Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022-2025
Rhagair gan y Pennaeth:
Mae ein cenhadaeth yn syml: byddwch bopeth y gallwch fod. Byddwch chi eich hun.
Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Rydyn ni am greu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig sy’n trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau sy’n foesegol ac yn bobl-ganolog, ar gyfer bob unigolyn ac ym mhob sefyllfa. Gwyddom mai’r safonau rydyn ni’n cerdded heibio iddynt yw’r safonau rydyn ni’n eu derbyn, felly trwy fod yn chwaraewyr tîm sydd wedi ymrwymo i’n gwerthoedd sefydliadol, gallwn sicrhau bod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod popeth y gallant fod.
Pwrpas:
Rydyn ni’n ceisio datblygu diwylliant sy’n croesawu ac yn dathlu amrywiaeth, ac sy’n meithrin cynhwysiant. Byddwn yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, ac yn ymdrechu i ddileu gwahaniaethu, erledigaeth, bwlio ac aflonyddu. Mae’r cynllun cydraddoldeb strategol hwn yn esbonio ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd lle gall ein staff a’n myfyrwyr wir fod eu hunain a theimlo eu bod yn perthyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n hygyrch i bob un o’n cwsmeriaid, myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid, ac rydyn ni’n cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob cyflogai a myfyrwyr presennol ac arfaethedig yn cael eu trin yn deg ac na wahaniaethir yn eu herbyn, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar y sail rhyw, ailbennu rhywedd, oedran, anabledd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ethnigrwydd neu hil.
Nodau Craidd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol:
| Dysgu a Datblygiad | Diwylliant ac Ymgysylltu | Digwyddiadau a Mentrau | Polisïau, Gweithdrefnau ac Adrodd | Arweinyddiaeth a Rheolaeth | Marchnata a Chyfathrebu |
|---|---|---|---|---|---|
| Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y Coleg | Creu a chynnal diwylliant sy’n dathlu amrywiaeth ac sy’n groesawgar i bawb, lle gall staff a myfyrwyr wir fod eu hunain a theimlo eu bod yn perthyn | Dathlu a hyrwyddo digwyddiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a rhoi mentrau ar waith | Sicrhau bod pob un o bolisïau Coleg Penybont yn addas i’r pwrpas ac yn cydymffurfio â’n gweledigaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn | Sicrhau bod arweinwyr a rheolwyr yn wir yn ymgorffori cynhwysiant yn eu timau a’u meysydd cwricwlwm / cymorth busnes | Bod yn gynrychioliadol ym mhob darn o farchnata a chyfathrebu, a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant mewn gohebiaeth fewnol ac allanol, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol |
| 1 | Dysgu a Datblygu | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nod : Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y Coleg | |||||
| Amcan | Mesur / Effaith | Pwy sy’n arwain | Cysylltiadau cymorth | Dyddiad cwblhau | |
| 1.1 | Codi ymwybyddiaeth trwy gyfleoedd dysgu i fyfyrwyr a staff, fel bod cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant yn wir yn cael ei ymgorffori yn y gweithle a’r amgylchedd dysgu, ac nid rhywbeth ‘ychwanegol’ yw e. |
– Gwell dealltwriaeth a diwylliant ynghylch nodweddion gwarchodedig ➔ cyflwyno modiwl Skillgate ar nodweddion gwarchodedig ➔ cynnal sesiynau hyfforddi a dysgu gyda siaradwyr gwadd a hyfforddwyr amrywiol sy’n cyd-fynd â chalendr cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant (3.1) – Arolygon staff a myfyrwyr ➔ cofnodi unrhyw newidiadau diwylliannol – Dileu gwahaniaethu trwy ddysgu a datblygu targededig |
