisïau i’r Corff Llywodraethu eu cymeradwyo, gweithredu’r polisïau a gymeradwywyd gan y Corff Llywodraethu, a rheoli busnes y Coleg yn unol â’r cyllidebau a’r fframwaith y mae’r Corff Llywodraethu wedi’u cymeradwyo. Dylai llywodraethwyr wneud pob ymdrech i sicrhau bod y Corff Llywodraethu a’r Pennaeth yn gallu cyflawni eu rolau priodol mewn modd effeithiol.

    4.6. Mae Llywodraethwyr yn gyfrifol ar y cyd am gydymffurfio â’r dyletswyddau a nodwyd yn y Memorandwm Ariannol y cytunodd Coleg Penybont arno gyda Llywodraeth Cymru fel amod i dderbyn cyllid cyhoeddus.

    4.7. Er mai Llywodraeth Cymru/Medr yw prif ddarparwyr cyllid y Coleg, dylai llywodraethwyr fod yn ymwybodol fod y Corff Llywodraethu yn gyfrifol am ddefnyddio incwm sy’n deillio o ffynonellau eraill yn gywir hefyd.

    4.8. Rhaid i bob aelod gael gwiriad DBS.
  5. MEDRUSRWYDD, GOFAL A DIWYDRWYDD

    Dylai llywodraethwyr, yn eu holl waith i’r Coleg, ddangos y sgiliau sydd ganddynt a’r gofal a’r diwydrwydd y byddid yn eu disgwyl gan bersonau rhesymol o dan yr amgylchiadau. Bydd hyn yn enwedig o berthnasol pan fydd llywodraethwyr yn gweithredu fel asiantau’r Coleg, er enghraifft, pan gaiff swyddogaethau eu dirprwyo i un o bwyllgorau’r Corff Llywodraethu neu i’r Cadeirydd. Dylai llywodraethwyr fod yn ofalus eu bod yn gweithredu o fewn cylch gorchwyl unrhyw bwyllgorau maent yn gwasanaethu arnynt.
  6. PWERAU

    Mae llywodraethwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sydd o fewn y pwerau a roddwyd i’r Coleg gan Adrannau 18 a 19 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, fel y’i diwygiwyd. Os yw llywodraethwr yn credu bod y Coleg yn debygol o fynd y tu hwnt i’w bwerau drwy wneud penderfyniad penodol, dylid cyfeirio’r mater at y Clerc ar unwaith i gael cyngor.
  7. GWRTHDARO BUDDIANNAU

    7.1. Fel pobl sydd â dyletswydd ymddiriedol, dylai llywodraethwyr geisio osgoi rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae gwrthdaro (gwirioneddol neu bosibl) rhwng eu buddiannau personol a’u dyletswyddau i’r Coleg. Ni ddylent ganiatáu unrhyw wrthdaro buddiannau a allai amharu ar eu barn annibynnol. Dylai llywodraethwyr hefyd fod yn ofalus i beidio â’u rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle y gellid canfod bod gwrthdaro buddiannau.

    7.2. Atgoffir llywodraethwyr, o dan adran 10(1) o Offeryn Llywodraethu’r Coleg, ni ddylent dderbyn neu ddal unrhyw fuddiannau yn eiddo’r Coleg, ac ni ddylent dderbyn unrhyw dâl am eu gwasanaethau (ac eithrio fel aelod o staff y Coleg) heb ganiatâd ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru/Medr.

    7.3. Atgoffir llywodraethwyr hefyd, o dan adran 10(2) o Offeryn Llywodraethu ’r Coleg, bod ganddynt ddyletswydd i ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol sydd ganddynt, neu a allai fod ganddynt, o ran y canlynol:

    (a) cyflenwi gwaith neu nwyddau i’r Sefydliad neu at ddibenion y Sefydliad;
    (b) aunrhyw gontract neu gontract arfaethedig sy’n ymwneud â’r Coleg, neu

    (c) unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r Coleg.

    7.4. Fodd bynnag, nid buddiannau ariannol yn unig sy’n rhaid eu datgelu. Os yw’r cyhoedd yn debygol o neu’n sicr o ganfod bod buddiant yn debygol o amharu ar allu llywodraethwr i wneud penderfyniadau annibynnol, yna dylai’r buddiant, boed yw’n un ariannol neu beidio, gael ei:

    (a) adrodd i’r Clerc; a’i
    (b) ddatgelu i’r Corff Llywodraethu neu i’r pwyllgor cyn y caiff y mater dan sylw ei ystyried.

    Bydd agenda pob cyfarfod y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau’n cynnwys eitem ‘Datganiadau o Fuddiannau’. Wrth dderbyn y papurau ar gyfer y cyfarfod, dylai unrhyw aelod sydd â buddiant posibl roi gwybod i’r Clerc am hyn. Bydd y Clerc yn rhoi gwybod i’r Cadeirydd, a gellir gofyn i’r aelod hwnnw dynnu yn ôl o’r rhan o’r cyfarfod pan gaiff y mater sy’n achosi’r gwrthdaro ei ystyried, ac ni chaiff yr aelod bleidleisio ynghylch y mater hwn o dan unrhyw amgylchiadau.

