Rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gynigiwn i’n myfyrwyr, ac mae hynny’n wir ar gyfer ein staff hefyd. Isod mae detholiad o’r anrhydeddau a’r gwobrau rydym wedi’u derbyn sy’n dangos ein hymrwymiad i staff a myfyrwyr.
Mae Coleg Penybont yn falch iawn o gael ei gydnabod yng Ngwobrau Cynhwysol 2024, sydd mawr eu bri. Gan ddathlu ei 10fed flwyddyn, mae’r Gwobrau Cynhwysol yn arddangos sefydliadau ac unigolion sy’n rheoli gweithlu gwirioneddol amrywiol, gan gydnabod ymdrechion sylweddol y rhai sydd wedi rhagori yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant ar draws pob maes amrywiaeth. Cyrhaeddodd y Coleg safle 44 yn y rhestr o 50 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol y DU 2024-25.

Fel rhan o’r un seremoni, enillodd y Coleg hefyd y Wobr Prosiect Symudedd Cymdeithasol, sy’n tynnu sylw at sefydliadau sydd wedi datblygu a gweithredu prosiectau i annog symudedd cymdeithasol a chyfranogiad cymunedol. Mae’r wobr hon yn cydnabod ac yn amlygu effaith rhaglenni cyflogaeth â chymorth y Coleg, sy’n galluogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i gymryd rhan mewn interniaeth drochi blwyddyn o hyd, gan ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen i gyflogaeth barhaus ac ystyrlon â thâl ar ddiwedd y rhaglen. Mae cyfraddau cyflogaeth ar ôl y rhaglen yn llawer uwch na’r cyfraddau ar gyfer pobl o oedran gweithio ag anabledd mewn cyflogaeth yn y DU.

Ers 2020, rydym wedi cael ein cydnabod fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad i annog pobl anabl i wneud cais am swyddi gyda ni, a darparu cyfleoedd i ddangos eu sgiliau, talent a galluoedd yn y cam cyfweld. Rydym hefyd yn ymgysylltu’n rheolaidd â’n staff sydd ag anableddau o bob rhan o’r sefydliad i ddilysu ein hunanasesiadau gan fod eu cyfraniad yn ein galluogi i ddangos tystiolaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud yn y coleg i gefnogi ein staff sydd ag anableddau, a hefyd yn ein helpu i nodi meysydd i’w gwella ymhellach. Mae’r gwaith hwn yn ein galluogi i barhau i greu a chynnal diwylliant lle mae ein gweithwyr ag anableddau yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn teimlo y gallant ffynnu.
Yn 2024 roeddem yn falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cwmni Amrywiol yn y Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol – yr unig ddarparwr addysg ar y rhestr fer mewn unrhyw gategori.
Yn 2022, roeddem yn safle 22 ar y rhestr ‘25 Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU’, yn 8fed yn y categori ‘Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru’ ac yn 3ydd yn y DU yn y categori ‘Addysg a Hyfforddiant’.

































