Pennaeth Adnoddau Dynol Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Dirprwy Bennaeth Is-Bennaeth Taith y Dysgwr, Systemau ac Arfer Cynhwysol |
Cynghorydd Dysgu a Datblygu Grŵp Gweithredol y Coleg Arweinydd TrACE |
Parhaus |
| 2 | Diwylliant ac Ymgysylltu | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nod : Creu a chynnal diwylliant sy’n dathlu amrywiaeth ac sy’n groesawgar i bawb, lle gall staff a myfyrwyr wir fod eu hunain a theimlo eu bod yn perthyn | |||||
| Amcan | Mesur / Effaith | Pwy sy’n arwain | Cysylltiadau cymorth | Dyddiad cwblhau | |
| 2.1 | Dadansoddi pob math o adborth gan ddysgwyr a staff, nodi meysydd sy’n peri pryder a rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael â’r rhain. |
Dysgwyr: – Fframwaith o diwtorialau, rheolwyr cwricwlwm, Arweinwyr Maes Cwricwlwm, tiwtoriaid – Cofnodi adborth dysgwyr a chymryd unrhyw gamau gweithredu a nodwyd – Cipio ac ymateb i ddata Eich Llais, gan ddiweddaru cwestiynau i adlewyrchu hyn Staff: – Parhau ag arolygon ymgysylltu (gan gynnwys ail arolwg Cwmnïau Cynhwysol), gan gymharu bryd hynny ac yn awr, a rhoi camau gweithredu ar waith i fynd i’r afael â phryderon a rhwystrau |
MR VB CF-P Adnoddau Dynol |
Tîm Arwain y Cwricwlwm VB |
Adolygiadau tymhorol |
| 2.2 | Sicrhau bod prosesau cynefino myfyrwyr, staff a llywodraethwyr yn ddigonol o ran cwmpasu gwerthoedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a disgwyliadau. |
– Pob rhanddeiliad yn cael dealltwriaeth glir o werthoedd a disgwyliadau’r Coleg ➔ Cyfradd cwblhau 100% ar gyfer modiwl cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Skillgate (staff a llywodraethwyr) ➔ Cyfradd cwblhau 100% o ran hyfforddiant cod dinasyddiaeth (myfyrwyr) br/> ➔ Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i fod yn eitem sefydlog mewn adroddiadau a chyfarfodydd y Llywodraethwyr – Pob agwedd ar gynefino staff a myfyrwyr yn cael ei diweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau cynhwysiant e.e. gwerthoedd, gwrth-hiliaeth, TrACE, CoS |
AD JB RHIF |
Uwch Dîm Arwain | Blwyddyn academaidd 2023/24 |
| 2.3 | Datblygu a chynnal diwylliant sy’n groesawgar ac yn ddiogel i bawb, lle gall staff a myfyrwyr fod popeth y gallant fod |
– Cyflawni statws Coleg Noddfa gan ddefnyddio offeryn archwilio CoS – Bod yn ystyriol o drawma gan ddefnyddio’r pecyn cymorth TrACE |
Gweithgor CoS Arweinydd Rhanbarthol TrACE |
Grŵp Cynghreiriaid Cynhwysiant Rheolwr Lles a Diogelu |
2024 |
| 3 | Digwyddiadau a Mentrau | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nod : Dathlu a hyrwyddo digwyddiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a rhoi mentrau ar waith | |||||
| Amcan | Mesur / Effaith | Pwy sy’n arwain | Cysylltiadau cymorth | Dyddiad cwblhau | |
| 3.1 | Dilyn calendr o ddigwyddiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i ddathlu gwahaniaethau |
– Cyhoeddi calendr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Ionawr 2022
a’i gynnwys yn y cylchlythyr – Dilyn y calendr i gynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a dathlu, e.e. siaradwyr gwadd, Cerddwch yn Fy Sgidiau, gweithgareddau, Dysgu a Datblygu, i fyfyrwyr a staff wella eu hymdeimlad o berthyn – Negeseuon dilys a chyson ➔ 100% o staff i ymateb eu bod yn gallu bod eu hunain / yn perthyn yn arolwg Cwmnïau Cynhwysol |
Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Tîm Ymgysylltu Myfyrwyr |
