Hygyrchedd a niwrowahaniaeth
Cynhwysiant Anabledd
Mae creu amgylchedd lle mae staff yn ffynnu yn ganolog i’n cynllun strategol. Mae gwaith sylweddol yn parhau i gael ei wneud yn y maes hwn i gefnogi staff i rannu eu data sensitif ac i gael sicrwydd y byddant yn cael cymorth ac addasiadau rhesymol. Rydym am greu a chynnal diwylliant lle mae ein gweithwyr ag anableddau yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn teimlo y gallant ffynnu.
Addasiadau Rhesymol
Rydym yn angerddol am sicrhau bod gan staff bopeth sydd ei angen arnynt i fod yn bopeth y gallant fod yn y gweithle. O’r herwydd, rydym yn barod i wneud addasiadau rhesymol ym mhob cam o’r cyfnod y mae’r gweithiwr yn gweithio yma. Er enghraifft:
- Addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: cynllun gwarantu cyfweliad, cyngor ar hygyrchedd ar y safle, cynnal cyfweliadau ar-lein, darparu cwestiynau i ymgeiswyr niwrowahanol cyn y cyfweliad os oes angen, hyfforddwyr swyddi i fynychu gydag ymgeiswyr.
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr i gefnogi gydag amrywiaeth o bynciau
- Atgyfeiriadau at sefydliadau cymorth cymunedol
- Atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol
Bwlch Cyflog Anabledd
Rydym yn canolbwyntio’n weithredol ar gau’r bwlch cyflog anabledd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad Bwlch Cyflog Coleg Penybont.
Pasbort Lles yn y Gweithle
Fe wnaethom ddatblygu Pasbort Lles yn y Gweithle i helpu i gefnogi staff newydd a phresennol gyda’u hanabledd a/neu gyflwr iechyd, nodi addasiadau rhesymol a chymorth gyda lles cyffredinol. Mae’r pasbort yn helpu i sicrhau bod cofnod clir a gall ein galluogi i ddarparu addasiadau priodol yn y gweithle a chymorth wedi’i deilwra, a chael gwared ar unrhyw rwystrau cyn belled ag y bo’n rhesymol bosibl.
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Mae gennym ddau Gynrychiolydd Lles Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gefnogi ein staff i adnabod symptomau problemau iechyd meddwl, cynnig cymorth cychwynnol ac arwain pobl tuag at gymorth. Yn ogystal, mae gennym dros chwe deg aelod o staff sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac mae pedwar aelod o staff yn Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
Asesiadau DSE
Mae ein tîm Iechyd a Diogelwch yn gallu cynnal asesiadau Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE) ar gyfer staff, i adolygu gweithfannau i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gyfforddus.
Asesiadau Risg
Rydym hefyd yn gallu trefnu asesiadau risg i werthuso hygyrchedd gweithfannau gweithwyr i helpu i nodi a chael gwared ar rwystrau i sicrhau mynediad cyfartal.
Mynediad at Waith
Mae Mynediad at Waith yn rhaglen cymorth cyflogaeth a ariennir yn gyhoeddus sy’n ceisio helpu mwy o bobl anabl i ddechrau neu aros mewn gwaith. Rydym yn cefnogi gweithwyr drwy wahodd Mynediad at Waith i ddod i mewn i’w hasesu yn y gwaith, ac yna rydym yn teilwra offer a gwasanaethau cymorth yn unol â grantiau Mynediad at Waith i sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gweithredu a’u bod yn effeithiol.
Ystafelloedd Tawel
Mae gennym ni nifer o ystafelloedd tawel ar draws Campws Penybont a Champws Pencoed y gall staff eu defnyddio. Gall y cyfle am le, tawelwch, encil a lloches helpu llawer o bobl i reoli bywyd, iechyd, lles ac astudiaethau yn ystod y diwrnod gwaith, a gall fod yn lle defnyddiol i fyfyrio’n dawel.



















