Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio ynddo. Rydym eisiau creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac angerddol am yr hyn a wnânt. Rydym eisiau creu cyfleoedd sy’n ysbrydoli ac yn trawsnewid bywydau a dathlu llwyddiannau pob unigolyn. Rydym yn ymroddedig i wneud penderfyniadau moesegol ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer pob unigolyn ac ym mhob cysylltiad.
Gwyddom mai’r safonau y cerddwn heibio iddynt yw’r safonau a dderbyniwn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle cânt eu parchu a lle teimlant yn ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.
“Gwnawn yr hyn a wnawn fel y gall ein dysgwyr, ein staff a’r cymunedau a wasanaethwn fod yn bopeth y gallant fod. Mae’r ymdeimlad diben hwn wedi ysbrydoli ein cenhadaeth dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac mae’n rhywbeth fydd yn parhau i’n sbarduno dros y pum mlynedd nesaf.”
Simon Pirotte, Principal and CEO, commenting on the 2020-2025 College Strategic Plan
Caiff ein gwerthoedd eu cyfnerthu ym mhob rhan o gymuned y Coleg. Mae pob aelod o staff, dysgwr a phartner yn byw ac anadlu ein gwerthoedd craidd sy’n rhan o bob agwedd o fywyd y coleg.
Bydd Coleg Penybont yn sefydliad rhagorol, perfformiad uchel, sy’n ymroddedig i fanteision dysgu. Byddwn yn denu unigolion drwy feithrin diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn galluogi gan ganiatáu i bob unigolyn fod yn rhan o rywbeth arbennig, rhywbeth unigryw. Byddwn yn sefydliad moesegol sy’n gyson yn sicrhau rhagoriaeth ac yn rhagori drwy wneud y pethau syml yn wirioneddol dda ac yn dathlu llwyddiannau pob unigolyn.
Gydag angerdd ac arloesedd, byddwn yn arwain y ffordd wrth ddylanwadu a llunio addysg a hyfforddiant. Byddwn yn edrych tu hwnt i’n sefydliad ein hun ac yn anelu i gydweithio gyda phartneriaid sydd â ffordd foesegol o feddwl, sydd hefyd yn rhannu ein huchelgais i arwain trawsnewid fydd yn gwella cyfleoedd bywyd ein dysgwyr, ein pobl a’n cymunedau. Byddwn yn datblygu dinasyddion byd-eang creadigol a hapus y dyfodol y mae ein byd, ein diwylliant a’n gilydd yn bwysig iddynt.
|
|
Lawrlwytho Cynllun Strategol 2020-2025
|
































