Cydweithwyr mewn adrannau amrywiol e.e. tîm ADY | Yn barhaus trwy gydol y flwyddyn academaidd |
| 3.2 | Cynyddu cefnogaeth ac ymgysylltiad yn fewnol ac yn allanol |
– Ailgyflunio gweithgor sy’n cynnwys Cynghreiriaid Cynhwysiant – Sefydlu rhwydweithiau staff ar gyfer cymorth a llais cyflogeion, Byddwch Chi’ch Hun – Sefydlu perthnasau gyda’r gymuned leol a phartneriaid e.e. BAVO, elusennau ffoaduriaid a sefydliadau trydydd sector eraill – Cael mwy o bresenoldeb yn y gymuned leol gan arddangos Coleg Penybont fel lle eithriadol i ddysgu a gweithio e.e. ymweliad ag ysgolion, ffeiriau swyddi, digwyddiadau cymunedol |
Amrywiol | Amrywiol |
Ionawr 2023 Mawrth 2023 Parhaus |
| 4 | Polisïau, Gweithdrefnau ac Adrodd | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nod : Sicrhau bod pob un o bolisïau Coleg Penybont yn addas i’r pwrpas ac yn cydymffurfio â’n gweledigaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn. | |||||
| Amcan | Mesur / Effaith | Pwy sy’n arwain | Cysylltiadau cymorth | Dyddiad cwblhau | |
| 4.1 | Adolygu a diweddaru polisïau’r Coleg yn barhaus i gyd-fynd â gwerthoedd a chyfeiriad strategol y Coleg, a dulliau newydd e.e. TrACE, CoS, BLG |
– Dilyn y gofrestr polisïau – Sicrhau bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cwblhau ar gyfer pob polisi ac yn ystod prosiectau newid e.e. symud campws – Cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant yn cael eu hymgorffori ym mhob polisi a gweithdrefn er mwyn cael mwy o ddealltwriaeth a gwell effaith, gan gyfeirio’n benodol at waith cynhwysiant e.e. Trace, gwrth-hiliaeth (BLG), Coleg Noddfa, Safonau’r Gymraeg |
Amrywiol |
Amrywiol Arweinydd TrACE Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant |
Parhaus |
| 4.2 | Sicrhau prosesau recriwtio, dethol a chynefino cwbl hygyrch a chynhwysol |
– Mynd ati i geisio adborth gan ymgeiswyr trwy arolygon profiad yr ymgeisydd ac arolygon ymadael ymgeiswyr – Monitro adborth arolygon yn weithredol a nodi rhwystrau ac anghydbwysedd canfyddedig, ac ymateb i’r rhain gydag addasiadau priodol i’r broses recriwtio a dethol – Coladu arolwg misol i’w gynnwys mewn adroddiadau’r Uwch Dîm Arwain ac yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio Adnoddau – Denu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr gan arwain at weithlu mwy cynrychioliadol ➔ Cynnydd o 2-5% mewn amrywiaeth ymgeiswyr bob blwyddyn, yn benodol ar gyfer anabledd, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol – Hysbysebu targededig i gynyddu amrywiaeth mewn rolau rheoli canol ac uwch |
Adnoddau Dynol |
Partneriaid allanol e.e. BLG, Piws Marchnata |
Rhagfyr 2022 Rhagfyr 2022 – Parhaus Blynyddol |
| 4.3 | Sicrhau bod Adroddiadau Cydraddoldeb blynyddol a chynlluniau strategol yn llywio camau gweithredu teilwredig y mae angen eu rhoi ar waith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau neu anghydbwysedd | – Dadansoddi data staff a dysgwyr i lywio camau gweithredu penodol i fynd i’r afael â bylchau penodol h.y. bylchau cyflawniad, bylchau recriwtio a dethol, a chyhoeddi’r shifft data hwnnw |
Adnoddau Dynol Ansawdd |
MIS BLG |
Adroddiadau Cydraddoldeb Blynyddol |
| 4.4 | Datblygu, cyhoeddi ac ymgorffori cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth yn unol â Chynllun 10 Pwynt y Grŵp Arweinyddiaeth Ddu |
– Datblygu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth pwrpasol sy’n arddangos ein hymrwymiad ac sy’n amlinellu ein nodau penodol i hyrwyddo gwrth-hiliaeth a newid o fod yn sefydliad di-hiliaeth i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth – Defnyddio pecyn cymorth diagnostig y cynllun 10 pwynt a chyngor ac arweiniad arbenigol trwy gysylltiad â’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddu |
