Cynllun Cyhoeddi
Mae Coleg Penybont wedi mabwysiadu’r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol ar gyfer y sector cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn disgwyl i awdurdodau cyhoeddus fabwysiadu’r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol heb ei addasu.
Mae’r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol yn ein hymrwymo i sicrhau bod y dosbarthiadau canlynol o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd:
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Gwybodaeth sefydliadol, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol.
Faint rydym yn ei wario a sut rydym yn gwneud hynny
Gwybodaeth ariannol am incwm a gwariant a ragfynegir a’r symiau gwirioneddol, tendro, caffael, a chontractau.
Beth yw ein blaenoriaethau a ble rydym ni arni
Gwybodaeth am strategaethau a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.
Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau.
Ein polisïau a gweithdrefnau
Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau.
Rhestrau a chofrestrau
Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy’n ymwneud â swyddogaethau’r awdurdod.
Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig
Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r cyfryngau. Disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir.
Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’r wybodaeth hon ar ein gwefan. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn seiliedig ar ddogfen ddiffinio’r ICO ar gyfer colegau Addysg Bellach, sy’n esbonio sut mae’r Comisiynydd yn disgwyl i golegau ddehongli’r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol.
Ni fydd y dosbarthiadau o wybodaeth a gyhoeddir gennym yn cynnwys:
- Gwybodaeth y rhwystrir ei datgelu gan y gyfraith neu sydd wedi’i heithrio dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu a ystyrir yn briodol fel arall ei bod wedi’i diogelu rhag cael ei datgelu;
- Gwybodaeth ar ffurf drafft; a
- Gwybodaeth nad yw bellach ar gael yn hawdd oherwydd ei bod mewn ffeiliau a storiwyd mewn archif, neu sydd yn anodd ei chyrraedd am resymau tebyg.
Y dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod y wybodaeth ar gael
- Darperir gwybodaeth fel arfer ar wefan y coleg. Dylid cyfeirio ceisiadau am wybodaeth nad yw ar gael yn hawdd at y Swyddog Diogelu Data.
- Mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosibl na fydd modd cael gwybodaeth ond drwy ei gweld yn bersonol ar gais. Lle gwneir cais, trefnir apwyntiad i weld y wybodaeth o fewn cyfnod rhesymol.
- Darperir gwybodaeth yn yr iaith y’i cedwir ynddi neu mewn unrhyw iaith arall y mae’n gyfreithiol ofynnol ei chael. Pan fo gofyn i’r Coleg gyfieithu gwybodaeth yn ôl y gyfraith, bydd yn gwneud hynny.
- Gall unigolion sydd angen gwybodaeth mewn fformatau heblaw’r rhai sydd ar gael ofyn am y wybodaeth yn y fformatau hynny trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data. Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i godi tâl am ddarparu gwybodaeth mewn fformatau eraill a gall wrthod gwneud hynny.
- Cedwir at rwymedigaethau dan ddeddfwriaeth anabledd a gwahaniaethu, ac unrhyw ddeddfwriaeth arall, i ddarparu gwybodaeth mewn ffurfiau a fformatau eraill wrth ddarparu gwybodaeth yn unol â’r Cynllun Cyhoeddi. Os hoffech gael gwybodaeth mewn fformat mwy hygyrch, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i drafod ffyrdd ychwanegol y gall y wybodaeth fod ar gael i chi.
Taliadau am wybodaeth
Gellir cyrchu gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan y Coleg drwy’r wefan yn rhad ac am ddim. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar gael yn ddigidol, fodd bynnag, gellir codi tâl am wybodaeth ffisegol a/neu dreuliau gwirioneddol. Os codir tâl, rhoddir cadarnhad o’r taliad dyledus cyn darparu’r wybodaeth. Gallwn ofyn am daliad cyn darparu’r wybodaeth.
Ceisiadau ysgrifenedig
Dylid gofyn yn ysgrifenedig am wybodaeth nad yw ar gael ar wefan y Coleg i’r Swyddog Diogelu Data. Bydd y Coleg yn ymdrechu i ymateb o fewn mis.
Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan y Coleg nad yw wedi’i chyhoeddi o dan y Cynllun Cyhoeddi o dan Adran 1 [1] o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Dylid anfon ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth at y Swyddog Diogelu Data a byddant yn cael eu trin yn unol â pholisi’r Coleg ynghylch Rheoli Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Adborth a Manylion Cyswllt
Dylid anfon unrhyw ohebiaeth sy’n ymwneud â’r Cynllun Cyhoeddi gan gynnwys ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig at y Swyddfa Diogelu Data, gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol:
Coleg Penybont
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3DF
Email: data@bridgend.ac.uk
Os na allwn ymateb i’ch cais, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (gweler gwefan yr ICO am fanylion cyswllt).
Adolygu
Bydd Cynllun Cyhoeddi’r Coleg yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni gofynion Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth.



















