Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Yr Arglwydd Digby Jones yn dod i Goleg Penybont

Mae gwledd yn disgwyl cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref gyda’r Arglwydd Digby Jones wedi cyhoeddi y bydd yn ymweld â’r dref am y tro cyntaf erioed.
Bydd yr Arglwydd Jones yn gwneud ei ymddangosiad yng Ngholeg Penybont, wrth iddo lansio ei adran hyfforddiant busnes dan ei enw newydd – Engage Training. Mae’r adran, a gafodd ei hailfrandio yn ddiweddar, yn dathlu ei gwedd newydd sbon.
Bydd yr Arglwydd Digby Jones yn ymweld â’r Coleg ar Heol y Bontfaen ar 24 Hydref. Hwn fydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf i’w gynnal gan Engage Training.
Dywedodd Andrew Whitcome, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Engage Training yng Ngholeg Penybont: “Hwn fydd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau rhwydweithio busnes a gynhelir gan Engage Training, rhan o Goleg Penybont. Roeddem eisiau dathlu golwg newydd sbon yr adran, a pha ffordd well nag i gael yr Arglwydd Digby Jones yma i ddathlu gyda ni.”
Bydd y digwyddiad amser-cinio yn rhedeg o 12 o’r gloch a bydd yr Arglwydd Jones yn siarad ar bwnc Datblygu Busnes drwy Dwf Economaidd. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn, gan roi cyfle i westeion holi’r Arglwydd Jones, yn ogystal ag Andrew Whitcome, a benodwyd yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Coleg Penybont, a Mark Jones, Pennaeth y Coleg.
Mae Engage Training yn cynnig dewis helaeth o gyfleoedd ar gyfer busnesau sy’n dymuno ehangu. Cynigir nifer o gyrsiau byr teilwredig, tîm hyblyg o aseswyr NVQ, a chynllun prentisiaeth sy’n sicr o ddarparu gweithwyr talentog ar gyfer busnesau.
Mae’r tocynnau yn £25 yr un ac yn cynnwys lluniaeth. I brynu tocyn ar gyfer y digwyddiad busnes gyda’r Arglwydd Digby Jones cysylltwch â Natalie Llewellyn yng Ngholeg Penybont ar 01656 302498.