Mae gan Goleg Penybont ddyletswydd statudol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb a lleihau gwahaniaethu. Mae’r ddyletswydd yn sicrhau bod sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ystyried sut y bydd eu swyddogaethau’n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Er bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i wneud yn siŵr ein bod yn cyflogi pobl ac yn darparu gwasanaethau mewn ffordd ddiogel a theg, rydym yn ymdrechu i wneud mwy. Rhaid i ni barhau i sefydlu cydraddoldeb yn gadarn fel rhan o’n busnes bob dydd ac nid rhywbeth eilradd, fel ein bod yn ei ystyried ym mhopeth a wnawn.
Rydym yn ceisio datblygu diwylliant sy’n croesawu ac yn dathlu amrywiaeth, ac yn meithrin cynhwysiant. Byddwn yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn hybu amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, ac yn ceisio dileu gwahaniaethu, erledigaeth, bwlio neu aflonyddu. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd lle mae ein staff a’n myfyrwyr yn wir yn gallu bod eu hunain ac yn teimlo eu bod yn perthyn.
Fel rhan o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb. Mae gwaith yn parhau i wella ein gwybodaeth cyflogaeth ac arferion busnes o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Er ein bod wedi gwneud cynnydd dros y blynyddoedd, rydym yn deall bod gennym lawer i’w wneud o hyd i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, fel y gallwn dynnu ar wahanol safbwyntiau a phrofiadau. Rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb i sicrhau, lle bo bylchau, eu bod yn ymddangos yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, er mwyn cynyddu amrywiaeth y gweithlu a sicrhau tegwch ar draws y sefydliad.
Yn yr un modd ag yr ydym yn cyhoeddi ein Bwlch Cyflog Rhywedd yn flynyddol, rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi’r wybodaeth hon yn ôl yr holl nodweddion eraill mewn Adroddiad Bwlch Cyflog cyffredinol i sicrhau, os oes unrhyw fylchau eraill, eu bod hefyd yn ymddangos yn ein Cynllun Cydraddoldeb.
Mae’r Pwyllgor Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cwrdd yn rheolaidd i drafod datblygiadau, cyflawniadau a meysydd ar gyfer ffocws neu ddatblygiad pellach. Mae’r grŵp hwn yn gyfrifol am sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud wrth weithredu’r cynllun trwy weithdrefnau ac arferion, ac yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i werthuso cynnydd a chyflawniadau. Yn y modd hwn, y pwrpas yw ymgorffori cynhwysiant ym mhob rhan o Goleg Penybont sy’n hanfodol i dyfu diwylliant gwirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
































































