Mae Coleg Penybont yn falch iawn i gyhoeddi agoriad swyddogol ei Academi STEAM, adeilad newydd cyffrous o’r math diweddaraf fydd yn darparu cyfleusterau addysgu, dysgu a chefnogi ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM).
Agorodd yr adeilad ei ddrysau i fyfyrwyr ym mis Medi a chafodd ei agor yn swyddogol gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg a Addysg, fel rhan o seremoni lansio ddydd Iau 21 Hydref. Roedd Aelodau Senedd, Maer a Maeres Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd â Chynghorwyr, Bwrdd Llywodraethwyr y Coleg a gwahanol randdeiliaid o’r gymuned leol ac ehangach yn bresennol yn y seremoni.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Roeddwn yn falch iawn i ymweld ag Academi STEAM heddiw a sut y caiff y Rhaglen Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif ei defnyddio i greu gofodau dysgu a gweithio gwych i gefnogi sgiliau allweddol ein gweithlu yn y dyfodol.
“Hoffwn ymestyn fy nymuniadau gorau oll ar gyfer yr holl fyfyrwyr a’r staff yma yng Ngholeg Penybont yn eu cyfleusterau newydd.”
Jeremy Miles
Cafodd y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif. Nod hyn yw trawsnewid profiad dysgu myfyrwyr, gan sicrhau y cânt eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai gyda’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i gyflwyno cwricwlwm 21ain Ganrif.
Dywedodd Simon Pirotte OBE, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont:
“Mae’r cyfleusterau hyn yn helpu i godi uchelgais, cyfoethogi profiadau dysgu a sicrhau amgylcheddau addysgu rhagorol lle gall ein myfyrwyr ffynnu a thyfu. Roeddem eisiau creu mannau cynhwysol lle mae ein staff a myfyrwyr yn teimlo balchder a pherthyn; a mannau lle gall pobl yn wir fod yr hyn y gallant fod.”
Simon Pirotte OBE
Mae’r Academi yn fwy na dim ond sefydliad addysgol, gan gynnig llawer o fuddion i’r gymuned leol. Mae hyn yn cynnwys dysgu oedolion gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer defnydd y cyhoedd. Bydd neuadd ddarlithio amlbwrpas a chyfleusterau cynhadledd ar gael i’w llogi mewn ymgais i gefnogi busnesau yn y gymuned leol ac yn ehangach.
Dywedodd Paul Croke, Cadeirydd Llywodraethwyr Coleg Penybont:
“Bydd Academi STEAM yng Nghampws Pencoed yn torri tir newydd ac yn sicrhau fod Coleg Penybont yn parhau i goleddu ein dyheadau ar gyfer staff a myfyrwyr. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn ein galluogi i gyflawni’r safonau uchaf mewn addysgu, dysgu a chefnogaeth ar gyfer dysgu. Mae hwn yn gyfleuster eithriadol ac yn un mae staff a myfyrwyr y coleg yn ei haeddu ar ôl blynyddoedd lawer o lwyddiannau rhagorol. Daw iawn bawb a wnaeth i’r cynllun cyffrous hwn ddigwydd!”
Paul Croke