    7.5. Rhaid i lywodraethwyr beidio â derbyn rhoddion, lletygarwch na buddion o unrhyw fath os gellid canfod y byddai hyn yn effeithio ar eu penderfyniadau neu eu huniondeb personol. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc ar unwaith am unrhyw roddion, lletygarwch neu fuddion a gaiff eu cynnig neu eu derbyn.

    7.6. Bydd y Clerc yn cadw Cofrestr o Fuddiannau a fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’n ofynnol i lywodraethwyr ddatgelu’n rheolaidd bob blwyddyn pob buddiant busnes, ariannol neu fel arall, sydd ganddynt hwy neu (hyd y gwyddant) sydd gan eu gwŷr/gwragedd neu eu partneriaid, eu plant, neu aelodau agos eraill o’u teuluoedd; yna bydd y Clerc yn cofnodi buddiannau o’r fath ar y Gofrestr. Dylai llywodraethwyr roi gwybod i’r Clerc pryd bynnag y mae eu hamgylchiadau’n newid ac y caiff buddiannau eu hennill neu eu colli.

    7.7. Os oes unrhyw amheuaeth, dylid cysylltu â’r Cadeirydd i gael cymeradwyaeth.
  8. CYFRIFOLDEB AR Y CYD

    8.1. Mae disgwyl i lywodraethwyr gydweithio â llywodraethwyr eraill er budd y Coleg. Mae’r Corff Llywodraethu’n gweithredu trwy lywodraethwyr yn gwneud penderfyniadau mwyafrif mewn cyfarfodydd sydd â chworwm. Felly, mae penderfyniad y Corff Llywodraethu, hyd yn oed pan nad yw’n unfrydol, yn benderfyniad a wneir gan y Corff Llywodraethu’n gyfunol. Mae gan bob llywodraethwr ddyletswydd i gefnogi’r penderfyniad, pa bynnag farn a fynegwyd yn y cyfarfod pan wnaed y penderfyniad.

    8.2. Pan fydd llywodraethwr yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan y Corff Llywodraethu, dylai’r llywodraethwr sicrhau bod y mater o anghytundeb yn cael ei drafod a’i gofnodi. Os yw’r llywodraethwr yn anghytuno’n gryf, dylid ymgynghori â’r Cadeirydd ac, os oes angen, dylid codi’r mater gyda’r Corff Llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf. Os nad oes cyfarfod wedi’i drefnu, dylai’r llywodraethwr gyfeirio at gymal 11(4) yr Offeryn Llywodraethu sy’n nodi y gellir galw cyfarfod arbennig o’r Corff Llywodraethu os yw pum aelod yn cefnogi’r cais. Fel arall, gall y llywodraethwr, ar ôl ymgynghori â’r Cadeirydd os yw hynny’n briodol, benderfynu ymddiswyddo o’r Corff Llywodraethu.
  9. CYFRINACHEDD

    9.1. Oherwydd atebolrwydd cyhoeddus y Corff Llywodraethu, dylid sicrhau, fel egwyddor gyffredinol, bod myfyrwyr a staff yn gallu cael mynediad at wybodaeth am drafodion y Corff Llywodraethu. Felly, dylai cofnodion cyfarfodydd y Corff Llywodraethu fod ar gael i’r cyhoedd ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo i’w cyhoeddi.

    9.2. Bydd achlysuron pan na fydd cofnodion o drafodaethau a phenderfyniadau ar gael i’r cyhoedd, er enghraifft pan fydd y Corff Llywodraethu’n ystyried materion sensitif neu unigolion a enwir, neu am resymau da eraill. Mewn achosion o’r fath, bydd y papurau a rennir ag aelodau’r Corff Llywodraethu neu’r pwyllgorau yn cael eu nodi’n gyfrinachol ac ni fydd unrhyw gofnod o’r trafodaethau yn cael eu cynnwys yn y cofnodion a gyhoeddir i’r cyhoedd. Mewn rhai amgylchiadau, bydd y Corff Llywodraethu yn cynnal Cyfarfodydd Materion Cyfrinachol lle na fydd staff-lywodraethwyr a myfyrwyr-lywodraethwyr yn bresennol (o dan Baragraff 13(4) o’r <a”https://docs.google.com/document/d/1Y5kxv_l91GezMV7wEqPAKmbZd9BApjf2OA-o3s8-9tk/edit?tab=t.0″>Offeryn Llywodraethu), ond dylid osgoi hyn lle bynnag y bo modd.