Adnoddau Dynol Uwch Dîm Arwain Tîm Arwain y Cwricwlwm |
Cynghreiriaid Cynhwysiant | Mawrth 2023 – parhaus |
| 5 | Arweinyddiaeth a Rheolaeth | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nod : Sicrhau bod arweinwyr a rheolwyr yn wir yn ymgorffori cynhwysiant yn eu timau a’u meysydd cwricwlwm / cymorth busnes | |||||
| Amcan | Mesur / Effaith | Pwy sy’n arwain | Cysylltiadau cymorth | Dyddiad cwblhau | |
| 5.1 | Arweinwyr a rheolwyr yn modelu ymddygiadau cynhwysol yn rhagweithiol, ac yn nodi ac yn mynd i’r afael ag ymddygiadau nad ydynt yn cyd-fynd â gwerthoedd y Coleg |
– Cyflwyno sesiynau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a gwylio gweithredol i Grŵp Gweithredol y Coleg, gan gynnwys gwahaniaethau rhwng tegwch a chydraddoldeb ➔ Cwblhad 100% – Gwell dealltwriaeth o gyfrifoldeb, a hyder wrth ymdrin â phryderon ymddygiad sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (wedi’i fesur trwy arolwg gwerthuso) – Achosion sy’n ymwneud â pherthnasau cyflogeion yn cael eu monitro’n effeithiol gyda thraciwr, gan hefyd gynnwys rhesymau / nodweddion gwarchodedig e.e. homoffobia, hiliaeth ➔ 100% o ddigwyddiadau gwahaniaethol yn cael eu hadrodd (arolwg cwmnïau cynhwysol) |
Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant | Pennaeth Adnoddau Dynol | Mehefin 2023 |
| 5.2 | Teilwra dulliau gweithredu pan nodir meysydd sy’n peri pryder mewn adrannau a meysydd cwricwlwm ar draws y Coleg |
– Pob aelod o staff ym mhob adran yn gweithredu yn unol â gwerthoedd y Coleg – Achosion sy’n ymwneud â pherthnasau cyflogeion yn cael eu monitro’n effeithiol, gan hefyd gynnwys rhesymau / nodweddion gwarchodedig |
Adnoddau Dynol VB |
Pennaeth Adnoddau Dynol Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant |
Parhaus |
| 5.3 | Arweinwyr a rheolwyr yn arwain wrth ymgorffori cynhwysiant yn eu timau a gweithio i hyrwyddo gwrth-hiliaeth (ac ymddygiadau gwrthwahaniaethol eraill) ym mhob rhaglen hyfforddi athrawon, datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth |
– Arweinwyr a rheolwyr yn fodelau rôl ar gyfer gweithredoedd ac ymddygiadau cynhwysol – Arweinwyr a rheolwyr yn asiantau newid mewn gwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant parhaus e.e. TrACE, gwrth-hiliaeth |
|||
| 6 | Marchnata a Chyfathrebu | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Nod : Bod yn gynrychioliadol ym mhob darn o farchnata a chyfathrebu, a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant mewn gohebiaeth fewnol ac allanol, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol | |||||
| Amcan | Mesur / Effaith | Pwy sy’n arwain | Cysylltiadau cymorth | Dyddiad cwblhau | |
| 6.1 | Sicrhau cyfathrebu allanol cyson a chynhwysol ym mhob cyfrwng a chyfathrebiad, a bod yr holl wybodaeth yn gwbl hygyrch |
– Gwefan gwbl hygyrch a chynrychioliadol i’r Coleg, gan gynnwys gwefan swyddi, sy’n dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo ein hymrwymiad i fod yn Goleg Noddfa ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma – Lansio’r Hyb Perthyn (fersiynau mewnol ac allanol) – Sicrhau bod delweddau yn amrywiol ac yn gynrychioliadol i’r maes gwasanaeth yr ydym yn recriwtio ar ei gyfer – Sicrhau bod delweddau o ddysgwyr yn gynrychioliadol o’n corff myfyrwyr |
JB HM |
Adnoddau Dynol | Medi 2023 |



