    9.3. Mae’n bwysig bod y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau’n cael trafodaethau cyflawn ac agored er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd. I wneud hynny, mae’n rhaid i lywodraethwyr ymddiried yn ei gilydd a rhannu cyfrifoldeb corfforaethol dros benderfyniadau. Dylai llywodraethwyr gadw’n gyfrinachol pob mater y mae aelodau o’r Corff Llywodraethu neu unrhyw un o bwyllgorau’r Corff Llywodraethu’n credu, oherwydd ei natur, y dylid ei drin mewn modd cyfrinachol.

    9.4. Ni chaniateir i aelodau wneud datganiadau sy’n ymwneud â thrafodion y Corff Llywodraethu na’i bwyllgorau i’r wasg nac i’r cyfryngau na mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus. Ystyrir ei fod yn anfoesol i aelodau’r Corff Llywodraethu feirniadu llywodraethwyr eraill yn gyhoeddus neu ddatgelu barnau y mae llywodraethwyr yn eu mynegi yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethu neu ei bwyllgorau.
  10. PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

    10.1. Disgwylir i lywodraethwyr fod yn bresennol yn y mwyafrif helaeth o gyfarfodydd y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau er mwyn galluogi llywodraethwyr i gyflawni eu swyddogaethau’n gywir. Os yw unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethu neu’r pwyllgorau yn absennol o gyfarfodydd am fwy na chwe mis, bydd y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu’n trafod ei achos ac mae’n bosibl y bydd gofyn iddo/iddi ymddiswyddo.

  11. DATBLYGU LLYWODRAETHU

    11.1. Anogir llywodraethwyr i ennill dealltwriaeth drylwyr o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau drwy gymryd rhan mewn rhaglenni cynefino a hyfforddi llywodraethwyr a ddarperir gan y Coleg.

    11.2. Er mwyn hyrwyddo llywodraethu effeithiol ac fel rhan o broses hunanwerthuso barhaus, bydd y Corff Llywodraethu’n hunanasesu ei berfformiad yn flynyddol.

    11.3. Bydd y Clerc i’r Corff Llywodraethu’n paratoi Adroddiad Blynyddol ynghylch gweithgareddau’r Corff Llywodraethu.
  12. Y WEITHDREFN I’W DILYN MEWN ACHOSION O BEIDIO Â CHYDYMFFURFIO Â’R COD YMDDYGIAD

    12.1. Os bydd y Cadeirydd o’r farn bod aelod wedi cyflawni mân achos o dorri darpariaethau’r Cod, bydd y Cadeirydd yn trafod y mater hwn gyda’r aelod dan sylw ac yn ei gynghori ar ymddygiad priodol.

    12.2. Os bydd yr aelod yn parhau i weithredu mewn modd sy’n torri’r Cod, bydd hyn yn sail i benderfyniad i ddod â’i aelodaeth o’r Corff Llywodraethu i ben. Penderfyniad y Corff Llywodraethu fydd y weithdrefn a chaiff hyn ei gyfleu yn ysgrifenedig i’r aelod dan sylw.

    12.3. Lle mae’r Cod wedi’i dorri’n fwriadol, bydd y Cadeirydd yn rhoi rhybudd ffurfiol i ddechrau. Os nad oes gwelliant yn ymddygiad yr aelod, bydd hyn yn sail i benderfyniad i ddod â’i aelodaeth o’r Corff Llywodraethu i ben. Penderfyniad y Corff Llywodraethu fydd y weithdrefn a chaiff hyn ei gyfleu yn ysgrifenedig i’r aelod dan sylw.

    12.4. Os yw’r Cadeirydd o’r farn bod yr aelod wedi torri rheolau’n fwriadol a bod y mater yn ddifrifol ac yn debygol o ddwyn anfri ar y Corff Llywodraethu a/neu’r Coleg, dylid ystyried penderfynu dod ag aelodaeth yr aelod i ben a bydd gohebiaeth ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi heb roi rhybudd ffurfiol ymlaen llaw. Bydd yr aelod yn cael ei hysbysu bod y Corff Llywodraethu yn ystyried penderfynu ei ddiswyddo o’r Corff Llywodraethu.

Cymeradwywyd: 6 Tachwedd 2025

I’w adolygu: Tachwedd 2028

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
A Levels
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Adult Community Learning (ACL)
Agriculture
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Arts and Crafts
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Bevan College
Books and Writing
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Cooking
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital
Digital Technologies
DIY
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Employability
Engineering
Engineering, Science & Building Services
English
Equine
ESOL
Facilities Management
GCSE
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Beauty
Health and Social Care
Health and Wellbeing
Hobbies and Leisure
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Humanities
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Junior Apprentices
Languages
Leadership and Management
Literacy
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
Music
N/A
NPTC
NPTC
Numeracy
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
Sport, Public Services, Digital Technologies & IT
STEM
STEM
Step Up
Step Up Pencoed
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Welsh
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch